Agenda and minutes

Agenda and minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN BUDDIANNAU

Aelodau I ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu niweidiol mewn unrhyw fusnes a nodwyd I’w drafod yn y cyfarfod yma.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol na rhagfarnus.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 164 KB

I dderbyn cofnodion y Pwllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar ddydd lau, 25 Hydref 2012 (copi’n amgaeedig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar ddydd Iau 25ain Hydref 2012.

 

Hysbysodd y Cynghorydd Mullen James y Pwyllgor, mewn perthynas â’r eitemAdolygu Torri Gwair ar Ochrau Priffyrdd 2012” bod cyfarfod i’w gynnal ar 13eg Rhagfyr 2012, yng Nghaledfryn, Dinbych i drafod telerau’r contract torri gwair.

 

PENDERFYNWYD derbyn y Cofnodion a’u cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

 

5.

ADOLYGIAD O ASEDAU TREFTADAETH A CHELFYDDYDAU pdf eicon PDF 84 KB

Ystyried y cynnydd hyd yma o ran sicrhau mesurau effeithlonrwydd mewn perthynas ag asedau Treftadaeth a Chelfyddyd y Sir a’r strategaethau a ddatblygwyd gyda golwg ar sicrhau eu hyfywedd yn y dyfodol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth yr Amgylchedd adroddiad i ystyried y cynnydd hyd yma o ran cael arbedion effeithlonrwydd mewn perthynas ag asedau Treftadaeth a Chelfyddydau’r Sir a’r strategaethau a ddatblygwyd gyda golwg ar sicrhau eu hyfywedd yn y dyfodol. Y nod oedd datblygu gwasanaeth a fyddai’n cyflwyno’r manteision mwyaf i drigolion lleol, cymunedau, twristiaid a’r cyngor. 

 

Ym mis Tachwedd 2010 cynhyrchwyd adroddiad cynhwysfawr o’r enw “Adolygiad o Asedau Treftadaeth a chwmnïau hyd braich cysylltiedig”. Roedd yr adroddiad yn dadansoddi’r opsiynau a oedd ar gael i’r cyngor, ac yn dod i’r casgliad nad oedd opsiynau hawdd ar gael ar gyfer gwaredu neu gyflwyno’r asedau i ffynonellau allanol. Nid oedd y ddogfen wedi ei chyhoeddi ond byddai ar gael i’r Aelodau o wneud cais.

 

Trosglwyddwyd y gwasanaeth i’r Gwasanaethau Amgylcheddol ar 1 Ebrill 2011.  Cafwyd newidiadau arwyddocaol ers y trosglwyddo ac roedd mwy o newidiadau wedi eu cynllunio ar gyfer y dyfodol.

 

Penderfynwyd bod angen agwedd mwy masnachol. Roedd angen cynhyrchu mwy o incwm i wella’r gwasanaeth. Cyflwynodd y Cyfarwyddwr y Rheolwr Masnachol Treftadaeth a roddodd amlinelliad  byr o’i phrofiad a’i chefndir.  

 

Mae’r safleoedd canlynol yn cael eu rhedeg gan y Cyngor:

Ø      Carchar Rhuthun

Ø      Nant Clwyd y Dre (Rhuthun)

Ø      Plas Newydd (Llangollen)

Ø      Roedd y portffolio hefyd yn cynnwys perthynas y Cyngor gydag Ymddiriedolaeth Castell Bodelwyddan.

 

Yn y gorffennol, roedd y safleoedd wedi eu rhedeg fel amgueddfeydd ac yn dibynnu’n drwm ar dderbyn cyllid grant a oedd wedi lleihau’n fawr dros y blynyddoedd. Cafwyd gwaith ymchwil dros y 12 mis diwethaf yn archwilio twf posibl. Roedd y safleoedd i’w rhedeg fel atyniadau i ymwelwyr i ddibenion addysgol, atyniadau i dwristiaid a chanolfannau treftadaeth, tra'n cadw statws achrededig amgueddfeydd. Roedd priodasau nawr yn digwydd ar y safleoedd ac roedd trefniadau wedi eu derbyn eisoes ar gyfer 2013.

 

Roedd y farchnad oruwchnaturiol hefyd yn faes twf ac roedd yr adeiladau hanesyddol yn rhai â diddordeb mawr i’r grwpiau archwilio. Nid oedd y grwpiau hyn yn cael effaith ar weithgareddau a gynhelir ar y safleoedd yn ystod y dydd. Maent yn cyrraedd am 8.00pm, ymgymryd â’u harchwiliadau dros nos, ac yn gadael tua 5.00 neu 6.00 a.m. 

 

Roedd yr incwm a godwyd gan y grwpiau goruwchnaturiol yn £17,000. Pennwyd cynnydd targed mewn incwm o 10% ar gyfer y flwyddyn nesaf. Roedd gwaith ar y gweill i ddod â chostau i lawr a chynyddu incwm. Yn ystod 2010/11 cafwyd rhyw £60,000 mewn incwm, ond yn 2011/12 roedd wedi cynyddu i £71,000.

 

Roedd rotas staff nawr yn fwy effeithiol nag yn y gorffennol e.e. yn ystod yr haf, byddai’r Hen Garchar yn cau am ddau ddiwrnod yr wythnos, gan golli busnes ymwelwyr. Roedd hyn i newid i annog mwy o ymwelwyr. 

 

Roedd Sir Ddinbych yn gweithio gyda Chynghorau Conwy, Sir y Fflint a Wrecsam i weld sut roedd Awdurdodau Lleol eraill yn monitro eu cyllideb.

 

Dim ond ystafell arddangos oedd Amgueddfa’r Rhyl, ac roedd angen ei dwyn allan o’r llyfrgell. Roedd yr amgueddfa yn ddifyr iawn ond roedd angen lleoliad gwahanol. Yn anffodus, ar hyn o bryd nid oedd cyllideb i ganiatáu hyn.

 

Roedd prosiect i gychwyn yn 2013 i gatalogio’r holl arteffactau a ddelid yn y storfeydd ar hyn o bryd. Unwaith y byddai’r prosiect hwn wedi ei gwblhau, gellid defnyddio mwy o’r arteffactau mewn arddangosfeydd.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod angen integreiddio’r gwasanaeth mewn cynlluniau tref a rhoddodd grynodeb:

Ø      Roedd y Gwasanaeth Treftadaeth ar hyn o bryd yn costio mwy na’r incwm roedd yn ei gynhyrchu

Ø      Roedd angen rhoi pwyslais ar ddarparu’r gwasanaethau yr oedd ymwelwyr eu heisiau, a byddai hyn yn dibynnu ar gyfathrebu cryf.

Ø      Byddai pob safle unigol angen cynllun  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

STRATEGAETH CEFNOGI POBL – DIWEDDARIAD pdf eicon PDF 142 KB

Pwrpas cynnig yr adroddiad yw ymgynghori â'r aelodau ar y newidiadau arfaethedig i wasanaethau Cefnogi Pobl a dyrannu Grant newydd Rhaglen Cefnogi Pobl.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles adroddiad ar y cynllun gwariant tair blynedd ar gyfer Cefnogi Pobl a’r newidiadau i Strategaeth Cefnogi Pobl, gan gynnwys y goblygiadau i Gyngor Sir Ddinbych o’r newidiadau i Raglen Cefnogi Pobl ledled Cymru.

 

Roedd y Cabinet wedi gofyn bod y Pwyllgor Craffu yn ystyried effaith y newidiadau cenedlaethol ar y Cyngor. Byddai manylion pellach ar gael yn 2013 wrth i oblygiadau’r trefniadau newydd ddod yn gliriach.

 

Roedd Cefnogi Pobl yn rhaglen arwyddocaol yn rhoi gwasanaethau cymorth “cysylltiedig â thai” i ystod eang o grwpiau agored i niwed, gan gynnwys i bobl a oedd yn ddigartref, pobl ag anghenion iechyd meddwl, anabledd dysgu, pobl ifanc a rhai agored i niwed, pobl ag anghenion camddefnyddio sylweddau, cyn-droseddwyr, rhai’n dianc rhag trais domestig a phobl hŷn. Y nod oedd eu gallugi i gadw llety sicr tra'n datblygu agweddau eraill eu bywydau gan hybu annibyniaeth. Roedd Rhaglen Cefnogi Pobl wedi ei gwerthuso ar lefel genedlaethol, a dangoswyd ei bod yn cyflawni manteision ariannol ac an-ariannol cadarnhaol iawn. Yn Sir Ddinbych, roedd Cefnogi Pobl wedi ariannu ystod eang o wasanaethau gan gynnwys elfennau o dai gwarchod, gofal ychwanegol, llochesi i ferched, cynlluniau byw yn y gymuned i bobl ag anabledd dysgu a chynlluniau ar gyfer pobl ddigartref.

 

Roedd newidiadau yng ngweinyddiaeth rhaglen Cefnogi Pobl yn digwydd ledled Cymru. Roedd hyn yn cynnwys fformiwla ddosbarthu newydd a throsglwyddo’r cyfrifoldebau contractio ar gyfer rhai gwasanaethau o Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol. At hyn, sefydlwyd trefniadau llywodraethu newydd, gan gynnwys Pwyllgorau Cydweithredol Rhanbarthol, gyda chyfrifoldebau allweddol dros raglen Cefnogi Pobl, wedi eu sefydlu ar draws Cymru. Roedd Sir Ddinbych i golli £1.5 miliwn o gyllid dros 5 mlynedd. Roedd pob Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru yn wynebu colli arian o fewn Safon Llywodraeth Cymru.

 

Byddai’r Pwyllgor Rhanbarthol yn edrych ar sut gwerir yr adnoddau a sut gellid eu defnyddio yn fwy cost-effeithiol. Roedd yr adroddiad yn nodi’r goblygiadau posibl, ac agwedd arall oedd rhoi gwybodaeth i aelodau ar y newidiadau yn Strategaeth Cefnogi Pobl  2013/14 – Atodiad 1.

 

Y peth mawr oedd faint o gyllid yr oedd Cyngor Sir Ddinbych i’w golli dros gyfnod byr o amser. Roedd Llywodraeth Cymru yn gofyn am gynllun gwario 3 blynedd. Roedd Cyngor Sir Ddinbych yn darparu cynllun gwario ar gyfer 2013/14 ond nid oedd yn barod i roddi gwybodaeth ar sut byddai £600,000 arall yn cael ei dynnu o’r gyllideb dros 3 blynedd pellach. Roedd hyn yn risg ond byddai’n rhoi mwy o amser i baratoi.

 

Yn y bon, roedd arbedion i’w canfod o gynlluniau a redid gan y cyngor, ond roedd cynlluniau yn cael eu rhedeg gan gyrff eraill hefyd. Yn 2014/15 roedd y toriadau i’w lledaenu ar draws y cyrff hyn hefyd.

 

Roedd y Pwyllgor yn cydnabod bod y Cyngor wedi mynd cyn belled ag y gallai i wrthsefyll y gostyngiad mewn cyllid ac yn derbyn bod y cynllun gwario 3 blynedd a diwygio’r Strategaeth Cefnogi Pobl yn ymateb priodol i sefyllfa anodd.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn derbyn yr adroddiad ac yn cydnabod y cynllun gwario 3 blynedd a’r newidiadau yn Strategaeth Cefnogi Pobl ar gyfer 2013/14.

 

7.

CYFAMOD Y GYMUNED GYDA’R LLUOEDD ARFOG pdf eicon PDF 97 KB

Ymgynghoriad, trafodaeth a llunio telerau’r Cyfamod Cymunedol gyda’r Lluoedd Arfog, cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Sir i’w lofnodi’n ffurfiol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cysylltu â’r Gymuned adroddiad ar Gyfamod gyda’r Lluoedd Arfog. 

 

Gofynnwyd i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac eraill, i lofnodi Cyfamod Cymunedol gyda’r Lluoedd Arfog a oedd yn ceisio sefydlu ymrwymiad gofal i staff y Lluoedd Arfog, eu teuluoedd a chyn-filwyr. Nodau’r cyfamod oedd annog cymunedau lleol i gefnogi cymuned y Lluoedd yn eu hardaloedd a chynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd o faterion a oedd yn effeithio Cymuned y Lluoedd Arfog. Roedd yr adroddiad yn cynnwys Cyfamod drafft yn diffinio’r hyn y gellid ei gynnig i staff y Lluoedd Arfog i sicrhau nad oeddynt yn dioddef unrhyw anfantais wrth gyrchu gwasanaethau cyhoeddus.

 

Mae Cyfamod Cymunedol yn ddatganiad gwirfoddol o gefnogaeth rhwng cymuned sifilaidd a’r gymuned lluoedd arfog yn lleol. Y bwriad oedd ei fod yn mynd gyda’r cyfamod cenedlaethol gyda’r Lluoedd Arfog, a oedd yn amlinellu’r ymrwymiad moesol rhwng y genedl, y llywodraeth a’r lluoedd arfog ar lefel leol.

 

Roedd yr adroddiad wedi ei gymeradwyo’n unfrydol gan y Cyngor ym Medi 2012 ac yn gofyn i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau fodloni ei hun ar y mesurau yr oedd Sir Ddinbych eisiau eu mabwysiadu.

 

Roedd yn bwysig rhoi sylfaen i’r ethos nad oedd y Lluoedd Arfog yn cael eu hanfanteisio wrth ddefnyddio gwasanaethau Sir Ddinbych, er bod angen i’r Cyngor hefyd fod yn ofalus peidio â gwahaniaethu’n gadarnhaol o’u plaid gan ddifreintio grwpiau eraill mewn cymdeithas, oni fo camwahaniaethu positif eisoes wedi ei ymgorffori mewn deddfwriaeth.

 

Roedd y mesurau i’w mabwysiadu gan Sir Ddinbych wedi eu nodi’n llawn yn yr adroddiad (5.2).

 

Roedd y cyngor wedi ei rwymo gan ddeddfwriaeth ac roedd staff y lluoedd arfog yn derbyn pwyntiau tai ychwanegol o gymharu ag aelodau eraill y gymuned. Byddai’n heriol gofalu am drigolion Sir Ddinbych a scirhau cwrdd â’r ddeddfwriaeth. Roedd y rhan fwyaf o’r mesurau yn yr adroddiad, nid oherwydd y byddai staff y lluoedd arfog yn cael blaenoriaeth, ond oherwydd eu bod wedi eu llywodraethu gan ddeddfwriaeth.

 

Rheolwr Cysylltu â’r Gymuned i gymryd y mater tai yn ôl, i gael esboniad ar y ddeddfwriaeth. Unwaith y byddai wedi cael hyn, byddai’n hysbysu’r Pwyllgor.

 

Codwyd mater cyflogaeth fel mater tebyg i’r un tai.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr y byddai’n cael esboniad ar y mater. Byddai trafodaethau hefyd gydag asiantaethau, a oedd yn rhoi cyngor ar yrfa ac ati. Roedd yr holl asiantaethau cyflogaeth yn ymwneud â’r cyfamod.

 

Ni fyddai’r gostyngiad a gynigid gan Gyngor Sir Ddinbych i staff y lluoedd arfog yn anfanteisio grwpiau eraill. Roedd gostyngiad ar gael i aelodau’r heddlu, a’r gwasanaeth tân a chytunwyd bod staff y lluoedd arfog yn dod o fewn y categori hwn hefyd. Byddai’r gostyngiad ar gyfer milwyr a oedd yn gwasanaethu ar hyn o bryd, nid cyn-filwyr neu deuluoedd staff y lluoedd arfog. Cyfyngid y gostyngiad i’r pwll nofio a’r gampfa yn unig.

 

Holwyd a oedd aelodau’r Fyddin Diriogaethol neu’r Cadetiaid yn cael eu cynnwys.

Dywedodd Rheolwr Cysylltu â’r Gymuned nad oeddynt ond y byddai’n gofyn am arweiniad ar y mater. Roedd union dempled y cyfamod wedi ei gytuno, ac felly roedd llawer o’r ethos o ran sut y dylid ei fabwysiadu nawr yn ei le.

 

Roedd y Cyfamod yn ddogfen fyw, y gellid ei hadolygu. Unwaith yr oedd y Pwyllgor Craffu wedi cytuno gyda’r argymhellion, y bwriad oedd mabwysiadu’r Cyfamod yn ffurfiol mewn cyfarfod o’r Cyngor yn y dyfodol gyda chynrychiolwyr y Lluoedd Arfog a chyrff allanol eraill yn bresennol.

 

Awgrymodd Rheolwr Cysylltu â’r Gymuned bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor bob blwyddyn, ac os oedd angen ychwanegu mesurau ychwanegol neu ddileu rhai, yna gellid gwneud hynny.

 

Dywedodd y Cadeirydd,  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 89 KB

I ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi’n amgaeedig) yn ceisio adolygiad o flaenraglen waith y pwllgor ac yn diweddaru aelodau ar faterion perthnasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor. Dywedodd bod dau adroddiad:

(a)   Cynlluniau Trefi

(b)   Etape Cymru 2012

wedi eu gohirio tan fis Ionawr 2013.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor bod yr adroddiad gyda’r teitl “Gwerthu Adeiladau, Eiddo a Thir y Cyngor” a oedd wedi ei drefnu ar gyfer y cyfarfod yn wreiddiol wedi ei dynnu’n ôl, gyda chytundeb y Cadeirydd, ar ôl penderfyniad mewn cyfarfod Herio Perfformiad Gwasanaeth y byddai’n fuddiol i’r cyngor ymgymryd ag adolygiad o’i asedau. Cytunodd y Pwyllgor ychwanegu adroddiad ar “Reoli Asedau Strategol” i raglen cyfarfod Ionawr 2013, a fyddai’n disodli ac yn ymhelaethu ar yr adroddiad gwreiddiol.

 

Cytunodd y Cadeirydd ychwanegu adroddiad ar weithredu’r trefniadau ailgylchu newydd ar y rhaglen ar gyfer cyfarfod Chwefror 2013, gyda’r eitem ar Reoli Safleoedd Carafanau yn cael ei gohirio tan gyfarfod mis Ebrill 2013.

 

Adroddiad cludiant ysgol – gofynnwyd yn wreiddiol am adroddiad gwybodaeth i’r cyfarfod hwn, ond cafwyd cais i’w ohirio tan y Gwanwyn 2013.  Cytunodd y pwyllgor dderbyn yr adroddiad gwybodaeth yn y cyfarfod ym mis Ebrill 2013.

 

Hysbysodd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd y Pwyllgor y byddai aelodau Tîm Cyfnewid Dysgu gan Gymheiriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a chynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru yn mynychu cyfarfod Craffu Cymunedau Chwefror 2013 i adolygu’r cyfarfod, fel rhan o brosiect arfarnu craffu a gwella “Craffu Da? Cwestiwn Da!” Swyddfa Archwilio Cymru.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwyo Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Cymunedau.

 

 

9.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

I dderbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwllgor a Wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

 

Cofnodion:

Hysbysodd y Cynghorydd Huw Williams y Pwyllgor ei fod ef, ynghyd â Chynghorwyr eraill fel rhan o Dim Cyfnewid Dysgu gan Gymheiriaid, wedi mynychu digwyddiadCraffu Da? Cwestiwn Da!” Swyddfa Archwilio Cymru yn Llandudno ar ddydd Mercher 5ed Rhagfyr. Yn bersonol roedd yn meddwl bod Sir Ddinbych ar y blaen o gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill ac yn gwneud gwaith da iawn.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler bod 4-5 Cynghorydd yn mynychu fesul Awdurdod Lleol a bod Steve Price, Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd hefyd yn bresennol. 

 

Byddai’r Rheolwr Gwasanaethau Democraidd, Steve Price, yn casglu ynghyd yr holl wybodaeth ac yn cyflwyno’r canfyddiadau i gyfarfod y Cadeiryddion a’r Is-gadeiryddion Craffu.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.35 a.m.