Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: YSTAFELL PWYLLGOR 1b, NEUADD Y SR, RHUTHUN

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni fynegwyd unrhyw fuddiannau personol neu fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes.

 

 

3.

MATERION BRYS Y CYTUNWYD ARNYNT GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. 

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan Aelodau Cyfetholedig y Pwyllgor nad oeddynt wedi derbyn y papurau perthnasol i eitem fusnes 5 ar yr agenda a oedd yn eitem Rhan II, cadarnhaodd y Swyddog Craffu bod enwau’r Aelodau Cyfetholedig wedi’u cynnwys ar yr agenda fel Aelodau’r Pwyllgor â phleidlais, ac y byddai’n edrych i mewn i’r mater. Esboniodd y Cynghorydd W. Mullen-James nad oedd wedi derbyn unrhyw bapurau i’r cyfarfod. Gohiriwyd y Pwyllgor am 15 munud er mwyn rhoi cyfle i Aelodau ddarllen y papurau perthnasol. 

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 202 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 14eg Mehefin 2012 (copi’n amgaeëdig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar Ddydd Iau, 14 Mehefin, 2012.

 

Materion yn codi:-

 

9.  Effeithiolrwydd Gweithredu Gorfodol - Baw Cwn - Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd T.R. Hughes, esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Dysgu a Chymunedau y byddai’n cyfarfod gyda’r Pennaeth Amgylchedd i drefnu gweithdy i holl Gynghorwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth perthnasol i drafod mabwysiadu a gweithredu ymagwedd gorfforaethol at ddelio gyda phroblem baw cwn yn y  Sir.

 

PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, bod y Cofnodion yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo fel cofnod cywir. 

 

 

GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

PENDERFYNWYD - yn unol ag Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd rhag mynychu’r cyfarfod i’r eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn ymdrin â’r posibilrwydd o ddatgelu gwybodaeth a eithriwyd fel y diffinnir ym mharagraffau 14 & 15 o Ran 4 o Atodlen 12A Deddf Lywodraeth Leol 1972.

 

RHAN II

 

 

5.

DYRANNU ADNODDAU YCHWANEGOL I AAA MEWN YSGOLION CYNRADD

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Cyllid Addysg (copi’n amgaeëdig) yn manylu’r cynnydd ar adolygu dyrannu adnoddau ychwanegol i Anghenion Arbennig (AAA) mewn Ysgolion Cynradd.

                                                                                                           9.35 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Rheolwr Cyllid Addysg, a oedd yn manylu ar y cynnydd a wnaed o ran adolygu dyraniad adnoddau ychwanegol i Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) mewn Ysgolion Cynradd, wedi’i ddosbarthu gyda’r papurau i’r cyfarfod. 

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwella a Chynhwysiant Ysgol amlinelliad o’r adroddiad a oedd yn manylu ar y cynnydd a wnaed o ran adolygu dyraniad adnoddau ychwanegol i Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) mewn Ysgolion Cynradd, a’r cynnydd a wnaed o ran adnabod opsiynau ar gyfer ariannu AAA mewn Ysgolion Cynradd yn y dyfodol. Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn Rhagfyr 2011, a oedd yn amlinellu cynlluniau ar gyfer proses o ddyrannu adnoddau i ysgolion ar gyfer AAA, wedi’i gynnwys fel Atodiad 1 i’r adroddiad. 

 

Esboniodd y Pennaeth Gwella a Chynhwysiant Ysgol bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud a bod y cynlluniau yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, fel y manylir yn y papur ymgynghori sydd wedi’i gynnwys yn Atodiad 2. Darparwyd amlinelliad o’r gwaith sy’n cael ei gynnal mewn perthynas â rheoli Newidiadau Cytundeb Cyflogaeth i Gefnogaeth AAA 1 i 1 mewn Ysgolion, ac roedd hyn yn cynnwys y broses ymgynghori, y gweithredoedd sydd eu hangen a’r amserlenni a argymhellir. Cadarnhawyd y byddai’r model ariannu newydd yn adlinio adnoddau sy’n bodoli eisoes i wneud defnydd mwy effeithiol ac effeithlon o’r gyllideb AAA gyfredol ac y byddai’r lefel cyfredol o orwariant yn cael ei negyddu gan y broses fonitro newydd. Byddai ariannu yn dryloyw a theg a byddai unrhyw arbedion a wnaed yn erbyn y gyllideb yn cael eu dychwelyd i’r gyllideb ddirprwyedig ysgol gydag unrhyw gynnydd yn y cyfanswm cost yn cael ei ddyrannu o’r gyllideb ddirprwyedig.

 
Tynnodd y Dr D. Marjoram sylw at bwysigrwydd cefnogaeth 1 i 1 i blant ag anghenion arbennig a mynegodd ei chefnogaeth i’r cynigion, gan gyfeirio at y manteision i’w sicrhau a’u cyflawni. Amlinellodd Aelodau fanteision y system a oedd yn galluogi gweithwyr cynnal i drosglwyddo gyda’r plentyn os oedd angen hynny, a’r angen i fonitro a gwerthuso’r broses, drwy’r broses graffu, i asesu buddiannau’r system.   

 

Mewn ymateb i gwestiynau, esboniodd y Pennaeth Gwella a Chynhwysiant Ysgol y byddai cytundebau yn cael eu rheoli’n fewnol ac amlinellwyd manylion o’r broses rheoli ariannol a’r meini prawf ar gyfer dyrannu adnoddau i’r Pwyllgor. Cyfeiriwyd at arwyddocâd cyfansoddiad y Panel Safoni, ei rôl monitro, penodiad Cadeirydd annibynnol - yr unig Banel o’r fath yng Nghymru i gael cadeirydd annibynnol, a hysbyswyd Aelodau bod ymgynghori a chydlynu rheolaidd yn digwydd gyda’r Awdurdod Iechyd, er bod gan Iechyd banel comisiynu ar wahân.   Rhoddwyd manylion ar ddarpariaeth hyfforddiant i gynorthwywyr cefnogi ac Aelodau Panel i’r Pwyllgor. Rhoddodd y Rheolwr Ariannu Addysg fanylion o’r broses weinyddu, gan roi sylw penodol i’r agweddau ariannol, mewn perthynas â mecanweithiau ariannu i Ysgolion Uwchradd a Chynradd.  

 

Esboniwyd bod yna risg ynghylch safbwynt ysgolion unigol at benderfyniadau’r Panel a diffiniad lefelau addas o gefnogaeth i’w ddarparu i ddisgyblion. Fodd bynnag, dylai meini prawf cadarn y Panel Safoni ac annibyniaeth yr Aelodau Panel a benodir gyfyngu ar hyn.   Byddai’n rhaid i’r Panel sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i wella ac i effeithio’n gadarnhaol ar y canlyniadau i blant ag AAA. 

 

Yn dilyn trafodaeth bellach:-

 

PENDERFYNWYD – derbyn yr adroddiad a nodi cynnydd ac effaith y broses ddiwygiedig ar y defnydd effeithiol o ariannu AAA mewn ysgolion.

 

RHAN I

6.

ADOLYGIAD O WASANAETHAU DYDD YNG NGOGLEDD Y SIR pdf eicon PDF 87 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes (copi’n amgaeëdig) yn rhoi diweddariad ar adolygu Gwasanaethau Dydd yng Ngogledd y Sir, ac yn cynghori ar yr opsiwn a ffefrir er mwyn darparu gwasanaethau yn y dyfodol, ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol.

 

10.10a.m.

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes, a oedd yn rhoi diweddariad ar adolygiad Gwasanaethau Dydd yng Ngogledd y Sir, ac yn cynnig yr opsiwn dymunol ar gyfer darparu gwasanaethau i’r dyfodol ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol, wedi’i ddosbarthu gyda’r papurau i’r cyfarfod.

 

Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes bod angen, fel rhan o foderneiddio gwasanaethau cymdeithasol, adolygu’r ddarpariaeth o wasanaethau dydd arunig i bobl hŷn, Hafan Deg yn Rhyl a Llys Nant ym Mhrestatyn, i sicrhau bod y gwasanaeth a gynigiwyd yn gyson gyda’r polisi ail-alluogi. Darparwyd disgrifiadau manwl o’r canolfannau i Aelodau. Roedd adolygiad o’r gwasanaethau wedi’i gomisiynu yng Ngorffennaf 2011 ac roedd yr argymhellion a wnaed wedi’u crynhoi yn yr adroddiad. Oherwydd mesurau oedd eisoes wedi’u gweithredu, roedd y gofyniad arbedion bellach wedi gostwng i £60,000, i’w gyflawni o’r argymhellion a amlinellwyd ar gyfer 2013/14.

 

Amlinellwyd yr egwyddorion yn yr adroddiad, a thynnodd y  Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes sylw at yr angen i wneud newidiadau i gyflawni anghenion y bobl fwyaf bregus yn y Sir yn y dyfodol.  Aeth ati i gydnabod yr angen am ddarparu gwasanaethau gofal dydd yn Rhyl, Prestatyn ac ardaloedd eraill, a bod mynediad rhwydd at yr adeiladau a ddefnyddiwyd yn hollbwysig.    

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gwahaniaeth rhwng ymyriad tymor byr a gofal tymor hir, esboniwyd bod y GIG a’r Ddeddf Gofal Cymdeithasol 1990 yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i asesu anghenion gofal cymdeithasol.  Roedd Deddf Cymorth Gwladol 1948 a Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 yn darparu ar gyfer darparu gwasanaethau i gyflawni unrhyw anghenion cymwys.  Roedd modd cyflawni hyn trwy drefniadau trydydd person fel sy’n bodoli ar hyn o bryd gyda gofal yn y cartref a gwasanaethau preswyl.

 

Cododd Aelodau'r pwyntiau canlynol wrth gefnogi cadw’r Canolfannau dan sylw:-

 

-          Tynnwyd sylw at bwysigrwydd sicrhau cyfranogiad Aelod Lleol ymhob cam o’r broses ymgynghori. Mynegwyd pryder bod dileu’r cymhorthdal i ffioedd wedi eithrio nifer sylweddol o ddefnyddwyr gwasanaeth potensial o’r broses ymgynghori a allai effeithio yn y pen draw ar yr adborth a geir o’r ymgynghoriad, ac na fyddai darparu gwasanaethau trwy’r sector preifat yn cwrdd â’r safonau a oedd yn cael eu darparu ar hyn o bryd. Roedd y cynnydd mewn ffioedd hefyd wedi rhwystro defnyddwyr rhag defnyddio’r cyfleusterau ac roedd hynny’n rhoi’r argraff nad oedd angen y gwasanaethau. 

-          Codwyd pryderon hefyd bod rhai gofalwyr nawr yn talu am ofal dydd i’w hanwyliaid o’u lwfansau gofalwyr eu hunain. 

-          Cyfeiriwyd at y staff a’r cyfleusterau ardderchog sydd ar gael ar hyn o bryd, y colli swyddi posibl pe byddai’r gwasanaethau’n cael eu preifateiddio, pwysigrwydd yr ysbryd cymunedol a’r gwmnïaeth y mae’r sefydliadau hyn yn eu cynnig, a’r angen i’r Awdurdod barhau i ddarparu gwasanaethau lefel uchel. 

-          Wrth ystyried yr Opsiynau, roedd y Cynghorydd J. Butterfield yn teimlo  y byddai’n bwysig cymryd i ystyriaeth y tanwariant o £713k o fewn y Gyfarwyddiaeth. Esboniodd y byddai’n bwysig cadw’r gwasanaethau o fewn y Canolfannau dan sylw a oedd wedi’u hadeiladu’n bwrpasol. Teimlwyd hefyd na fyddai’r cyhoeddiadau a ddisgwyliwyd ynghylch Adolygiadau Gwasanaeth y GIG yn cael dylanwad mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth hwn.

-          Cwestiynwyd y prosesau asesu ac ymgynghori, gyda chyfeiriad arbennig at faterion yn ymwneud â ffioedd.

-                Mynegwyd pryderon bod nifer y llefydd gofal dydd ar gael ym Mhrestatyn wedi gostwng yn sylweddol ar ôl i Llys Nant gau.

-          Codwyd pryderon gan y Cynghorydd D. Simmons ynghylch

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes at y materion allweddol canlynol wrth ymateb i Aelodau:-

 

·        Roedd Aelodau Lleol wedi bod yn rhan o’r broses ymgynghori ac wedi cael eu  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

PROSIECTAU SEILWAITH MAWR: DYRANNU ADNODDAU AC YMGYSYLLTIAD CYMUNEDOL pdf eicon PDF 94 KB

To consider a report by the Planning Officer: Renewable Energy Schemes (copy enclosed) which seeks guidance on the resource commitment and level of community engagement for major infrastructure projects.

 10.50 a.m.

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Swyddog Cynllunio: Cynlluniau Ynni Adnewyddadwy,  a oedd yn ceisio arweiniad ar yr ymrwymiad o ran adnoddau a lefelau ymgysylltiad cymunedol gyda phrosiectau seilwaith mawr, wedi’i ddosbarthu gyda’r papurau i’r cyfarfod.  

 

Roedd prosiectau seilwaith mawr yn gynigion datblygu ar raddfa fawr sydd angen caniatâd a elwir yn ‘ganiatâd datblygu’ dan weithdrefnau a nodir gan Ddeddf Gynllunio 2008 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011).  Roedd angen i ddatblygwyr oedd am adeiladu prosiectau seilwaith mawr ymgeisio am ganiatâd cynllunio i’r Arolygaeth Gynllunio ac roedd yn rhaid ymgynghori’n statudol ag Awdurdodau Lleol. Roedd Adroddiad yn nodi’r cyd-destun ar gyfer prosiectau seilwaith mawr wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio ym Mai 2012, ac mae Atodiadau 1 a 2 i’r adroddiad yn cynnwys manylion am rôl yr Awdurdod Cynllunio yn y broses gynllunio.  Roedd y goblygiadau o ran arian ac adnoddau ac effeithiau/risgiau potensial yn gysylltiedig â phob opsiwn wedi’u cynnwys yn Atodiad 3, ac roedd costau allanol dangosol i ymateb i brosiectau seilwaith mawr wedi’u cynnwys yn Atodiad 4. Nid oedd unrhyw reidrwydd statudol ar yr Awdurdod Lleol i gyfranogi yn y broses o asesu cynlluniau o’r fath. Fodd bynnag, gan fod i rai prosiectau seilwaith mawr effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sylweddol ar y Sir a chymunedau lleol,  rhoddwyd ymateb casgliadol i’r Arolygaeth a chyfranogodd y Cyngor, i ryw raddau, yn y broses. Roedd gofyn am arweiniad gan Aelodau ynghylch lefel y dyraniad adnoddau ac i ba raddau y dylid cael ymgysylltiad cymunedol gyda phrosiectau seilwaith mawr yn y dyfodol, yn enwedig o gofio dyhead yr Awdurdod i ddod yn agosach at y gymuned.   

 

Rhoddodd swyddogion grynodeb o’r prif bwyntiau yn yr adroddiad a oedd yn ymdrin â dyrannu adnoddau, yr opsiynau ar gael i’r Cyngor yn nhermau sut y mae’n ymateb i brosiectau seilwaith mawr, ac yn nhermau ymgysylltiad cymunedol mewn perthynas â phrosiectau mawr o’r fath. Roedd rheidrwydd statudol i ymgynghori ag Awdurdodau Lleol ar brosiectau seilwaith mawr, ac roedd ganddynt rôl bwysig i’w chwarae pe byddent yn dewis ymgysylltu â’r broses. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw daliad cynllunio yn gysylltiedig â chynlluniau o’r fath i dalu am unrhyw gostau fyddai’n codi.

 

Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r gofynion allweddol o fewn y broses, a phwysleisiwyd bod y ceisiadau yn cynnwys dogfennau cymhleth, hirfaith, ac y byddai’n rhaid neilltuo cryn dipyn o amser i’w hasesu cyn ffurfio ymateb i unrhyw ymgynghoriad. Mae amserlenni ar gyfer ymgynghori wedi’u nodi’n statudol, ac felly byddai’n rhaid cydymffurfio â hwy.   

 

Esboniodd y Cynghorydd J.S. Welch nad oedd trigolion yn ei ward ef wedi bod yn ymwybodol o gynigion diweddar  a gyflwynwyd yn yr ardal honno, ac awgrymodd y dylai’r Awdurdod Lleol fabwysiadu ymagwedd mwy rhagweithiol i gynyddu ymwybyddiaeth yn lleol.  Cyfeiriodd hefyd at yr effeithiau y gallai cynigion mewn rhannau amrywiol o’r sir eu cael ar gymunedau ar hyd yr A5 o safbwynt materion cysylltiedig â thraffig.   Roedd y Cynghorydd C.H. Williams yn teimlo bod gan yr Awdurdod ddyletswydd i sicrhau nad oedd unrhyw effaith niweidiol ar drigolion y Sir, beth bynnag oedd maint y datblygiadau a gynigiwyd.  Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio a Gwasanaethau Rheoleiddio y byddai’n rhaid cyflwyno’r cais i’r Awdurdod Cynllunio Lleol (LPA) pe byddai’r rhifau yn gostwng fel bod y cais islaw trothwy penodol. Byddai’r LPA wedyn yn gallu derbyn taliad penodol gyda’r cais, gan olygu bod gwell adnoddau ar gael i ymdrin â’r cais.        

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J.M. Davies ynghylch ariannu a goblygiadau ariannol pob un o’r opsiynau a gyflwynwyd, cyfeiriodd y Pennaeth Cynllunio a Gwasanaethau Rheoleiddio at Ddatganiad y Prif Swyddog Ariannol ynghylch  y goblygiadau o ran adnoddau a chyllid, a’r  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

DYRANIAD CRONFA AELOD ARDAL pdf eicon PDF 88 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Ymgysylltiad Cymunedol (copi’n amgaeëdig) sy’n rhoi trosolwg ar y cyllid a ddyrannwyd i alluogi i Grwpiau Aelodau Ardal gefnogi prosiectau blaenoriaeth yn eu hardaloedd ac yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu llwyddiant y gronfa.

                                                                                                         11.25 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Rheolwr Ymgysylltiad Cymunedol, a oedd yn rhoi trosolwg o’r arian a ddyrannwyd i alluogi Grwpiau Aelod Ardal i gefnogi prosiectau a oedd yn cael blaenoriaeth yn eu hardaloedd, ac yn adolygu ei lwyddiant, wedi’i ddosbarthu gyda’r papurau i’r cyfarfod.

 

Ym Mawrth 2012, roedd y Pwyllgor wedi derbyn adroddiad ar y dyraniad o £50,000 i bob un o’r chwe Grŵp Aelod Ardal gyda manylion o’r meini prawf  ar gyfer y dyraniad a sut y dylid ei ddefnyddio er budd y cymunedau. Gan nad oedd llawer o’r prosiectau wedi’u cwblhau ar y pryd, cytunwyd y dylid cyflwyno adroddiad pellach gyda dadansoddiad o’r buddion a gafwyd.  Rhoddodd y Pennaeth Cynllunio a Pherfformio Busnes grynodeb o’r adroddiad a oedd yn cynnwys manylion o’r cefndir i’r dyraniad arian, sut ddosbarthwyd yr arian, adolygiad o’r broses, y buddion a gafwyd a’r gwersi a ddysgwyd o’r broses, a manylion o’r argymhellion ar gyfer dyrannu arian yn y dyfodol.   Roedd ffurflen ar gyfer cynnig prosiect (Atodiad 1) i gyd-fynd â’r canllawiau, a oedd yn esbonio’r egwyddorion wrth wraidd y broses ddyrannu a’r amserlen debygol ar gyfer dosbarthu’r arian. Roedd copi o’r ddogfen ‘Trosolwg o’r Gwariant Hyd Yma’, yn manylu ar bob prosiect unigol, wedi’i ddosbarthu yn y Papurau Gwybodaeth i’r cyfarfod.

 

Esboniodd y Cynghorydd J.M. Davies y byddai’n haws mewn Trefi, lle mae Cynlluniau Tref, i weithio tuag at, a chyflawni prosiectau a chynlluniau penodol gan fod materion yn ymwneud â ffiniau daearyddol a dylanwadau allanol eraill yn gallu cymhlethu’r broses o ddyrannu arian i ardaloedd gwledig.  Cytunodd y Cynghorydd C.H. Williams gyda’r safbwynt hwn a thynnodd sylw at y problemau a brofwyd wrth ddyrannu arian i gynlluniau mewn ardaloedd gwledig.  Tynnodd sylw arbennig at y broses ddyrannu arian i drefi a phentrefi yn ardal Dyffryn Dyfrdwy. 

 

Mynegodd nifer o Aelodau bryder ynghylch dyrannu arian mewn ardaloedd penodol o’r sir. Cyfeiriwyd yn benodol at yr arian a ddyrannwyd i roi cymhorthdal i gynnal maes parcio yn Rhuthun;  honnwyd bod hyn wedi mynd yn groes i Bolisi Cytunedig y Cyngor parthed taliadau parcio ceir.

 

Cyfeiriwyd at gael y pentrefi yn y cyffiniau i ddod yn rhan o’r Cynlluniau Tref a phwysigrwydd cwmpasu anghenion y cymunedau gwledig yn y Cynlluniau Tref. Nodwyd y dylid cydnabod bod gan wahanol ardaloedd o fewn y sir anghenion, blaenoriaethau a gofynion gwahanol. Roedd yn bwysig sicrhau bod y Cynlluniau Tref yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol yn ogystal â blaenoriaethau sirol, a’u bod felly’n ddogfennau gweithio byw allai gael eu diwygio ar unrhyw adeg. Cefnogodd Aelodau’r safbwynt y dylai dyrannu arian cymunedol yn y dyfodol fod yn gysylltiedig gyda datblygiad y Cynlluniau Tref.  

 

Esboniodd y Pennaeth Cynllunio a Pherfformio Busnes y byddai dyrannu arian i gefnogi Cynlluniau Tref, yn enwedig mewn ardaloedd lle'r oedd adfywiad yn flaenoriaeth, yn bwysig. Cefnogodd y Cyfarwyddwyr Corfforaethol: Dysgu a Chymunedau y farn y gellid rheoli’r broses o ddyrannu arian yn fwy strategol yn y dyfodol, yn dilyn datblygiad y Cynlluniau Tref, ac y dylai ymgynghori ar unrhyw brosiectau i’r dyfodol fod mor gynhwysol â phosibl.  Yn dilyn trafodaeth bellach:-

 

PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor:-

 

(a)   yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi’r dyraniad untro o arian heb unrhyw ymrwymiad y byddai’r broses yn cael ei hail-adrodd; 

(b)   yn argymell bod yn rhaid i unrhyw gynllun(iau) yn y dyfodol gael eu cyflwyno i gyfarfod Grŵp Aelod Ardal a’u cymeradwyo’n llawn yn y cyfarfod hwnnw yn hytrach na chael eu dirprwyo i Aelodau Ward unigol;  

(c)   yn cytuno y dylai holl gynlluniau yn y dyfodol gyd-fynd â, a chefnogi’r Cynlluniau Tref/Rhyl Ymlaen neu brosiectau gwledig y cytunodd y Grŵp Aelod Lleol arnynt; ac  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 91 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydgysylltydd Craffu (copi’n amgaeëdig) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor i’r dyfodol ac yn diweddaru’r aelodau ar faterion perthnasol.

 

12.05p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Cydlynydd Craffu, a oedd yn adolygu Blaen-raglen Waith Ddrafft y Pwyllgor ac yn diweddaru’r aelodau ar faterion perthnasol, wedi’i ddosbarthu gyda’r papurau i’r cyfarfod.

 

Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth yr Aelodau bod ymatebion i faterion a godwyd yn y cyfarfod blaenorol wedi’u cynnwys yn y Briff Gwybodaeth a ddosbarthwyd cyn y cyfarfod. Roedd Blaen-raglen Waith y Cabinet wedi’i chynnwys fel Atodiad 2 i’r adroddiad, ac roedd tabl yn crynhoi penderfyniadau diweddar y Pwyllgor, ac yn hysbysu aelodau ar hynt eu gweithrediad, wedi’i gynnwys yn Atodiad 3.     

 

Yn ei gyfarfod ar 5 Gorffennaf 2012, roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi ystyried rhaglenni gwaith y tri phwyllgor craffu ochr yn ochr â rhaglenni’r Cabinet a’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Roedd wedi ystyried a chytuno y dylid cynnwys eitem a oedd yn ymwneud â sefydlu safonau gwasanaeth ar gyfer ymgynghori ac ymgysylltu cymunedol mewn perthynas â’r broses gynllunio yn y Blaen-raglen Waith i gyfarfod mis Hydref 2012 y Pwyllgor. 

 

Yn dilyn penodi cynrychiolwyr y Pwyllgor ar Grwpiau a Byrddau’r Cyngor yn y cyfarfod diwethaf, nodwyd bod un sedd wag yn parhau i gynrychiolydd ar y Grwpiau Herio Perfformiad Gwasanaeth. Cytunodd y Pwyllgor y dylid penodi’r C.L. Williams i wasanaethu ar y Grŵp Herio Gwasanaeth Cynllunio a Pherfformio Busnes.  Roedd copi o’r rhestr ddiweddaraf  o gynrychiolwyr craffu ar y Grwpiau Herio Perfformiad Gwasanaeth wedi’i gynnwys fel Atodiad 4 i’r adroddiad. 

 

Esboniodd y Cydlynydd Craffu bod cais am wybodaeth bellach wedi’i dderbyn mewn perthynas ag eitem yn ymwneud â rheoli rhandiroedd. Cytunodd y Pwyllgor y dylid dosbarthu diweddariad ar y mater hwn i holl Gynghorwyr pan fydd ar gael. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor y Blaen-raglen Waith ddrafft i gyfarfodydd yn y dyfodol fel y manylwyd yn Atodiad 1. O ystyried y nifer gorau o eitemau agenda i’w cynnwys mewn un cyfarfod, cytunodd yr Aelodau y dylid cynnwys y newidiadau canlynol ym Mlaen-raglen Waith y Pwyllgor:-

 

Cyfarfod Medi 2012:  Atgoffwyd Aelodau y byddai cyfarfod Medi y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn cael ei gynnal yn Rhyl gan y byddai’n ystyried tair ffrwd waith yn y rhaglen a oedd yn gysylltiedig â Phrosiect Rhyl Ymlaen. Byddai taith o amgylch y safleoedd a’r ardaloedd allweddol yn cael ei threfnu a chytunwyd y gallai’r daith gynnwys ymweliad â Chanolfan Gofal Dydd Hafan Deg.

 

Cyfarfod Hydref 2012:-

·        Eitem Etape Cymru i’w had-drefnu ar gyfer Rhagfyr 2012

·        Gohirio’r Rhaglen Nesáu at y Gymuned, ac o bosibl ei chynnwys yn y Cynllun Corfforaethol a fyddai’n cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Perfformiad maes o law. 

·        Ardaloedd Risg Llifogydd o fewn Sir Ddinbych i’w d

·        drosglwyddo i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau.

·        Cynnal a Chadw Gaeaf 2012/13 ac Adolygiad o Dorri Gwaith Priffyrdd 2012 i’w cyfuno a’u trafod fel un eitem fusnes.

·        Adolygiad o Wasanaethau Dydd i’w gynnwys yn y Blaen-raglen Waith i gyfarfod Hydref.

 

Mewn ymateb i gais bod y pwyllgor yn penodi cynrychiolydd i’r Grŵp Monitro Safonau Ysgol (SSMG), cytunodd y Pwyllgor y dylid penodi’r Cynghorydd J.S. Welch fel ei gynrychiolydd, gyda’r Cynghorydd  W. Mullen-James fel dirprwy aelod. Yn dilyn trafodaeth bellach:-

 

PENDERFYNWYD:-

 

(a)     yn amodol ar y newidiadau uchod, bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad;

(b)          y dylid penodi’r Cynghorydd C.L. Williams i wasanaethu ar y Grŵp Herio Gwasanaeth Cynllunio a Pherfformio Busnes, ac  

(c)     y dylid penodi’r Cynghorydd J.S. Welch fel cynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp Monitro Safonau Ysgol, gyda’r Cynghorydd W. Mullen-James fel ei ddirprwy. 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.35 p.m.