Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Michelle Blakeley-Walker, Hugh Evans, Jon Harland, Brian Jones a Cheryl Evans.

 

Dywedodd y Cydlynydd Craffu nad oedd cworwm gan y Pwyllgor ac felly na ellid cadarnhau unrhyw faterion ar y rhaglen. 

 

Dywedodd y Cadeirydd y penderfynwyd gohirio eitemau yr oedd angen cytundeb y pwyllgor yn eu cylch, ac y dylid bwrw ymlaen gyda’r adroddiadau sy’n cael eu cyflwyno er gwybodaeth yn unig.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau I ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

PENODI IS-GADEIRYDD pdf eicon PDF 182 KB

Penodi Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer blwyddyn 2023/2024 y Cyngor 2025/26.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe ohiriwyd penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Craffu Cymunedau tan y cyfarfod nesaf ar 26 Mehefin 2025.

 

4.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 316 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2025 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe ohiriwyd cadarnhau cofnodion y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2025 tan eu cyfarfod nesaf ar 26 Mehefin 2025.

 

6.

YMATEB BRYS I DENANTIAID DIAMDDIFFYN SY'N COLLI GWRES pdf eicon PDF 226 KB

Ystyried adroddiad gan Brif Swyddog, Tai Cymunedol, (copi ynghlwm) sy’n amlinellu’r gefnogaeth sydd ar gael i denantiaid y Cyngor yn ystod digwyddiadau sy’n tarfu ac argyfyngau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw), gan ymddiheuro am unrhyw ailadrodd posibl, oherwydd bod y cwestiwn ar ymateb brys i denantiaid diamddiffyn sy’n colli gwres yn eu cartrefi wedi’i godi mewn gwahanol adroddiadau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau gan y Gwasanaethau Tai yn flaenorol.

 

Fe eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai a Chymunedau fod yr adroddiad yn ymdrin â sut roedd y Gwasanaeth yn cefnogi tenantiaid diamddiffyn yn benodol pe bai toriad pŵer a bod trydan yn brif ffynhonnell wresogi iddynt, yn ogystal â throsolwg mwy cyffredinol o ymatebion brys o fewn Tai Cymunedol, fel rhan o’r gwasanaeth cynllunio rhag argyfwng corfforaethol.

 

Swyddog Arweiniol: Fe eglurodd Tai Cymunedol fod staff Tai Cymunedol yn ymweld â chartrefi eu preswylwyr yn ddyddiol ac yn delio â nhw’n rheolaidd mewn adegau o argyfwng. Maent wedi cefnogi tenantiaid drwy argyfyngau amrywiol gan gynnwys tannau a llifogydd, heb anghofio’r pandemig.

 

Yr hyn a welwyd amlaf o ran argyfyngau mawr posibl oedd llifogydd yn Llanelwy, a effeithiodd yn uniongyrchol ar Llys y Felin, sef cynllun ar gyfer pobl hŷn ger Afon Elwy. Cafodd y risg o lifogydd ei fonitro’n barhaus yn y lleoliad hwn cyn ac yn ystod cyfnodau o dywydd garw a stormydd. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau bod staff ar gael i ymweld â phreswylwyr a’u cefnogi ag amddiffynfeydd unigol rhag llifogydd ac i baratoi rhag ofn y byddai angen gwagio cartrefi. 

 

Y darparwyr a’r rhwydwaith cyfleustodau sy’n gyfrifol am arwain gwaith adfer, a hynny’n benodol yn dilyn toriadau pŵer. Roedd y “Cynllun Toriad Trydan a Chyfleustodau Cyffredinol” yn ymdrin â’r ymateb. Fforwm Cymru Gydnerth y Gogledd oedd yn arwain ar y cynllun ac mae’n cael ei reoli gan Grŵp Isadeiledd a Pharodrwydd Logistaidd y Fforwm.

 

Roedd y cynllun yn amlinellu cyfrifoldeb Scottish Power am yr isadeiledd

trydanol ac i adfer y cyflenwad cyn gynted â phosibl. Roedd y cynllun hefyd yn

cynnwys manylion y cynlluniau wrth gefn ar gyfer cefnogi cymunedau a chyfathrebu.

 

Roedd sefydliadau fel y Groes Goch Brydeinig yn bartneriaid yn y cynllun ac ymgysylltwyd â nhw os oedd toriad trydan mawr ac estynedig yn digwydd.

 

Roedd modd i’w cwsmeriaid a oedd o bosibl angen gofal a chefnogaeth ychwanegol yn ystod toriad pŵer, gofrestru â’r Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth. Mae Tai Cymunedol wedi rhannu rhestr o gyfeiriadau gyda’r gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol yn seiliedig ar gynlluniau penodol ar gyfer pobl hŷn.

 

Pe bai toriad pŵer hir yn digwydd o fewn stoc dai Sir Ddinbych a hwnnw’n lleol, h.y. yn effeithio ar un cynllun neu stryd yn unig, byddai gweithdrefnau cynllunio rhag argyfwng yn cael eu rhoi ar waith i agor canolfan orffwys mor agos â phosibl, er mwyn darparu lle cynnes a bwyd a diod poeth.

 

Gan gyfeirio at y mathau o systemau gwresogi a osodwyd yn y stoc Tai Cymunedol, roedd y mwyafrif yn defnyddio nwy o hyd, fodd bynnag, byddai’r defnydd o systemau gwresogi trydan yn unig megis Pympiau Gwres yr Awyr yn cynyddu, er mwyn bod yn llai dibynnol ar danwyddau ffosil ac i gynyddu'r defnydd o fathau adnewyddadwy o danwydd. Pwysleisiwyd nad oedd newid i ddefnyddio systemau gwresogi trydan yn golygu bod tenant yn fwy diamddiffyn na’r rhai sy’n defnyddio systemau gwresogi nwy pe bai toriad yn y pŵer – gan fod boeler nwy angen trydan i weithio.

 

Cydnabuwyd mai tanau tanwydd solet oedd y system fwyaf gwydn o wresogi yn ystod toriad pŵer a'u bod wedi cael eu tynnu o rai eiddo yn ystod gwaith adnewyddu. Fodd bynnag, roedd y gwaith adnewyddu a’r gwelliannau i inswleiddio’r eiddo yn golygu  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 237 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglan gwaith i’r dyfodol y pwllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu raglen waith y Pwyllgor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd i’w gweld yn atodiad 1a.

 

Dywedodd y Cydlynydd Craffu fod y Swyddog Arweiniol a oedd fod i adrodd ar y Strategaeth Arwyddion Twristiaeth yn y cyfarfod hwnnw wedi gofyn i ohirio. Roedd gwaith ar y prosiect wedi'i ohirio oherwydd y swydd wag Uwch Beiriannydd a blaenoriaethau eraill o ran llwyth gwaith, megis prosiectau’r Gronfa Ffyniant Bro ac adolygu’r terfyn cyflymder 20mya. Byddai'r adroddiad yn cael ei ychwanegu at eitemau’r rhaglen waith yn y dyfodol a phennir union ddyddiad unwaith y bydd y swydd wedi’i llenwi a’r prosiect wedi’i ailddechrau.

 

Cafodd yr eitem ar y Gwasanaeth Ailgylchu Gwastraff ei gohirio hefyd, gan nad oedd data wedi’i wirio ar gael ar y pryd. Byddai’r adroddiad yn cael ei ychwanegu at raglen y cyfarfod nesaf ar 26 Mehefin 2025.

 

Trefnwyd yr eitemau canlynol ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhelir ar 26 Mehefin:

 

               I.         Adolygiad o’r Premiwm Treth y Cyngor ar Ail Gartrefi/ Cartrefi Gwag Hirdymor.

             II.         Gorfodi Parcio (archwilio'r meini prawf a'r polisïau sydd ar waith ar gyfer dynodi cyfyngiadau parcio ledled y Sir).

            III.         Gwasanaeth Ailgylchu Gwastraff – (Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ffigyrau’r incwm a gynhyrchir gan y gwasanaeth ailgylchu a chynnig newid rhywfaint o’r gwasanaeth i Gasgliadau Pen Lôn).

 

Cynhelir cyfarfod nesaf Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar 30 Mehefin 2025 ar gyfer cyflwyno ceisiadau am Gynigion Craffu - dosbarthwyd ffurflenni Ceisiadau Cynigion i Graffu yn y pecyn rhaglen (atodiad 3).

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi rhaglen waith y Pwyllgor Craffu Cymunedau.

 

 

 

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10:45am