Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyn i’r cyfarfod
ddechrau dywedodd y Cydlynydd Craffu (KE) fod aelodaeth y Pwyllgor wedi newid. Yn dilyn ffurfio
grŵp annibynnol newydd – Cynghrair Annibynnol Sir Ddinbych (CASDd), mae
aelodaeth pob pwyllgor wedi’i hadolygu i sicrhau cydbwysedd gwleidyddol. Mae’r Cadeirydd
blaenorol, y Cyng. Huw Williams (CASDd) wedi gadael y Pwyllgor a’r Cyng. Hugh
Evans (Grŵp Annibynnol) yn ei le. Mae’r Cyng. Karen
Edwards wedi’i phenodi’n Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau gan Arweinydd y
Grŵp Annibynnol. Diolchodd aelodau’r Pwyllgor Craffu Cymunedau i’r Cyng. Hugh Williams am gadeirio’r cyfarfod am sawl blwyddyn. |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cyng. Michelle Blakeley-Walker |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Yr Aelodau I ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer gweddill blwyddyn 2024/25 y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyn gofyn am
enwebiadau ar gyfer rôl yr Is-Gadeirydd ar gyfer gweddill 2024/25, eglurodd y
Cadeirydd nad yw’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yn cwrdd eto tan ar ôl Cyfarfod
Blynyddol y Cyngor – ac ar ôl hynny bydd yn rhaid cael enwebiadau ar gyfer
Is-Gadeirydd ar gyfer 2025/26. Gofynnodd y
Cadeirydd a yw’r Pwyllgor yn dymuno penodi Is-Gadeirydd rŵan neu yng
nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 15 Mai, ar ôl Cyfarfod
Blynyddol y Cyngor. Cynigiodd y Cyng.
Carol Holliday bod y Pwyllgor yn penodi Is-Gadeirydd yn y cyfarfod nesaf.
Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Delyth Jones ac roedd pawb yn gytûn. PENDERFYNWYD
gohirio penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Craffu Cymunedau tan y cyfarfod
nesaf ar 15 Mai 2025. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. Fodd bynnag, ar
gais Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Amgylchedd, i osgoi dyblygu gwaith
mae’r ddwy eitem ar wahân ar Fwrdd Adfywio a Llywodraethu’r Rhyl ac Uwchgynllun Promenâd y Rhyl wedi’u cyfuno mewn un adroddiad
– eitem 7 ar y rhaglen. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2025 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod ar 6 Chwefror 2025. Materion yn codi: Adolygiad o Wasanaeth Ailgylchu’r Trolibocs a
Swyddogaethau Casglu Gwastraff Cysylltiedig (tudalen 10) – Dywedwyd fod
problemau o hyd gyda’r cyfathrebu ynglŷn â datrys materion gyda’r
casgliadau Trolibocs. Atgoffodd Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Amgylchedd y Pwyllgor fod
y cofnodion yn cyfeirio at y cyfathrebu ynglŷn â chasgliadau pen ffordd
ond y byddai’n cysylltu â’r Aelod ynglŷn â’r mater penodol hwnnw y tu
allan i’r cyfarfod. Dywedwyd wrth y Cyfarwyddwr Corfforaethol nad yw Aelodau Lleol wedi cael
gwybodaeth ynglŷn â nifer y casgliadau pen ffordd yn eu wardiau. PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod 6
Chwefror 2025 fel rhai cywir.
|
|
STRATEGAETH DDRAFFT TOILEDAU LLEOL A CHYNNIG ARBEDION Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (copi ynghlwm)
ar y cynnydd sydd wedi cael ei wneud hyd yma ar y Strategaeth Toiledau Lleol
ynghyd ag argymhellion drafft ar gyfer cynigion arbedion. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yr adroddiad
(dosbarthwyd ymlaen llaw). Dywedodd fod tri rheswm dros gyflwyno’r adroddiad,
sef i ystyried:
Sicrhaodd yr Aelod Arweiniol y Pwyllgor ei fod yn deall pwysigrwydd
cyfleusterau cyhoeddus a dywedodd ei fod wedi bod yn gweithio gyda’r gwasanaeth
ar gynllun i gadw’r cyfleusterau ar agor pan fo angen amlwg ar eu cyfer. Gan gyfeirio at yr adroddiad amlygodd Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi
a’r Amgylchedd wybodaeth bwysig:
Byddai’r strategaeth yn cymharu’r ddarpariaeth bresennol ar draws y sir
gyda’r angen a nodwyd ymhob tref. Byddai cyfleusterau cyhoeddus mewn trefi gydag angen a nodwyd yn gweld
buddsoddiad a gwelliannau. Byddai ffioedd yn cael eu hadolygu i gyfrannu at
gefnogi’r buddsoddiadau a’r costau gweithredu. Byddai prosesau gweithredu ac
oriau agor yn destun adolygiad yn ogystal. Byddai’r Cyngor hefyd yn parhau i
edrych ar opsiynau trosglwyddo i sefydliadau allanol ble bo’n bosibl, gan
barhau i edrych ar ac ehangu’r Cynllun Toiledau Cymunedol. Argymhellir y canlynol:
Mae cais wedi’i gyflwyno i gronfa Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru i gael
cyllid i gyfrannu at y buddsoddiad hwnnw – disgwylir penderfyniad ddechrau mis
Ebrill 2025. Mae’r Cyngor yn edrych ar gyllid ychwanegol ac yn cynnal sgyrsiau
gyda chynghorau Tref, Cymuned a Dinas ynglŷn â’u gallu i gyfrannu at y
buddsoddiad sydd ei angen a/neu i leihau cost taliadau cyfleusterau cyhoeddus
yn eu hardaloedd. Wrth ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd y Swyddogion:
|
|
RHAGLEN ADFYWIO AC UWCHGYNLLUN GLAN Y MÔR Y RHYL Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) sy’n rhoi diweddariad lefel uchel i’r Pwyllgor ar
Raglen Adfywio ac Uwchgynllun Glan y Môr y Rhyl, yn cynnwys y camau nesaf yn
dilyn cwblhau Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd y Cyngor / Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd, y
Cyng. Jason McLellan yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw). Dywedodd fod arian
y Gronfa Ffyniant Bro yn dod i law, ynghyd â chyllid o gronfa Cynllun ar gyfer
Cymdogaethau (Cynlluniau Hirdymor ar gyfer Trefi gynt). Mae llawer o
waith yn cael ei wneud o ran:
Rhoddodd
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Amgylchedd y wybodaeth ddiweddaraf ar
Raglen Adfywio’r Rhyl sydd yn bennaf yn canolbwyntio ar brosiectau cyfalaf i
ddatrys problemau ffisegol ac amgylcheddol – i geisio annog twf economaidd a
swyddi newydd. Mae’r rhaglen hefyd yn ymwneud â materion eraill sy’n
gysylltiedig â digartrefedd, anweithgarwch hirdymor,
trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r Cyngor wedi
llwyddo i gael grantiau i gyflawni cynlluniau cyfalaf mawr – gyda thros £200
miliwn o fuddsoddiadau cyfalaf wedi’u cyflawni yn ystod y ddegawd ddiwethaf. Mae £12 miliwn
arall wedi’i fuddsoddi mewn pedwar prosiect ychwanegol i wella canol y dref a’r
promenâd yn ystod y tair blynedd nesaf. Mae’r grant £20 miliwn o Gronfa Cynllun
ar gyfer Cymdogaethau yn caniatáu darparu strategaeth adfywio hirdymor gymunedol
yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Piler y rhaglen
oedd Gweledigaeth Canol Tref y Rhyl. Datblygwyd y cynllun chwe blynedd yn ôl,
mae rhai prosiectau wedi’u cyflawni ac eraill heb. Mae cymdeithas wedi newid
dros y blynyddoedd hynny – yn bennaf oherwydd y pandemig, ac roedd yn rhaid
adolygu’r weledigaeth i wneud yn siŵr ei bod yn cyd-fynd â’r cynllun 10
mlynedd nesaf. Yn debyg iawn,
lluniwyd Uwchgynllun Glan y Môr y Rhyl sawl blwyddyn
yn ôl. Roedd yn gysyniad uchelgeisiol gyda’r holl elfennau yn amodol ar sicrhau
cyllid i’w darparu, ynghyd â rhywfaint o fuddsoddiad preifat. Y cynnig oedd
datblygu pedwar parth penodol ar hyd glan y môr (atodiad a). Mae model 3D
drafft o’r glan y môr a chanol y dref wedi’i gynnwys yn yr adroddiad (atodiad
b). Cafodd y cynllun ei gomisiynu at ddibenion marchnata, fel ffordd i ddangos
sut mae glan y môr y Rhyl wedi’i ddatblygu dros y ddegawd ddiwethaf – a gellir
hefyd ei ddefnyddio i fodelu datblygiadau newydd ac annog buddsoddiadau preifat
yn y Rhyl. Y dyhead oedd gweld y Rhyl yn cyrraedd pwynt ble na fyddai angen
ymyrraeth sector cyhoeddus, a bod y farchnad breifat yn cymryd drosodd. Wrth ymateb i
gwestiynau'r Pwyllgor, cynghorodd yr Arweinydd a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Roedd yr Aelodau yn credu bod angen ymgysylltu â’r cyhoedd ar draws y sir i hyrwyddo adfywiad y ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglan
gwaith i’r dyfodol y pwllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu (KE) y rhaglen waith (atodiad 1.a). Mae cyfarfod
nesaf y Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi’i drefnu ar gyfer 15 Mai 2025. Mae tair
eitem ar y rhaglen:
Bydd y wybodaeth
ddiweddaraf am Adfywio’r Rhyl a’r Uwchgynllun Glan y Môr yn cael ei hychwanegu
dan ‘eitemau i’r dyfodol’ ar y rhaglen waith nes bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus
wedi dod i ben a Chynllun Gweledigaeth Canol Tref y Rhyl wedi’i lunio. Mae cyfarfod
nesaf y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu ar 28 Ebrill. Mae
ffurflenni testunau craffu ar gael yn atodiad 2 i aelodau gyflwyno unrhyw eitem
i’w hystyried. PENDERFYNWYD-
yn amodol ar y newidiadau uchod, nodi’r Rhaglen Waith |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael
y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau
a Grwpiau amrywiol y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. Daeth y cyfarfod i ben am 10:45am
|