Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gyfrwng fideo gynhadledd

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau fod Plaid Cymru wedi newid ei chynrychiolydd ar y Pwyllgor, gyda’r Cynghorydd Arwel Roberts yn cymryd lle’r Cynghorydd Delyth Jones fel cynrychiolydd y Grŵp.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 199 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan ymateb i ymholiadau yn ymwneud â datgan cysylltiadau personol neu gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ym musnes y cyfarfod dywedodd y Swyddog Monitro:

·       ni thybiwyd bod gan gynghorwyr a oedd yn defnyddio cyfleusterau llyfrgell o bryd i'w gilydd gysylltiad a oedd yn effeithio arnynt neu'n eu ffafrio yn fwy nag unrhyw aelod o'r cyhoedd; ac

·       nid oedd bod yn llofnodwr i alw penderfyniad i mewn yn cael ei ystyried yn gysylltiad personol na chysylltiad personol sy’n rhagfarnu gan fod yr hawl i alw penderfyniad y Cabinet i mewn yn rhan o rôl aelod anweithredol.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

4.

ADOLYGU PENDERFYNIAD Y CABINET YN YMWNEUD A'R CYNNIG ARBEDION LLYFRGELLOEDD/SIOPAU UN ALWAD pdf eicon PDF 314 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor, yn unol â Rheolau Gweithdrefn Galw i Mewn y Cyngor, archwilio’r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 19eg Rhagfyr 2023 yn ymwneud â’r Cynnig Arbedion Llyfrgelloedd/Siopau Un Alwad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorwyr Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol ac Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth i’r cyfarfod ac eglurodd eu bod yn mynychu ar ei gais i ateb cwestiynau’r aelodau yn ymwneud â’r penderfyniad. .

 

Galwyd ar yr aelodau a oedd wedi llofnodi'r cais i alw’r penderfyniad i mewn i roi datganiadau ar y rhesymau dros hynny; yr aelodau hyn oedd y Cynghorwyr Hugh Irving, Terry Mendies, James Elson, Justine Evans, a Brian Jones.

 

Diolchodd y Cynghorydd Hugh Irving i'r Cadeirydd am ganiatáu iddo siarad. Ailadroddodd fod y rhesymau dros alw’r penderfyniad i mewn fel a ganlyn -

 

  1. Roedd y penderfyniad i leihau oriau agor llyfrgelloedd 40% yn amhriodol gan y byddai’r gostyngiadau yn atal gwasanaeth sy’n perfformio’n dda rhag cynnal ei safonau ac yn effeithio ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol y Cyngor. Nid oedd yr effaith hon wedi ei hegluro eto.
  2. Mae siopau un alwad sydd wedi'u lleoli mewn llyfrgelloedd yn darparu cefnogaeth sylweddol i'r gymuned yn enwedig i drigolion llai abl na fyddant yn cael cymaint o gefnogaeth mwyach. Bydd mynediad y cyhoedd i dechnoleg TG yn cael ei leihau a bydd cyfleoedd i drigolion fynd i mewn i amgylchedd cynnes am resymau cymdeithasol yn cael eu lleihau.
  3. Nid yw Costau Diswyddo Posibl ac effaith colli staff hyfforddedig, profiadol wedi'u cyfrifo'n llawn eto na'u cynnwys yn y ffigurau ar gyfer arbedion corfforaethol.  Nid yw manylion yr arbedion a ragwelir wedi'u darparu i aelodau eto.
  4. Nid yw Cyngor Tref Rhuddlan na Chyngor Dinas Llanelwy wedi nodi eto a fyddant yn parhau â'u cefnogaeth ariannol i'w llyfrgelloedd lleol yng ngoleuni'r gostyngiad yn y gwasanaeth a gynigir. Mae angen i'r ffigurau hyn fod yn hysbys a'u hystyried cyn gwneud penderfyniadau terfynol.
  5. Nid yw sefydliadau allanol sy'n darparu gwasanaethau trwy lyfrgelloedd wedi nodi eto a fyddant yn parhau i wneud hynny gyda'r effaith ganlyniadol ar les cymunedol. Nid yw colledion ariannol gan sefydliadau masnachol megis banciau o golli mynediad i gyfleusterau llyfrgell wedi'u cyfrifo eto ac nid yw eu colled i'r gymuned wedi'i ystyried.

 

Yn ogystal â’r rhesymau a nodwyd eisoes, holodd y Cynghorydd Irving a oedd y swyddogion a’r aelodau arweiniol wedi ymweld â’r llyfrgelloedd cyn gwneud y penderfyniad i ddeall yr effaith y byddai’r penderfyniad yn ei gael ar drigolion a’r cymunedau cyfagos, yn ogystal ag ar sefydliadau allanol a oedd yn defnyddio’r llyfrgelloedd.   Byddai pob un yn dioddef o’r oriau agor byrrach. Teimlai'r Cynghorydd Irving nad oedd penderfyniad y Cabinet wedi ystyried y darlun cyfan nac wedi sylweddoli'n llawn yr effaith eang y byddai'r toriadau yn ei chael ar staff profiadol, preswylwyr, ynghyd â sefydliadau allanol gwirfoddol a masnachol a oedd yn dymuno defnyddio llyfrgelloedd at ddibenion ymgysylltu â'r gymuned.

 

Dywedodd y Cynghorydd Terry Mendies wrth y Pwyllgor ei fod yn meddwl bod yr arbedion arfaethedig yn gymeradwy, ond ni fyddent yn ddichonadwy.  Holodd y Cynghorydd Mendies ynghylch y diswyddiadau arfaethedig gan y dywedwyd yn ystod cyfarfod Cabinet mis Rhagfyr mai diswyddiadau fyddai'r opsiwn olaf ac y ceisir adleoli mewn gwasanaethau eraill ar draws y Cyngor ar gyfer staff sydd dan fygythiad o gael eu diswyddo.  Gofynnodd a fyddai unrhyw arbedion yn cael eu cyflawni pe bai staff yn cael eu hadleoli.  Wrth gloi ei ddatganiad, ychwanegodd y Cynghorydd Mendies mai’r ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus oedd yr ymateb mwyaf i’r Cyngor ei brofi ac eto nid oedd ymatebion y cyhoedd yn cael eu hadlewyrchu yn y penderfyniad a wnaed.  Wrth gloi, dywedodd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.