Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN A THRWY GYNHADLEDD FIDEO.
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Michelle
Blakeley-Walker. |
|
Yr Aelodau I ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu
gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod
hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Cheryl Williams gysylltiad personol
ag eitem 6 gan ei bod yn denant Awdurdod Lleol. |
|
MATERION BRYS Y CYTUNWYD ARNYNT GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau
a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2024. Materion yn codi: Yn dilyn argymhelliad y Pwyllgor, cadarnhaodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Amgylchedd fod sesiwn friffio wedi’i
chynnal i Aelodau yn dilyn gweithredu’r llwybr newydd fel rhan o wasanaeth
ailgylchu newydd y Trolibocs a’r swyddogaethau casglu gwastraff cysylltiedig. Gofynnwyd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol egluro’r sefyllfa
o ran yr aelwydydd sy’n byw ar hyd lonydd sydd wedi cael llythyr yn dweud
wrthyn nhw am roi eu gwastraff allan mewn lle gwahanol. Bydd y Pennaeth
Gwasanaeth yn ymateb i’r ymholiad hwn. Mynegwyd pryder nad yw gwastraff rhai aelwydydd yn cael
ei gasglu o gwbl. PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2024 fel cofnod cywir. |
|
CYNALIADWYEDD Y SWYDDOGAETH CYDYMFFURFIAETH CYNLLUNIO Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Datblygu (copi ynghlwm) i archwilio gweithgareddau
gorfodi cydymffurfio cynllunio’r Cyngor ar draws Sir Ddinbych a’u cynaliadwyedd
wrth symud ymlaen. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a
Chynllunio a’r Rheolwr Datblygu i’r cyfarfod. Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol yr adroddiad (dosbarthwyd
ymlaen llaw) a oedd yn edrych ar: 1. I ba raddau
mae swyddogaeth cydymffurfiaeth cynllunio Cyngor Sir Ddinbych yn cyflawni ei
bwrpas i ymchwilio ac unioni achosion honedig o dorri rheolaethau cynllunio; 2. Cynaliadwyedd
y swyddogaeth yn y dyfodol. Mae gofyn i’r Pwyllgor wneud penderfyniad ynghylch
mabwysiadu Siarter Cydymffurfiaeth Cynllunio diwygiedig y Cyngor (Atodiad 1
(dosbarthwyd ymlaen llaw)). Eglurodd y Rheolwr Datblygu beth yw rôl yr Adran
Cydymffurfiaeth Cynllunio a’r system yn Sir Ddinbych ar gyfer rhoi gwybod am
achosion o dorri rheolaethau cynllunio. Gall yr achosion hynny amrywio o beidio
â chynnal a chadw ardaloedd glaswelltog i ddifrod amgylcheddol mawr. Yn hanesyddol, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi mabwysiadu
Siarter Cydymffurfiaeth Cynllunio (Atodiad 1) sy’n egluro sut mae’r Cyngor yn
ymchwilio i faterion yn ymwneud â rheolaethau cynllunio. Caiff achosion o dorri
rheolaethau cynllunio eu sgorio o flaenoriaeth 1 i flaenoriaeth 4. Os canfyddir
difrod, gall hynny arwain at gyflwyno rhybudd gyda’r hawl i apelio. Mae
achosion parhaus o dorri rheolau yn drosedd ac mae gan yr Awdurdod yr hawl i
erlyn neu wneud gwaith yn ddiofyn. Mynegwyd pryder ynghylch diffyg adnoddau a pherfformiad y
Swyddogaeth Cydymffurfiaeth Cynllunio. Mae’r adroddiad yn cynnwys data ar lwyth
achosion Swyddogion Cydymffurfiaeth Cynllunio Sir Ddinbych o gymharu ag
awdurdodau lleol cyfagos. Awgrymwyd y dylid diweddaru’r Siarter Cydymffurfiaeth
Cynllunio i adlewyrchu’r llwyth achos ac i ddiogelu’r Cyngor rhag cwynion a
honiadau pellach o gamweinyddu. Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, cadarnhaodd y Rheolwr
Datblygu: ·
Caiff ceisiadau cynllunio ôl-weithredol eu hasesu
ar eu derbynioldeb. Os ydynt yn methu, byddan nhw’n torri’r rheolaethau
cynllunio ac, os yn briodol, bydd Rhybudd Gorfodi yn cael ei gyflwyno. Hefyd, os yw cais cynllunio wedi’i gymeradwyo gydag
amodau, bydd methu â chadw at yr amodau hynny hefyd yn achos o dorri rheolaeth
gynllunio ·
Yn ystod y broses orfodi yn y llys bydd ar yr
Awdurdod angen profi bod niwed wedi’i wneud ·
Mae Cydymffurfiaeth Cynllunio yn swyddogaeth
ddewisol ac nid yw’n un sy’n cynhyrchu incwm. Byddai cael contract allanol i
ddarparu’r gwasanaeth hwn yn cael effaith ariannol sylweddol ar y Cyngor ·
Mae dwy swydd wag yn yr adain, ac mae un ohonynt yn
aros am awdurdodiad ar gyfer recriwtio ·
Mae awdurdodau lleol eraill hefyd yn cael
trafferthion sydd wedi arwain at gynnig gan Lywodraeth Cymru i gynyddu ffioedd
ceisiadau cynllunio yn ystod y blynyddoedd nesaf, gyda’r posibilrwydd o
gyflwyno ffi uwch ar gyfer ceisiadau cynllunio ôl-weithredol ·
Mae angen rheoli disgwyliadau mewn perthynas ag
achosion o dorri rheolaethau cynllunio oherwydd yr ôl-groniad o achosion a’r
adnoddau sydd ar gael i ddelio gyda nhw – byddai angen rhoi blaenoriaeth i
ddigwyddiadau lefel 4 a diweddaru’r siarter yn unol â hynny ·
Os yw aelod o’r cyhoedd yn credu bod achos o
gamweinyddu wedi digwydd ar ran y swyddogaeth Cydymffurfiaeth Cynllunio, mae
modd iddyn nhw roi gwybod am hynny i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Byddai diweddaru’r siarter i gynnwys amserlenni mwy ymarferol yn ein diogelu
rhag hynny ·
Mae mwy o rybuddion gorfodi wedi’u cyflwyno gan Sir
Ddinbych mewn cyfnod penodol nag unrhyw awdurdod lleol arall yn y gogledd. Mae
cyflwyno rhybuddion gorfodi yn gam gweithredu digonol ynddo'i hun dan y canllaw
– gan arwain at bridiant tir ar yr eiddo ·
Gellir gwella’r cyfathrebu gydag Aelodau Lleol o
ran y wybodaeth ddiweddaraf am achosion o dorri rheolaethau cynllunio yn eu
hardaloedd ·
Yn wahanol i geisiadau cynllunio, nid yw rhybuddion
gorfodi ar gael yn gyhoeddus · Mae cyllid Ffyniant Gyffredin wedi’i ddarparu yn y gorffennol ar gyfer dau Swyddog Gwella Lleoedd i ganolbwyntio ar falltod canol tref. Mae cymeradwyaeth ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
PENNU RHENTI TAI A CHYLLIDEBAU’R CYFRIF REFENIW TAI 2025/26 Ystyried adroddiad
gan y Swyddog Arweiniol - Tai Cymunedol (copi ynghlwm) i archwilio'r broses ar
gyfer penderfynu ar yr argymhellion ar lefel y codiadau rhent wythnosol i
denantiaid tai cymunedol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau adroddiad
(dosbarthwyd ymlaen llaw) i ystyried yr adolygiad o renti tai cymdeithasol a
chyllid y Cyfrif Refeniw Tai (CRT). Y cynnydd arfaethedig yn y rhent ar gyfer
Tenantiaid Tai Cymunedol yw 2.7% – cynnydd is na’r blynyddoedd diwethaf.
Cyfeiriodd yr Aelod Arweiniol at y pwysau ar wariant cyfalaf blynyddol y CRT –
sydd heb ei gyfateb gan gyllid allanol, a’r angen i fenthyg mwy. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai a Chymuned fod
adroddiad yn cael ei gyflwyno bob blwyddyn i’r Cabinet i gefnogi cynnydd yn y
rhent i ddod â’r incwm sydd ei angen i reoli stoc tai’r Cyngor. Mae’n bwysig
sicrhau bod unrhyw gynnydd arfaethedig yn y rhenti yn fforddiadwy i’r
tenantiaid. Mae Atodiad 3 yn cynnwys y weithdrefn ar gyfer cynyddu rhenti tai. Crynhodd yr Aelod Arweiniol Tai Cymunedol yr adroddiad
fel a ganlyn: ·
Mae rhenti wythnosol yn dal yn isel ac o fewn
mesurau fforddiadwyedd llym ·
Mae pwysau sylweddol ar gyllidebau – Safon Ansawdd
Tai Cymru ·
Mae buddsoddiadau yn rhoi budd i denantiaid ·
Mai cynnydd llai na’r cyfanswm a ganiateir yn
golygu llai o fuddsoddiad mewn cartrefi ·
Mae boddhad Gwerth am Arian tenantiaid Sir Ddinbych
yn un o’r rhai uchaf yng Nghymru ·
Mae boddhad tenantiaid gyda’r gwasanaeth ymhlith yr
uchaf yng Nghymru Atgoffwyd y Pwyllgor fod y cynnydd uchaf a ganiateir yn
cael ei bennu gan Lywodraeth Cymru, sydd fel rheol yn seiliedig ar ffigwr CPI
mis Medi + 1%. Ym mis Medi 2024 roedd y CPI yn gymharol isel o gymharu â
blynyddoedd eraill, ar 1.7%. Wrth ystyried y cynnydd cynhaliwyd asesiad fforddiadwyedd
a oedd yn ystyried: ·
Model Rhent Byw Joseph Rowntree Foundation ·
Data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol o fis Hydref 2024
ar incwm cyfartalog aelwydydd Sir Ddinbych ·
Y ganradd 30% isaf o incwm gwaith ·
Rhent dim mwy na 28% o’r incwm gwaith isaf Mae rhenti’r awdurdod o fewn y lefelau hyn. Ceir
ffeithlun (tudalen 65) sy’n dangos beth fyddai’r cynnydd yn y rhent yn ei olygu
i fathau gwahanol o eiddo rhent, pob un yn cynnig rhenti dan y Model Rhent Byw.
Eglurodd y Swyddog Cyllid a Sicrwydd sut mae costau
cynyddol wedi effeithio ar gynnal a chadw a chodi stoc tai newydd. Mae’r grant
a geir gan Lywodraeth Cymru wedi aros yr un fath ac mae hynny wedi arwain at
orfod benthyg arian. Mae’r graff yn Atodiad 3 (tudalen 68) yn amlygu y bydd
costau cyllido dyledion (llog) yn codi dros y 7 blynedd nesaf a rhagwelir
diffyg a mynd i ddyledion yn y 3 blynedd nesaf. Felly, bydd adolygiad manwl o’r
CRT a’r rhaglen gyfalaf yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd i sicrhau bod
prosiectau cyfalaf yn cael eu hariannu’n gynaliadwy. Atgoffodd y Swyddog Arweiniol: Eiddo Tai yr aelodau am
Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) 2023 sy’n sbarduno rhaglenni cynnal a chadw ar
gyfer y stoc tai. Mae cyrraedd y safonau hyn yn achosi nifer o bwysau
cyllidebol newydd, yn cynnwys: ·
Pympiau Gwres yr Awyr ·
Paneli Solar ·
Insiwleiddio waliau allanol ·
Adnewyddu ceginau ac ystafelloedd ymolchi ·
Cyfleusterau storio tu allan ·
Lloriau newydd ·
Gosod casgenni dŵr I’r dyfodol, bydd mwy o ffocws ar wres fforddiadwy, gyda
Thystysgrif Perfformiad Ynni C 75 yn safonol erbyn 2027. Effaith y buddsoddiad hwn yw gwella effeithlonrwydd ynni
ac arbedion tanwydd tebygol i aelwydydd a ymatebodd yn gadarnhaol o ran
bodlonrwydd tenantiaid dan ‘gwerth am arian’. Gan ymateb i gwestiynau gan Aelodau, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth fod yr adolygiad yn y flwyddyn newydd yn mynd i nodi sut i gyrraedd SATC a darparu tai cymdeithasol newydd o ystyried y cyfyngiadau ariannol. Rhagwelir y byddai adolygiad trylwyr yn noddi mesurau effeithlonrwydd a ellir ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU Ystyried adroddiad
gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm)
yn gofyn am adolygiad o raglan gwaith i’r dyfodol y pwllgor
a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Arweiniodd y Cydlynydd Craffu yr Aelodau drwy Raglen
Waith y Pwyllgor Craffu Cymunedau (Atodiad 1). Dywedwyd wrth y Pwyllgor, yn unol â’u cais yn ystod y
cyfarfod diwethaf, fod diweddariad ar wasanaeth ailgylchu’r Trolibocs a’r
swyddogaeth casglu gwastraff cysylltiedig yn dilyn gweithredu’r adnoddau newydd
ac adolygu’r llwybr wedi’i ychwanegu at raglen mis Chwefror. Mae’r Cynnig Arbedion Cyfleusterau Cyhoeddus wedi’i uno
gyda’r Strategaeth Toiledau Lleol. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r
Pwyllgor ar 27 Mawrth, cyn ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Ebrill. Atgoffwyd yr Aelodau fod ffurflen gynnig eitem ar gael yn
y pecyn rhaglen. Dylid cyflwyno unrhyw eitem ar gyfer craffu posibl yn barod ar
gyfer cyfarfod nesaf Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu, sef 20
Ionawr. PENDERFYNWYD cytuno ar raglen waith y Pwyllgor Craffu
Cymunedau, yn amodol ar yr uchod. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau
amrywiol y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. Daeth y cyfarfod i
ben am 11:54 |