Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Alan James. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 199 KB Yr Aelodau
I ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn
y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Caniataodd y Cadeirydd i’r
Cynghorydd Brian Jones holi am adroddiad Rhaglen Adfywio a Llywodraethu y Rhyl,
a oedd wedi’i oedi tan fis Mawrth 2025. Mynegodd bryder y byddai angen i’r
prosiectau a gaiff eu hariannu gan y Gronfa Ffyniant Bro gael eu cwblhau erbyn
mis Mawrth 2026. Nid oedd yn credu y byddai blwyddyn yn ddigon o amser i
gwblhau’r prosiectau. Gan ymateb, dywedodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Amgylchedd wrth y Cynghorydd Jones fod
Rhaglen Adfywio’r Rhyl yn fwy na’r Prosiectau Cronfa Ffyniant Bro. Roedd yn rhaglen
hirdymor nad oedd yn dod i ben yn 2025. Roedd Rhaglen Adfywio a
Llywodraethu y Rhyl wedi’i chyflwyno i Graffu yn gynharach yn y flwyddyn (2024)
a byddai’r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu ym mis Mawrth 2025. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd
Jones geisio unrhyw eglurhad pellach gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol y tu
allan i’r cyfarfod. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 5 Med 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau
a gynhaliwyd ddydd Iau 5 Medi 2024. Nid
oedd unrhyw faterion yn codi. PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 5 Medi 2024 fel cofnod cywir. |
|
Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Amgylchedd
a'r Economi a Phennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (copi'n
amgaeëdig) i alluogi'r Pwyllgor i graffu ar y cynnig a gyflwynwyd i'r Cabinet
ar 1 Hydref 2024. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a’r
Cyfarwyddwr Corfforaethol Economi a’r Amgylchedd a’r Pennaeth Priffyrdd a
Gwasanaethau Amgylcheddol yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd yr
adroddiad yn sôn am weithredu’r gwasanaeth ailgylchu Trolibocs wythnosol newydd
a swyddogaethau casglu gwastraff cysylltiedig a’r addasiadau gofynnol er mwyn
sicrhau bod adnoddau digonol yn cael eu dyrannu i sicrhau y gallai'r system
newydd weithredu ar sylfaen gadarn wrth symud ymlaen a galluogi’r Pwyllgor i
graffu ar y cynnig (ynghlwm wrth yr adroddiad hwn) a gyflwynwyd i’r Cabinet ar
1 Hydref 2024. Wrth agor y drafodaeth, gofynnodd y Cadeirydd a fu unrhyw
wybodaeth ychwanegol ers cyfarfod y Cabinet ar 1 Hydref, er mwyn atal ailadrodd
y drafodaeth flaenorol. Eglurodd yr Aelod Arweiniol a Swyddogion fod y cyllid
ychwanegol a gymeradwywyd yn caniatáu rhoi sylw i gasgliadau a fethwyd, yn
dilyn cyfarfod y Cabinet ym mis Hydref. Atgoffodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y Pwyllgor fod
nifer o rowndiau nad oeddent yn cael eu cwblhau pan gyflwynwyd y gwasanaeth
newydd a bod angen adnoddau ychwanegol dros dro o ran goramser, staff asiantaeth
ychwanegol a cherbydau. Roedd mwyafrif y preswylwyr yn cael y gwasanaeth casglu
ailgylchu wythnosol bellach, ond cydnabuwyd bod problemau o hyd o ran nad oedd
rhai eiddo penodol yn cael gwasanaeth casglu cyson. Gwraidd y broblem oedd nad oedd digon o rowndiau wedi’u
cynnwys yn y gwasanaeth er mwyn casglu o 46,000 o eiddo ar draws y sir bob
wythnos. Roedd diffyg adnoddau yn y gwasanaeth ar y dechrau wedi arwain at
fethiant y gwasanaeth. Wrth symud ymlaen, roedd cynlluniau wedi’u gwneud i
ddarparu gwasanaeth mwy cynaliadwy yn y tymor hir gyda darpariaeth cerbydau a
gyrwyr ychwanegol. Ers penderfyniad y Cabinet, cysylltwyd â Llywodraeth
Cymru i ofyn am gefnogaeth ychwanegol tuag at wariant cyfalaf. Roedd
Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn fodlon darparu cefnogaeth ychwanegol –
er nad oedd yr union ffigur yn hysbys eto. O ganlyniad dylai cost prynu’r
cerbydau ychwanegol fod yn llai nag a ragwelwyd o’r blaen, a byddai dau o’r
cerbydau yn rhai trydan yn hytrach na disel. Roedd y gwasanaeth wedi dechrau gweithredu’r penderfyniad
a wnaed gan y Cabinet wrth gaffael cerbydau – roedd chwech o’r wyth cerbyd
wedi’u harchebu a disgwyliwyd y byddai’r cerbydau trydan yn cael eu harchebu’n
fuan. Roedd prosesau recriwtio staff yn mynd rhagddynt hefyd. Byddai’r rowndiau
ailgylchu newydd wedi’u haildrefnu yn dechrau ddydd Llun 4 Tachwedd 2024. Roedd Aelodau wedi’u gwahodd i ymweld â’r Orsaf Wastraff
yn gynharach yn yr wythnos i adolygu’r rowndiau ailgylchu diwygiedig a gwirio
bod ardaloedd a oedd wedi profi problemau yn y gorffennol wedi’u cynnwys.
Roeddent yn ffyddiog y byddai’r gwasanaeth yn llwyddiant. Er bod y Pwyllgor yn croesawu’r wybodaeth ddiweddaraf am
gael cerbydau a staff ychwanegol, roeddent yn teimlo y byddai’n fuddiol
cyflwyno adroddiad yn y gwanwyn 2025 i adolygu sut oedd y rowndiau diwygiedig
wedi dylanwadu ar y gwasanaeth. Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd y swyddogion: ·
Rhagwelwyd y byddai’r cerbydau disel yn cyrraedd ym
mis Rhagfyr ond byddai’r cerbydau ULEV yn cyrraedd yn y flwyddyn newydd. Roedd
trefniadau dros dro yn cael eu gweithredu i gwmpasu’r cyfnod hwnnw. ·
Byddai proses recriwtio staff ychwanegol yn dechrau’r
wythnos ganlynol. Bu llawer o ddiddordeb gan y staff asiantaeth a oedd wedi bod
yn gweithio’r rowndiau hyd yma. ·
Dylid cofnodi unrhyw gasgliadau a gaiff eu methu yn
y dyfodol trwy system C360. ·
Mae niferoedd rowndiau casglu yn amrywio o ddydd i
ddydd. Cyfanswm nifer y rowndiau ar unrhyw ddiwrnod fyddai 28. · Roedd nifer y cerbydau llogi wedi’i leihau pan oedd yr ôl-groniad o gasgliadau wedi cael sylw, ond roedd rhai yn dal i gael eu defnyddio nes i’r cerbydau newydd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 240 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglan gwaith i’r dyfodol y pwllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Arweiniodd y Cydlynydd
Craffu (SC) yr Aelodau drwy Raglen Waith y Pwyllgor Craffu Cymunedau. Dywedodd fod diwygiadau sylweddol wedi’u gwneud i’r rhaglen waith dros yr
wythnosau blaenorol. Roedd neges e-bost wedi’i hanfon at Aelodau’r Pwyllgor ar
1 Hydref i egluro pa eitemau oedd wedi’u hail-drefnu a’r rhesymau dros hyn. Bu cytundeb yng nghyfarfod Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu
y byddai blaenoriaeth yn cael ei rhoi i brosiectau sy’n gysylltiedig â’r
Rhaglen Drawsnewid – fel y Gwasanaeth Gwastraff a’r Cynnig Toiledau Cyhoeddus.
Fodd bynnag, roedd pob eitem a oedd ar y rhaglen waith o’r blaen yn dal i fod
wedi’u cynnwys – er bod hynny ar ddyddiad diweddarach. Gofynnodd y Cydlynydd Craffu am gymeradwyaeth gan y Pwyllgor ar gyfer y
newidiadau hyn i raglen waith y Pwyllgor Craffu Cymunedau ynghyd â chynnwys yr
adroddiad Gwastraff a gynigiwyd yn gynharach yn y
cyfarfod. PENDERFYNWYD cytuno ar raglen waith y Pwyllgor Craffu
Cymunedau, yn amodol ar yr uchod. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau
a Grwpiau amrywiol y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |