Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN A THRWY GYNHADLEDD FIDEO

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Tony Ward, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Economi a’r Amgylchedd. Yn ei absenoldeb, cefnogwyd y Pwyllgor gan Liz Grieve, Pennaeth y Gwasanaeth Tai a Chymunedau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS Y CYTUNWYD ARNYNT GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2023. 

 

Materion yn Codi –

 

Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen - Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth y Pwyllgor bod gwybodaeth ychwanegol ynglŷn ag Adolygu Tariffau Meysydd Parcio, a geisiwyd yn y cyfarfod blaenorol, wedi cael ei chylchredeg i aelodau’r Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth y Pwyllgor bod y Cynllun Cludiant Cynaliadwy Drafft wedi cael ei ohirio oherwydd anawsterau o ran caffael ymgynghorydd ymgysylltu i gynnal yr arolwg. Roedd yr adroddiad wedi cael ei ohirio tan y cyfarfod ar 9 Mai 2024.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2023 fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 399 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2023 (copi’n amgaeedig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2023. 

 

Materion yn Codi –

 

Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen - Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth y Pwyllgor bod gwybodaeth ychwanegol ynglŷn ag Adolygu Tariffau Meysydd Parcio, a geisiwyd yn y cyfarfod blaenorol, wedi cael ei chylchredeg i aelodau’r Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth y Pwyllgor bod y Cynllun Cludiant Cynaliadwy Drafft wedi cael ei ohirio oherwydd anawsterau o ran caffael ymgynghorydd ymgysylltu i gynnal yr arolwg. Roedd yr adroddiad wedi cael ei ohirio tan y cyfarfod ar 9 Mai 2024.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2023 fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau.

 

5.

CYNNYDD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU 2024 / 25 pdf eicon PDF 218 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Arweiniol: Tai Cymunedol (copi ynghlwm) ar y broses ar gyfer pennu’r argymhellion ar lefel y cynnydd rhent wythnosol ar gyfer tenantiaid Tai Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar Gynnydd Rhent Tai a Chyllidebau 2024 / 25.

 

Dywedodd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau mai diben yr adroddiad oedd ystyried y broses ar gyfer pennu’r argymhelliad ar lefel y cynnydd mewn rhent wythnosol ar gyfer tenantiaid Tai Cymunedol. Bob blwyddyn, roedd yn ofynnol bod y Gwasanaeth Tai, sy’n rheoli stoc dai’r Cyngor trwy’r Cyfrif Refeniw Tai, yn cyhoeddi hysbysiad o gynnydd rhent i denantiaid.

 

Wrth gyflwyno Swyddogion Cefnogi, dywedodd yr Aelod Arweiniol y byddent yn arwain y Pwyllgor drwy’r adroddiad ac yn ymateb i unrhyw ymholiadau ganddynt:

·       Pennaeth y Gwasanaeth Tai a Chymunedau;

·       Swyddog Arweiniol – Tai Cymunedol;

·       Rheolwr Cyllid a Sicrwydd; 

·       Swyddog Arweiniol Eiddo Tai a 

·       Rheolwr Rhaglen - Datblygu Tai.

 

Hysbysodd Swyddogion y Pwyllgor bod y cynnydd mwyaf i renti wythnosol yn cael ei osod gan Bolisi Rhent Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i seilio ar ffigur Mynegai Prisiau Defnyddwyr mis Medi bob blwyddyn.  Eleni, roedd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn 6.7% ac felly roedd y Gweinidog wedi argymell cynnydd mwyaf o 6.7%.

 

Roedd Swyddogion yn deall bod unrhyw gynnydd yn her i breswylwyr a bod angen ystyried hyn yn ofalus. Roedd gofyniad ychwanegol i sicrhau cynhyrchiant incwm digonol i gynnal a gwella stoc dai’r Cyngor o 3,334 cartref i’r safon sy’n ofynnol gan Safon Ansawdd Tai Cymru a Chynllun Corfforaethol y Cyngor.

 

Dywedodd y Swyddog Arweiniol - Tai Cymunedol wrth yr Aelodau ei fod yn adroddiad cynhwysfawr gyda’r holl bwysau wedi’i nodi yn Atodiad 1. Amlygodd y Swyddog Arweiniol - Tai Cymunedol grynodeb o’r adroddiad fel a ganlyn -

 

·       Gyda’r cynnydd mwyaf a ganiateir, roedd rhenti wythnosol yn parhau o fewn y cyfyngiadau fforddiadwyedd ar gyfer yr aelwydydd hynny â’r lefelau incwm isaf.

·       Hyd yn oed gyda’r cynnydd mwyaf a ganiateir, roedd yr Awdurdod yn wynebu pwysau cyllidebol sylweddol i gyflawni’r SATC newydd.

·       Fe allai Cyngor Sir Ddinbych ddangos yr effaith gadarnhaol yr oedd buddsoddi yn eu stoc wedi ei gael ar eu tenantiaid drwy filiau is.

·       Byddai unrhyw gynnydd rhent is na’r uchafswm a ganiateir yn golygu llai o fuddsoddi yn nhai presennol y Cyngor.

·       Mae tenantiaid y Cyngor yn adrodd eu bod yn derbyn gwerth am arian.

·       Mae tenantiaid y Cyngor yn credu bod eu rhent yn deg.

·       Gall yr Awdurdod ddangos bod yr incwm rhent yn cael ei ddefnyddio’n dda.

·       Roedd tenantiaid y Cyngor yn fodlon gyda’r gwasanaethau a dderbyniwyd.

 

Dangosodd y Swyddogion sut fyddai’r cynnydd o 6.7% yn edrych o safbwynt ariannol ar gyfer y gwahanol fathau o aelwydydd yr oedd gan y Cyngor yn ei stoc; er enghraifft, byddai tŷ Cyngor â thair ystafell wely i deulu yn £123.97, roedd hyn £4.55 yn llai na’r model Rhent Byw. Roedd yn amlwg bod rhent y Cyngor yn is na’r model Rhent Byw.

 

Roedd rhent yn cael ei osod yn defnyddio manylion gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac roedd yn cael ei gyfrifo yn erbyn incymau Sir Ddinbych, oherwydd eu bod ychydig yn is nag ardaloedd eraill, ac yna wrth ddefnyddio model rhent byw Sefydliad Joseph Roundtree - sy’n nodi na ddylai unrhyw un ar y 30ain canradd isaf o ran incwm a enillir wynebu rhent wythnosol o dros 28% o’u hincwm.

 

Cadarnhaodd Aelodau y Pwyllgor bod y rhan fwyaf o denantiaid yn hapus iawn gyda’r gwelliannau mawr i’w cartrefi - ceginau / ystafelloedd ymolchi / systemau gwresogi ac ati a’r mân waith cynnal a chadw a gynhaliwyd gan y Gwasanaeth mewn modd cyflym ac effeithlon. Diolchwyd i’r tîm cynnal a chadw am eu gwasanaeth a chyfathrebu gyda thenantiaid.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor, dywedodd Swyddogion:

 

·       Nid yw Llywodraeth Cymru yn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

RHAGLEN ADFYWIO’R RHYL A LLYWODRAETHU pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Amgylchedd a’r Economi (copi ynghlwm) yn edrych ar effeithiolrwydd gwaith y Bwrdd Rhaglen i gyflawni’r rhaglen adfywio hyd yma.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gyda chytundeb y Cadeirydd, penderfynwyd trafod yr adroddiad o dan Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor a’i symud i gyfarfod diweddarach.

 

 

7.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 270 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Arweiniodd y Cydlynydd Craffu yr Aelodau trwy adroddiad Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Craffu Cymunedau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). 

 

Roedd y cyfarfod nesaf wedi’i drefnu ar gyfer 1 Chwefror 2024, yn cynnig tair eitem ar gyfer y rhaglen -

 

·       Cynllun Buddsoddi mewn Meysydd Parcio Drafft y Cyngor 2024 – 2029

·       Rheoli Tenantiaeth Tai Cymunedol

·       Adborth a Bodlonrwydd Tenantiaid Tai Cyngor

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor os y gellid gohirio’r eitem ar Raglen Adfywio a Llywodraethu Y Rhyl tan y cyfarfod ym mis Mawrth, oherwydd bod y rhaglen waith ar gyfer y mis yn wag, ac roedd yr holl Aelodau a oedd yn bresennol yn hapus i drafod yr eitem ym mis Mawrth.

 

Anogodd y Cydlynydd Craffu Aelodau i nodi unrhyw gwestiynau neu faterion ar y Ffurflen Cynigion Aelodau (Atodiad 2) i’w trafod yng nghyfarfod nesaf y Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu ar 29 Ionawr 2024.

 

PENDERFYNWYD - yn amodol ar symud yr eitem Rhaglen Adfywio a Llywodraethu Y Rhyl i fis Mawrth 2024, y dylid cadarnhau rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor fel y manylir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd Alan James wrth y Pwyllgor ei fod wedi cynrychioli’r Pwyllgor yng nghyfarfod y Grŵp Her Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaeth Digartrefedd. Nododd y Cynghorydd James fod y cyfarfod wedi bod yn ddwys ac yn dda iawn, ond er gwaethaf yr holl waith sylweddol a oedd yn cael ei wneud nid oedd y ffigyrau ar gyfer digartrefedd yn lleihau. Dywedodd unwaith y byddai’r cofnodion ar gael o’r cyfarfod, byddai naill ai’n darparu cyflwyniad i’r Pwyllgor neu o bosib yn cyflwyno ffurflen cynnig pwnc craffu er mwyn i’r Pwyllgor gael clywed gan y Gwasanaeth ei hun.

 

Dywedodd y Cynghorydd Cheryl Williams wrth y Pwyllgor ei bod wedi mynychu’r Grŵp Her Gwasanaeth Tai a Chymunedau, prif bwnc y drafodaeth yn ystod cyfarfod y Grŵp Her Gwasanaeth oedd y cyfyngiadau ar y gyllideb a’r effaith ar y Gwasanaeth.

 

Penderfynwyd: nodi’r diweddariadau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Swyddogion Cefnogi’r Pwyllgor am yr holl waith caled yr oeddent wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf ac i’r Aelodau am eu presenoldeb. Dymunodd y Cadeirydd Nadolig Llawen i bawb a daeth â’r cyfarfod i ben.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.20 am.