Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: COUNCIL CHAMBER, COUNTY HALL, RUTHIN AND BY VIDEO CONFERENCE

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Delyth Jones.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n peri rhagfarn ag unrhyw fater i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

3.

PENODI IS-GADEIRYDD

Penodi Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer blwyddyn 2023/2024 y Cyngor..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau gan Aelodau ar gyfer penodi Is-Gadeirydd.

 

Cafodd y Cynghorydd Karen Edwards ei chynnig a’i eilio ar gyfer swydd yr Is-Gadeirydd. Ni chafwyd enwebiad arall ac felly - 

 

PENDERFYNWYD - y dylid penodi'r Cynghorydd Karen Edwards yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau am y flwyddyn i ddod.

 

4.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod.

 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 462 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 04 Mai 2023 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ddydd Iau 4 Mai 2023.

 

Materion yn Codi -

Holodd yr Aelodau os oedd dyddiad dechrau ar gyfer cyfarfod y Grŵp Tasg a Gorffen Llifogydd. Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol wybod i’r Aelodau eu bod wrthi’n trefnu cyfarfodydd gyda Grwpiau Ardal yr Aelodau i ofyn am enwebiadau ar gyfer eu meysydd priodol. 

 

PENDERFYNWYD: yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Iau 4 Mai 2023 fel cofnod cywir.

 

 

6.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM BROSIECT AILFODELU’R GWASANAETH GWASTRAFF pdf eicon PDF 239 KB

Archwilio’r Polisi Casgliadau Gwastraff Diwygiedig yn fanwl.  Cynnydd o ran cyflwyno’r gwasanaeth newydd - yn arbennig gweithredu’r Gwasanaeth AHP newydd a diweddaru’r newidiadau i’r gwasanaeth gwastraff ar gyfer aelwydydd ansafonol. 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect Ailfodelu Gwastraff i’r Aelodau.

 

Roedd y gwaith o gynllunio Gwasanaeth Casglu Gwastraff newydd ar y gweill ers blynyddoedd ac roedd yn cael ei gyflwyno fel bod Sir Ddinbych yn gallu cyrraedd y targed statudol newydd o ailgylchu 70% o wastraff cartrefi a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd yn hanfodol bwysig bod y gwasanaeth newydd yn cael ei gyflwyno i gyfrannu at fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

 

Rhagwelir y bydd y gwaith o adeiladu depo gwastraff newydd yn Ninbych wedi’i gwblhau erbyn diwedd hydref 2023 a byddai’r Gwasanaeth Gwastraff newydd yn cael ei gyflwyno o fis Mawrth 2024 (yn amodol ar gael y drwydded angenrheidiol gan Gyfoeth Naturiol Cymru i’n galluogi ni i weithredu pethau’n gyfreithlon yn y depo). Roedd manteision ariannol i gyflwyno’r Gwasanaeth Gwastraff newydd hefyd oherwydd bod costau casglu ailgylchu o finiau glas dan y gwasanaeth presennol wedi cynyddu’n sylweddol. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  yr Economi a’r Amgylchedd fod yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi cyfle i Aelodau graffu ar y Polisi Casglu Gwastraff diwygiedig. Hefyd, mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno gwasanaeth Cynnyrch Hylendid Amsugnol newydd a’r newidiadau i aelwydydd ansafonol.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y Gwasanaeth Gwastraff presennol a’r Gwasanaeth Gwastraff newydd.

 

Cafodd aelodau wybod:

 

·       Mai’r dyddiad cyflwyno a ragwelir ar gyfer y Gwasanaeth Gwastraff newydd yw mis Mawrth 2024. Fodd bynnag mae hyn yn amodol ar gael y drwydded angenrheidiol gan Gyfoeth Naturiol Cymru i weithredu’n gyfreithlon o’r depo.

·       O hydref 2023 bydd y gwasanaeth cynnyrch hylendid amsugnol newydd yn cael ei gyflwyno i ardal beilot, sef ardaloedd cod post LL16 / LL17. Bydd yr ardal hon yn cynnwys oddeutu 1,000 o danysgrifwyr, gan ddarparu cymysgedd o ardaloedd gwledig a threfol cyn cyflwyno’r gwasanaeth i’r sir gyfan pan fyddai’r newid i’r prif wasanaeth yn digwydd yn 2024.

·       Roedd gan Sir Ddinbych nifer o aelwydydd sy’n derbyn ‘gwasanaeth ansafonol’ h.y. naill ai gwasanaeth cymunedol neu sachau. Roedd hyn oherwydd problemau mynediad i gerbydau neu ddiffyg lle i storio cynwysyddion. Roedd yr aelwydydd ansafonol yn Sir Ddinbych yn cael eu hadolygu.

·       Byddai’r eitem ar y Model Gwasanaeth Gwastraff yn dod gerbron y Pwyllgor Craffu Cymunedau eto ym mis Hydref 2023 i drafod rhagor o fanylion am gyflwyno’r prif wasanaeth.

Roedd Aelodau eisoes wedi cael eglurhad manwl am y Gwasanaeth Gwastraff newydd, y cyflwyniad a’r gwasanaethau newydd fyddai’n cael eu hymgorffori ynddo, felly agorodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y drafodaeth i Aelodau, wedi cytuno â’r Cadeirydd. 

 

Diolchodd y Cadeirydd  i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd am y wybodaeth ddiweddaraf a chroesawodd gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

Gofynnodd yr Aelodau os oedd Swyddogion yn ymgysylltu â Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned i ddangos sut y byddai’r bocsys troli newydd yn gweithio. Teimlwyd y byddai hyn yn helpu preswylwyr i ddeall pan fydd y gwasanaeth newydd yn cael ei gyflwyno.  Dywedodd y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu wrth Aelodau fod yr eitem rhaglen am y Gwasanaeth Gwastraff wedi cael ei gynllunio ar gyfer cyfarfodydd pob Grŵp Ardal Aelodau ac yna byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda’r Tîm Prosiect. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wrth Aelodau y byddent yn gweithio ar fanylion y gwaith ymgysylltu â Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned a rhoi gwybod i Aelodau maes o law.

 

Holodd yr Aelodau am reolau a rheoliadau’r Gwasanaeth Gwastraff newydd a gofynnwyd a fyddai gorfodi cosb benodedig yn cael ei ddefnyddio os na fydd preswylwyr yn cydymffurfio. Gofynnodd yr Aelodau hefyd faint o rybuddion cosb a gyhoeddwyd dan y Model Gwasanaeth Gwastraff presennol. Dywedodd y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 236 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Arweiniodd y Cydlynydd Craffu yr Aelodau trwy adroddiad Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Craffu Cymunedau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Roedd y cyfarfod nesaf wedi’i drefnu ar gyfer 7 Medi 2023, roedd tair eitem ar y rhaglen wedi’u cynnig.

                        I.         Adfywio’r Rhyl a Llywodraethu, eitem a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer y cyfarfod heddiw, ond sydd wedi’i gohirio tan fis Medi i aros am ganlyniad adolygiad llywodraethu’r Cynllun Corfforaethol newydd. 

                      II.         Ymgysylltiad â Fforwm Gofal Cymru, cyfle i drafod yr adroddiad cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Tachwedd ac

                     III.         Adolygiad o Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr.

 

Roedd Atodiad 2 yn cynnwys copi o’r Ffurflen Cynnig Aelodau. Anogwyd yr Aelodau i lenwi’r ffurflen gydag unrhyw eitemau yr oeddynt yn credu y dylid eu hystyried.

 

Atodiad 3 oedd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet petai’r Pwyllgor eisiau craffu ar unrhyw faterion sydd ar ddod.

 

Atodiad 4 i'r adroddiad oedd rhestr o gynrychiolwyr y Pwyllgor ar y Grwpiau Herio Gwasanaethau gwahanol. Wedi i’r Cynghorydd Pauline Edwards sefyll i lawr o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau, roedd angen cynrychiolydd newydd ar gyfer Grŵp Herio Gwasanaeth y Gwasanaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a’r Gwasanaethau Cefn Gwlad.

Roedd y Cynghorydd Jon Harland wedi mynegi diddordeb yn y Grŵp Herio Gwasanaeth hwn yn y gorffennol felly cafodd ei gynnig, ei eilio a’i benodi fel cynrychiolydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau.

 

PENDERFYNWYD:

(i)             Penodi'r Cynghorydd Jon Harland yn gynrychiolydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar Grŵp Herio Gwasanaeth y Gwasanaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a’r Gwasanaethau Cefn Gwlad a - 

(ii)            Derbyn a nodi’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchwyd i’r Cynghorydd Karen Edwards am fynychu cyfarfod diweddar y gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad ar fyr rybudd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Edwards wrth yr Aelodau fod y Grwpiau Herio Gwasanaethau yn addysgiadol iawn. Roedd y cyfarfodydd yn gyfle i Aelodau gael sgyrsiau trylwyr â swyddogion a Phenaethiaid Gwasanaeth a gellid gofyn cwestiynau a chael ateb iddynt. 

 

Roedd nodiadau camau gweithredu’r cyfarfod yn cael eu rhannu â’r rhai oedd yn bresennol a chytunwyd y byddai cynrychiolydd newydd y Grŵp Herio Gwasanaeth yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.

 

Dywedodd y Cynghorydd James Elson fod cyfarfod o’r Grŵp Craffu Cyfalaf ar 7 Mehefin 2023 a byddant yn gofyn am gofnodion y cyfarfod ac yn adrodd yn ôl i’r Aelodau yn y cyfarfod nesaf ym mis Medi.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wrth yr Aelodau fod dau Grŵp Herio Gwasanaethau wedi’u cynnal hyd yma ac roedd yn braf clywed bod Aelodau yn eu gweld yn fuddiol.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.50am