Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: COUNCIL CHAMBER, COUNTY HALL, RUTHIN AND BY VIDEO CONFERENCE

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio, y Councillor Win Mullen-James wedi anfon ei ymddiheuriadau ar gyfer eitem 5 - Strategaeth Arwyddion Twristiaeth Drafft ar gyfer Sir Ddinbych.

 

Cyfarwyddwr Corfforaethol - Economi a’r Amgylchedd, Tony Ward wedi ymddiheuro. Gary Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Llywodraethu a Busnes yn bresennol i’w gynrychioli.

 

Pwysleisiodd y Cadeirydd bwysigrwydd y cyfraniad gwerthfawr roedd Aelodau Arweiniol yn ei gynnig i drafodaethau craffu a bu iddo erfyn ar Aelodau Arweiniol i fod yn bresennol os ydynt yn gallu.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol sy’n rhagfarnu.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys gyda’r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 566 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2023 (copi yn amgaeedig).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2023.   

 

Penderfynwyd: y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 09 Mawrth 2023 fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau.

 

 

5.

STRATEGAETH ARWYDDION I DWRISTIAID SIR DDINBYCH DRAFFT pdf eicon PDF 237 KB

I ystyried adroddiad gan Mike Jones, Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch y Ffyrdd (copi yn amgaeedig) ar y Strategaeth Arwyddion i Dwristiaid drafft - yn cynnwys ffynonellau ariannu posibl a’r amserlen ddisgwyliedig ar gyfer cyflawni’r Strategaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffordd wybod i’r Pwyllgor yn anffodus nad oedd yr Aelod Arweiniol yn gallu mynychu i gyflwyno’r adroddiad gan nad oedd y Swyddogion wedi darparu digon o amser i’r Aelod wneud trefniadau i fynychu.

 

Cafodd yr Aelodau eu harwain drwy’r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn rhoi diweddariad ar y Cynllun Drafft Arwyddion Twristiaeth a gyfeiriwyd yn flaenorol fel y Strategaeth Arwyddion Twristiaeth. Roedd yn gam gweithredu o fewn y Strategaeth Twristiaeth y Cyngor a gyflwynwyd yn flaenorol i’r Pwyllgor Craffu ym mis Mawrth 2020.

 

Pwrpas y papur oedd darparu diweddariad i aelodau ar brosiectau a gwblhawyd hyd yma, gan gynnwys cynllun arwyddion brown Dyffryn Clwyd. Roedd hefyd yn cynnig rhestr syml o brosiectau arwyddion brown a oedd yn cynnwys:

·                     arwyddion twristiaeth allweddol ar yr A55 yn rhestru atyniadau lleol,

·                     arwydd newydd yn lle arwydd y Rhyl presennol ar y ffordd tua gorllewin cyn cyffordd 27,

·                     arwydd newydd ar gyfer y Rhyl wedi’i leoli ar ffordd y dwyrain ar gyffordd 23a a

·                     arwyddion brown ar gyfer Prestatyn ar ffordd y dwyrain yr A55 a fydd yn adlewyrchu’r arwyddion sydd mewn lle ar hyn o bryd ar yr ochr orllewinol.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y strategaeth yn bwriadu datblygu arwyddion brown ar gyfer Llangollen ac adolygu’r arwyddion presennol ar y ffyrdd i mewn i’r ardal, ynghyd ag adolygu’r arwyddion cefnffordd bresennol yn Rhuthun a Chorwen.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog am ei gyflwyniad manwl o’r adroddiad. Cododd bryder bod elfennau o’r adroddiad i weld yn wag. Yn ystod y drafodaeth, trafodwyd y pwyntiau canlynol yn fwy manwl:    

·         Pwysleisiodd Swyddogion bod y sylw mewn perthynas â lloerenni llywio a defnydd o ddyfeisiau yn cydnabod y defnydd cynyddol o ddyfeisiau gan unigolion i lywio i ardaloedd o ddiddordeb. Pwysleisiodd aelodau nad oedd pob unigolyn yn defnyddio technoleg ac yn aml iawn yn dibynnu ar arwyddion brown i lywio i ardal.

·         Roedd cefnffyrdd yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru. Maent gyda pholisi mewn perthynas ag arwyddion brown, sydd yn datgan y gallai unrhyw atyniad twristiaeth wedi’i gyfeirio o gefnffyrdd ond cael eu cyfeirio o’r gefnffordd agosaf. Gan edrych ar Ruthun, y gefnffordd agosaf oedd yr A494. Felly ni fyddai arwyddion brown sy’n berthnasol i atyniadau Rhuthun yn gallu cael ei roi ar hyd yr A55. Roedd amod ar wahân yn nodi gallwch ond cyfeirio at atyniad o fewn radiws 10 milltir o gefnffordd.

·         Roedd Grŵp Tasg a Gorffen blaenorol wedi’i sefydlu i adolygu syniad y strategaeth arwyddion gwreiddiol a oedd yn edrych ar deithiau arwyddion twristiaeth a fyddai’n ategu Ffordd y Gogledd. Mae nifer o ffactorau wedi arwain at rai prosiectau yn peidio â datblygu mor gyflym a gobeithiwyd.

·         Nid yw llwybr wedi’i gynnwys yn y strategaeth ddiwygiedig. Cafodd yr Aelodau wybod bod gwaith a wnaethpwyd ar lwybrau yn flaenorol wedi cynyddu ymwybyddiaeth o’r llwybrau yn yr ardal. Cyhoeddwyd taflenni yn hyrwyddo ardaloedd o ddiddordeb drwy Ffordd y Gogledd a Darganfod Sir Ddinbych ar Lwybrau. Atgoffwyd Aelodau bod llawer iawn o wybodaeth ar gael ar-lein ar gyfer preswylwyr.

·         Byddai adnewyddu arwydd y Rhyl yn galluogi swyddogion i gynnwys ychydig o atyniadau newydd i ymwelwyr ar hyd yr arfordir.

·         Presenoldeb gwell ar gyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo atyniadau yn cyd-fynd gyda’r defnydd o arwyddion brown.

·         Adolygiad o’r bylchau mewn adnoddau yn cael ei wneud. Roedd recriwtio yn heriol. Roedd y swyddogion yn trafod pwysau ar y tîm a’r adnoddau sydd ei angen yn yr ardal wasanaeth.

·         Roedd yr arwyddion arfaethedig ar gyfer arwyddion Dwyrain a Gorllewin ar hyd yr A55 wedi bwriadu i annog twristiaid sy’n teithio i’r ddau gyfeiriad i ddod i’r ardal.

·         Byddai’r  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

GWEITHGOR RISG O LIFOGYDD pdf eicon PDF 293 KB

I dderbyn diweddariad ar ganlyniad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rheoli Risg o Lifogydd ac ystyried adroddiad (copi yn amgaeedig) gan Andy Clark, Pennaeth Dros Dro Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Tim Towers, Rheolwr Risg ac Asedau ynglŷn â’r camau nesaf arfaethedig. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Barry Mellor, Aelod Arweiniol Cludiant a’r Amgylchedd ynghyd â Phennaeth Dros Dro Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) Mae’r adroddiad yn sôn am ofyniad Cyngor Sir Ddinbych i lunio Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd newydd erbyn 2024. Rhoddodd yr adroddiad y newyddion diweddaraf i’r Pwyllgor am waith sydd wedi cael ei gynnal ers i’r adroddiad diwethaf gan weithgor aml asiantaethau a pherchnogion glannau'r afon gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar 10 Mawrth 2022.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol bod yr adroddiad yn gofyn am gefnogaeth y Pwyllgor i ailsefydlu Gweithgor Cyngor Sir Ddinbych i oruchwylio’r datblygiad o Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd newydd.

 

Hefyd, dywedodd y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol bod y cynnig ar gyfer un sylw o bob Grŵp Ardal yr Aelodau ynghyd â Swyddogion Priffyrdd, Amgylchedd a Chynllunio a Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd i ffurfio Gweithgor. Cynigiwyd i enwebu Cadeirydd yn y cyfarfod cyntaf, a fyddai’n well bod yn gynrychiolydd Aelod Etholedig. Pwysleisiwyd bod ffocws y grŵp i ddatblygu strategaeth y Cyngor ar y cyd gyda phartneriaid perthnasol. Byddai’r strategaeth hefyd yn hysbysu’r Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd yr Awdurdod a gafodd ei adolygu’n flaenorol ym mis Tachwedd 2022. Roedd yr Asesiad angen ei ddiweddaru i adlewyrchu’r newidiadau i Nodyn Cyngor Technegol 15 Llywodraeth Cymru.

 

Cafodd yr Aelodau wybod bod adolygiad o’r strategaeth risg llifogydd wedi cael ei gomisiynu. Roedd ymgynghorwyr allanol wedi eu ceisio i gynorthwyo, yn rhannol oherwydd problemau recriwtio a chadw.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Arweiniol a Phennaeth Dros Dro Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol am y cyflwyniad manwl i’r adroddiad.

Cadarnhawyd y byddai’n benderfyniad ar bob un Grŵp Ardal yr Aelodau yn unigol i benodi cynrychiolydd i fynychu cyfarfodydd Gweithgor.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, fe wnaeth y Cadeirydd, yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion gynghori: 

·         Eu bod yn ymwybodol o gamau gweithredu heb eu cwblhau o’r grŵp blaenorol, byddai’r camau gweithredu hyn yn cael eu cynnwys yn y ffocws cychwynnol y grŵp newydd.

·         Roedd cyfathrebu gyda rhanddeiliaid yn digwydd ar hyn o bryd i sicrhau bod y strategaeth yn cyd-fynd gyda gwaith y rhanddeiliaid.

·         Pwysleisiodd yr Aelodau’r pwysigrwydd bod cyfathrebu rhwng rhanddeiliaid yr awdurdod a’r grŵp yn hanfodol.

·         Roedd y gweithgor blaenorol wedi cyflawni gwell sgyrsiau a dealltwriaeth o faterion drwy gyfarfodydd gan gynnwys amryw o randdeiliaid, megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru ac Undebau Ffermio. Roedd sefydlu gweithgor newydd yn adeiladu ar seilwaith a wnaethpwyd yn flaenorol.

 

Gofynnodd Aelodau bod pob rhanddeiliaid yn gofyn i gael bod yn rhan yn y grŵp i gael eu hysbysu o’r grŵp ac yn cael eu hannog i fynychu’r cyfarfodydd.

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR yn amodol ar y sylwadau uchod,

       I.        cefnogi’r cynnig i ailffurfio Gweithgor Sir Ddinbych i oruchwylio datblygiad Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd newydd.

     II.        ceisio cynrychiolydd o bob un o Grwpiau Ardal yr Aelodau i fod yn rhan o’r Gweithgor; a

    III.        hysbysu’r holl fudd-ddeiliaid o’r Gweithgor, eu gwahodd i gymryd rhan a rhoi digon o rybudd ynglŷn â dyddiadau cyfarfodydd fel bod cynifer o bobl â phosib yn dod.

 

 

 

7.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 237 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Arweiniodd y Cydlynydd Craffu'r Aelodau trwy’r adroddiad Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol Craffu (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). 

 

Roedd y cyfarfod nesaf wedi’i drefnu ar gyfer 29 Mehefin 2023, roedd tair eitem ar y rhaglen wedi’i gynnig. Roedd rhagor o wybodaeth wedi’i geisio o ran y ffioedd maes parcio Llangollen cyn y cyfarfod. Roedd Aelodau wedi clywed bod diwygiad bach i’r Strategaeth Wastraff, pwrpas y Strategaeth Wastraff ar gyfer y cyfarfod nesaf oedd cynllun cyfathrebu ynghylch cynnyrch hylendid amsugnol a newidiadau Gwasanaeth Gwastraff i aelwydydd ansafonol.   Roedd yr holl Aelodau yn hapus gyda’r newid.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Brian Jones os allai Aelodau wneud cais am wybodaeth ar effeithiau ariannol i gael ei gynnwys gyda’r adroddiad gwastraff, gan nad oedd yn gysylltiedig â’r Strategaeth Gyfathrebu sy’n cael ei chyflwyno. Awgrymodd y Cydlynydd Craffu bod aelodau yn gwneud cais am adroddiad ar wahân ar yr agweddau ariannol o’r Strategaeth. Awgrymodd y Cadeirydd y gallai fod yn gylch gwaith y Pwyllgor Craffu Perfformiad i drafod yr agwedd honno o’r Strategaeth.

 

Roedd Atodiad 2 yn cynnwys copi o'r ffurflen gynnig gan Aelodau, roedd y Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu i fod i gyfarfod eto ar 25 Gorffennaf 2023. Anogwyd yr Aelodau i lenwi’r ffurflen gydag unrhyw eitemau yr oeddynt yn credu y dylid eu hystyried. 

 

Roedd Atodiad 3 o’r adroddiad yn rhaglen waith y Cabinet petai’r Pwyllgor eisiau craffu unrhyw faterion sydd ar ddod.

 

Atodiad 4 – hysbyswyd yr aelodau o'r argymhellion a wnaed yn y cyfarfod Craffu blaenorol a’r cynnydd a wnaethpwyd i’w gweithredu. 

 

Roedd Atodiad 5 i'r adroddiad yn gais am ddatganiad o ddiddordeb ar gyfer sylwadau’r pwyllgor ar y grwpiau Her Gwasanaeth. Ynghlwm roedd rhestr o'r datganiadau a ddaeth i law hyd yma. Roedd tri grŵp Gwasanaeth oedd angen sylwadau gan Aelodau Craffu Cymunedol, y rheiny oedd:

·         Tai a Chymunedau

·         Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol Perfformiad, Digidol ac Asedau

·         Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl

 

Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau am unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. Eglurwyd y byddai pob Grŵp Gwasanaeth yn cynnal cyfarfod ar-lein yn flynyddol. I ddilyn:  

·                     Enwebodd y Cynghorydd Cheryl Williams ei hun i fynychu’r Grŵp Her Gwasanaeth Tai a Chymunedau.

·                     Enwebodd y Cynghorydd Brian Jones ei hun i fynychu’r Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau  a

·                     rhoddodd y Cynghorydd Karen Edwards ei henw ymlaen i fynychu Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Digidol ar ran y Pwyllgor.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r holl aelodau am gynrychioli’r Pwyllgor ar y Grwpiau Her Gwasanaeth. Pwysleisiodd yr aelodau os nad oeddent yn gallu mynychu cyfarfod i gysylltu ag ef a byddai’n ceisio ei orau i fynychu.

 

Penderfynwyd:

 

(i)           yn amodol ar gynnwys yr adroddiadau y gofynnwyd amdanynt yn ystod y cyfarfod ynghyd â’r ychwanegiadau a’r diwygiadau a amlinellwyd uchod, cadarnhau Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor fel y nodir yn Atodiad 1;

 

(ii)          penodi’r aelodau a enwir isod i wasanaethu fel cynrychiolwyr y Pwyllgor ar y Grwpiau Her Gwasanaeth canlynol:

·         Tai a Chymunedau - Y Cynghorydd Cheryl Williams

·         Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol:  Perfformiad, Digidol ac Asedau - y Cynghorydd Brian Jones

·         Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol:  Pobl - Y Cynghorydd Karen Edwards

 

 

 

 

 

 

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

Dywedodd y Cynghorydd James Elson y byddai’n rhoi adborth ar y Grŵp Craffu Cyfalaf newydd yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion, Aelodau Arweiniol ac Aelodau am fynychu’r cyfarfod.  Diolchwyd hefyd i’r Cydlynydd Craffu am ei chefnogaeth yn ystod a chyn y cyfarfod.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.20am.

Dogfennau ychwanegol: