Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: COUNCIL CHAMBER, COUNTY HALL, RUTHIN AND BY VIDEO CONFERENCE

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Win Mullen-James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio a’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant. Gwahoddwyd y ddau i fynychu’r cyfarfod i gyflwyno eitemau o’u portffolios.   Fodd bynnag, nid oeddent yn gallu mynychu oherwydd eu bod wedi ymrwymo i gyfarfodydd eraill a drefnwyd ymlaen llaw.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIADAU pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Eitem 6, ‘Adroddiad Cynnydd ar Brosiect Rhostiroedd Sir Ddinbych’: Datganodd y Cynghorydd Merfyn Parry gysylltiad personol yn yr eitem hon, fel ‘porwr a enwir’ ym Moel y Parc. Cadarnhaodd nad oedd yn arfer yr hawliau pori hynny neu’n cael unrhyw fudd ariannol ohonynt.

 

Datganodd y Cynghorydd Huw Williams (Cadeirydd) gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon, fel perchennog praidd a oedd yn pori ar Moel Famau. Ar sail hynny, dywedodd y byddai’n gadael y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar yr eitem hon ac y byddai’r Is-gadeirydd yn cyflawni’r dyletswyddau cadeirio yn ei absenoldeb.

 

Yn ystod eitem 6, datganodd y Cynghorydd Gareth Sandilands gysylltiad personol yn y drafodaeth yn rhinwedd ei swydd fel un o gynrychiolwyr Cyngor Sir Ddinbych ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda Chadeirydd y Pwyllgor cyn cychwyn. 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 381 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2023 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2023.

 

Felly:

 

Penderfynodd y Pwyllgor: y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2023 fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau.

 

Materion yn codi:

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu fod Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu (GCIGC) wedi cymeradwyo cais ar gyfer darparu adroddiad dilynol ar ‘Ymgysylltu â Fforwm Gofal Cymru a Darparwyr Gofal yn Sir Ddinbych’ mewn perthynas â darpariaeth gofal cymdeithasol a phennu ffioedd i’r Pwyllgor yn ddiweddarach yn 2023. Disgwylir i’r adroddiad gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Medi 2023.

 

5.

CAM-DRIN CŴN pdf eicon PDF 317 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd, yn archwilio i ba raddau y caiff cŵn eu gwerthu’n gyfreithlon ac yn anghyfreithlon yn Sir Ddinbych (copi ynghlwm).

 10.15 A.M- 10.45 A.M

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Glesni Owen, Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd, adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Pwyllgor.

 

Roedd yr adroddiad yn edrych ar faint o gŵn gafodd eu gwerthu’n gyfreithlon ac anghyfreithlon yn Sir Ddinbych (yn benodol yn ystod pandemig COVID-19)- gan gynnwys nifer y cwynion a dderbyniwyd, nifer y cwynion a ddaeth i law, a archwiliwyd ac a gadarnhawyd a sut mae gwahanol asiantaethau yn cydweithio i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau a riportiwyd. 

 

Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 yn disodli Deddf Bridio Cŵn 1973 yng Nghymru ac yn darparu trwydded gan Awdurdodau Lleol (ALl) i unigolion sydd yn rhan o fridio cŵn.  Cyflwynodd y rheoliadau newydd feini prawf llymach i sefydliadau bridio a sefydlwyd bod cymhareb gofalwr a chi yn gorfod bod o leiaf un aelod o staff llawn amser i 20 o gŵn oedd yn oedolion. Y rheoliadau oedd y cyntaf o’r fath yn y DU, ac er bod gan nifer o sefydliadau ac elusennau lles wahanol safbwyntiau ar gynnwys y rheoliadau, roeddynt yn cael eu croesawu’n eang. Ers cyflwyno’r rheoliadau, mae pryderon parhaus ynghylch y safonau mewn rhai eiddo trwyddedig yng Nghymru, a’r adnoddau ac arbenigedd sydd ar gael o fewn Awdurdodau Lleol i fynd i’r afael â’r problemau hyn. 

 

Ym mis Medi 2021, daeth Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 i rym.  Newidiodd y Rheoliadau hyn y trefniadau trwyddedu ar gyfer gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes yng Nghymru, a oedd yn cynnwys gwaharddiad ar werthiant trydydd parti masnachol o

gŵn a chathod bach. Roedd gwneud y gorau o safonau lles ar draws Cymru yn flaenoriaeth a bwriad y Rheoliadau newydd oedd hyrwyddo bridio cyfrifol a sicrhau bod cŵn a chathod bach yn cael eu bridio mewn amodau addas.

 

Ar hyn o bryd, roedd 13 bridiwr cŵn trwyddedig yn Sir Ddinbych. Roedd trwyddedau’n cael eu hadolygu’n flynyddol, gan gynnwys ymweliad gan Swyddog Lles Anifeiliaid a chyswllt rheolaidd â milfeddyg annibynnol. 

 

Amlygwyd, er bod nifer o’r cwynion a dderbyniwyd yn Sir Ddinbych yn ymwneud â honiadau o fridio anghyfreithlon/didrwydded, bod angen mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru (LlC) er mwyn galluogi Awdurdodau Lleol i ymchwilio i fridio cŵn yn anghyfreithlon. Roedd LlC wedi darparu cyllid i alluogi sefydlu Tîm Cenedlaethol o Swyddogion Lles Anifeiliaid er mwyn cefnogi awdurdodau lleol i ymchwilio i honiadau o fridio anghyfreithlon neu dorri amodau trwyddedu. Defnyddiodd Sir Ddinbych wasanaethau’r tîm cenedlaethol i’w helpu ag ymchwilio i’r nifer fechan o fridwyr didrwydded posibl yn y sir. Gwnaed y cais hwn am gefnogaeth gan fod adnoddau staffio’r Cyngor yn gyfyngedig ar gyfer ymgymryd â’r gwaith hwn.

 

Eglurodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd bod ail ran yr adroddiad yn edrych ar effaith y pandemig ar Gŵn Crwydr a’u heffaith ar Ganolfannau Achub Anifeiliaid. Cysylltwyd â dwy Ganolfan Achub Elusennol leol i gael clywed am eu profiadau ac effaith y pandemig ar eu Gwasanaethau. Ni chafwyd ymateb gan un elusen, ond cafwyd gwybodaeth ddefnyddiol gan North Clwyd Animal Rescue (NCAR). Roedd y wybodaeth a gafwyd gan NCAR a’n Gwasanaeth Warden Cŵn ein hunain yn dangos bod gostyngiad sylweddol mewn cŵn crwydr a chŵn yn cael eu trosglwyddo yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, roedd hi’n amlwg bod y ffigyrau a ddarparwyd yn atodiad 2 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) bellach ar gynnydd i lefelau cyn y pandemig. Cadarnhaodd NCAR fod ganddynt dros 400 o gŵn ar restr aros yn disgwyl i gael eu trosglwyddo ac mai dyma’r nifer uchaf ers cyn y pandemig. Roedd tua 100 o gŵn ar y rhestr aros cyn y  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADRODDIAD CYNNYDD AR BROSIECT RHOSTIROEDD SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 388 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Rheolwr Ardal ar gyfer yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn amlinellu’r cynnydd hyd yma o ran darparu amcanion Prosiect Rhostiroedd Sir Ddinbych.   Mae’r adroddiad hefyd yn ceisio cefnogaeth y Pwyllgor ar gyfer ymestyn y bartneriaeth bresennol gyda’r nod o gyflawni ymrwymiadau i’r dyfodol a gwireddu uchelgais y Cyngor o fod yn gyngor di-garbon net ac awdurdod ecolegol gadarnhaol. 

10.45 A.M- 11.30 A.M

 

~~~~ EGWYL (11.30 A.M- 11.45 A.M) ~~~~

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd David Shiel, Swyddog Cefn Gwlad, yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Pwyllgor.

 

Roedd yr adroddiad yn monitro cynnydd yn erbyn amcanion Prosiect Rhostiroedd Sir Ddinbych a sefydlwyd fel un o argymhellion Adolygiad Tân Mynydd Llandysilio yn 2019.

 

Roeddent yn feysydd allweddol o weithgaredd a gafodd eu cwmpasu yn y 2 flynedd ddiwethaf. Bu’r Bartneriaeth bresennol â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn hynod effeithiol o ran rhannu gwybodaeth gydweithredol. Roedd disgwyl i Bartneriaeth CNC ddod i ben ym mis Awst 2023 ac roedd trafodaethau ar y gweill i geisio ymestyn y Bartneriaeth. 

 

Defnyddiwyd sawl dull i alluogi adfer difrod y tân ar y mynydd a rhoddwyd y manylion canlynol:-

·       Defnyddiwyd Grug i amddiffyn y pridd rhag cael ei erydu gan yr elfennau a microhinsawdd ar gyfer cytrefu hadau grug yn naturiol. Plannwyd cymysgedd hadau gwair ucheldir hefyd o dan docion grug er mwyn sefydlogi’r pridd ac fel cnwd meithrin ar gyfer planhigion rhostir sy’n cytrefu’n naturiol.

·       Roedd arolygon ar y lleiniau’n dangos cryn lwyddiant wrth osod y cymysgedd hadau gwair lle’r oedd y tocion grug wedi’u gwasgaru’n denau. Canfuwyd bod tomwellt grug trwchus yn atal hadau gwair rhag egino ac aildyfu’n naturiol. 

·       Ym mis Hydref 2021, cafodd ardal 5 hectar o Moel y Faen, a effeithiwyd fwyaf gan y tanau gwyllt, ei hadu gyda chymysgedd o hadau gwair ucheldir. Gan weithio â Chontractwr Arbenigol, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Severn Trent Water, cafodd dros 100,000 litr o ddŵr ei bwmpio i gopa Moel y Faen, lle cafodd y slyri hadau hydro eu cymysgu a’u gwasgaru. 

·       Cafodd 5 hectar arall o rostir hygyrch ar Moel y Faen a Moel y Gamelin eu hadu fel arfer, gan ddefnyddio Tractor Alpaidd arbenigol.  

·       Roedd colli pridd yn broblem a byddai’n cymryd llawer o flynyddoedd i’w adfer.

·       Yn ystod y prosiect, canolbwyntiwyd yn bennaf ar ymgysylltu â’r gymuned ffermio, dysgu am faterion a rhwystrau o ran rheoli’r rhostir a chwilio am ddulliau o ddatrys eu hanghenion. Roedd y Swyddog Maes Rhostiroedd wedi datblygu perthnasoedd gwaith da gyda phorwyr a thirfeddianwyr.  Roedd perthynas waith gadarn hefyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, lle cynhaliwyd diwrnodau hyfforddiant ar y cyd a rhoddwyd cyfleoedd i’r Gwasanaeth dreialu offer a dulliau newydd o ymdrin â thanau gwyllt.

·       Yn sgil y Prosiect, cafodd tua 140 hectar o Rostir ei reoli ar draws safleoedd yn Sir Ddinbych, yn cynnwys Mwynglawdd a Mynyddoedd Rhiwabon/Llandysilio, Rhostir Llandegla a safleoedd ar Fryniau Clwyd (Parc Gwledig Moel Famau).

·       Bu i’r prosiect hefyd alluogi creu fideos a chyfathrebiadau gwybodaeth gyhoeddus amlasiantaethol i’w lansio a’u rhannu’n genedlaethol trwy gyfryngau amrywiol. 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog Cefn Gwlad am ei adroddiad manwl a chroesawodd gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

Roedd y Cynghorydd Merfyn Parry yn croesawu’r adroddiad a’r gwersi a ddysgwyd o’r gorffennol, yn ôl pob golwg. Fodd bynnag, roedd yn cwestiynu nad oedd unrhyw sôn am ymgysylltu ag Aelodau lleol ynghylch yr hyn oedd yn digwydd yn yr ardal leol. Yr Aelodau sy’n adnabod eu wardiau orau, felly gallent hwythau gynnig gwybodaeth werthfawr i’r Tîm.  Roedd y Swyddog Cefn Gwlad yn croesawu’r ymgysylltiad hwn a dywedodd, er bod y Bwrdd Partneriaeth yn Fwrdd gweithredol, y byddai’n ystyried rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â Grwpiau Ardal leol yr Aelodau fel y bo’n briodol. 

 

Holodd y Cynghorydd Jon Harland pam nad oedd llawer o sôn am blannu coed yn yr adroddiad. Eglurodd y Swyddog Cefn Gwlad fod y rhain yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig dynodedig a’u bod felly’n destun rheoliadau cadwraeth llym, gan eu bod yn ardaloedd o ddiddordeb ecolegol a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Er, o bosib miloedd o flynyddoedd yn ôl, bod  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM BROSIECT AILFODELU’R GWASANAETH GWASTRAFF pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Prosiect (copi ynghlwm) sy’n ceisio sylwadau Aelodau ar y cynnydd a wnaed hyd yma mewn perthynas â gweithredu’r dull gwasanaeth gwastraff newydd.

11.45 A.M- 12.30 P.M

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn i’r drafodaeth ar yr eitem hon ddechrau, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi wrth y Pwyllgor bod cyflwyno’r gwasanaeth newydd yn cyd-fynd â model gwasanaeth glasbrint Llywodraeth Cymru (LlC).   Dywedodd hefyd nad oedd y depo newydd sy’n cael ei adeiladu, lle byddai’r model Gwasanaeth newydd yn cael ei weithredu, yn rhan o’r adroddiad sy’n cael ei drafod yn y cyfarfod presennol. Roedd disgwyl i adroddiad ar y depo gael ei gyflwyno i’r Cabinet yn ddiweddarach y mis hwnnw, gydag adroddiad yn cael ei gynnig i’r pwyllgor Craffu yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Amlinellodd y Rheolwr Prosiect Cynllunio Strategol fanylion yr adroddiad Cyflwyno Gwasanaeth Gwastraff Newydd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Pwyllgor.  

 

Byddai’r model ‘Didoli ar Ymyl y Palmant’ i gasglu gwastraff y cartref i’w ailgylchu yn dechrau ym mis Mawrth 2024. Byddai casgliadau ailgylchu’n newid o fod yn wasanaeth bob pythefnos i wasanaeth wythnosol. Byddai hyn yn rhoi mwy o gapasiti i aelwydydd ailgylchu. Byddai preswylwyr yn derbyn uned bocs troli newydd a sach ychwanegol ar gyfer cardbord. Roedd yr uned bocs troli’n galluogi i wastraff ailgylchadwy’r cartref – fel gwydr, plastig, tuniau/caniau, papur a chardbord – gael ei gasglu wedi ei ddidoli. 

 

Byddai’r newid ar gyfer gwastraff gweddilliol yn digwydd ddechrau haf 2024, yn dilyn cyflwyno’r system ddidoli ar ymyl y palmant. Byddai hyn yn galluogi preswylwyr i ddod yn gyfarwydd â’r system ailgylchu newydd ac i ddangos yr effaith o ran lleihau’r gwastraff gweddilliol. Byddai casglu gwastraff gweddilliol yn newid o gasgliad bob pythefnos i gasgliad bob 4 wythnos. Byddai cartrefi’n derbyn biniau mwy ar gyfer gwastraff gweddilliol i gynyddu capasiti 33.3%, o 180 litr i 240 litr.

 

Aeth y Rheolwr Prosiect Cynllunio Strategol yn ei flaen i egluro’r broses o gyflwyno’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff newydd. Byddai’r broses yn cael ei chefnogi gan ymarferion cyfathrebu ac ymgysylltu cadarn â phreswylwyr y sir.

 

Byddai tua 45,000 o aelwydydd angen uned bocs troli newydd yn barod ar gyfer y newid i ‘ddidoli ar ymyl y palmant’ ym mis Mawrth 2024. Byddant yn dechrau cael eu danfon i aelwydydd ym mis Tachwedd 2023, a disgwylir cwblhau’r gwaith ddiwedd mis Chwefror 2024. Byddent yn cael eu danfon rhwng dydd Llun a dydd Gwener, a byddai 800 ohonynt yn cael eu danfon bob dydd ar gyfartaledd. Pwysleisiwyd bod y gwaith o osod yr unedau ymyl y palmant newydd at ei gilydd a’u danfon yn waith sylweddol sy’n gofyn am adnoddau sylweddol. Byddai angen mwy o weithwyr ar y gwasanaeth newydd i ymgymryd â’r rowndiau newydd. Byddai’r gweithwyr newydd hyn yn cael eu cyflwyno yn raddol o fis Medi 2023 mewn cyfrannau, i gynorthwyo’r gweithgareddau cyflwyno fel gosod y bocsys troli at ei gilydd a danfon cynwysyddion newydd. Cyfeiriwyd yr Aelodau at gynllun o’r gwaith cyflwyno, a ddosbarthwyd ymlaen llaw, yn Atodiad 1.  Byddai’r aelodau a phreswylwyr yn derbyn mwy o ohebiaeth ynglŷn â’r gwaith cyflwyno i ardaloedd o ddiwedd haf 2023.

 

Byddai casgliadau gwastraff bwyd a gardd yn aros yr un fath. Byddai gwastraff bwyd yn cael ei gasglu bob wythnos a gwastraff gardd bob pythefnos o hyd.  Byddai’r gwasanaeth ailgylchu newydd yn cynnwys gwasanaeth casglu tecstilau estynedig a byddai casgliadau newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer eitemau trydanol bach a batris. Byddai casgliad Cynnyrch Hylendid Amsugnol newydd yn cael ei gyflwyno ym mis Medi 2023. Gan ei fod yn wasanaeth newydd, mynegwyd bod y galw’n dra anhysbys, ond amcangyfrifwyd y byddai tua 8% o breswylwyr yn debygol o gofrestru ar gyfer y gwasanaeth. Byddai’r gwasanaeth hwn am ddim, ond byddai angen i breswylwyr gofrestru ar gyfer y gwasanaeth. 

 

Dywedodd y Rheolwr Prosiect Cynllunio Strategol fod y Tîm  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 241 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

12.30 P.M- 12.45 P.M

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Arweiniodd y Cydlynydd Craffu yr Aelodau trwy’r adroddiad Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol Craffu (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Yn ystod y cyflwyniad, cyfeiriwyd at adroddiadau ychwanegol arfaethedig yn ymwneud â Phrosiect Ailfodelu’r Gwasanaeth Gwastraff, a fyddai’n cael eu hystyried gan y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu (GCIGA) yn ei gyfarfod yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Pe bai’r GCIGA yn caniatáu eu cynnwys ar gyfer craffu, byddent yn fwy tebygol o gael eu cynnwys yn rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Dywedodd y Cydlynydd Craffu fod y Cabinet ym mis Rhagfyr 2022 wedi cymeradwyo Proses Gyfalaf Newydd ac wedi cefnogi'r Cylch Gorchwyl ar gyfer Grŵp Craffu Cyfalaf newydd. Byddai hyn yn debyg i'r hen Grŵp Buddsoddi Strategol a oedd mewn bodolaeth yn ystod tymor y Cyngor blaenorol.  Cafwyd cais y dylai un cynrychiolydd o bob Pwyllgor Craffu gael ei benodi i wasanaethu ar y Grŵp hwn.   Byddai chwe chyfarfod y flwyddyn a disgwylir i'r cynrychiolydd adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar ôl iddo/iddi fod yn y cyfarfod. Felly, gofynnwyd i un cynrychiolydd ac un dirprwy gynrychiolydd gael eu henwebu, eu dewis a'u cytuno gan y Pwyllgor.

 

Croesawodd y Cadeirydd enwebiadau gan y Pwyllgor. Enwebodd y Cynghorydd James Elson ei hun, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Huw Williams ac roedd holl aelodau’r Pwyllgor yn cytuno. 

 

Cyfeiriodd y Cydlynydd Craffu at e-bost blaenorol a anfonodd at Aelod ynghylch Grwpiau Herio Gwasanaeth. Roedd 9 gwasanaeth angen cynrychiolydd o’r Pwyllgor i fynychu cyfarfod a gynhelir unwaith y flwyddyn. Byddai’r aelod Pwyllgor yna’n adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau.  Cytunwyd ar y Cynrychiolwyr Herio Gwasanaeth canlynol:

·       Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol - y Cynghorydd Jon Harland;

·       Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaeth Cefn Gwlad - y Cynghorydd Pauline Edwards;

·       Cyllid ac Archwilio – y Cynghorydd James Elson;

·       Gwasanaethau Cymorth Cymunedol – y Cynghorydd Alan James; ac  

·       Addysg a Gwasanaethau Plant – y Cynghorydd Delyth A Jones.

Byddai angen penodi cynrychiolwyr ar gyfer y 4 Grŵp Herio Gwasanaeth sy’n weddill, a byddai hyn yn cael ei ddosbarthu i’r Aelodau maes o law.

 

Felly:

 

Penderfynodd yr Aelodau: yn amodol ar y sylwadau uchod

 

(i)             dderbyn yr adroddiad a chadarnhau Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor, fel y nodir yn Atodiad 1;  

(ii)           penodi’r Cynghorydd James Elson fel cynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp Craffu Cyfalaf, a phenodi’r Cynghorydd Huw Williams fel dirprwy gynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp; a

(iii)         phenodi’r aelodau a enwir isod i wasanaethu fel cynrychiolwyr y Pwyllgor ar y Grwpiau Her Gwasanaeth canlynol:

 

Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol - y Cynghorydd Jon Harland;

Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaeth Cefn Gwlad - y Cynghorydd Pauline Edwards;

Cyllid ac Archwilio – y Cynghorydd James Elson;

Gwasanaethau Cymorth Cymunedol – y Cynghorydd Alan James; ac  

Addysg a Gwasanaethau Plant – y Cynghorydd Delyth A Jones.

 

9.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

12.45 P.M- 1 P.M

 

Cofnodion:

Dim.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion a’r Aelod am fynychu’r cyfarfod.

 

Daeth y cyfarfod i ben am: 13:00