Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Chris Evans, llofnodwr y cais am alw i mewn – eitem rhif 5 ar y rhaglen wedi cyflwyno ei ymddiheuriadau.

 

Gan fod y Cadeirydd yn mynychu'r cyfarfod o bell o dramor roedd wedi trefnu gyda'r Is-Gadeirydd ei bod yn cymryd y cyfrifoldebau cadeirio ar gyfer y cyfarfod.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Swyddog Monitro fod gan aelodau'r Cabinet gysylltiad sy’n rhagfarnu yn eitem busnes rhif 5 ac felly na allent fod yn bresennol yn y cyfarfod oni bai eu bod wedi cael gwahoddiad gan y Pwyllgor. Roedd y Cynghorydd Elen Heaton, yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, wedi’i gwahodd gan y Pwyllgor i fynychu’r cyfarfod yn benodol ar gyfer y drafodaeth ar fusnes rhif 5 ac i ateb cwestiynau’r aelodau mewn perthynas â phenderfyniad y Cabinet.

 

Datganodd y Cynghorydd Alan James gysylltiad personol yn eitem rhif 6 ar y rhaglen - Cam-drin Cŵn gan mai ei wraig, y Cynghorydd Win Mullen James oedd yr Aelod Arweiniol ar gyfer yr adroddiad.

 

Datganodd y Cynghorydd Mark Young gysylltiad personol yn eitem rhif 5 ar y rhaglen - Adolygiad o Benderfyniad y Cabinet yn Ymwneud ag Argymhelliad y Grŵp Gosod Ffioedd Rhanbarthol gan ei fod wedi mynychu digwyddiadau lle'r oedd Cadeirydd a Phrif Weithredwr Fforwm Gofal Cymru wedi bod yn bresennol.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda Chadeirydd y cyfarfod cyn cychwyn busnes.

 

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 310 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 08 Rhagfyr 2022 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2022 i’w hystyried.

 

Materion cywirdeb - Dim

Materion yn Codi – Dim

 

PENDERFYNWYD, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2022 fel cofnod gwir a chywir o'r gweithrediadau.

 

5.

ADOLYGIAD O BENDERFYNIAD Y CABINET MEWN PERTHYNAS AG ARGYMHELLIAD Y GRŴP GOSOD FFIOEDD RHANBARTHOL pdf eicon PDF 305 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor, yn unol â Rheolau Gweithdrefn Galw i Mewn y Cyngor, i adolygu’r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2022 (copi ynghlwm).

 

10.10 – 11.00 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y swyddogion a'r Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Elen Heaton i'r cyfarfod. Rhoddwyd gwybodaeth gefndir i'r aelodau a'r rhesymau dros y cais am alw i mewn. Rhoddodd y Cadeirydd ddisgrifiad manwl i'r aelodau o'r weithdrefn galw i mewn.

 

Atgoffwyd yr aelodau mai’r rheswm am yr alwad oedd fel y nodwyd yn yr adroddiad:

“Gofyn i’r Cabinet ailystyried ei benderfyniad ar 13 Rhagfyr 2022 i dderbyn argymhellion y Grŵp Ffioedd o ystyried bod Gwynedd ac Ynys Môn yn argymell talu llawer mwy i ddarparwyr gofal gyda golwg ar sicrhau cynaladwyedd y sector gofal cymdeithasol yn eu hardaloedd yn y dyfodol.”

 

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth yr aelodau mai atodiad B i’r adroddiad oedd yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ym mis Rhagfyr 2022. Ystyriwyd bod yr adroddiad hwnnw’n cynnwys gwybodaeth eithriedig o dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 1972. Felly, roedd y wasg a'r cyhoedd wedi'u heithrio rhag ystyried yr adroddiad hwnnw yng nghyfarfod y Cabinet. Roedd yr eithriad wedi'i ganiatáu yn unol â pharagraff 14, rhan 4 o atodlen 12A o Ddeddf 1972 gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol neu fusnes unigolyn neu sefydliad, gan gynnwys materion yr awdurdod lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Alan James bod y cyfarfod yn cael ei symud i fusnes cyfrinachol Rhan II ar gyfer y drafodaeth ar weddill yr eitem fusnes ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Delyth Jones. Wrth ei gyflwyno i bleidlais roedd 6 aelod o blaid gwahardd y wasg a'r cyhoedd a 3 yn erbyn. Felly:

 

PENDERFYNWYD o dan Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn ar y sail ei fod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 o Atodlen 12A. Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

 

Rhoddodd y Cynghorydd Merfyn Parry y rhesymeg dros alw penderfyniad y Cabinet i mewn ar gyfer craffu manwl i’r aelodau.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Elen Heaton nad oedd cam nesaf y drefn, sef ymgynghori â darparwyr, wedi dechrau eto oherwydd bod penderfyniad y Cabinet yn cael ei alw i mewn i’w graffu. Pwysleisiodd hefyd, er bod y Cabinet eleni wedi cytuno i dderbyn holl argymhellion y Grŵp Gosod Ffioedd Rhanbarthol, mewn blynyddoedd blaenorol ac o dan weinyddiaeth wahanol roedd y penderfyniad blynyddol hwn wedi'i wneud trwy broses Penderfyniad Dirprwyedig yr Aelodau Arweiniol.  Pwysleisiodd mai'r data a ddefnyddiwyd gan y Grŵp Ffioedd wrth lunio'r argymhellion oedd y wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd i'r Grŵp gan y darparwyr hynny a oedd yn fodlon rhoi data iddynt. Yn ogystal â defnyddio'r data oedd ar gael roedd y Grŵp Ffioedd wedi dilyn methodoleg gadarn er mwyn cyfrifo'r lefelau ffioedd a argymhellir.

 

Caniataodd y Cadeirydd i'r holl lofnodwyr a oedd yn bresennol yn y cyfarfod gyflwyno eu rhesymau dros alw'r penderfyniad a rhoddwyd amser i’r swyddogion a’r Aelod Arweiniol i ymateb hefyd. Yn ystod y drafodaeth:

 

  • pwysleisiodd swyddogion yr angen i ymrwymo i gynllun sydd fel awdurdod yn fforddiadwy ac y gellid ei gynnal.
  • eglurwyd mai rôl y Grŵp Ffioedd oedd sefydlu gwir gost gofal yng Ngogledd Cymru ar sail y data sydd ar gael iddynt. Fodd bynnag, wrth lunio’r lefelau ffioedd a argymhellir ar gyfer 2023/24 roedd y Grŵp Ffioedd hefyd wedi defnyddio methodoleg gadarn a oedd yn ystyried goblygiadau talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i staff yn ogystal â’r gyfradd chwyddiant uchel a oedd yn bodoli ar yr adeg pan oedd y lefelau ffioedd arfaethedig yn cael eu cyfrifo.
  • amlinellwyd y gwahanol ddulliau a ddefnyddiwyd i ymgysylltu  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAM-DRIN CŴN pdf eicon PDF 317 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd, yn archwilio i ba raddau y caiff cŵn eu gwerthu’n gyfreithlon ac yn anghyfreithlon yn Sir Ddinbych (copi ynghlwm).

 

11.00 – 11.50 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Cydlynydd Craffu i'r aelodau gyda chytundeb yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Win Mullen-James a'r Cadeirydd, y cytunwyd i ohirio cyflwyno'r adroddiad hwn tan gyfarfod diweddarach.

 

 

 

7.

Rhaglen Waith Craffu pdf eicon PDF 235 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

11.50 – 12.05 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol.

Roedd dwy eitem wedi’u rhestru ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 9 Mawrth 2023:

·         Model Gwastraff ac Ailgylchu Newydd.

·         Ail gartrefi a Thai Gosod byrdymor.

 

Cytunodd yr Aelodau i gynnwys yr adroddiad gohiriedig ar gam-drin cŵn ar y rhaglen waith ar gyfer cyfarfod mis Mawrth.

 

Roedd cyfarfod nesaf y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu i’w gynnal yn dilyn y cyfarfod ar 19 Ionawr 2023.

 

Roedd Atodiad 2 yn cynnwys copi o ffurflen Cynnig yr Aelodau.

Atodiad 3 i’r adroddiad oedd gwaith i’r dyfodol y Cabinet.

Atodiad 4 – hysbyswyd yr aelodau o'r argymhellion a wnaed yn y cyfarfod Craffu blaenorol.

 

Amlygodd y Cydlynydd Craffu'r eitem safonol ar y rhaglen, sef - Adborth gan Gynrychiolwyr Pwyllgorau. Dywedodd wrth yr aelodau y byddai gofyn yn y dyfodol agos i bob pwyllgor craffu benodi cynrychiolwyr i'r grwpiau her gwasanaeth. Cyfarfu’r grwpiau hyn yn flynyddol i adolygu perfformiad a chynnydd y gwasanaethau wrth gyflawni eu hamcanion. Yn dilyn y cyfarfodydd byddai disgwyl i gynrychiolwyr roi adborth yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor. Byddai'r aelodau'n cael rhagor o wybodaeth drwy e-bost. 

 

Awgrymodd y Cynghorydd Merfyn Parry adroddiad dilynol ymhen chwe mis ar y cynnydd a wnaed ar y Grŵp Gosod Ffioedd Rhanbarthol. Awgrymodd y Cydlynydd Craffu i’r aelod lenwi’r Ffurflen Cynnig Aelodau, a fyddai’n cael ei chyflwyno i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion i’w chynnwys ar raglen waith y pwyllgor. 

 

Penderfynodd y Pwyllgor: y dylid cadarnhau rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor, fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

12.05 – 12.15 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw adborth.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.40.

Dogfennau ychwanegol: