Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd Merfyn Parry.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad personol a oedd yn rhagfarnu ei ddatgan yn unrhyw un o’r materion i’w trafod yn y cyfarfod.

 

Cyn dechrau trafod busnes y cyfarfod, rhoddodd y Cadeirydd deyrnged i’r diweddar Gynghorydd Brian Blakeley, aelod gwerthfawr o’r Pwyllgor, a fu farw’n ddiweddar.   Wrth gydymdeimlo ar ran y Pwyllgor gyda’i ferch, y Cynghorydd Michelle Blakeley-Walker sydd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor, a gweddill y teulu, fe gyfeiriodd at wasanaeth ymroddedig y Cynghorydd Blakeley i breswylwyr Y Rhyl a Sir Ddinbych. 

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda Chadeirydd y Pwyllgor cyn y cyfarfod.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 375 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 29 Medi 2022 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 8 Medi 2022.  Felly:

 

Penderfynwyd: y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Medi 2022 fel cofnod cywir.

 

Ni chodwyd unrhyw fater mewn perthynas â chynnwys y cofnodion.

 

 

5.

YMDDIRIEDOLAETH GWASANAETHAU AMBIWLANS CYMRU

Derbyn cyflwyniad a thrafod materion sy’n ymwneud ag amseroedd ymateb ambiwlansys yn Sir Ddinbych â chynrychiolwyr Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

 

10.05am – 11am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST), ochr yn ochr â Chyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, gyflwyniad i’r aelodau gan dynnu sylw at faterion oedd yn ymwneud ag amseroedd ymateb ambiwlans, yn cynnwys data ymateb ar gyfer galwadau yn Sir Ddinbych.

 

Yn ystod y cyflwyniad fe dynnodd cynrychiolwyr WAST sylw at Berfformiad Gwasanaethau Meddygol Brys. Dim ond ‘galwadau coch’ oedd â tharged dangosyddion perfformiad penodol, sef y dylid ymateb i 69% o alwadau o fewn 8 i 10 munud.  Dangosodd y graff ar gyfer y dangosydd perfformiad yma fod perfformiad wedi gostwng yn gyffredinol ers mis Tachwedd 2020.

 

Prif nod y Gwasanaeth oedd sicrhau diogelwch cleifion. Gyda’r bwriad o sicrhau diogelwch cleifion yn wyneb galw cynyddol ar wasanaethau WAST, roedd adolygiad annibynnol a chydweithredol o alw a chapasiti, yn canolbwyntio ar alwadau lefel Oren a phryderon am ddiogelwch cleifion wedi cael ei gychwyn.    Mae’r adolygiad yma’n sôn am y lefel o oriau a gollwyd wrth drosglwyddo cleifion i ysbytai, sef 6,038 (Rhagfyr 2018), a oedd yn uchel ar y pryd.  Erbyn mis Hydref 2022, collodd yr Ymddiriedolaeth 28,937 o oriau yn aros i drosglwyddo cleifion i ysbyty - 36% o’i gapasiti, neu 65 sifft y dydd.  Roedd y sefyllfa yma’n debygol o waethygu’n sylweddol yn y gaeaf.  Pwysleisiwyd mai nad pryder am ddata o ran y galw ymysg cleifion oedd y prif bryder ynglŷn â diogelwch cleifion; y broblem sylfaenol oedd capasiti, yn enwedig y nifer o oriau sy’n cael eu colli yn aros i drosglwyddo cleifion mewn i ysbyty, ac i raddau llai, lefelau absenoldeb salwch ymysg personél WAST.

 

Ym mis Hydref 2022, roedd y nifer o staff ar gael i’w rhoi ar y rotas i lawr 40% am nifer o resymau, e.e. absenoldeb salwch, Covid-19, gwyliau blynyddol, hyfforddiant ac ati.  Defnyddiodd yr adolygiad rota feincod o 30%.  Cyn Covid-19, roedd WAST wedi dechrau darparu’r meincnod 30. Yn anffodus, er bod absenoldeb salwch yn dod i lawr, roedd ymrwymiadau hyfforddi yn uchel ar hyn o bryd yn sgil symudiadau mewnol yn gysylltiedig â recriwtio, a chafodd hyn effaith wael ar argaeledd rota.

 

Mewn cysylltiad â’r data a Digwyddiadau Cenedlaethol y Dylid eu Hadrodd (NRI) (marwolaethau osgoadwy/niwed difrifol osgoadwy), roedd WAST yn cael ei ystyried yn sefydliad oedd yn cofnodi llawer.  Roedd hyn yn cael ei ystyried yn ddull da gan ei fod yn golygu diwylliant o fod yn agored a thryloyw, agwedd hanfodol o ran diwylliant diogelwch cleifion. Roedd WAST yn cyfeirio digwyddiadau am ddiogelwch cleifion i fyrddau iechyd, a’r prif achosion oedd oriau oedd yn cael eu colli yn trosglwyddo cleifion i ysbytai. Cyfrifoldeb y bwrdd iechyd oedd adolygu ac adrodd y digwyddiadau hyn pan fo’n hynny’n briodol fel NRI.

 

Cynhaliwyd adolygiad strategol annibynnol o Ymchwil Gweithredol ym maes Iechyd ar ran Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (EASC). Roedd EASC yn cynnwys saith bwrdd iechyd, oedd â chyfrifoldeb am gomisiynu ambiwlansiau. Y sail ar gyfer yr adolygiad oedd cleifion Oren (difrifol, ond eu bywydau ddim mewn perygl).   Roedd hyn yn cynrychioli’r categori mwyaf o ddigwyddiadau cleifion, gan gyfrif am tua 70% o ddigwyddiadau cleifion, o’i gymharu â Choch (eu bywyd mewn perygl) sydd tua 10% o ddigwyddiadau cleifion. Teimlwyd bod amseroedd aros Oren yn rhy hir, ac roedd yna rywfaint o bryder am nifer y digwyddiadau andwyol difrifol (SAI) i gleifion yn y categori Oren.

 

Daeth canfyddiadau’r Arolwg i’r casgliad fod gan WAST fwlch rhwng y nifer staff cyfwerth â llawn amser i lenwi’r rotas ymateb a’r rhai cyfwerth â llawn amser sydd eu hangen i lenwi rotas 263 o rai cyfwerth â llawn amser.  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CYFLWYNO TERFYN CYFLYMDER 20MYA AR RWYDWAITH FFYRDD Y SIR pdf eicon PDF 223 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch y Ffyrdd (copi’n amgaeedig) sy’n nodi’r egwyddorion sy’n sail i’r terfyn cyflymder 20mya diofyn, y meini prawf ar gyfer gwneud eithriadau i’r terfyn diofyn a cheisio sylwadau’r Pwyllgor am y gwaith a wnaed hyd yma wrth baratoi ar gyfer ei weithredu.

 

11am – 11.30am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, y Cynghorydd Barry Mellor, ynghyd â Phennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethu Cefn Gwlad, y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd ac Uwch Beiriannydd Diogelwch ar y Ffyrdd a Chludiant Cynaliadwy adroddiad Cyflwyno Terfyn Cyflymder 20mya ar Ffyrdd y Sir (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Bwriad yr adroddiad yw egluro’r cefndir i’r terfyn cyflymder o 20mya a fydd yn cael ei sefydlu cyn bo hir mewn trefi a phentrefi ar draws Cymru, yn cynnwys meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer adnabod eithriadau i’r terfyn cyflymder diofyn. Rhoi trosolwg o’r tasgau y mae’n ofynnol i’r Cyngor ymgymryd â nhw i baratoi ar gyfer y dyddiad pan ddaw’r terfyn cyflymder diofyn i rym, sef 17 Medi 2023.

 

Rhoddodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd gefndir am y polisi newydd gan ddweud yn 2020, derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un o’r 21 argymhelliad yn adroddiad y Tasglu a gomisiynodd i edrych ar yr achos dros wneud 20mya yn derfyn cyflymder diofyn mewn trefi a phentrefi ar draws Cymru.  Ym mis Gorffennaf 2022, pasiodd y Senedd y prif Offeryn Statudol yn diwygio Adran 81 o Ddeddf Rheoliadau Traffig Ffyrdd 1988 fel y mae’n berthnasol i Gymru, gan wneud 20mya yn derfyn cyflymder gorfodol ar ffyrdd cyfyngedig. ‘Ffyrdd Cyfyngedig’ yw ffyrdd sydd â goleuadau stryd. Bydd y newid deddfwriaethol hwn yn dod i rym ar 17 Medi 2023.

 

Dywedodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd wrth y Pwyllgor bod LlC wedi datblygu meini prawf eithrio i’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn seiliedig ar y tebygolrwydd y bydd ‘nifer sylweddol o gerddwyr a beicwyr yn teithio ar hyd neu ar draws y ffordd”. I helpu awdurdodau lleol i wneud yr asesiad hwn, maen nhw wedi datblygu’r ‘meini prawf lle’ canlynol:

 

(i)    A oes ysgol neu sefydliad addysgol arall o fewn 100 metr i’r ffordd?

(ii)  A oes canolfan gymunedol o fewn 100 metr i’r ffordd?

(iii) A oes ysbyty o fewn 100 metr i’r ffordd?

(iv) A oes eiddo preswyl neu fanwerthu ar ymyl y ffordd, a mwy nag 20 eiddo fesul cilomedr o ffordd (h.y. pum eiddo neu fwy ar bob 250 metr o’r ffordd)?

 

Fe amlinellodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd y rhestr o eithriadau arfaethedig i’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya, fel y rhestrir yn Atodiad C i’r Adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol:

·         Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y terfyn 20mya yn gorfod cael ei gyflwyno yn Sir Ddinbych, gan fod gan rhai aelodau brofiad o’r ardaloedd prawf yn ardal Bwcle ac roeddynt yn bryderus am yr effeithiau y gallai ei weithredu ei gael. Fe eglurodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd ei fod yn newid deddfwriaethol gan LlC, a bod Sir Ddinbych yn gorfod ei weithredu.   O ganlyniad i’r newid deddfwriaethol, bydd yn rhaid i bron holl ffyrdd 30mya presennol yn CSDd gael eu newid i 20mya.  Dywedodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd y byddai yna oblygiadau cost sylweddol os na fyddai’r gwaith yn cael ei wneud, gan y byddai pob eithriad a gytunwyd ar ôl cyflwyno’r terfyn diofyn newydd yn gorfod cael ei ariannu gan yr awdurdod lleol, tra bod gwaith sy’n ymwneud â chyflwyno terfyn cyflymder diofyn yn cael ei ariannu gan LlC. Dywedodd y Pwyllgor mai amcan gweithredu’r terfyn cyflymder diofyn newydd oedd lleihau gwrthdrawiadau ac anafiadau difrifol.   Roedd data’n dangos drwy leihau cyflymder, gellir lleihau gwrthdrawiadau.

·         Fe eglurodd swyddogion mai’r Heddlu fyddai’n parhau i blismona a gorfodi’r terfyn cyflymder diofyn pan fyddai’r newidiadau’n cael eu gweithredu.

·         Gofynnodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 238 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol.

 

Cafwyd trafodaeth ar y materion canlynol:  

 

·         Bydd adroddiad Cam-drin Cŵn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor i’w ystyried yn ei gyfarfod ar 19 Ionawr. Nid oedd unrhyw eitemau eraill wedi cael eu trefnu i gael eu cyflwyno ar hyn o bryd.

·         roedd yna ddwy eitem sylweddol wedi’u rhestru i gael eu trafod yng nghyfarfod 9 Mawrth.

 

Felly:

 

Penderfynodd: y Pwyllgor y dylid cadarnhau rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor, fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.35pm.