Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Brian Blakeley a Merfyn Parry. Cafwyd hefyd ymddiheuriadau gan Tony Ward (Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a'r Economi), a oedd wedi ysgwyddo rôl cefnogaeth gorfforaethol i'r Pwyllgor yn ddiweddar; Roedd Andy Clark, Pennaeth Dros Dro Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, yn bresennol ar ei ran. 

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIADAU pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n peri rhagfarn mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Martyn Hogg gysylltiad personol yn eitem busnes rhif 5, ‘Cynlluniau Arfaethedig Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl a Chanol Prestatyn’ ar y sail ei fod yn adnabod perchennog Canolfan Barcudfyrddio PKS sydd wedi’i lleoli ar lan môr y Rhyl a’i fod yn barcudfyrddio yn y lleoliad.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda’r Cadeirydd cyn y cyfarfod.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 380 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2022 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2022.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2022 fel cofnod cywir o’r trafodion.

 

Ni chodwyd unrhyw fater mewn perthynas â chynnwys y cofnodion.

 

 

5.

CYNLLUNIAU ARFAETHEDIG AMDDIFFYN YR ARFORDIR YNG NGHANOL Y RHYL A CHANOL PRESTATYN pdf eicon PDF 382 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan Reolwr Perygl Llifogydd y Cyngor ar werth a manteision buddsoddi yn y ddau gynllun ar gyfer y cymunedau dan sylw a’r sir yn gyffredinol a cheisio cefnogaeth yr aelodau i barhau â’u cymeradwyaeth drwy brosesau penderfynu’r Cyngor.

 

10.10am – 11am

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, y Cynghorydd Barry Mellor, yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar Gynlluniau Arfaethedig Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl a Chanol Prestatyn ochr yn ochr â Phennaeth Dros Dro Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a'r Rheolwr Perygl Llifogydd.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar ddau gynllun rheoli perygl llifogydd arfordirol posibl ar gyfer Canol y Rhyl a Chanol Prestatyn. Nod yr adroddiad oedd rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar ddatblygiad y cynlluniau a’r camau nesaf dan sylw, er mwyn caniatáu i’r Pwyllgor graffu ar y ddau gynllun cyn iddynt gael eu cyflwyno i’r Grŵp Buddsoddi Strategol, y Cabinet a’r Cyngor (lle ceisir penderfyniad i gyflawni'r cynlluniau). Mae Achos Busnes Llawn ar gyfer y ddau gynllun yn cael ei ddatblygu a chaiff ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru (LlC) erbyn diwedd mis Medi 2022. Fodd bynnag, roedd Achosion Busnes drafft ynghlwm fel Atodiadau 5 a 6 i roi rhagor o fanylion am y rhesymeg dros symud y ddau gynllun ymlaen i'r cam adeiladu. Roedd y ddau atodiad hyn wedi'u heithrio rhag cael eu datgelu i'r cyhoedd.

 

Trafododd Aelodau’r Pwyllgor y materion canlynol:

 

·         Fe wnaeth y Cynghorydd Martyn Hogg ddiolch i'r swyddogion oedd yn ymwneud â'r cynlluniau gan ei fod wedi anfon e-bost atynt cyn y cyfarfod yn gofyn am wybodaeth ychwanegol, a oedd wedi'i darparu. Fodd bynnag, gofynnodd am ragor o wybodaeth ynghylch erydiad y graig a'r gwrthbwyso carbon gyda'r datblygiad. Roedd y Cynghorydd Hogg eisiau sicrhau na fyddai erydiad y graig yn achosi i draethau tywodlyd yr ardal ddiflannu; holodd hefyd pa effaith y byddai'r datblygiad yn ei chael ar allyriadau carbon. Rhoddodd y swyddog a ymatebodd sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai erydiad y graig yn cael ei fonitro i sicrhau y byddai’r tywod yn aros ar y traethau ac y byddai effaith carbon y safle’n cael ei wrthbwyso gan y budd i’r cymunedau o adeiladu’r amddiffynfeydd i leihau’r perygl o lifogydd o’r môr.

·         Cadarnhaodd swyddogion i’r Pwyllgor y byddai’n rhaid cau rhai cabanau i wneud lle i adeiladu’r amddiffynfeydd rhag llifogydd, er y byddai cyfleoedd ar gael iddynt ailsefydlu eu busnesau unwaith y byddai’r gwaith adeiladu wedi’i gwblhau. Ni fyddai angen i’r pentref plant symud. Roedd cyfathrebu parhaus gyda'r holl bartïon yr effeithiwyd arnynt mewn ymgais i leihau effaith yr aflonyddwch ar bawb dan sylw.

·         Codwyd Clwb Golff y Rhyl ac a fyddai cynllun Amddiffyn Arfordir Prestatyn yn effeithio ar y clwb. Cadarnhawyd y byddai'n ofynnol i'r Clwb Golff gau dros dro yn ogystal â'r llwybr beicio wrth ei ochr am gyfnod byr. Roedd gan y Cyngor, perchennog y tir lle'r oedd y Clwb, berthynas waith da gyda'r Clwb Golff. Roedd trefniadau wedi'u hwyluso gyda chlybiau golff lleol eraill i ganiatáu i aelodau Clwb Golff y Rhyl chwarae ar gyrsiau eraill yn ystod y cyfnod cau.

 

Ar ôl ystyried y wybodaeth a ddarparwyd yn yr adroddiad a’i atodiadau, ynghyd â’r atebion a ddarparwyd yn ystod y drafodaeth i gwestiynau’r aelodau:

 

PENDERFYNWYD:

 

(i)    cydnabod y gwerth a'r manteision sydd i'w cael o fuddsoddi yn y ddau gynllun i gymunedau’r Rhyl a Phrestatyn ac i'r sir yn gyffredinol;

(ii)  argymell bod y ddau gynllun yn cael eu cyflwyno i'r Grŵp Buddsoddi Strategol, y Cabinet a'r Cyngor yn olynol i'w cymeradwyo (yn unol â'r amserlen yn Atodiad 4 yr adroddiad);

(iii) cadarnhau ei fod, fel rhan o’i ystyriaeth, wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les ar gyfer y ddau gynllun (Atodiadau 3a a 3b i’r adroddiad); a

(iv) cefnogi cynnydd y ddau gynllun i adeiladu, yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth cyllid.

 

 

6.

PROSIECT DOLYDD BLODAU GWYLLT pdf eicon PDF 224 KB

Ystyried adroddiad gan Swyddog Ecoleg y Cyngor (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor arfarnu effeithiolrwydd y mesurau a gymerwyd i ymgysylltu’n well a chynyddu cyhoeddusrwydd ynghlwm â’r prosiect.

 

11am – 11.45am

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Amgylchedd a Chludiant, y Cynghorydd Barry Mellor adroddiad sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ochr yn ochr â Phennaeth Dros Dro Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Swyddog Ecoleg y Cyngor.

 

Mae’r Prosiect Blodau Gwyllt yn brosiect cydweithredol rhwng y Tîm Bioamrywiaeth, Gwasanaethau Stryd ac adrannau eraill y Cyngor, sy’n anelu i greu dolydd lleol trefol a lled-drefol drwy drefn ‘torri a chasglu’ llai. Ystyriwyd y prosiect hwn yn hanfodol i derfynu a gwrthdroi colled bioamrywiaeth ac i fynd i’r afael ag Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol.

 

Nod yr adroddiad oedd darparu gwybodaeth am effeithiolrwydd y camau a gymerwyd i wella ymgysylltu a rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i holl fudd-ddeiliaid y Prosiect Blodau Gwyllt. 

 

Fe wnaeth y Cadeirydd ddiolch i'r swyddogion am fod yn bresennol, gan fod y mater wedi'i drafod o’r blaen yn y Pwyllgor Craffu Cymunedau, a bod y materion a godwyd bryd hynny wedi cael sylw ac wedi gwella'n sylweddol.

 

Amlygodd y Swyddog Ecoleg y prif bwyntiau a godwyd yn flaenorol, gan gynnwys yr angen i wella cyfathrebu ac ymgynghori. Eglurodd ei fod ef a swyddogion eraill wedi cyfathrebu ag aelodau etholedig ar bob lefel a bod y wefan wedi'i diweddaru. Yn ogystal, roedd gohebiaeth a anfonwyd at breswylwyr bellach yn cynnwys manylion cyswllt swyddogion. Bu hwb hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol a chyda'r wasg leol yn amlygu pwrpas a manteision y prosiectau blodau gwyllt. Roedd teithiau wedi'u trefnu ar gyfer aelodau etholedig o rai o'r dolydd blodau gwyllt ar draws y sir.

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol yn fwy manwl –

 

·         Roedd dryswch ymhlith yr aelodau gan fod rhai dolydd blodau gwyllt wedi cael eu torri, megis ardal yn Rhewl ac o amgylch ardal Dinbych. Holwyd pam na chafodd yr aelodau etholedig wybod am y mater cyn i'r gwaith torri gael ei wneud er mwyn iddynt allu lleddfu unrhyw bryderon a godwyd gan y cyhoedd, ac a oedd unrhyw ddiffyg cyfathrebu mewnol wedi arwain at hynny. Dywedodd swyddogion fod gwaith ar y gweill i fireinio'r polisi torri gwair priffyrdd. Gwnaethant hefyd egluro y cafodd llawer o ardaloedd eu torri cyn Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych, rhai gan drigolion eu hunain a oedd am ‘dacluso’ y llwybrau a oedd gerllaw’r ŵyl.

·         Y defnydd o wirfoddolwyr ac a oedd gan y prosiect ddigon o adnoddau i’w gynnal yn yr hirdymor – roedd tua 50% o’r adnoddau staffio sy’n gweithio ar y prosiectau yn cael eu hariannu drwy gyllid grant ar sail 12 mis, a amlygodd y Swyddog Ecoleg ei fod yn her o ran cynllunio gwaith hirdymor a chynaliadwyedd yn y dyfodol.

·         Cododd y Pwyllgor bryderon ynghylch diogelwch tân, yn enwedig gan fod y flwyddyn wedi bod yn boethach ac yn sychach nag arfer. Cytunodd y Swyddog Ecoleg fod y flwyddyn wedi bod yn boethach nag arfer. O ganlyniad, cysylltodd y tîm â'r Gwasanaeth Tân a'r Tîm Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol i drefnu hyfforddiant diogelwch tân ac asesu risg tân. Yn y dyfodol, byddai pob safle yn destun asesiad risg tân yn fisol.

·         Awgrymodd y Pwyllgor y dylid defnyddio llwyddiant y dolydd blodau gwyllt at ddibenion twristiaeth; roedd y prosiect yn gyflawniad pwysig i Sir Ddinbych a gallai ddenu pobl i'r ardal ac addysgu'r rhai a ddaeth i'r sir. Sicrhaodd swyddogion yr aelodau fod hyn yn rhywbeth yr oedd swyddogion yn bwriadu mynd ar ei drywydd.

·         Codwyd ymgysylltu ag ysgolion a thenantiaid tai a thenantiaid busnes/diwydiant Sir Ddinbych, ac a fu unrhyw ymdrech i’w cael i blannu ardaloedd o flodau gwyllt mewn caeau/gerddi/tir ysgol. Ymatebodd y Swyddog Ecoleg, gan ddweud bod logo prosiect y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

11:45am – 12:00pm

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol.

 

Cafwyd trafodaeth yn ymwneud â'r materion canlynol:-

 

Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth y Pwyllgor y byddai'r adroddiadau ar Gam-drin Cŵn a'r Model Gwastraff ac Ailgylchu Newydd ar gael i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 20 Hydref 2022. Fodd bynnag, roedd yr adroddiad ar Ail Gartrefi a Gosodiadau Gwyliau Tymor Byr yn dibynnu ar ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ac felly byddai’n cael ei aildrefnu ar gyfer cyfarfod mis Rhagfyr.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd fod Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu ar ôl ystyried nifer o geisiadau craffu yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2022 wedi cyfeirio dau bwnc i'r Pwyllgor eu harchwilio'n fanwl. Roedd y rhain yn ymwneud ag amseroedd ymateb Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i alwadau brys, ac effaith cyflwyno’r terfyn cyflymder o 20 milltir yr awr ar ffyrdd y sir ar yr Awdurdod ac ar drigolion. Roedd y ddwy eitem wedi’u hamserlennu ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor ar gyfer ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2022.

 

Ar ôl ystyried yr uchod: 

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y diwygiadau uchod, y dylid cymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.20 am.