Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd wrth y Pwyllgor y byddai cefnogaeth gorfforaethol ar gyfer y Pwyllgor, yn dilyn penodi’r cyn Gyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus i rôl y Prif Weithredwr, yn cael ei darparu ganddo ef a’r Pennaeth Cyllid/Swyddog Adran 151 bob yn ail nes rhoddir gwybod ymhellach.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda’r Cadeirydd cyn y cyfarfod.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 313 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 9 Medi 2021 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 9 Medi 2021.

 

Materion yn codi –

 

Gofynnodd y Cynghorydd Merfyn Parry a oedd diweddariad am y Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt, ac a fyddai trafodaeth bellach yn cael ei chynnal am y mater. Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth y Cynghorydd Parry fod y mater wedi’i gynnwys ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer mis Medi 2022, fodd bynnag byddai’n cysylltu â swyddogion a gweld a ellid dosbarthu adroddiad ysgrifenedig i aelodau’r pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Medi 2021 fel cofnod cywir.

 

 

5.

ADRODDIAD ADRAN 19 - YMCHWILIAD I LIFOGYDD AR 20 IONAWR 2021 pdf eicon PDF 227 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr Rheoli Risg Llifogydd y Cyngor (copi ynghlwm) sydd yn cyflwyno adroddiad Adran 19 statudol i’r Pwyllgor am lifogydd Ionawr 2021 ac yn ceisio cefnogaeth yr aelodau i gael sicrwydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru y gweithredir ar yr argymhellion a nodir yn yr adroddiad.

 

10:05am – 11:05am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, a’r Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol a’r Peiriannydd Perygl Llifogydd Adroddiad Adran 19 - Ymchwiliad i Lifogydd ar 20 Ionawr 2021 (a ddosbarthwyd eisoes).

 

Yn ystod eu cyflwyniad, gwnaethant egluro fod Storm Christoph wedi dod â gwyntoedd cryfion, glaw trwm ac eira rhwng 18 a 20 Ionawr 2021, gyda’r glawiad dwysaf yn digwydd dros Ogledd Cymru a gogledd Lloegr, gan ddod â llifogydd lleol i lawer o ardaloedd. Adroddodd y Swyddfa Dywydd fod 50 i 100mm o law wedi cwympo’n eang ledled Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, gyda dros 100mm ar draws ardaloedd ucheldirol Cymru. Profodd Sir Ddinbych effeithiau'r Storm hon, gyda glaw trwm ac estynedig yn peri llifogydd i oddeutu 67 o gartrefi a 6 busnes ar 20 Ionawr. Roedd mwyafrif y llifogydd yn dod o ffynonellau prif afonydd. Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru, fel yr awdurdod rheoli risg llifogydd perthnasol ar gyfer prif afonydd, wedi cynnal ei ymchwiliadau llifogydd ei hun. Roedd adroddiadau ymchwilio i lifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’u cynnwys fel atodiadau i’r adroddiad ymchwiliad trosfwaol.

 

Roedd gan Gyngor Sir Ddinbych, fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, ddyletswydd o dan Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr i archwilio llifogydd yn ei ardal.

 

Diben adroddiad yr archwiliad oedd mynd i’r afael â’r cwestiynau allweddol canlynol:

 

·         Pam ddigwyddodd y llifogydd?

·         Pa mor debygol y bydd llifogydd o’r raddfa honno yn digwydd eto?

·         Pa welliannau oedd eu hangen i sicrhau bod risg llifogydd y Sir yn cael ei rheoli’n briodol yn y dyfodol?

 

Cyn dechrau’r drafodaeth, dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod y Grŵp Tasg a Gorffen Rheoli Perygl Llifogydd a Pherchnogaeth Tir Glannau Afon, a oedd yn archwilio materion llifogydd a materion perchnogaeth tir ar hyn o bryd wedi sylweddoli bod y rhain yn feysydd hynod o gymhleth.  Roedd sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Cyngor yn awdurdodau rheoli risg, fodd bynnag, yn anaml iawn mai nhw oedd y perchnogion tir oedd â chyfrifoldeb i sicrhau bod afonydd a chyrsiau dŵr a oedd yn croesi eu tir yn cael eu cynnal a'u cadw.

 

Gan ymateb i gwestiynau aelodau’r Pwyllgor, darparwyd y manylion canlynol: 

 

·         Eglurodd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru fod perchnogion tir, fel perchnogion glannau’r afon yn gyfrifol am gynnal a chadw afonydd o fewn ffiniau eu tir. Roedd Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) a Chyfoeth Naturiol Cymru yn awdurdodau rheoli perygl llifogydd, a Chyfoeth Naturiol Cymru oedd yn gyfrifol am brif afonydd a chyrsiau dŵr mwy a CSDd oedd yr awdurdod rheoli risg ar gyfer cyrsiau dŵr arferol. 

·         Gallai Cyfoeth Naturiol Cymru a CSDd ddefnyddio eu pwerau i wneud gwaith ar ddyfrffyrdd at ddibenion lliniaru perygl llifogydd posibl. Pe bai perchennog tir am wneud gwaith, roedd ganddynt hawl cyfreithiol i’w wneud, fodd bynnag byddai angen i’r gwaith hwn sicrhau nad oedd effaith andwyol ar natur, ecosystem yr afon nac ar bobl eraill. Byddai angen Trwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd cyn i unrhyw waith gael ei wneud.

·         Nodwyd bod Llanynys wedi’i adael allan o’r adroddiad. Gofynnodd yr aelod lleol fod Llanynys yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad oherwydd nid oedd am i’r pentref fethu allan ar unrhyw waith lliniaru perygl llifogydd posibl yn y dyfodol.

·         Nid oedd cyfeiriad yn yr adroddiad at golli Pont Llannerch, oherwydd bod yr adroddiad yn delio ag effaith llifogydd ar eiddo. Fodd bynnag, nid oedd hyn mewn unrhyw ffordd yn lleihau’r effaith yr oedd colli’r bont wedi’i chael ar y cymunedau roedd yn eu gwasanaethu na’r rhwydwaith trafnidiaeth ehangach yn y sir.  Roedd ymarfer ymgynghori cyhoeddus ar ddatblygu cyswllt cludiant yn ei le wedi dod i ben yn ddiweddar,  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CYFRIFOLDEBAU RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD I FFOS Y RHYL A GWTER PRESTATYN pdf eicon PDF 217 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr Perygl Llifogydd y Cyngor (copi ynghlwm) sydd yn rhoi casgliad i’r Pwyllgor o’r astudiaeth ar y cyd dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, i welliannau posibl i reoli Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn.  Mae’r adroddiad yn ceisio adborth yr aelodau ar ganfyddiadau a chasgliadau’r astudiaeth.

 

11:05am – 12:05pm

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, gyda chefnogaeth y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol a’r Rheolwr Perygl Llifogydd yr adroddiad Cyfrifoldebau Rheoli Perygl Llifogydd i Ffos y Rhyl a Chafn Prestatyn. Yn ogystal â swyddogion Cyngor Sir Ddinbych, roedd tri chynrychiolydd o Gyfoeth Naturiol Cymru yn bresennol ar gyfer y drafodaeth - Keith Ivens, Daniel Bryce-Smith a Paula Harley.

 

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno casgliadau’r astudiaeth ar y cyd, dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, i ystyried a ellid gwneud gwelliannau i’r drefn o reoli Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn, y draeniau a’r carthffosydd cyfagos – rhwydwaith cymhleth o gyrsiau dŵr yn ardal y Rhyl a Phrestatyn, a oedd yn cynnwys cyrsiau dŵr naturiol, rhai a oedd wedi’u haddasu, yn ogystal â dyfrffyrdd wedi’u hadeiladu.  Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu cyfrifoldebau pob sefydliad o ran rheoli llifogydd a lliniaru llifogydd.

 

Ar ôl y llifogydd a effeithiodd ar rannau o’r Rhyl a Phrestatyn ym mis Gorffennaf 2017, cychwynnodd Cyfoeth Naturiol Cymru adolygiad ar hydroleg a threfn reoli a chynnal a chadw Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn, sy’n cael eu cyfrif yn gyrsiau dŵr “prif afon”. Cytunodd Cyngor Sir Ddinbych a Dŵr Cymru i gefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru â’r prosiect, a fyddai hefyd, gobeithio, yn rhoi gwell dealltwriaeth ynglŷn â sut mae asedau pob sefydliad yn gweithio gyda’i gilydd, yn enwedig pan mae glaw trwm.

 

Cynhaliwyd y prosiect mewn tri cham.

(i)    Roedd Cam 1 yn cynnwys astudiaeth i fodelu’r perygl o lifogydd, er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth i Gyfoeth Naturiol Cymru am hydroleg dalgylchoedd yr afonydd.

(ii)  Roedd Cam 2 wedi arwain at adroddiad rheoli dalgylch, a oedd yn cynnig trosolwg eang o’r drefn o reoli Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn a’r ardaloedd o amgylch y ddau gwrs dŵr.

(iii) Mae Cam 3 hefyd wedi adeiladu ar yr argymhellion yn adroddiad rheoli Cam 2 ac wedi cynnwys trafodaethau â thimau cynnal a chadw gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru i ystyried effeithiau’r gwaith cynnal a chadw mewn gwahanol is-rannau o’r cyrsiau dŵr. Roedd rhywfaint o waith eto i’w wneud o ran llunio cynllun cynnal a chadw a rheoli cynhwysfawr a byddai angen ymgynghori â’r cyhoedd a budd-ddeiliaid i wneud hyn.

 

Dangoswyd cyflwyniad gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru i’r Pwyllgor a oedd yn amlinellu’r gwaith a wnaed gan Gyfoeth Naturiol Cymru, CSDd a Dŵr Cymru. Roedd y tri cham cyntaf wedi’u cyflawni bellach, a byddai’r canfyddiadau’n caniatáu i dimau rheoli perygl llifogydd ddatblygu strategaethau rheoli a chynnal a chadw hirdymor.

 

Roedd y dull a ddilynwyd ar gyfer y trydydd cam yn seiliedig ar dystiolaeth gan ddefnyddio modelu hydrolig manwl.  Roedd y gwaith hwn wedi cynnwys asesiad o effaith llystyfiant sianel (garwder), lefelau’r gwelyau, a rhwystrau mewn lleoliadau allweddol. Mae hyn wedi gwella dealltwriaeth Cyfoeth Naturiol Cymru o waith cynnal a chadw lleol a llywio technegau rheoli effeithlon sy’n seiliedig ar beryglon ym mhob is-ran.

 

Yn ystod y trydydd cam, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gallu nodi cyfleoedd posibl ar gyfer ymyriadau cyfalaf er mwyn lleihau'r perygl o lifogydd hefyd. Roedd yn cydnabod y perygl presennol o lifogydd i gymunedau Prestatyn a’r Rhyl, ac mae cynlluniau ar waith i gynnal gwerthusiad llawn o ddewisiadau ar gyfer gwaith gwella, gan ddechrau gydag Achos Amlinellol Strategol yn 2022.

 

Yn ystod y drafodaeth: 

 

·         diolchodd aelodau i swyddogion am y gwaith a wnaed, fodd bynnag, roedd rhai yn teimlo y dylai rhai agweddau ar y gwaith fod wedi’u gwneud yn gynharach. 

·         Cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod materion fel cynnal a chadw gerddi a waliau eiddo, a’r angen i ddiogelu darnau ac ati  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 253 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

12:05pm – 12:25pm

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) yn gofyn i’r aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â materion perthnasol.

 

Cafwyd trafodaeth yn ymwneud â'r materion canlynol –

 

·         Dywedodd y Cydlynydd Craffu y byddai tair eitem sylweddol yn cael eu trafod yn y cyfarfod nesaf. Gofynnwyd i aelodau a fyddent yn hapus i gynnal y cyfarfod mewn dwy sesiwn ar wahân ar yr un diwrnod er mwyn hwyluso amseriad y drafodaeth am yr Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr. Cytunodd yr aelodau â’r cynnig hwn.

·         Roedd 5 eitem ychwanegol wedi’u hychwanegu at raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor yn ystod cyfarfod diweddar y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu, ac roedd manylion amdanynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

·         Gofynnodd y Cynghorydd Merfyn Parry i’r Cydlynydd Craffu a oedd diweddariad am yr adroddiad y gofynnwyd amdano beth amser yn ôl am yr effaith ar y gymuned o ganlyniad i gau Ysgol Rhewl. Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth y Cynghorydd Parry fod yr eitem yn dal i fod ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol. Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth aelodau fod trafodaethau’n mynd rhagddynt rhwng swyddogion o’r Gwasanaeth Addysg a swyddogion yn y Gwasanaeth Gwella Busnes a Moderneiddio o ran sut i ddatblygu’r gwaith hwn.

 

PENDERFYNWYD: yn amodol ar y sylwadau a'r pethau i’w cynnwys uchod, cymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor.

 

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw adborth gan aelodau’r Pwyllgor.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11:45am.