Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: TRWY GYNHADLEDD FIDEO.

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Alan Hughes.

 

2.

PENODI IS-GADEIRYDD pdf eicon PDF 51 KB

Ethol Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2021/2022 (gweler ynghlwm gopi o ddisgrifiad swydd ar gyfer Aelod Craffu a Chadeirydd / Is-gadeirydd).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2021/22.  Enwebwyd y Cynghorydd Graham Timms gan y Cynghorydd Brian Blakeley ar gyfer y swydd Is-Gadeirydd y Pwyllgor.  Eiliodd y Cynghorydd Merfyn Parry enwebiad y Cynghorydd Timms.  Ni dderbyniwyd enwebiadau eraill, a gyda mwyafrif y bleidlais:

 

PENDERFYNWYD: penodi’r Cynghorydd Graham Timms yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer 2021/22.

 

Diolchodd y Cynghorydd Timms i’r aelodau am eu cefnogaeth barhaus.

3.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Cheryl Williams gysylltiad personol yn eitem 7 fel tenant eiddo’r Cyngor.

4.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda’r Cadeirydd cyn y cyfarfod.

5.

COFNODION pdf eicon PDF 399 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 13 Mai 2021 (copi ynghlwm).

10:10am – 10:15am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 13 Mai 2021. 

 

Ni chodwyd unrhyw fater mewn perthynas â chynnwys y cofnodion.

 

Felly:

 

Penderfynwyd:  y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mai 2021 fel cofnod cywir.

 

6.

ADRAN 19 ADRODDIAD YMCHWILIAD AR LIFOGYDD CHWEFROR 2020 YN SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 229 KB

Ystyried Adran 19 o Adroddiad Ymchwiliad i’r Llifogydd (copi ynghlwm) gan Bennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Pheiriannydd Perygl Llifogydd ar lifogydd 2020 yn Sir Ddinbych.

10.15am – 11am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ei gyflwyniad, amlygodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd, bod y llifogydd a brofwyd ar draws Sir Ddinbych yn Chwefror 2020 wedi bod yn ddigwyddiad arwyddocaol.  Cyflwynodd y Pennaeth Priffyrdd a’r Amgylchedd (TW) Adran 19 Adroddiad Llifogydd (rhannwyd yn flaenorol) mewn perthynas â’r llifogydd a ddigwyddodd o ganlyniad i Storm Ciara. Mae gan Gyngor Sir Ddinbych, fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, ddyletswydd o dan Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr i archwilio llifogydd a chyhoeddi’r canfyddiadau.

 

Roedd mwyafrif y llifogydd wedi digwydd o’r prif afonydd – Ceidiog, Clwyd, Elwy a’r Ystrad – a oedd yn dod o dan gylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer ymchwiliad. Hefyd Cyngor Sir Ddinbych oedd â chyfrifoldeb i ymchwilio i lifogydd dŵr wyneb.

 

Roedd yr adroddiad yn ceisio ateb 3 cwestiwn mewn perthynas â phob ardal yr oedd llifogydd:

1.    Pam ddigwyddodd y llifogydd?

2.    Pa mor debygol y bydd llifogydd o’r raddfa honno yn digwydd eto?

3.    Pa welliannau oedd eu hangen i sicrhau bod risg llifogydd y Sir yn cael ei reoli’n briodol yn y dyfodol?

Roedd mwyafrif y camau gwella a argymhellwyd yn gyfrifoldeb ar CNC (tudalennau 33 i 35) gan mai nhw sydd gan yr awdurdod a’r pwerau i weithredu ar y prif afonydd.

 

Mynegodd aelodau eu siom bod y mwyafrif o’r wybodaeth yn yr adroddiad yn ymwneud â chyfrifoldebau yng nghylch gwaith CNC, ond nid oedd cynrychiolydd CNC yn y cyfarfod i ymateb i’r cwestiynau oedd yn codi.  Dywedodd y Swyddogion bod yr adroddiad ei hun yn cynnwys canfyddiadau o ymchwiliad y Cyngor i’r llifogydd a’r achosion, y bwriad oedd cyflwyno’r adroddiad, ynghyd â sylwadau’r Pwyllgor i’r Cyngor Sir ym Medi 2021. Os oedd yr aelodau yn dymuno, gall gynrychiolwyr o CNC gael eu gwahodd i’r cyfarfod hwnnw.  Cytunwyd gwneud cais am ddiweddariad gan CNC o ran eu bwriad mewn perthynas â’u camau gweithredu a’r terfynau amser, er mwyn eu cynnwys yn yr adroddiad i’r Cyngor llawn a gwahodd cynrychiolwyr CNC i fynychu hefyd.

 

Gwnaeth yr aelodau gais bod adroddiad neu gyflwyniad hanesyddol yn cael ei ddarparu gan CNC ar fesuriadau glawiad dros y 10 i 15 mlynedd diwethaf (o fewn Sir Ddinbych), ynghyd â dadansoddiad ar ansawdd a dibynadwyedd y data o’u mesuryddion glaw.  Gall hyn gynorthwyo’r Awdurdod i ddeall effaith posibl newid hinsawdd ar lifogydd yn lleol.  Gall y wybodaeth hon ffurfio rhan o’r eitem busnes yng nghyfarfod y Cyngor Sir ym Medi, neu ei gyflwyno i’r Grŵp Tasg a Gorffen Rheoli Perygl Llifogydd a Pherchnogion Glannau Afonydd.

 

Cadarnhawyd bod CNC eisoes wedi’u gwahodd i gyflwyno canfyddiadau eu gwaith modelu mewn perthynas â Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn, yn y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 9 Medi 2021.

 

Wrth ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd y Swyddogion:

·         Roedd mesuryddion glaw a gorsafoedd lefel afonydd yn eiddo i CNC. Rhaid cael eglurder o ran eu cywirdeb.

·         O ran casglu data, roedd gan CSDd delemetreg mewn lleoliadau allweddol, a’u pwrpas oedd hysbysu’r Awdurdod o lefelau uchel mewn afonydd er mwyn ymateb i rwystrau posibl. Roedd CSDd yn chwilio i ychwanegu telemetreg i gyrsiau dŵr llai yn y dyfodol.

·         Cylch gwaith yr Awdurdod oedd deall y patrwm o ran y risg o lifogydd o fewn y Sir.

·         Gall y derminoleg asesu risg a fabwysiadwyd gan CNC e.e. 1 mewn 100, fod yn ddryslyd a gall arwain at y gred ei fod yn risg llifogydd lefel isel.

·         Roedd datblygiadau tai newydd wedi’u cynnwys o dan ganllawiau cynllunio TAN15 sy’n ceisio cyflawni amddiffyniad o 1 i 1000 mewn tebygolrwydd gormodiant blynyddol. Nid oedd unrhyw safonau cenedlaethol ar gyfer datblygiadau  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

AROLWG TENANTIAID TAI CYNGOR pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Prif Arweinydd – Tai Cymunedol, ar adborth o’r arolwg STAR ar denantiaid y Cyngor a chynigion Gwasanaeth Tai Cymunedol y Cyngor i Arolygu’r darganfyddiadau.

11am – 11.30am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Tony Thomas yr adroddiad (rhannwyd yn flaenorol) yn hysbysu’r pwyllgor bod 381 o ymatebion (11%) wedi cael eu derbyn o’r 3277 o arolygon Tenantiaid a Phreswylwyr Safonol (STAR) a anfonwyd.  Byddai canlyniadau’r arolwg hefyd yn cael eu rhannu gyda Ffederasiwn Tenantiaid Sir Ddinbych.

 

Er bod gofyniad statudol i gyflawni’r arolwg bob 2 flynedd, roedd rhai Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wedi cyflwyno data a gasglwyd cyn Covid-19. Roedd Cyngor Sir Ddinbych wedi cyflawni’r arolwg yn ystod hydref/gaeaf 2020/2021 ac fe nodwyd gan Lywodraeth Cymru bod yr ymateb wedi cael ei effeithio gan y pandemig.

 

Roedd cyfraddau boddhad cyffredinol yn llai na’r canlyniadau arolwg 2019 gan adlewyrchu’r cynnydd mewn ymatebion nad oeddynt yn fodlon nac yn anfodlon – gan ddynodi nad oedd tenantiaid yn gallu sgorio’r gwasanaeth yn llawn yn sgil cyfnod clo’r pandemig.

 

Mynegodd y Swyddog Arweiniol – Tai Cymunedol (GD) ei siom o ran y cyfraddau bodlonrwydd cyffredinol llai, ond roeddent yn ddisgwyliedig yn sgil y gwasanaeth cyfyngedig (argyfyngau yn unig yn ystod y cyfnod clo). Yn flaenorol, roedd preswylwyr yn blaenoriaethu safonau gwasanaeth ar gyfer eu cartrefi eu hunain, ond yn ystod y pandemig, roedd y canolbwynt wedi newid i ddiogelwch eu cymdogaeth a’u cymuned.

 

Roedd meysydd ar gyfer gwella wedi’u nodi gan gynnwys ail-redeg yr arolwg STAR ar ddiwedd y flwyddyn er mwyn ailosod y data mewn trefn fel bod yr holl gynghorau a’r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn gallu eu cymharu gyda data o fewn yr un ystod data.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd Swyddog Arweiniol – Tai Cymunedol:

·         roedd yn bwysig bod tenantiaid landlordiaid cymdeithasol yn derbyn gwasanaeth tebyg am y rhent roeddent yn ei dalu. Roedd data meincnodi wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Byddai’r wybodaeth yn cael eu rannu i aelodau.

·         Bod perthynas weithio da yn bodoli rhwng y Cyngor a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn y sir.

·         Roedd mwy o ymatebion iau ac ar-lein i’r arolwg na’r blynyddoedd blaenorol.

·         Ymdrechwyd i sicrhau bod sampl cynrychioladol yn ymateb i’r arolwg. Cynhaliwyd arolygon deinamig yn ystod y flwyddyn hefyd.

·         Y pryder cadw a chynnal mwyaf ar gyfer preswylwyr oedd materion damprwydd/cyddwysiad yn y stoc dai hŷn, tra bod problemau mewn perthynas â baw cŵn yn bodoli ymysg y nifer uchaf o gwynion yn barhaus.

·         Roedd safon y gwaith ar brosiectau cyfalaf wedi derbyn cyfradd boddhad uchel yn gyson, tra bod cyfathrebu gyda thenantiaid ar y lefel isaf o foddhad, er gwaethaf pob ymdrech i wella ac addasu rhyngweithiad a dulliau cyfathrebu gyda thenantiaid y Cyngor.

·         Roedd cyfle i fynd ymlaen o dan y rhaglen effeithlonrwydd carbon i newid systemau gwresogi i ran arbed ynni - pympiau gwres yr awyr a phaneli solar ac ati.

·         Roedd tenantiaid yn gyfrifol am gynnal a chadw eu gerddi eu hunain. Roedd arfer archwiliad rhagweithiol gan y Swyddogion Tai. Rhoddwyd ystyriaeth i fentrau megis ‘no mow May’.  Lle bod angen, gall y Cyngor helpu tenantiaid i gynnal a chadw eu gerddi trwy roi’r offer angenrheidiol iddynt.

·         Cafodd tenantiaid Cymdeithas Tai Adra yn y datblygiad newydd yn Trefnant oll eu dewis o’r gofrestr tai cyffredin – a ddefnyddir gan y Cyngor a holl Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, sy’n gorfodi tenantiaid posibl i roi tystiolaeth o’u cysylltiad i’r ardal leol.

 

 

Penderfynwyd:  yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)   cefnogi’r Cynllun Gweithredu Tenantiaid a Phreswylwyr Safonol Tai Cymunedol 2021 a luniwyd er mwyn ymateb i ganfyddiadau arolwg Hydref 2020 o denantiaid tai y Cyngor a chefnogi’r ddarpariaeth o flaenoriaethau corfforaethol Tai a Chymunedau Gwydn; a

(ii)          gwneud cais bod Adroddiad Gwybodaeth yn cael ei ddarparu i aelodau’r Pwyllgor yn nodi canlyniadau arolwg boddhad  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

THEMA ADFER COVID-19 – ADEILADAU’R CYNGOR pdf eicon PDF 235 KB

Derbyn adroddiad yn diweddaru (copi ynghlwm) gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo ar y cynnydd gyda’r Isadeiledd – thema adfer Adeiladau’r Cyngor.

11.45am – 12.15pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor o’r Thema Adferiad Covid-19 ar gyfer Adeiladau’r Cyngor ers Medi 2020. Dywedodd wrth y Pwyllgor nad oedd cylch gwaith yr adroddiad yn cynnwys deiliadaeth ysgolion neu’r stoc dai.

 

Roedd yr Awdurdod yn dal i weithredu o dan ganllawiau Llywodraeth Cymru i gynghori staff a all weithio o gartref, barhau i wneud hynny. Roedd presenoldeb yn y swyddfa yn cael ei reoli gan reolwyr atebol a’r Uned Rheoli Cyfleusterau i sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r rheoliadau presennol.

 

Unwaith fydd yr amodau yn caniatáu a phan fydd staff yn symud yn ôl i’r swyddfeydd, bydd hyn yn cael ei reoli yn ôl trefn rota, er mwyn cyfyngu ar y nifer o staff mewn unrhyw adeilad ar un adeg, gydag uchafswm deiliadaeth o 50%. Yn yr hirdymor, rhagwelwyd y byddai system hybrid yn cael ei ddefnyddio, lle byddai presenoldeb yn yr adeiladau ar gyfer cyfarfodydd yn hytrach na dibenion trafodaethol.

 

O ran cynnal a chadw adeiladau, roedd lleihad mewn gwaith cynnal a chadw rhagweithiol dros y 12 mis diwethaf, ond roedd hynny wedi rhoi cyfle i waith ar brosiectau mawr gael eu cwblhau. Nid oedd unrhyw ymyrraeth sylweddol i’r rhaglen waith.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan aelodau, cafodd y Pwyllgor wybod gan yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo:

 

·         Y llynedd roedd tanwariant o ganlyniad i staff yn gweithio o gartref e.e. llai o wresogi, teithio a chostau argraffu, ad-daliadau Trethi Annomestig Cenedlaethol. Roedd cau adeiladau ysgolion am gyfnodau hir hefyd wedi lleihau costau.  Fodd bynnag, wrth symud ymlaen bydd costau a ysgwyddir ar gyfer buddsoddiadau TGCh, Iechyd a Diogelwch ac argraffu yn cynyddu eto.

·         Rhagwelwyd y byddai ffyrdd newydd o weithio yn arwain at ddeiliadaeth llai, ond nid yn angenrheidiol llai o adeiladau swyddfa. Mae gofodau a rennir yn dal i gael ei ymchwilio gyda sefydliadau partner.

·         Er bod canllawiau cyffredinol wedi cael eu rhannu gyda Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned ar reoli eu hadeiladau ar ddechrau’r pandemig, nid oedd gan yr Awdurdod ddigon o adnoddau i helpu gyda rheoli a chynnal a chadw eiddo.

·         Roedd gweithgor hefyd yn edrych ar ffyrdd newydd o weithio ar gyfer aelodau etholedig.  Gobeithir cwblhau a gweithredu’r gwaith mewn amser ar gyfer yr etholiadau lleol nesaf.  Roedd bob aelod etholedig wedi cael cyfle i roi mewnbwn i’r gwaith trwy holiadur/arolwg.

 

Felly:

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn y wybodaeth a ddarparwyd mewn perthynas â’r sefyllfa ddiweddaraf o ran trefniadau adeiladau swyddfa’r Cyngor a’r gwaith cynnal a chadw a gyflawnwyd trwy gydol y cyfnodau clo a’r pandemig.

9.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 237 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

12:15pm – 12:30pm

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â materion perthnasol.

 

Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor bod cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi’i drefnu ar gyfer 26 Gorffennaf i ystyried adroddiad gan y grŵp tasg a gorffen a sefydlwyd i gefnogi a monitro’r broses o ddatblygu Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr statudol.

 

Bydd y cyfarfod nesaf ar 9 Medi. Yr unig eitem ar y rhaglen oedd ar Gyfrifoldebau Rheoli Llifogydd mewn perthynas â Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn. Roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu yn cyfarfod ar brynhawn 1 Gorffennaf ac fe allai arwain at eitemau eraill i gael eu hychwanegu ar y rhaglen waith ar gyfer cyfarfod Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Medi.

 

Gwnaed cais am adroddiad gwybodaeth ar feincnodi gyda’r Arolygon Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Felly:

 

Penderfynwyd:  cymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor yn amodol ar yr uchod.

 

10.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol fyrddau a grwpiau’r Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd Huw Williams bod y Grŵp Tasg a Gorffen Rheoli Perygl Llifogydd a Pherchnogion Glannau Afon yn barhaus, a bod cynnydd yn cael ei wneud.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Scott bod nifer o gyfarfodydd wedi cael eu cynnal o’r Grŵp Tasg a Gorffen Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr, a oedd hefyd yn gwneud cynnydd da, ac roedd y cyfarfod nesaf ar ddydd Llun , 5 Gorffennaf.

 

Felly:

 

Penderfynwyd: derbyn y wybodaeth a ddarparwyd ar waith y grwpiau amrywiol gan gynrychiolwyr y Pwyllgor.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12:30pm