Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: via WebEx
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT SYLW Yn sgil y
cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol yn
sgil pandemig y Coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo
gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd.
Cafodd pob aelod gyfle i fynychu fel arsylwyr a chafodd y Gohebydd
Democratiaeth Lleol wahoddiad i arsylwi hefyd. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Oherwydd
ymrwymiadau gwaith ni allai’r Cynghorydd Paul Penlington (Prif Lofnodwr ar
gyfer Eitem Busnes 4) fynychu i gyflwyno
ei gais i gael penderfyniad gan y Cabinet, er fe ymunodd â’r cyfarfod ar
ddiwedd y drafodaeth ar yr eitem busnes. Cofnodion: Roedd y
Cynghorydd Paul Penlington (llofnodwr arweiniol i’r cais galw i mewn ar gyfer
eitem 4 ar y rhaglen) wedi cyflwyno ei ymddiheuriad oherwydd ymrwymiadau gwaith
nad oedd modd eu hosgoi. Nodwyd y
byddai’r Cynghorydd Mabon ap Gwynfor yn annerch y Pwyllgor yn ei absenoldeb. |
|
Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Mae’r aelodau
canlynol yn datgan diddordeb yn eitem 4 ar y Rhaglen sef Adolygu Penderfyniad y
Cabinet ar Gynigion Band B o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Y Cynghorydd
Meirick Davies – Llywodraethwr Ysgol Cefn Meiriadog Y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts – Rhiant Ysgol Brynhyfryd / Llywodraethwr Ysgol Pen Barras Y Cynghorydd Hugh
Irving - Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Prestatyn Y Cynghorydd
Merfyn Parry - Llywodraethwr Ysgol Bryn Clwyd ac Ysgol Gellifor Y Cynghorydd
Arwel Roberts - Llywodraethwr Ysgol y Castell Aelod
Cyfetholedig Neil Roberts – Llywodraethwr Ysgol y Parc Y Cynghorydd
Peter Scott – Llywodraethwr Ysgol Babanod Llanelwy Y Cynghorydd
Glenn Swingler – Llywodraethwr Ysgol Pendref Y Cynghorydd
Graham Timms – Ysgol Dinas Brân Y Cynghorydd
Emrys Wynne – Llywodraethwr Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Borthyn Cofnodion: Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 4 ar y rhaglen – Adolygu
Penderfyniad Cabinet o ran Cynigion Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – Y Cynghorydd
Meirick Lloyd Davies – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Cefn Meiriadog Y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts – mae’n rhiant i ddisgybl o Ysgol Brynhyfryd / Llywodraethwr
Ysgol Pen Barras Y Cynghorydd Hugh
Irving – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Prestatyn Y Cynghorydd
Merfyn Parry – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Bryn Clwyd ac Ysgol Gellifor Y Cynghorydd
Arwel Roberts – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol y Castell Aelod
Cyfetholedig Neil Roberts – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol y Parc Y Cynghorydd
Peter Scott – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Fabanod Llanelwy Y Cynghorydd
Glenn Swingler – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Pendref Y Cynghorydd
Graham Timms – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Dinas Brân Y Cynghorydd
Emrys Wynne – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Borthyn |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Dyma’r Cadeirydd
yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor fod ail gais galw i mewn am benderfyniad gan y
Cabinet wedi’i dderbyn ar ôl cyhoeddi rhaglen a phapurau ar gyfer y cyfarfod
presennol. Gyda’r bwriad o hwyluso’r ail
gais am alw i mewn o fewn yr amserlen wedi'i nodi yn Rheolau Gweithdrefn Galw i
Mewn y Cyngor cytunwyd i'r mater i gael ei drafod yn y cyfarfod presennol fel
eitem fusnes brys. O ganlyniad mae
papurau atodol yn berthnasol i'r cais a phenderfyniad y Cabinet ar 22 Medi 2020
i gael gwared ar dir cyfagos i Ysgol Pendref, Dinbych wedi cael ei gyhoeddi ar
1 Hydref 2020 ac yn cael ei ystyried o dan eitem busnes 5 yn y cyfarfod
presennol. Cofnodion: Datganodd y
Cadeirydd ei fwriad i gynnwys y mater canlynol i’w drafod (fel eitem 5 ar y
rhaglen) oherwydd bod angen rhoi sylw brys iddo – Adolygu Penderfyniad y
Cabinet o ran ‘Gwaredu tir yn ymyl Ysgol Pendref, Dinbych’. Roedd yr eitem yn
ymwneud ag ail gais galw i mewn a ddaeth i law yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ac
roedd y Cadeirydd wedi cytuno i’r mater gael ei drafod fel mater brys gyda
bwriad o gyflymu’r cais galw i mewn o fewn y terfynau amser a nodir yn Rheolau
Gweithdrefn Galw i Mewn y Cyngor. Roedd
y papurau atodol a oedd yn ymwneud â’r cais galw i mewn wedi’u cyhoeddi ar 1
Hydref 2020. |
|
Ystyried adroddiad
gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm)
sy'n gofyn i'r Pwyllgor, yn
seiliedig ar y wybodaeth ysgrifenedig a llafar a ddarperir, adolygu penderfyniad y Cabinet a wnaed ar 22 Medi 2020. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cafwyd pleidlais: 10 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal Y Pwyllgor: Wedi
Penderfynu: bod gwybodaeth fanwl yn cael ei ddarparu i’r holl gynghorwyr sir erbyn
dechrau 2021 ar raglen ysgolion yr 21ain ganrif, i gynnwys - (i)
cefndir y cyllid
a’r broses flaenoriaethu i benderfynu pa ysgolion sydd yn deilwng i elw o fuddsoddiad
a phryd; (ii)
manylion o’r
buddsoddiad sydd wedi’i wneud yn barod yn ysgolion y sir a’r sefyllfa
bresennol; ac (iii)
amlinelliad eglur o
gynlluniau’r dyfodol, yn ddarostyngedig i argaeledd cyllid gan Lywodraeth Cymru
a'r Cyngor, i wneud ysgolion Cyngor Sir Ddinbych yn addas ar gyfer y 21ain
Ganrif Gyda’r Pwyllgor yn cytuno i’r penderfyniad uchod dyma’r llofnodwyr ar gyfer y cais galw i mewn yn nodi eu bod nhw'n cytuno na ddylai'r cais i adolygu penderfyniad y Cabinet fynd yn ei flaen. Cofnodion: Eglurodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi’i alw yn
unol â chyfansoddiad y Cyngor i ystyried cais galw i mewn a gyflwynwyd o ran
penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 22 Medi 2020 yn ymwneud â ‘Rhaglen
Ysgolion yr 21ain Ganrif – Cynigion Band B’. Roedd y Cabinet wedi penderfynu - ·
cymeradwyo
dechrau prosiectau yn Ysgol Plas Brondyffryn / Ysgol Uwchradd Dinbych, Dinbych;
Ysgol Bryn Collen / Ysgol Gwernant, Llangollen ac Ysgol Pendref, Dinbych, fel
rhan o’r cam cyntaf o brosiectau ar gyfer Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain
Ganrif a chyflwyno’r cynigion hyn i Lywodraeth Cymru, a ·
pharhau
i geisio cyllid ychwanegol ar gyfer ail gam prosiectau Band B ac adolygu’r
sefyllfa ymhen 18 mis i ganfod opsiynau ar gyfer gweithredu rhai o’r prosiectau
hyn. Roedd hysbysiad galw i mewn wedi’i gyflwyno gan y
Cynghorydd Paul Penlington, ac wedi’i gefnogi gan bedwar cynghorydd arall, i
alw am adolygiad o’r penderfyniad ar y sail ganlynol - “...Rwy’n dymuno galw’r
penderfyniad hwn i mewn er mwyn i’r awdurdod adolygu angen Ysgol Uwchradd
Prestatyn yn iawn fel mae’n sefyll yn 2020 yn deg ochr yn ochr ag ysgolion
eraill. Fel yr ysgol uwchradd fwyaf
yn y sir, a’r unig ysgol uwchradd ym Mhrestatyn, mae ganddi achos ar gyfer
gwelliant cystal ag eraill sydd wedi’u trefnu ar gyfer cyllid Band B.” Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu yr adroddiad
(dosbarthwyd eisoes) sy’n nodi rheolau’r weithdrefn ‘galw i mewn’ a sail y cais
‘galw i mewn’ ac eglurodd pa weithdrefnau mae’n rhaid eu dilyn yn y cyfarfod. Cyfeiriwyd at atodiadau’r adroddiad gan
gynnwys adroddiad y Cabinet a ystyriwyd ar 22 Medi 2020 ynghyd ag adroddiad am
y ‘Broses ar gyfer Cyflwyniad Band B’ a oedd wedi’i ddwyn ymlaen o gyfarfod
nesaf y Pwyllgor a oedd wedi’i drefnu oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth
ddefnyddiol sy’n ymwneud â’r adolygiad presennol o benderfyniad y Cabinet. Yn absenoldeb y Cynghorydd Paul Penlington,
darllenodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor ddatganiad ar ei ran. Roedd y Cynghorydd Penlington wedi dweud - ·
roedd
penderfyniad y Cabinet wedi ei seilio ar gyfarfodydd y Cabinet mor bell yn ôl â
2017 ac nid oedd Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi’i chynnwys bryd hynny ac nid
oedd wedi'i chynnwys mewn unrhyw gyllid Ysgolion yr 21ain ganrif ar hyn o bryd
chwaith ·
pan
holwyd yn gynharach yn y flwyddyn, dywedwyd wrtho ei bod yn bosibl y byddai
Ysgol Uwchradd Prestatyn yn cael ei hystyried yn 2024, ond nid oedd hyn yn
ddigon cadarn i ddiwallu anghenion plant ym Mhrestatyn ·
nid
oedd cynghorwyr wedi cael cyfle i graffu'r broses a arweiniodd at benderfyniad
y Cabinet ar 22 Medi ac roeddent wedi'u heithrio o unrhyw broses a arweiniodd
ato dros y misoedd diweddar, ac nid oedd wedi gallu ymuno â'r drafodaeth a
gofyn cwestiynau priodol yn y Cabinet oherwydd methiannau â chyfarfodydd
ar-lein y cyngor ·
roedd
y sefyllfa yn Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi newid yn sylweddol ers 2017 ac
roedd yr ysgol angen gwelliant sylweddol, os nad ysgol newydd sbon ar frys ·
dywedwyd
wrtho fod niferoedd disgyblion yn lleihau, ac nid oedd hyn yn wir – roedd 1,800
o ddysgwyr yn yr ysgol dair blynedd yn ôl, a 1,500 cyson o ddysgwyr ers hynny ·
roedd
ysgolion cynradd Prestatyn yn ei chael yn anodd ymdopi â’r galw a gyda dim ond
un ysgol uwchradd, roedd posibilrwydd y byddai anawsterau sylweddol yn y
dyfodol agos ·
roedd
yr hinsawdd ariannol bresennol a’r dyfodol yn ansicr a heb ymrwymiad pendant i
Ysgol Uwchradd Prestatyn, mae’n bosibl na fyddai'n cael unrhyw welliant
sylweddol am flynyddoedd · hyd y gwyddai ef, roedd Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi’i hadeiladu ym 1956 gydag ychydig o newidiadau ers hynny a ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) sy'n gofyn i'r Pwyllgor, yn seiliedig ar y wybodaeth ysgrifenedig a llafar a ddarperir, adolygu penderfyniad y Cabinet a wnaed ar 22 Medi 2020. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cafwyd pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal Y Pwyllgor: Wedi Penderfynu: i gynnal y penderfyniad
a’i argymell i’r Cabinet - (i)
ailymweld â’r
penderfyniad o ran y weledigaeth ar gyfer tai cymdeithasol a fforddiadwy yn y
dyfodol fel y manylir yn y fframwaith datblygu cenedlaethol newydd drafft ‘Cymru’r
Dyfodol – y cynllun cenedlaethol 2040’; (ii)
felly gohirio’r
penderfyniad yn berthnasol i'r safle penodol hwn am 12 mis nes eu bod wedi
cytuno ar y fframwaith datblygu cenedlaethol newydd; (iii)
ystyried y dewisiadau i wneud y tir yn fwy
deniadol i landlordiaid cymdeithasol a datblygwyr llai drwy eu rhannu i fyny yn
lecynnau/plotiau llai; ac (iv)
ddim yn creu
gorgyflenwad o gartrefi sy'n rhy ddrud yn Ninbych ac sydd ddim yn cwrdd â'r
galw lleol Cofnodion: [Ystyriwyd y mater hwn fel mater brys, a rhoddodd
y Cadeirydd rybudd o hyn ar ddechrau’r cyfarfod]. Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad (a ddosbarthwyd
eisoes) am y cais galw i mewn a gyflwynwyd o ran penderfyniad a wnaed gan y
Cabinet ar 22 Medi 2020 o ran ‘Gwaredu tir yn ymyl Ysgol Pendref, Dinbych’. Roedd y Cabinet wedi penderfynu - ·
cymeradwyo
gwaredu tir yn ymyl Ysgol Pendref, Dinbych a amlinellir mewn coch ar y cynllun
(Atodiad A yr adroddiad) nad oes ei angen ar y Cyngor, ar y farchnad agored ar
gyfer datblygiad preswyl, a dirprwyo awdurdod i'r Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol i gymeradwyo’r gwerthiant terfynol, a ·
chadarnhau
ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o’r Effaith ar Les i ystyriaeth
(Atodiad B o’r adroddiad) fel rhan o'i benderfyniad. Roedd hysbysiad ‘galw i mewn’ wedi’i gyflwyno gan
y Cynghorydd Glenn Swingler, gyda chefnogaeth pedwar cynghorydd arall. Ar ôl gwahoddiad gan y Cadeirydd, nododd y
Cynghorydd Swingler y sail dros alw'r adolygiad o’r penderfyniad fel a ganlyn - 1. Mae'r
tir hwn yn enghraifft o ragor o dir sy’n eiddo i’r Cyngor yn cael ei werthu ar
gyfer ateb sydyn i lenwi bylchau'r gyllideb. 2. Mae
hyd at 300 o dai yn cael eu hadeiladu yn Ninbych Uchaf ar safle Ysbyty Gogledd
Cymru ac nid oes angen rhagor o dai fforddiadwy (gan mwyaf). 3. Tir
fferm yw’r tir ar hyn o bryd. Dylem
ni fod yn cefnogi rhagor o bobl i mewn i faes ffermio. Nid ydym yn gwybod eto beth
fydd effaith Brexit ar ddiogelu’r cyflenwad bwyd a byddai’n adeg ffôl i
waredu’r tir hwn nawr. 4. Er
ei fod yn sôn nad yw’r tir yn addas ar gyfer adeilad newydd ar gyfer Ysgol
Pendref, dim ond amser byr iawn yn ôl y cytunodd y Cabinet i Raglen Ysgolion yr
21ain Ganrif newydd a dechrau ymarfer cwmpasu.
Ydi’r
ymarfer hwnnw wedi'i gwblhau eisoes? 5. Pan
fydd tir sy’n eiddo i’r bobl wedi’i werthu i fentrau preifat, nid oes troi’n
ôl. Sut
mae’r Cabinet yn sicr na fydd angen y tir yn y dyfodol? 6. Siawns
na ddylem ni fod yn adeiladu rhagor o dai cymdeithasol? Roedd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, Rheolwr Rhaglen – Datblygiad Tai a’r Pen Syrfëwr Prisio ac
Ystadau yn bresennol. Eglurodd yr Aelod Arweiniol leoliad y safle yn Ninbych a oedd yn 6.97 erw. Ymatebodd i’r sail a gyflwynwyd ar gyfer y
cais galw i mewn hefyd fel a ganlyn - ·
roedd
y tir wedi’i gadw yn y Cyfrif Refeniw Tai ac felly byddai unrhyw dderbyniad
cyfalaf o’r gwerthiant yn cael ei glustnodi ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai ac ni
ellid ei ddefnyddio mewn man arall. Roedd gan y Cyfrif Refeniw Tai dair ffynhonnell
incwm i gyflawni ei raglen waith ac roedd derbyniadau cyfalaf yn elfen
allweddol o hyn. Roedd rhagdybiaeth am werthu’r tir wedi’i gynnwys yn y cynllun busnes
treigl ar gyfer stoc dai 30 mlynedd felly os na ellid sicrhau derbyniad
cyfalaf, byddai llai o gyllid ar gael i ddarparu cartrefi rhent cymdeithasol
newydd neu i gyflawni gwaith cynnal a chadw ar stoc dai bresennol. ·
o ran niferoedd tai yn y
Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) presennol, nid oedd cynhwysiant ar gyfer unrhyw
un o’r datblygiadau galluogi ar Safle Ysbyty Gogledd Cymru ar hyn o bryd, ac
nid oedd dyraniadau a pholisïau tai fforddiadwy’r cyngor yn gwneud unrhyw
ragdybiaethau o ran unrhyw unedau fforddiadwy ar y safle penodol hwnnw. Roedd y safle hwn, ymhlith eraill, wedi’i ddyrannu i fynd i’r afael ag anghenion tai yn rhannol ar gyfer pob math o ddeiliadaeth yn Ninbych a byddai’n darparu dwywaith ... view the full Cofnodion text for item 5. |