Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: via WebEx

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT SYLW

Yn sgil y cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol yn sgil pandemig y Coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd.  Cafodd pob aelod gyfle i fynychu fel arsylwyr a chafodd y Gohebydd Democratiaeth Lleol wahoddiad i arsylwi hefyd.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Oherwydd ymrwymiadau gwaith ni allai’r Cynghorydd Paul Penlington (Prif Lofnodwr ar gyfer Eitem Busnes 4)  fynychu i gyflwyno ei gais i gael penderfyniad gan y Cabinet, er fe ymunodd â’r cyfarfod ar ddiwedd y drafodaeth ar yr eitem busnes.

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Paul Penlington (llofnodwr arweiniol i’r cais galw i mewn ar gyfer eitem 4 ar y rhaglen) wedi cyflwyno ei ymddiheuriad oherwydd ymrwymiadau gwaith nad oedd modd eu hosgoi.  Nodwyd y byddai’r Cynghorydd Mabon ap Gwynfor yn annerch y Pwyllgor yn ei absenoldeb.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 69 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Penderfyniad:

Mae’r aelodau canlynol yn datgan diddordeb yn eitem 4 ar y Rhaglen sef Adolygu Penderfyniad y Cabinet ar Gynigion Band B o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif -

 

Y Cynghorydd Meirick Davies – Llywodraethwr Ysgol Cefn Meiriadog

Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts – Rhiant Ysgol Brynhyfryd / Llywodraethwr Ysgol Pen Barras

Y Cynghorydd Hugh Irving - Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Prestatyn

Y Cynghorydd Merfyn Parry - Llywodraethwr Ysgol Bryn Clwyd ac Ysgol Gellifor

Y Cynghorydd Arwel Roberts - Llywodraethwr Ysgol y Castell

Aelod Cyfetholedig Neil Roberts – Llywodraethwr Ysgol y Parc

Y Cynghorydd Peter Scott – Llywodraethwr Ysgol Babanod Llanelwy

Y Cynghorydd Glenn Swingler – Llywodraethwr Ysgol Pendref

Y Cynghorydd Graham Timms – Ysgol Dinas Brân

Y Cynghorydd Emrys Wynne – Llywodraethwr Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Borthyn

 

 

 

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 4 ar y rhaglen – Adolygu Penderfyniad Cabinet o ran Cynigion Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif –

 

Y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Cefn Meiriadog

Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts – mae’n rhiant i ddisgybl o Ysgol Brynhyfryd / Llywodraethwr Ysgol Pen Barras

Y Cynghorydd Hugh Irving – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Prestatyn

Y Cynghorydd Merfyn Parry – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Bryn Clwyd ac Ysgol Gellifor

Y Cynghorydd Arwel Roberts – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol y Castell

Aelod Cyfetholedig Neil Roberts – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol y Parc

Y Cynghorydd Peter Scott – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Fabanod Llanelwy

Y Cynghorydd Glenn Swingler – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Pendref

Y Cynghorydd Graham Timms – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Dinas Brân

Y Cynghorydd Emrys Wynne – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Borthyn

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Penderfyniad:

Dyma’r Cadeirydd yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor fod ail gais galw i mewn am benderfyniad gan y Cabinet wedi’i dderbyn ar ôl cyhoeddi rhaglen a phapurau ar gyfer y cyfarfod presennol.  Gyda’r bwriad o hwyluso’r ail gais am alw i mewn o fewn yr amserlen wedi'i nodi yn Rheolau Gweithdrefn Galw i Mewn y Cyngor cytunwyd i'r mater i gael ei drafod yn y cyfarfod presennol fel eitem fusnes brys.

 

O ganlyniad mae papurau atodol yn berthnasol i'r cais a phenderfyniad y Cabinet ar 22 Medi 2020 i gael gwared ar dir cyfagos i Ysgol Pendref, Dinbych wedi cael ei gyhoeddi ar 1 Hydref 2020 ac yn cael ei ystyried o dan eitem busnes 5 yn y cyfarfod presennol.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cadeirydd ei fwriad i gynnwys y mater canlynol i’w drafod (fel eitem 5 ar y rhaglen) oherwydd bod angen rhoi sylw brys iddo – Adolygu Penderfyniad y Cabinet o ran ‘Gwaredu tir yn ymyl Ysgol Pendref, Dinbych’.

 

Roedd yr eitem yn ymwneud ag ail gais galw i mewn a ddaeth i law yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ac roedd y Cadeirydd wedi cytuno i’r mater gael ei drafod fel mater brys gyda bwriad o gyflymu’r cais galw i mewn o fewn y terfynau amser a nodir yn Rheolau Gweithdrefn Galw i Mewn y Cyngor.  Roedd y papurau atodol a oedd yn ymwneud â’r cais galw i mewn wedi’u cyhoeddi ar 1 Hydref 2020.

 

 

4.

ADOLYGU PENDERFYNIAD Y CABINET YN YMWNEUD A RHAGLEN YSGOLION YR 21AIN GANRIF - CYNIGION BAND B pdf eicon PDF 290 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) sy'n gofyn i'r Pwyllgor, yn seiliedig ar y wybodaeth ysgrifenedig a llafar a ddarperir, adolygu penderfyniad y Cabinet a wnaed ar 22 Medi 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 10 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

Y Pwyllgor:

 

Wedi Penderfynu:  bod gwybodaeth fanwl yn cael ei ddarparu i’r holl gynghorwyr sir erbyn dechrau 2021 ar raglen ysgolion yr 21ain ganrif, i gynnwys -

(i)           cefndir y cyllid a’r broses flaenoriaethu i benderfynu pa ysgolion sydd yn deilwng i elw o fuddsoddiad a phryd;

(ii)          manylion o’r buddsoddiad sydd wedi’i wneud yn barod yn ysgolion y sir a’r sefyllfa bresennol; ac

(iii)        amlinelliad eglur o gynlluniau’r dyfodol, yn ddarostyngedig i argaeledd cyllid gan Lywodraeth Cymru a'r Cyngor, i wneud ysgolion Cyngor Sir Ddinbych yn addas ar gyfer y 21ain Ganrif

 

Gyda’r Pwyllgor yn cytuno i’r penderfyniad uchod dyma’r llofnodwyr ar gyfer y cais galw i mewn yn nodi eu bod nhw'n cytuno na ddylai'r cais i adolygu penderfyniad y Cabinet fynd yn ei flaen.

 

Cofnodion:

Eglurodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi’i alw yn unol â chyfansoddiad y Cyngor i ystyried cais galw i mewn a gyflwynwyd o ran penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 22 Medi 2020 yn ymwneud â ‘Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – Cynigion Band B’.  Roedd y Cabinet wedi penderfynu -

 

·         cymeradwyo dechrau prosiectau yn Ysgol Plas Brondyffryn / Ysgol Uwchradd Dinbych, Dinbych; Ysgol Bryn Collen / Ysgol Gwernant, Llangollen ac Ysgol Pendref, Dinbych, fel rhan o’r cam cyntaf o brosiectau ar gyfer Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a chyflwyno’r cynigion hyn i Lywodraeth Cymru, a

·         pharhau i geisio cyllid ychwanegol ar gyfer ail gam prosiectau Band B ac adolygu’r sefyllfa ymhen 18 mis i ganfod opsiynau ar gyfer gweithredu rhai o’r prosiectau hyn.

 

Roedd hysbysiad galw i mewn wedi’i gyflwyno gan y Cynghorydd Paul Penlington, ac wedi’i gefnogi gan bedwar cynghorydd arall, i alw am adolygiad o’r penderfyniad ar y sail ganlynol -

 

“...Rwy’n dymuno galw’r penderfyniad hwn i mewn er mwyn i’r awdurdod adolygu angen Ysgol Uwchradd Prestatyn yn iawn fel mae’n sefyll yn 2020 yn deg ochr yn ochr ag ysgolion eraill.  Fel yr ysgol uwchradd fwyaf yn y sir, a’r unig ysgol uwchradd ym Mhrestatyn, mae ganddi achos ar gyfer gwelliant cystal ag eraill sydd wedi’u trefnu ar gyfer cyllid Band B.”

 

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu yr adroddiad (dosbarthwyd eisoes) sy’n nodi rheolau’r weithdrefn ‘galw i mewn’ a sail y cais ‘galw i mewn’ ac eglurodd pa weithdrefnau mae’n rhaid eu dilyn yn y cyfarfod.  Cyfeiriwyd at atodiadau’r adroddiad gan gynnwys adroddiad y Cabinet a ystyriwyd ar 22 Medi 2020 ynghyd ag adroddiad am y ‘Broses ar gyfer Cyflwyniad Band B’ a oedd wedi’i ddwyn ymlaen o gyfarfod nesaf y Pwyllgor a oedd wedi’i drefnu oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol sy’n ymwneud â’r adolygiad presennol o benderfyniad y Cabinet.

 

Yn absenoldeb y Cynghorydd Paul Penlington, darllenodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor ddatganiad ar ei ran.  Roedd y Cynghorydd Penlington wedi dweud -

 

·         roedd penderfyniad y Cabinet wedi ei seilio ar gyfarfodydd y Cabinet mor bell yn ôl â 2017 ac nid oedd Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi’i chynnwys bryd hynny ac nid oedd wedi'i chynnwys mewn unrhyw gyllid Ysgolion yr 21ain ganrif ar hyn o bryd chwaith

·         pan holwyd yn gynharach yn y flwyddyn, dywedwyd wrtho ei bod yn bosibl y byddai Ysgol Uwchradd Prestatyn yn cael ei hystyried yn 2024, ond nid oedd hyn yn ddigon cadarn i ddiwallu anghenion plant ym Mhrestatyn

·         nid oedd cynghorwyr wedi cael cyfle i graffu'r broses a arweiniodd at benderfyniad y Cabinet ar 22 Medi ac roeddent wedi'u heithrio o unrhyw broses a arweiniodd ato dros y misoedd diweddar, ac nid oedd wedi gallu ymuno â'r drafodaeth a gofyn cwestiynau priodol yn y Cabinet oherwydd methiannau â chyfarfodydd ar-lein y cyngor

·         roedd y sefyllfa yn Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi newid yn sylweddol ers 2017 ac roedd yr ysgol angen gwelliant sylweddol, os nad ysgol newydd sbon ar frys

·         dywedwyd wrtho fod niferoedd disgyblion yn lleihau, ac nid oedd hyn yn wir – roedd 1,800 o ddysgwyr yn yr ysgol dair blynedd yn ôl, a 1,500 cyson o ddysgwyr ers hynny

·         roedd ysgolion cynradd Prestatyn yn ei chael yn anodd ymdopi â’r galw a gyda dim ond un ysgol uwchradd, roedd posibilrwydd y byddai anawsterau sylweddol yn y dyfodol agos

·         roedd yr hinsawdd ariannol bresennol a’r dyfodol yn ansicr a heb ymrwymiad pendant i Ysgol Uwchradd Prestatyn, mae’n bosibl na fyddai'n cael unrhyw welliant sylweddol am flynyddoedd

·         hyd y gwyddai ef, roedd Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi’i hadeiladu ym 1956 gydag ychydig o newidiadau ers hynny a  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

MATERION BRYS: ADOLYGU PENDERFYNIAD Y CABINET YN YMWNEUD Â GWAREDU TIR YN YMYL YSGOL PENDREF, DINBYCH pdf eicon PDF 299 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) sy'n gofyn i'r Pwyllgor, yn seiliedig ar y wybodaeth ysgrifenedig a llafar a ddarperir, adolygu penderfyniad y Cabinet a wnaed ar 22 Medi 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

Y Pwyllgor:

 

Wedi Penderfynu:  i gynnal y penderfyniad a’i argymell i’r Cabinet -

 

(i)           ailymweld â’r penderfyniad o ran y weledigaeth ar gyfer tai cymdeithasol a fforddiadwy yn y dyfodol fel y manylir yn y fframwaith datblygu cenedlaethol newydd drafft ‘Cymru’r Dyfodol – y cynllun cenedlaethol 2040’;

(ii)          felly gohirio’r penderfyniad yn berthnasol i'r safle penodol hwn am 12 mis nes eu bod wedi cytuno ar y fframwaith datblygu cenedlaethol newydd;

(iii)          ystyried y dewisiadau i wneud y tir yn fwy deniadol i landlordiaid cymdeithasol a datblygwyr llai drwy eu rhannu i fyny yn lecynnau/plotiau llai; ac

(iv)        ddim yn creu gorgyflenwad o gartrefi sy'n rhy ddrud yn Ninbych ac sydd ddim yn cwrdd â'r galw lleol

 

 

Cofnodion:

[Ystyriwyd y mater hwn fel mater brys, a rhoddodd y Cadeirydd rybudd o hyn ar ddechrau’r cyfarfod].

 

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) am y cais galw i mewn a gyflwynwyd o ran penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 22 Medi 2020 o ran ‘Gwaredu tir yn ymyl Ysgol Pendref, Dinbych’.  Roedd y Cabinet wedi penderfynu -

 

·         cymeradwyo gwaredu tir yn ymyl Ysgol Pendref, Dinbych a amlinellir mewn coch ar y cynllun (Atodiad A yr adroddiad) nad oes ei angen ar y Cyngor, ar y farchnad agored ar gyfer datblygiad preswyl, a dirprwyo awdurdod i'r Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol i gymeradwyo’r gwerthiant terfynol, a

·         chadarnhau ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o’r Effaith ar Les i ystyriaeth (Atodiad B o’r adroddiad) fel rhan o'i benderfyniad.

 

Roedd hysbysiad ‘galw i mewn’ wedi’i gyflwyno gan y Cynghorydd Glenn Swingler, gyda chefnogaeth pedwar cynghorydd arall.  Ar ôl gwahoddiad gan y Cadeirydd, nododd y Cynghorydd Swingler y sail dros alw'r adolygiad o’r penderfyniad fel a ganlyn -

 

1.    Mae'r tir hwn yn enghraifft o ragor o dir sy’n eiddo i’r Cyngor yn cael ei werthu ar gyfer ateb sydyn i lenwi bylchau'r gyllideb.

2.    Mae hyd at 300 o dai yn cael eu hadeiladu yn Ninbych Uchaf ar safle Ysbyty Gogledd Cymru ac nid oes angen rhagor o dai fforddiadwy (gan mwyaf).

3.    Tir fferm yw’r tir ar hyn o bryd. 

Dylem ni fod yn cefnogi rhagor o bobl i mewn i faes ffermio.  Nid ydym yn gwybod eto beth fydd effaith Brexit ar ddiogelu’r cyflenwad bwyd a byddai’n adeg ffôl i waredu’r tir hwn nawr.

4.    Er ei fod yn sôn nad yw’r tir yn addas ar gyfer adeilad newydd ar gyfer Ysgol Pendref, dim ond amser byr iawn yn ôl y cytunodd y Cabinet i Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif newydd a dechrau ymarfer cwmpasu. 

Ydi’r ymarfer hwnnw wedi'i gwblhau eisoes?

5.    Pan fydd tir sy’n eiddo i’r bobl wedi’i werthu i fentrau preifat, nid oes troi’n ôl. 

Sut mae’r Cabinet yn sicr na fydd angen y tir yn y dyfodol?

6.    Siawns na ddylem ni fod yn adeiladu rhagor o dai cymdeithasol?

 

Roedd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Rheolwr Rhaglen – Datblygiad Tai a’r Pen Syrfëwr Prisio ac Ystadau yn bresennol.  Eglurodd yr Aelod Arweiniol leoliad y safle yn Ninbych a oedd yn 6.97 erw.  Ymatebodd i’r sail a gyflwynwyd ar gyfer y cais galw i mewn hefyd fel a ganlyn -

 

·         roedd y tir wedi’i gadw yn y Cyfrif Refeniw Tai ac felly byddai unrhyw dderbyniad cyfalaf o’r gwerthiant yn cael ei glustnodi ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai ac ni ellid ei ddefnyddio mewn man arall. 

Roedd gan y Cyfrif Refeniw Tai dair ffynhonnell incwm i gyflawni ei raglen waith ac roedd derbyniadau cyfalaf yn elfen allweddol o hyn.  Roedd rhagdybiaeth am werthu’r tir wedi’i gynnwys yn y cynllun busnes treigl ar gyfer stoc dai 30 mlynedd felly os na ellid sicrhau derbyniad cyfalaf, byddai llai o gyllid ar gael i ddarparu cartrefi rhent cymdeithasol newydd neu i gyflawni gwaith cynnal a chadw ar stoc dai bresennol.

·         o ran niferoedd tai yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) presennol, nid oedd cynhwysiant ar gyfer unrhyw un o’r datblygiadau galluogi ar Safle Ysbyty Gogledd Cymru ar hyn o bryd, ac nid oedd dyraniadau a pholisïau tai fforddiadwy’r cyngor yn gwneud unrhyw ragdybiaethau o ran unrhyw unedau fforddiadwy ar y safle penodol hwnnw. 

Roedd y safle hwn, ymhlith eraill, wedi’i ddyrannu i fynd i’r afael ag anghenion tai yn rhannol ar gyfer pob math o ddeiliadaeth yn Ninbych a byddai’n darparu dwywaith  ...  view the full Cofnodion text for item 5.