Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: trwy gyfrwng fideo
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT O SYLW Yn sgil y
cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol
oherwydd pandemig y coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng
fideo gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd. Cafodd pob aelod gyfle i fynychu fel arsylwyr
a chafodd y Gohebydd Democratiaeth Lleol wahoddiad i arsylwi hefyd. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor. Y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus, roedd Pennaeth y Gyfraith, AD a’r
Gwasanaethau Democrataidd/Swyddog Monitro yn dirprwyo dros y Cyfarwyddwr
Corfforaethol yn y cyfarfod. Cofnodion: Y Cynghorydd
Mabon ap Gwynfor Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Economi a Pharth Cyhoeddus (byddai’r Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol, AD a Democrataidd yn dirprwyo yn y cyfarfod) |
|
Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Nid oedd unrhyw
faterion brys wedi eu codi gyda’r Cadeirydd cyn y cyfarfod. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn - a) Cofnodion cyfarfod arbennig y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2020 (copi wedi'i amgáu), a b) Chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2020 (copi wedi'i amgáu). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (a) Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau Arbennig a gynhaliwyd ar 5
Hydref 2020 Cytunwyd ar yr
argymhelliad drwy gonsensws. Ni chafwyd
unrhyw bleidlais ffurfiol. Cynigiwyd yr argymhelliad i gymeradwyo ac fe’i
eiliwyd. Nododd yr holl aelodau eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd neb
eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod yn dymuno ymatal. Penderfynwyd: - cymeradwyo cofnodion y Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2020 fel
cofnod cywir. (b) Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 22 Hydref
2020 Cytunwyd ar yr
argymhelliad drwy gonsensws. Ni chafwyd unrhyw bleidlais ffurfiol. Cynigiwyd yr
argymhelliad i gymeradwyo ac fe’i eiliwyd. Nododd yr holl aelodau eu bod o
blaid yr argymhelliad, ni nododd neb eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod
yn dymuno ymatal. Penderfynwyd: - Yn ddibynnol ar ddilyn yr ymholiadau y gofynnwyd amdanynt a'u bod yn cael
eu hadrodd yn ôl i aelodau, fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref
2020 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.
Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Craffu Cymunedau arbennig a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2020
a’r Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2020. (a) Pwyllgor Craffu Cymunedau Arbennig (5 Hydref 2020) Dim pwyntiau i’w cywiro na materion yn
codi. (b) Pwyllgor Craffu Cymunedau (22 Hydref 2020) Eitem 5 Effaith Adolygiad Cynradd Rhuthun (tudalen 20) – Eglurodd y Cynghorydd Merfyn
Parry fod yr adroddiad gwybodaeth y gofynnodd amdano yn ymwneud â chanlyniadau
asesiad o'r effaith ar y gymuned ar gymunedau Rhewl a Llanynys yn dilyn cau
Ysgol Rhewl. Dywedodd fod y cyn Bennaeth
Addysg a'r cyn Bennaeth Moderneiddio Addysg wedi addo cynnal yr asesiad o'r
effaith ar y gymuned pan benderfynwyd cau'r ysgol. Cytunodd y Cydlynydd Craffu i wneud
ymholiadau mewn perthynas â'r adroddiad hwnnw. Eitem 7 Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a Charchar
Rhuthun (tudalennau 22/23) – Cofrestrodd y Cadeirydd ei siom bod yn rhaid i'r Cyfarwyddwr
Corfforaethol gamu i mewn cyn i'r ddolen i'r arolwg ar-lein ar Borth Sgwrs y
Sir ar Wasanaeth Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru gael ei dosbarthu i gynghorwyr
sir yn dilyn cais y Pwyllgor i hynny gael ei wneud ar unwaith er mwyn hyrwyddo
ymgysylltu â’r cyhoedd â'r ymarfer ymgynghori.
Gofynnodd y Pwyllgor i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau
Dynol a Democrataidd ofyn am esboniad ynghylch yr oedi ac i bwysleisio wrth
Benaethiaid Gwasanaeth bwysigrwydd ymateb i geisiadau Pwyllgorau ac adrodd yn
ôl i'r aelodau ar ganlyniadau unrhyw ymholiadau mewn modd amserol. Gofynnodd y Cynghorydd Meirick Lloyd-Davies
a ddylid ymgorffori'r pwynt bwled olaf mewn perthynas â'r polisi iaith fel rhan
o argymhelliad y Pwyllgor. Dywedodd y
Cydlynydd Craffu y byddai'r polisi iaith yn rhan o'r bartneriaeth ffurfiol/
Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer y gwasanaeth ar y cyd a dywedodd pe bai'r
Pwyllgor yn dymuno diwygio'r argymhellion yn y cofnodion i gynnwys argymhelliad
mewn perthynas â'r polisi iaith y gallai wneud hynny yn y cyfarfod
presennol. Ni ofynnodd unrhyw aelod o'r
Pwyllgor yn ffurfiol iddynt gael eu diwygio. PENDERFYNWYD – (a) bod cofnodion y cyfarfod arbennig a
gynhaliwyd ar 5 Hydref 2020 yn cael eu derbyn a'u cymeradwyo fel cofnod cywir, ac (b) ar yr amod bod yr ymholiadau y
gofynnwyd amdanynt yn cael eu dilyn a'u hadrodd yn ôl i'r aelodau, bod cofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2020 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir
a chywir. Roedd consensws yn cytuno ar yr argymhelliad. Ni chafwyd pleidlais ffurfiol. Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad i
gymeradwyo. Nododd pob aelod eu bod o
blaid yr argymhelliad, ni nododd neb eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod
am ymatal. |
|
RHEOLI RISG LLIFOGYDD AR DRAWS SIR DDINBYCH PDF 220 KB Ystyried adroddiad gan y Peiriannydd Perygl Llifogydd (copi wedi’i amgáu) sy’n amlinellu mesurau rheoli a lliniaru llifogydd er mwyn delio â phob math o lifogydd ar draws y sir. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cytunwyd ar yr
argymhelliad drwy gonsensws. Ni chafwyd unrhyw bleidlais ffurfiol. Cynigiwyd yr
argymhelliad i gymeradwyo ac fe’i eiliwyd. Nododd yr holl aelodau eu bod o
blaid yr argymhelliad, ni nododd neb eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod
yn dymuno ymatal. Penderfynodd y Pwyllgor: yn ddibynnol ar yr arsylwadau
uchod fod (i)
gweithgareddau
rheoli perygl llifogydd presennol y Cyngor a'r rhai sydd wedi eu cynllunio yn
cyflawni ei gyfrifoldebau mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth perygl llifogydd
perthnasol, a'i fod yn defnyddio'r pwerau a ganiateir yn effeithiol i gynnal
gwelliannau yn ymwneud â llifogydd ac amddiffyn yr arfordir; (ii)
fod
y Cyngor yn mabwysiadu mesurau digonol i weithio’n effeithiol gyda
thirfeddianwyr, datblygwyr ac awdurdodau eraill yn ymwneud â rheoli risg i
reoli perygl llifogydd yn Sir Ddinbych; (iii)
fod y Cyngor yn cyflawni’r canlyniadau a’r
mesurau a amlinellir yn y Strategaeth Leol Rheoli Risg Llifogydd; (iv)
fe
ddylid ymgysylltu gyda’r Grwpiau Ardal yr Aelodau priodol mewn perthynas â
chynllun a chamau datblygu Cynllun Amddiffyn Arfordirol Canol y Rhyl a Chynllun
Amddiffyn Arfordirol Canol Prestatyn yn ystod y 12 mis nesaf a dylai
casgliadau’r cam hwn o’r cynlluniau gael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor maes o
law; (v)
fod grŵp tasg a gorffen yn cael ei
sefydlu i archwilio dulliau i gryfhau rhyngweithio a pherthnasoedd gwaith
ymhellach rhwng awdurdodau rheoli perygl llifogydd cyhoeddus a thirfeddianwyr
glannau afon ar draws y sir gyda’r bwriad o wella dealltwriaeth ei gilydd o’u cyfrifoldebau
mewn perthynas â sicrhau llif dirwystr o ddŵr drwy'r tir y maent yn ei
reoli; a (vi)
cyflwyno’r
adroddiadau ar y cynigion rheoli llifogydd ar gyfer Ffos y Rhyl a Gwter
Prestatyn, yn ogystal â’r adroddiad ar yr ymchwiliad i lifogydd Chwefror 2020
yn Sir Ddinbych, i’r pwyllgor cyn gynted â’u bod ar gael. Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod gan gynnwys Simon Cowan a Martin Williams,
Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW) a Keith Ivens, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
ar gyfer y drafodaeth ar reoli risg llifogydd ar draws Sir Ddinbych. Cyflwynodd
y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol ar gyfer Gwastraff, Cludiant a'r
Amgylchedd a Phennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd, Cyfleusterau ac Amgylcheddol
yr eitem. Esboniwyd bod adroddiad ar
Astudiaeth Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn a oedd i'w drafod yn y cyfarfod wedi'i
ohirio a'i aildrefnu ar gyfer mis Mai 2021.
Roedd yr ymchwiliadau i ddigwyddiadau llifogydd Chwefror 2020 ac effaith
ddilynol pandemig Covid-19 wedi effeithio ar allu CNC i ddatblygu'r gwaith sydd
ei angen i gwblhau'r astudiaeth. Nodwyd
y byddai adroddiad yr ymchwiliad i lifogydd mis Chwefror 2020 yn debygol o fod
ar gael erbyn diwedd mis Chwefror 2021.
Dywedodd y Cynghorydd Jones fod y cyngor yn rhagweithiol o ran rheoli
risg llifogydd ar draws y sir a thynnodd sylw at y gwaith a wnaed ar gynlluniau
amddiffyn yr arfordir a thynnodd sylw at y ffaith bod Sir Ddinbych wedi derbyn
£1m (100%) yn ddiweddar mewn arian grant gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu
Prosiect Rheoli Llifogydd Naturiol. Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Peiriannydd Risg Llifogydd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a
oedd yn amlinellu mesurau rheoli a lliniaru llifogydd i ddelio â phob math o
berygl llifogydd ledled y sir. Roedd y
mesurau hynny'n cynnwys gwaith gyda phartneriaid cyhoeddus a phreifat a
thirfeddianwyr, prosiectau peirianneg a gweithgareddau rheoli tir, gyda'r nod o
leihau'r risg o lifogydd a gwrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys manylion
y gwaith yr oedd yr Adran Gynllunio yn ei wneud mewn perthynas â lliniaru
llifogydd fel rhan o'r broses gynllunio. Cyfeiriwyd
yn benodol at y canlynol – ·
roedd gan wahanol awdurdodau
gyfrifoldeb dros wahanol feysydd rheoli risg llifogydd – Cyngor Sir Ddinbych
(CSDd) mewn perthynas â dŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin a risg
erydu arfordirol; Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn perthynas â phrif afonydd
a'r môr, a Dŵr Cymru (DCWW) mewn perthynas â charthffosydd cyhoeddus. Roedd gan unrhyw un a oedd yn berchen ar dir
wrth ymyl afon, nant neu ffos gyfrifoldebau hefyd fel 'tirfeddiannwr glannau’r
afon'. Gweithiodd y cyngor gydag
awdurdodau rheoli risg llifogydd eraill, yn ogystal â datblygwyr a
thirfeddianwyr, i chwilio am gyfleoedd i reoli a lleihau'r risg o lifogydd yn well ·
roedd y Ddeddf Rheoli Llifogydd a
Dŵr yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gael strategaeth
genedlaethol ar gyfer rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol – cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru ei strategaeth genedlaethol gyntaf ar lifogydd yn 2011 ac yn
ddiweddar cyhoeddodd ei strategaeth newydd ym mis Hydref 2020. Roedd y Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol
i'r cyngor, fel yr awdurdod llifogydd lleol arweiniol, gael strategaeth ar
gyfer rheoli risg llifogydd yn lleol sy'n canolbwyntio ar ddŵr ffo,
dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin – cyhoeddodd y cyngor ei
strategaeth leol yn 2014, yr oedd yn ofynnol ei hadolygu erbyn mis Rhagfyr 2022 ·
roedd y cyngor yn ystyried risg
llifogydd wrth asesu ceisiadau cynllunio gan gyfeirio'n benodol at bolisi
cynllunio Nodyn Cyngor Technegol 15.
Comisiynwyd Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd i gefnogi Cynllun
Datblygu Lleol (CDLl) 2006 - 2021 a oedd yn ystyried goblygiadau risg llifogydd
ar gyfer elfennau allweddol a nodwyd yn y CDLl.
Yn 2019 daeth y cyngor yn Gorff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy
gyda chyfrifoldeb am gymeradwyo a mabwysiadu draenio dŵr wyneb ar
ddatblygiadau newydd. · ers 2003 roedd y cyngor wedi buddsoddi tua £41m o arian cyfatebol Llywodraeth Cymru a'r cyngor i leihau'r risg ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 241 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi wedi’i amgáu) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cytunwyd ar yr
argymhelliad drwy gonsensws. Ni chafwyd unrhyw bleidlais ffurfiol. Cynigiwyd yr
argymhelliad i gymeradwyo ac fe’i eiliwyd. Nododd yr holl aelodau eu bod o
blaid yr argymhelliad, ni nododd neb eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod
yn dymuno ymatal. Penderfynodd y Pwyllgor: gadarnhau Rhaglen Gwaith i’r
Dyfodol y Pwyllgor yn ddibynnol ar y diwygiadau a'r hyn sydd i’w gynnwys yn y
rhaglen gwaith i'r dyfodol drafft a gynigiwyd yn ystod y cyfarfod.
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) yn gofyn am adolygiad yr aelodau o raglen waith y Pwyllgor ac yn
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion perthnasol. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol – ·
ailgadarnhawyd yr eitemau a restrwyd ar y rhaglen gwaith i’r
dyfodol ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 21 Ionawr 2021 ·
roedd Astudiaeth Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn wedi'i threfnu ar
gyfer y cyfarfod ar 13 Mai 2021 ond byddai'n cael ei chyflwyno pe bai ar gael
yn gynharach ·
nid oedd angen y cyfarfod ychwanegol a drefnwyd ar gyfer 4
Chwefror 2021 i ystyried Prosiect Ailfodelu'r Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu
mwyach a byddai pob agwedd ar y prosiect yn cael ei hadrodd i'r Pwyllgor ym mis
Mai 2021 fel y bwriadwyd yn wreiddiol ·
gofynnwyd i'r aelodau gyflwyno unrhyw ffurflenni cynnig ynghylch
pynciau i graffu arnynt cyn cyfarfod nesaf y Grŵp Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Craffu ar 21 Ionawr 2021, a ·
chyfeiriwyd at y brîff gwybodaeth a ddosbarthwyd i'r aelodau cyn
y cyfarfod yn amgáu'r adroddiadau gwybodaeth y gofynnodd y Pwyllgor amdanynt. PENDERFYNWYD, yn
amodol ar y gwelliannau a'r ychwanegiadau i'r rhaglen waith i’r dyfodol ddrafft
a gynigiwyd yn ystod y cyfarfod, cadarnhau Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y
Pwyllgor. Roedd consensws yn cytuno ar yr argymhelliad. Ni chafwyd pleidlais ffurfiol. Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad i
gymeradwyo. Nododd pob aelod eu bod o
blaid yr argymhelliad, ni nododd neb eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod
am ymatal. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor. Penderfyniad: Nid oedd yna
unrhyw adborth gan gynrychiolwyr i’w adrodd. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw adroddiadau gan gynrychiolwyr
pwyllgorau. Daeth y cyfarfod i ben am hanner dydd. |