Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Fideo-Gynadledda

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Anton Sampson a’r Cynghorydd Glenn Swingler.

 

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Anton Sampson a’r Cynghorydd Glenn Swingler.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gysylltiad personol ag eitem 4 ar y rhaglen, ‘Cofnodion’ gan ei fod yn aelod o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen, ‘Effaith Adolygiad Addysg Gynradd Rhuthun’:   

 

Y Cynghorydd Huw O Williams – mae’n rhiant i ddisgybl sy’n mynychu un o’r ysgolion

Y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Cefn Meiriadog

Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts – mae’n Rhiant a Llywodraethwr yn Ysgol Pen Barras

Y Cynghorydd Merfyn Parry – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Bryn Clwyd ac Ysgol Gellifor

Aelod Cyfetholedig Neil Roberts – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Borthyn

Y Cynghorydd Cheryl Williams – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Crist y Gair

Y Cynghorydd Emrys Wynne – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Borthyn

Y Cynghorydd Martyn Holland – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Bro Famau

Y Cynghorydd Andrew Thomas – mae’n llywodraethwr yn un o ysgolion y sir

Y Cynghorydd Tina Jones – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Melyd

Y Cynghorydd Graham Timms – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Dinas Brân, Llangollen

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gysylltiad personol ag eitem 4 ar y rhaglen, ‘Cofnodion’ gan ei fod yn aelod o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen, ‘Effaith Adolygiad Addysg Gynradd Rhuthun’:  

 

Y Cynghorydd Huw O Williams – mae’n rhiant i ddisgybl sy’n mynychu un o’r ysgolion

Y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Cefn Meiriadog

Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts – mae’n Rhiant a Llywodraethwr yn Ysgol Pen Barras

Y Cynghorydd Merfyn Parry – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Bryn Clwyd ac Ysgol Gellifor

Aelod Cyfetholedig Neil Roberts – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Borthyn

Y Cynghorydd Cheryl Williams – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Crist y Gair

Y Cynghorydd Emrys Wynne – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Borthyn

Y Cynghorydd Martyn Holland – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Bro Famau

Y Cynghorydd Andrew Thomas – mae’n Llywodraethwr yn un o ysgolion y sir

Y Cynghorydd Tina Jones – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Melyd

Y Cynghorydd Graham Timms – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Dinas Brân, Llangollen

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Penderfyniad:

Adolygu Penderfyniad y Cabinet o ran Gwaredu Tir Wrth Ymyl Ysgol Pendref, Dinbych:  Gwahoddodd y Cadeirydd yr Is-Gadeirydd i annerch y Pwyllgor o ran ymateb y Cabinet i argymhellion y Pwyllgor yn dilyn ei archwiliad o’r penderfyniad uchod.  Er bod y Cabinet wedi trafod argymhellion y Pwyllgor yn fanwl ac roedd hanner aelodau’r Cabinet wedi cefnogi argymhellion y Pwyllgor, roedd y Weithrediaeth wedi cadarnhau ei benderfyniad gwreiddiol, ar bleidlais fwrw’r Cadeirydd.  Nododd Is-Gadeirydd y Pwyllgor ei siom gyda’r canlyniad, a holodd a allai’r Pwyllgorau Craffu fyth berswadio’r Cabinet i adolygu eu penderfyniadau.

 

Dywedodd aelodau Gweithrediaethau a oedd yn bresennol yn y cyfarfod presennol eu bod o’r farn bod y Pwyllgor Craffu wedi dal y sawl sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif a’u bod wedi creu trafodaeth adeiladol.  Roedd nifer o faterion wedi codi a oedd yn debygol o gael eu hystyried wrth benderfynu ar bolisi cynllunio yn y dyfodol.  Roedd defnyddio’r bleidlais fwrw wedi amlygu bod Cabinet y Cyngor yn gytbwys, a’i fod yn cynnwys aelodau â gwahanol safbwyntiau.  

 

Cofnodion:

Adolygu Penderfyniad y Cabinet o ran Gwaredu Tir Wrth Ymyl Ysgol Pendref, Dinbych:  Gwahoddodd y Cadeirydd yr Is-Gadeirydd i annerch y Pwyllgor o ran ymateb y Cabinet i argymhellion y Pwyllgor yn dilyn ei archwiliad o’r penderfyniad uchod.  Er bod y Cabinet wedi trafod argymhellion y Pwyllgor yn fanwl ac roedd hanner aelodau’r Cabinet wedi cefnogi argymhellion y Pwyllgor, roedd y Weithrediaeth wedi cadarnhau ei benderfyniad gwreiddiol, ar bleidlais fwrw’r Cadeirydd.  Nododd Is-Gadeirydd y Pwyllgor ei siom gyda’r canlyniad, a holodd a allai’r Pwyllgorau Craffu fyth berswadio’r Cabinet i adolygu eu penderfyniadau.

 

Dywedodd yr aelodau gweithrediaeth a oedd yn bresennol yn y cyfarfod presennol eu bod o’r farn bod y Pwyllgor Craffu wedi dal y sawl sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif a’u bod wedi creu trafodaeth adeiladol.  Roedd nifer o faterion wedi codi a oedd yn debygol o gael eu hystyried wrth benderfynu ar bolisi cynllunio yn y dyfodol.  Roedd defnyddio’r bleidlais fwrw wedi amlygu bod Cabinet y Cyngor yn gytbwys, a’i fod yn cynnwys aelodau â gwahanol safbwyntiau.  

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 466 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 3 Medi 2020 (copi ynghlwm).

 

10.05am – 10.10am

 

Penderfyniad:

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws.  Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

Penderfynwyd: - derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 3 Medi 2020 fel cofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 3 Medi, 2020.

 

Materion sy’n Codi -

 

Rhoddodd y Swyddog Craffu wybod i’r Pwyllgor bod Swyddog Rheoli Rhostiroedd wedi cael ei benodi’n ddiweddar, fodd bynnag, roedd y Gwasanaeth Tân wedi cadarnhau eto na fyddent yn ariannu’r swydd ar y cyd gan y teimlwyd y byddai darparu’r gefnogaeth ariannol hon yn golygu eu bod yn rhoi blaenoriaeth dros eraill sy'n ceisio cyllid. Fodd bynnag, byddai’n rhaid i’r Gwasanaeth barhau i ddarparu Cyngor a Chefnogaeth lle bo angen. Mynegodd Aelodau eu siomedigaeth â’r penderfyniad hwn.

 

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws.  Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

Penderfynwyd: - derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 3 Medi 2020 fel cofnod cywir.

 

 

5.

EFFAITH ADOLYGIAD ADDYSG GYNRADD RHUTHUN pdf eicon PDF 221 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Reolwr - Cefnogi Ysgolion (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor asesu effaith adolygiad addysg gynradd ardal Rhuthun yn erbyn nodau lles Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015..

 

10.10am – 10.45am

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 10 o blaid, 0 yn erbyn, 1 ymatal.

 

Penderfynodd y Pwyllgor:

 

ar ôl ystyried y canfyddiadau yn yr adroddiad ac a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth -

 

(i)           derbyn y wybodaeth am effaith Adolygiad Addysg Gynradd Rhuthun fel y’i haseswyd yn erbyn saith nod lles Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;

(ii)          cadarnhau, fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1);

(iii)         bod adroddiad gwybodaeth yn cael ei baratoi i’w ddosbarthu i aelodau am yr effaith economaidd ar Rhewl yn dilyn cau’r ysgol fel rhan o adolygiad addysg gynradd Rhuthun;

(iv)        bod gwybodaeth yn cael ei darparu i aelodau sy’n cynnwys ystadegau’r Arolwg o’r Iaith Gymraeg a gynhaliwyd ar draws Sir Ddinbych yn ddiweddar; a

(v)          bod diolchgarwch aelodau yn cael ei gyfleu i holl staff yr ysgol, y Gwasanaeth Addysg a Gwasanaethau eraill y Cyngor am eu hymdrechion a’u hymrwymiad o ran sicrhau darpariaeth addysg a chefnogaeth i ddisgyblion y sir trwy gydol pandemig COVID-19.

 

Cofnodion:

Roedd y Pennaeth Addysg Dros Dro, Geraint Davies (GD), Prif Reolwr – Cefnogi Ysgolion, James Curran (JC) yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts adroddiad yn darparu gwybodaeth ynghylch effaith adolygiad Addysg Gynradd Rhuthun yn erbyn saith nod lles Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Cytunodd Cabinet Sir Ddinbych ym mis Tachwedd 2012 i ddechrau ymgynghoriad anffurfiol ar adolygiad o Addysg Gynradd yn ardal Rhuthun. Cytunwyd y byddai adolygiad yr ardal yn canolbwyntio ar yr amcanion canlynol:  sicrhau cynaliadwyedd darpariaeth addysg o ansawdd uchel; gwella ansawdd adeiladau ysgol a chyfleusterau a darparu’r nifer cywir o lefydd, o’r math cywir yn y lleoliad cywir. Adolygodd y Cabinet ganfyddiadau’r ymgynghoriad anffurfiol a gwnaethpwyd chwe argymhelliad a fyddai’n cael effaith ar ddarpariaeth ysgolion yn yr ardal.

 

Yn ei hanfod, roedd y canlyniadau yn gadarnhaol ar gyfer y mwyafrif o bobl, roedd yr ardal wedi elwa o fuddsoddiad sylweddol, ond dysgwyd gwersi yn sgil rhai profiadau hefyd h.y, yr ymgynghoriad ar ddyfodol Ysgol Pentrecelyn ac Ysgol Llanbedr D.C. Ar y cyfan, roedd yr ymgynghoriad yn brofiad buddiol. Roedd plant yn derbyn addysg mewn amgylcheddau da ac roedd cryn dipyn o arian wedi’i fuddsoddi yn ardal Rhuthun. Mae cynnydd wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal hefyd.

 

Roedd y Pennaeth Addysg Dros Dro yn cytuno â’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fod y buddsoddiad a wnaed i ysgolion wedi gwneud y profiad addysg yn llawer haws ac yn llawer mwy cynhyrchiol i athrawon a disgyblion. Nodwyd hefyd bod canlyniad cadarnhaol annisgwyl ac anfwriadol wedi deillio o’r buddsoddiad, sef fod yr adeiladau mawr newydd yn yr ysgolion wedi ei gwneud yn haws i gadw at y rheolau COVID.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r Pwyllgor, yn dilyn ymgyrch llwyddiannus i gadw Ysgol Llanbedr DC ar agor, roedd nifer y disgyblion wedi parhau i gynyddu.

·         Gofynnodd Aelodau a oedd asesiad o effaith dilynol wedi cael ei gynnal ers cau Ysgol Rhewl i weld yr effaith ar y gymuned a'r economi. Dywedodd Swyddogion fod adroddiad gwybodaeth wedi cael ei rannu ar effaith y penderfyniad i gau’r ysgol ar ddisgyblion. Gofynnodd yr aelod lleol i adroddiad gael ei gynhyrchu ar yr effaith ar gymuned ac economi ardal Rhewl.

·         Amlygodd Swyddogion yr effaith ar y Gymraeg yn yr ardal. Roedd cynnydd wedi bod yn nifer y disgyblion sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ac roedd cynnig yr iaith Gymraeg wedi cynyddu.

·         Cadarnhawyd bod yr Adolygiad o Ardal Rhuthun wedi'i ddarparu o fewn y gyllideb, ac er mai prif ffocws Llywodraeth Cymru ar ddechrau'r adolygiad oedd lleihau lleoedd gwag, dros amser, rhoddwyd rhagor o ffocws ar y cynnig addysg i ddisgyblion. Roedd adroddiadau Estyn diweddar ar ysgolion a oedd yn rhan o’r adolygiad o ardal Rhuthun wedi amlygu canlyniadau cadarnhaol i ddisgyblion a oedd yn deillio o’r adolygiad.

·         Nid oedd unrhyw un wedi mynegi pryderon mewn perthynas â diogelwch yn sgil mannau agored mawr gyda staff ysgolion a’r Gwasanaeth Addysg ac ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau negyddol gan Lywodraethwyr Ysgolion mewn perthynas â materion o’r fath. Gellid ystyried yr agwedd o les ymhellach.  Roedd ysgolion yn teimlo’n fwy diogel gan fod angen ffobiau i gael mynediad at yr adeiladau ac yn sgil y ffensys diogelwch o amgylch ysgolion.

·         Roedd gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau darpariaeth mannau awyr agored ymarferol a theg ar gyfer Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos; a 

·         Chadarnhawyd y bydd atebion ynni adnewyddadwy yn cael eu hystyried fel rhan o gynigion Band B Ysgolion yr 21ain ganrif

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, cymerwyd pleidlais: 10 o blaid, 0 yn erbyn, 1 ymatal

 

Penderfynodd y Pwyllgor:

 

ar  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

POLISI BUDDION CYMUNEDOL pdf eicon PDF 219 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr y Canolbwynt Cymunedol (copi ynghlwm) sy’n gofyn am sylwadau a chefnogaeth y Pwyllgor i Bolisi Buddion Cymunedol y Cyngor a’r argymhellion mewn perthynas â’i ddefnydd.

 

10.45am – 11.15am

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws.  Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

Penderfynodd y Pwyllgor: - ar ôl ystyried y polisi -

 

(i)           cefnogi ei nodau a’i amcanion;

(ii)          cadarnhau, fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 2); ac

(iii)         argymell o ran tudalen 4 y polisi, dan yr adran ‘Mentrau Cynaliadwyedd Amgylcheddol’, bod y geiriau “cyfyngu ar lygredd” yn cael eu disodli â “cyfyngu ar lygredd lle bo’n bosibl”.

 

 

Cofnodion:

Roedd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, Julian Thompson-Hill, y Rheolwr Buddion Cymunedol, Karen Bellis a Rheolwr y Fframwaith, Tania Silva yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i'r Pwyllgor ystyried a rhoi sylwadau ar y polisi Buddion Cymunedol arfaethedig a'i aliniad gyda chynlluniau corfforaethol a blaenoriaethau'r Cyngor.

 

Ym mis Mehefin 2019, cymeradwyodd Bwrdd Rhaglen Pobl Ifanc a Thai Cyngor Sir Ddinbych y bwriad i greu Canolbwynt Buddion Cymunedol (Canolbwynt BC), ynghyd â chynnwys buddion cymunedol ym mhob contract perthnasol. Byddai’r Canolbwynt yn darparu cymorth ac yn galluogi Gwasanaethau i gynnwys BC mewn contractau cyn gynted ag sy’n bosibl.

 

Mae proses y gylched gomisiynu yn ganolog i gyflawni gwerth gorau a chanlyniadau ar gyfer gwariant CSDd a disgwylir y bydd defnyddio dull gweithredu BC yn gynnar yn y broses yn cyfrannu at godi gwerth gwariant CSDd. Penodwyd Swyddog Canolbwynt BC ym mis Chwefror 2020 a Rheolwr Canolbwynt BC ym mis Mawrth. Byddai Polisi Buddion Cymunedol CSDd yn cefnogi gwaith a chamau gweithredu’r Canolbwynt BC i gyflawni canlyniadau a thargedau a fwriadwyd.

 

Gwariodd y Cyngor £116 miliwn yn 2017/18 felly gyda dychweliad cymedrol o 1% mewn BC gallai hyn gynhyrchu gwerth £1.16 miliwn o fuddion newydd bob blwyddyn. Byddai’r Polisi hwn yn cefnogi gwaith y Canolbwynt BC a swyddogion y cyngor y mae’n eu cefnogi i gael mynediad at gyllid a buddion tebyg i gryfhau blaenoriaethau ein cynllun corfforaethol a fydd yn helpu ein cymunedau i fod yn fwy annibynnol a chadarn. Mae’r Cyngor yn darparu ei wasanaethau yn uniongyrchol trwy ei weithlu ei hun a thrwy sefydliadau preifat a’r trydydd sector. Mae hefyd yn caffael ystod eang o nwyddau, gwasanaethau a gwaith gan dros 4,500 o gyflenwyr, darparwyr gwasanaeth a chontractwyr.

 

Byddai’r Polisi BC yn darparu fframwaith ar gyfer budd-ddeiliaid mewnol ac allanol i fod yn weithredol mewn ymgysylltiad parhaus sy’n datblygu gan ein galluogi i fonitro a gwerthuso, dysgu gwersi, mesur effaith a dylunio cynlluniau BC sy’n addas i’r diben yn y dyfodol. Byddai’r polisi hefyd yn cefnogi’r Canolbwynt BC i olrhain, monitro ac adrodd am ganlyniadau buddion cymunedol ar draws y cyngor a bod yn fodd o asesu cryfder, bywiogrwydd a pherfformiad Cynllun Corfforaethol 2017-2022. Yn ei dro defnyddir hwn i ffurfio strategaethau ar gyfer gwelliannau a dylanwadu ar benderfyniadau polisi. Byddai hefyd yn darparu cyfleoedd i gynnwys cymunedau lleol yn narpariaeth buddion cymunedol.

 

Roedd y Canolbwynt drwy eu gwaith yn ceisio cynyddu buddion ac effaith pob penderfyniad yn unol â'r dyletswyddau a roddir ar gyrff cyhoeddus gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol drwy sicrhau budd ariannol mewn contractau yn ogystal ag effaith cadarnhaol hirdymor.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai modd i swyddogion y BC gydweithio’n agos gydag aelodau etholedig, nododd swyddogion y byddent yn cysylltu gydag aelodau lleol gan mai nhw sydd yn y lle gorau i ymgysylltu a chyfathrebu â phobl leol ar faterion sydd o ddiddordeb i gymunedau.

·         Gofynnodd aelodau’r Pwyllgor a fyddai modd newid y geiriad o fewn y polisi o ‘gyfyngu ar lygredd’ i ‘atal llygredd'.  Cynghorodd aelodau a swyddogion eraill bod ‘atal llygredd’ neu ddileu llygredd bron yn amhosibl ac awgrymwyd felly y dylid diwygio’r geiriad i ‘gyfyngu ar lygredd lle bo’n bosibl’. Cytunodd y Pwyllgor i’r diwygiad hwn.

 

Cymeradwyodd Pennaeth y Gyfraith, AD a’r Gwasanaethau Democrataidd y gwaith a gwblhawyd gan y Swyddogion i ddatblygu’r Polisi a bwrw ymlaen â’i weithrediad.  Roedd hefyd yn cytuno â barn y swyddogion y byddai diweddariadau rheolaidd ar y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

ARCHIFAU GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU A CHARCHAR RHUTHUN pdf eicon PDF 219 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr Tîm Trawsnewid Busnes (copi ynghlwm) sy’n darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor am y prosiect archifau ac sy’n gofyn am farn yr aelodau am y cynigon ar gyfer defnydd Carchar Rhuthun i'r dyfodol.

 

11.30am – 12pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 6 o blaid, 1 yn erbyn, 0 ymatal.

 

Ar ôl rhoi ystyriaeth i’r adroddiad am Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a Charchar Rhuthun, gwnaeth y Pwyllgor:

 

Benderfynu:

 

(i)           nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma a chefnogi’r cynigion ar gyfer defnyddio Carchar Rhuthun yn y dyfodol;

(ii)          cofnodi pryderon nad oedd unrhyw gynlluniau wrth gefn yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer yr Archifau na’r cynnig treftadaeth yng Ngharchar Rhuthun, pe na bai’r cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am gyllid i ddatblygu Hyb yn yr Wyddgrug ar gyfer Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn llwyddiannus; a

(iii)         bod canlyniadau Ymgynghoriad Mynediad presennol Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael eu dosbarthu i aelodau er gwybodaeth.

 

 

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, Tony Thomas, Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio, Alan Smith, Rheolwr Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth, Huw Rees,  Rheolwr y Tîm Gwybodaeth Busnes, Craig Berry,  yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau'r adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Mae’r cyflwyniad yn dilyn adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Hydref 2019, yn amlinellu cynlluniau ar gyfer Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a’r posibilrwydd o'i symud i'r Wyddgrug erbyn 2025 (yn amodol ar Gyllid Cronfa Treftadaeth y Loteri). Yn ystod y cyfarfod hwn, gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad yn ystod 2020 ar y defnydd o le gwag posibl yng Ngharchar Rhuthun.

 

Sefydlwyd gweithgor yn gynharach yn y flwyddyn i ddatblygu cynlluniau ar gyfer y defnydd hirdymor o Garchar Rhuthun. Roedd y gweithgor yn cynnwys Aelodau Lleol, swyddogion allweddol a chynrychiolydd o Gyngor Tref Rhuthun ac wedi datblygu cynlluniau cyffrous ac arloesol i ymestyn yr atyniad treftadaeth yn y Carchar, fel yr amlinellir yn yr adroddiad. Roedd y Gwasanaeth Gwella Busnes a Moderneiddio wedi clustnodi £65,000 o arian wrth gefn er mwyn hwyluso’r gwaith ymestyn.

 

Roedd y cynlluniau ar gyfer y Carchar yn unol â’r gyllideb a ddyrannwyd, sef £65,000, byddai’r gyllideb yn cael ei defnyddio p’un a fyddai’r Gwasanaeth Archifau yn symud neu beidio. Byddai’r estyniad arfaethedig i’r Gwasanaeth Treftadaeth ar y safle yn ymgorffori’r adeilad sy'n wag ar hyn o bryd ar 46 Stryd Clwyd. Roedd ystod o ffrydiau cyllido allanol yn cael eu harchwilio gyda'r bwriad o ddarparu'r prosiect cyfan.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Gofynnodd y pwyllgor pam fod yr eitem yn cael ei thrafod cyn cwblhau’r ymgynghoriad cyhoeddus. Cadarnhaodd swyddogion fod angen ymgysylltu â'r cyhoedd ar gyfer cam nesaf y cynnig am gyllid Cronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer Canolfan y Gwasanaethau Archifau. Byddai’r ymgynghoriad yn cael ei hysbysebu drwy’r cyfryngau cymdeithasol i sicrhau ymgysylltiad helaeth â’r cyhoedd.

·         Byddai presenoldeb Archifol yn y Carchar p’un a fyddai’r Gwasanaeth Archifau’n ail-leoli neu beidio. Byddai cofnodion ar gael ar-lein neu byddai modd cael mynediad atynt yn ddigidol mewn llyfrgelloedd lleol. Byddai presenoldeb corfforol ar y safle un neu ddau ddiwrnod yr wythnos yn ogystal. Roedd angen cadarnhau’r manylion.

·         Roedd y bartneriaeth rhwng Gwasanaethau Archifau Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint yn anffurfiol ar hyn o bryd, a gallai unrhyw Gyngor adael y cytundeb ar unrhyw bryd. Fodd bynnag, roedd y bartneriaeth yn gweithio'n dda ar hyn o bryd.

·         Roedd y cynigion ar gyfer y Carchar yn ddibynnol ar y Gwasanaeth Archifau yn gadael y safle. Fodd bynnag, roedd y Cyngor yn gweithio ar weledigaeth ehangach ar gyfer y cyfleuster.

·         Nodwyd y gwahaniaeth rhwng bolisïau iaith Gymraeg CSDd a CSyFf, ac roedd aelodau yn gofyn am sicrwydd o ran pa bolisi fyddai’n cael ei fabwysiadu pe bai Canolfan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael ei hadeiladu. Cynghorwyd y pwyllgor y byddai'n rhaid pennu'r polisi iaith fel rhan o'r broses o benodi 'partner arweiniol’ os, a phan fydd y cynnig am gyllid Cronfa Treftadaeth y Loteri yn llwyddiannus.

 

Cymerwyd pleidlais ar yr argymhelliad: 6 o blaid, 1 yn erbyn, 0 ymatal.

 

Ar ôl rhoi ystyriaeth i’r adroddiad am Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a Charchar Rhuthun:

 

Penderfynwyd:

 

(i)  nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma a chefnogi’r cynigion ar gyfer defnyddio Carchar Rhuthun yn y dyfodol;

(ii)  cofnodi pryderon nad oedd unrhyw gynlluniau wrth gefn yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer y Gwasanaeth Archifau na’r cynnig treftadaeth yng Ngharchar Rhuthun, pe na bai’r cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am gyllid i ddatblygu Canolfan yn yr Wyddgrug ar gyfer Archifau Gogledd Ddwyrain  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu  (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

 

12pm – 12.20pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws.  Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

 

Penderfynwyd:  ar ôl rhoi ystyriaeth i’r wybodaeth a ddarparwyd, ac yn amodol ar yr arsylwadau a’r awgrymiadau uchod -

 

(i)           cymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor; a

(ii)          bod cyfarfod ychwanegol yn cael ei drefnu ar gyfer dechrau mis Chwefror 2021 i ystyried materion sy’n ymwneud â Phrosiect Ailfodelu’r Gwasanaeth Gwastraff

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu'r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol. 

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol –

·         Roedd Cyfrifoldebau Rheoli Llifogydd yng Nghyfoeth Naturiol Cymru Sir Ddinbych wedi cadarnhau eu hargaeledd i fynychu'r cyfarfod ym mis Rhagfyr, nid oes ymateb wedi ei dderbyn hyd yn hyn gan Dŵr Cymru o ran a oeddent yn gallu mynychu neu beidio.

·         Roedd Rhaglen Adfywio’r Rhyl a Pholisi Codi Tâl Meysydd Parcio a Chynlluniau Parcio i Breswylwyr wedi’u trefnu ar gyfer cyfarfod Ionawr 2021, gydag adroddiad ar y Siarter Cydymffurfedd Cynllunio wedi'i drefnu ar gyfer mis Mai yn dilyn cyfarfod diweddar y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu.

·         Roedd cais wedi’i wneud gan y Bwrdd Ailfodelu Gwastraff i gyflwyno adroddiad cynnydd i’r Pwyllgor yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Penderfynwyd trefnu cyfarfod ychwanegol yn gynnar ym mis Chwefror 2021 i drafod yr eitem.

 

Atgoffodd y Cydlynydd Craffu aelodau am y ffurflen cynnig craffu

 (Atodiad 2) a dywedodd y dylid anfon unrhyw gynigion yn uniongyrchol ati hi fel eu bod yn cael eu hystyried gan y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu i’w cynnwys ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol.

 

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws.  Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

Penderfynwyd:  ar ôl rhoi ystyriaeth i’r wybodaeth a ddarparwyd, ac yn amodol ar yr arsylwadau a’r awgrymiadau uchod -

 

(i)           cymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor; a

(ii)  bod cyfarfod ychwanegol yn cael ei drefnu ar gyfer dechrau mis Chwefror 2021 i ystyried materion sy’n ymwneud â Phrosiect Ailfodelu’r Gwasanaeth Gwastraff

 

 

9.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

12.20pm – 12.30pm

 

Penderfyniad:

Ni chafwyd adborth.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd adborth.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1:17pm.