Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes
Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu

mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Penderfyniad:

Cafodd y cysylltiadau canlynol eu datgan – roedd y cyfan yn gysylltiadau personol:

 

Y Cynghorydd Huw O Williams – mae ei fab yn ddisgybl yn un o ysgolion y sir

Y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Cefn Meiriadog

Y Cynghorydd Cheryl Williams – mae hi’n llywodraethwr yn Ysgol Crist y Gair

Y Cynghorydd Tina Jones – llywodraethwr yn Ysgol Melyd

Y Cynghorydd Andrew Thomas – llywodraethwr yn un o ysgolion y sir

Y Cynghorydd Merfyn Parry - llywodraethwr yn Ysgol Bryn Clwyd ac Ysgol Gellifor

Y Cynghorydd Graham Timms – llywodraethwr yn un o ysgolion y sir

Y Cynghorydd Emrys Wynne – llywodraethwr yn Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Borthyn

Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts - rhiant-lywodraethwr yn un o ysgolion y sir

 

 

Cofnodion:

Datganwyd y cysylltiadau canlynol – roedd pob un yn gysylltiad personol:

 

Cynghorydd Huw O Williams – mae ei fab yn ddisgybl yn un o ysgolion y sir

Cynghorydd Meirick Lloyd Davies – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Cefn Meiriadog

Cynghorydd Cheryl Williams – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Crist y Gair

Cynghorydd Tina Jones – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Ysgol Melyd

Cynghorydd Andrew Thomas – mae’n llywodraethwr yn un o ysgolion y sir

Cynghorydd Merfyn Parry – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Bryn Clwyd ac Ysgol Gellifor

Cynghorydd Graham Timms – mae’n llywodraethwr yn un o ysgolion y sir

Cynghorydd Emrys Wynne – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Borthyn

Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts – mae’n rhiant lywodraethwr yn un o ysgolion y sir.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod

fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw eitemau brys.

 

Cofnodion:

Dim eitemau brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 474 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2020 (copi ynghlwm).

 

Penderfyniad:

Roedd yna gonsensws i gytuno ar yr argymhelliad.  Ni chafwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y cywiriadau uchod y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2020 fel cofnod cywir a gwir.

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2020.

 

Cywirdeb

Tudalen 6, Datgan Cysylltiad - Dywedodd y Cynghorydd  Meirick Lloyd-Davies ei fod wedi datgan cysylltiad personol fel Llywodraethwr Ysgol Cefn Meiriadog ac fel aelod o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru nid Bwrdd.

 

Roedd yna gonsensws i gytuno ar yr argymhelliad.  Ni chafwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y cywiriadau uchod, y dylid derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2020 a'u cymeradwyo fel cofnod cywir a dilys

 

 

5.

CYNLLUN ADFER AR GYFER YSGOLION pdf eicon PDF 334 KB

Ystyried adroddiad (copi’n amgaeedig) gan Bennaeth Dros Dro Addysg, ar y cynnydd a wnaed i alluogi ysgolion i agor yn ddiogel i bob disgybl ym mis Medi ac i archwilio'r Cynlluniau Adfer ar ôl COVID ar gyfer ysgolion.

 

10:05 – 10:40

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Roedd yna gonsensws i gytuno ar yr argymhelliad.  Ni chafwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod:

 

(i)           cefnogi’r hyn oedd wedi digwydd hyd yn hyn i alluogi ysgolion i agor yn ddiogel ar gyfer pob disgybl ym mis Medi 2020, a chefnogi’r Cynlluniau Adfer ar gyfer Ysgolion ar ôl Covid sy’n esblygu; a

(ii)          ac estyn diolch diffuant y Pwyllgor i holl staff yr adran Addysg a gwasanaethau eraill y Cyngor am eu holl waith caled ac ymdrechion yn ystod y cyfnod clo ac wrth gynllunio a hwyluso ailagor ysgolion y Sir

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) gan yr Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd a ddechreuodd drwy ddiolch i holl staff Gwasanaethau Addysg Cyngor Sir Ddinbych – gan gynnwys y Pennaeth Gwasanaeth sy'n gadael, penaethiaid ysgolion, rhieni a phlant am eu gwaith caled a'u hymrwymiad yn ystod cyfnod heriol y cyfyngiadau.

 

Cyn dechrau gwyliau'r haf, cafodd y dysgwyr gyfle i fynychu sesiynau cadw mewn cysylltiad, dal i fyny a pharatoi ar gyfer y tymor newydd. Ar gyfartaledd, manteisiodd cyfradd o 50%, er, mewn rhai ysgolion roedd hyd at 85% - 90% yn bresennol.

 

Roedd y Rhanbarth, yr awdurdod lleol (ALl) ac ysgolion wedi bod yn paratoi ar gyfer pedair sefyllfa bosibl ar ddechrau tymor newydd yr ysgol ond fe'u synnwyd pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru'r canlyniad yr oeddent yn ei ddisgwyl leiaf - 100% o ddisgyblion yn dychwelyd i'r ysgol - yr wythnos cyn i ysgolion gau ar gyfer gwyliau'r haf. Hefyd gwnaed cyhoeddiad pellach (ond heb ganllawiau) ynghylch defnyddio gorchuddion wyneb gan Lywodraeth Cymru yr wythnos ddiwethaf. Mewn ymateb, cynhaliwyd cyfarfod gyda'r holl Benaethiaid a oedd wedi cytuno y byddai'n ofynnol i blant ysgolion uwchradd wisgo gorchuddion wyneb wrth symud rhwng dosbarthiadau yn y coridorau.

 

Cydnabu'r Pennaeth Addysg Dros Dro rôl gwahanol adrannau eraill drwy’r Awdurdod a oedd wedi bod yn rhan o'r gwaith o helpu'r Gwasanaeth Addysg i ymateb i'w heriau. Rhoddodd sicrwydd fod ysgolion yn barod i dderbyn y plant, roedd disgwyl i bob un ohonynt fod wedi dychwelyd erbyn 14 Medi.  Roedd asesiadau risg manwl yn cynnwys arlwyo, glanhau, trafnidiaeth, Adnoddau Dynol ac ati wedi'u cynnal i sicrhau lles 16,000 o fyfyrwyr Sir Ddinbych.

 

Mewn ymateb i gwestiynau cafodd y Pwyllgor:

·         ei sicrhau bod cefnogaeth a chapasiti yn eu lle ar gyfer Gwasanaethau Addysg a Phlant yn dilyn symudiad diweddar y Pennaeth Gwasanaeth blaenorol i Awdurdod arall;

·         dywedwyd bod y penodiadau dros dro ar gyfer Penaethiaid Addysg a Gwasanaethau Plant wedi'u gwneud am gyfnod o 12 mis (wedi cychwyn ym Mehefin 2020) gyda'r disgwyliad o benderfyniad parhaol ynghylch strwythur y Gwasanaeth ym mis Rhagfyr;

·         cafwyd sicrwydd bod y newidiadau a wnaed i'r Polisi Dyrannu Tai a’r Rheoliadau Digartrefedd gan Lywodraeth Cymru (LlC) mewn ymateb i Covid-19 yn dal ar waith a bod trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â nhw.

·         cadarnhawyd y byddai canllawiau Llywodraeth Cymru a phrotocol gweithredu dilynol yn cael eu dilyn pe bai unrhyw blant yn arddangos symptomau tra eu bod yn yr ysgol;

·         dywedwyd nad oedd unrhyw gynlluniau i brofi plant asymptomatig – penderfyniad i Iechyd Cyhoeddus Cymru oedd hynny yn hytrach nag Awdurdodau Lleol;

·         dywedwyd na fyddai hysbysiadau cosb benodedig am ddiffyg presenoldeb yn cael eu cyflwyno ar hyn o bryd ac na fyddai data presenoldeb a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio yn y flwyddyn academaidd bresennol neu flaenorol;

·         cafwyd sicrwydd bod y broses amddiffyn plant wedi parhau yn ystod y cyfyngiadau a bod cyswllt wedi'i wneud drwy gydol y cyfnod gyda'r holl blant bregus y gwyddys amdanynt.  Rhagwelwyd y byddai nifer yr atgyfeiriadau plant yn cynyddu ar ôl i'r ysgolion ailagor yn llawn;

·         dywedwyd bod costau ychwanegol ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) ac ati yn cael eu talu ar hyn o bryd drwy gyllideb yr ysgol ond bod grantiau Covid-19 yn cael eu defnyddio;

·         cydnabuwyd bod trefniadau cludiant i'r ysgol yn anodd o ystyried y capasiti is ar gyfer cadw pellter cymdeithasol; a

·         phwysleisiwyd bod canllawiau COVID-19 Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag Ysgolion ac arferion gweithredu gwasanaethau cymorth cysylltiedig yn newid yn rheolaidd.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, diolchodd y Cadeirydd unwaith eto i'r Aelod Arweiniol ar gyfer  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CYNLLUN ADFER AR GYFER ADEILADAU'R CYNGOR pdf eicon PDF 319 KB

Ystyried adroddiad (copi’n amgaeedig) gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo ar gynnydd thema adfer Isadeiledd – Adeiladau’r Cyngor.

 

10:40 – 11:15

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Roedd yna gonsensws i gytuno ar yr argymhelliad.  Ni chafwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod:

 

(i)           i gefnogi’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn i baratoi adeiladau’r Cyngor i ailagor, digomisiynu unrhyw ddefnyddiau dros dro, a hwyluso a delio â gwaith cynnal a chadw sydd wedi bod yn pentyrru;

(ii)          estyn diolch diffuant y Cyngor i’r holl staff am eu gwaith caled a’u hymdrechion yn sicrhau diogelwch adeiladau’r Cyngor yn ystod y pandemig a pharatoi i ailagor yn ddiogel; a

(iii)        gofyn am adroddiad dilynol gerbron y Pwyllgor mewn chwe mis ar y cynnydd a wnaed o ran adfer ar gyfer adeiladau’r Cyngor ar ôl Covid-19

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn amlinellu cynnydd ar adeiladau'r Cyngor lle gellir lleoli staff swyddfa:

 

·         Paratoi adeiladau ar gyfer ailagor

·         Datgomisiynu unrhyw ddefnydd dros dro o adeiladau a

·         Chynnal a chadw eiddo

 

Paratowyd y ddogfen gan dîm amlddisgyblaethol yn cynnwys pob agwedd yn ymwneud â threfniadau gweithio (cadw pellter cymdeithasol) ac Iechyd, Diogelwch a Lles yn y gweithle yr oedd atodiadau 1 a 2 yn cyfeirio atynt. Roedd pob Gwasanaeth yn gyfrifol am gynnal asesiadau risg yn eu meysydd eu hunain.

 

O ran strwythurau adeiladu gohiriwyd nifer o waith cydymffurfio yn ystod cyfnod y cyfyngiadau:

     I.        Asbestos – yn ffodus, roedd gwaith wedi’i gwblhau cyn y cyfyngiadau’n golygu bod y rhaglen waith yn dal yn unol â’r targed.

    II.        Roedd nifer fach o Asesiadau Risg Tân ar ôl i’w gwneud ond byddent yn cael eu cwblhau wrth symud ymlaen ac

  III.        Roedd gwaith arferol i wasanaethu nwy ac ati wedi bod yn digwydd ac nid oedd unrhyw broblem.

 

Roedd rhestr gyflawn o statws eiddo. Statws – Coch (wedi cau), Ambr (rhannol agored, llai o oriau) a Gwyrdd (cwbl agored) – yn adlewyrchu’n briodol sefyllfa'r cyfnod adfer.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau fod a wnelo’r adroddiad â pharatoi adeiladau a phrosesau ar gyfer dychwelyd i'r gwaith yn y swyddfa – nid gweithio ystwyth a fyddai'n rhan o thema adfer arall. Ers paratoi'r adroddiad, roedd yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth wedi cytuno i ddefnyddio gorchuddion wyneb ar gyfer staff lle'r oedd asesiad risg yn barnu bod hynny'n angenrheidiol. Roedd yr undebau’n cynnal ymgynghoriad ynglŷn â hyn ar hyn o bryd.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd unrhyw adeiladau wedi'u datgomisiynu o ganlyniad i newid patrymau gwaith yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.

 

Roedd yna gonsensws i gytuno ar yr argymhelliad.  Ni chafwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod:

 

(i)           cefnogi'r cynnydd a wnaed hyd yma i baratoi adeiladau'r Cyngor ar gyfer ailagor, datgomisiynu unrhyw ddefnyddiau dros dro, a hwyluso a delio â gwaith cynnal a chadw sy’n dal angen ei wneud;

(ii)          estyn diolch diffuant y Pwyllgor i'r holl staff am eu holl waith caled a'u hymdrechion i sicrhau diogelwch adeiladau'r Cyngor yn ystod y pandemig a pharatoi ar gyfer eu hail-agor yn ddiogel; a

(iii)        gofyn am adroddiad dilynol gerbron y Pwyllgor mewn chwe mis ar y cynnydd a wnaed o ran adfer ar gyfer adeiladau’r Cyngor ar ôl COVID-19

 

 

7.

CYNLLUN ADFER AR GYFER PRIFFYRDD A'R PARTH CYHOEDDUS pdf eicon PDF 295 KB

Ystyried adroddiad (copi’n amgaeedig) gan Bennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol, yn nodi manylion y cynllun adfer ar gyfer priffyrdd a’r parth cyhoeddus o ganlyniad i effaith Covid-19.

 

11:30 – 12:05

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Roedd yna gonsensws i gytuno ar yr argymhelliad.  Ni chafwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod:

 

(i)           cefnogi’r cynllun adfer, fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad;

(ii)          estyn diolch diffuant y Pwyllgor i holl staff Priffyrdd a Pharth Cyhoeddus am eu holl waith caled ac ymdrechion yn cyflwyno gwasanaethau hyd orau eu gallu yn ystod cyfyngiadau’r cyfnod clod, ac am eu gwaith yn paratoi a chynllunio adferiad y Gwasanaethau o ymateb i’r pandemig i ddarparu busnes o ddydd i ddydd ac amcanion adferiad y Gwasanaeth; a

(iii)        gofyn bod y Gweithdy Aelodau ar God Ymarfer Priffyrdd a materion sy’n gysylltiedig â’r Gwasanaeth y bu’n rhaid ei ganslo oherwydd y pandemig yn cael ei ail-drefnu ac yn cael ei gynnal trwy gyfrwng fideo gynhadledd cyn gynted â phosibl

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Gwastraff, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn esbonio'r dull dau gam o wella fel:

 

1.    Tymor byr – ailddechrau gweithgareddau cynnal a chadw priffyrdd arferol a

2.    Model cynaliadwy – cynllun cynnal a chadw tymor hir sy'n cynnwys strwythurau'r adran yn y dyfodol a thechnoleg newydd ar gyfer mwy o effeithlonrwydd.

 

Cydnabu Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol nad oedd yr adroddiad yn rhoi darlun arbennig o gadarnhaol ond bod angen bod yn agored ac yn onest am yr heriau yr oedd y Gwasanaeth yn eu hwynebu. Digwyddodd y 7 mis o darfu ar gynnal a chadw priffyrdd ar yr union adeg y byddai'r rhan fwyaf o'r gwaith cynnal a chadw ar gyfer y flwyddyn wedi'i wneud. Roedd colli'r cylch cynnal a chadw priffyrdd blynyddol cyfan yn golygu bod ffyrdd yr oedd angen gwneud gwaith iddynt o'r blaen wedi dirywio mwy ac y byddent yn costio llawer mwy i'w codi i safon dderbyniol eto. Roedd gwaith priffyrdd wedi ailddechrau fel mater o frys er mwyn cyflawni cymaint â phosibl cyn dechrau'r gaeaf gyda'i risgiau cynhenid - graeanu'r gaeaf ac ail don bosibl o Covid-19. Roedd cynlluniau wrth gefn yn cael eu datblygu i reoli'r risg honno.

 

Mewn ymateb i aelodau'r Pwyllgor, tynnwyd sylw gan Bennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheolwr Risg ac Asedau:

 

·         at yr anhawster o sicrhau contractwyr i wneud gwaith trin wyneb y ffyrdd pan oedd cyn lleied ohonynt a galw mawr amdanynt drwy’r holl wlad;

·         dywedodd fod contractwyr ar y cyfan yn haws cael gafael arnynt pan oedd gwaith ar raddfa fwy ar gael, oedd yn golygu bod rhaglen gymharol fach Sir Ddinbych o dan anfantais;

·         tynnodd sylw at y ffaith bod yr arolygon sgorio cyflwr ffyrdd lleol a gynhelir ddwywaith y flwyddyn fel arfer wedi'u gohirio yn ystod y 6 mis diwethaf, oherwydd Covid-19. Fodd bynnag, roedd yr arolwg ffyrdd ar gyfer y Dangosyddion Perfformiad Allweddol cenedlaethol wedi'i gwblhau ar 6 Awst. Disgwylir y canlyniadau yn ôl Gwanwyn 2021;

·         cytunwyd i ystyried ailgynnull gweithdy'r aelodau (yn rhithiol) ar y Cod Ymarfer Priffyrdd a'r Strategaeth Cynnal a Chadw a gynlluniwyd cyn cyfnod y cyfyngiadau;

·         cydnabu’r capasiti cyfyngedig yn sgil cydbwyso adnoddau ar gyfer gwaith cynnal a chadw gylïau a ffosydd. Am y rheswm hwnnw, cedwir rhywfaint o gapasiti ar gyfer gwaith yn ôl yr angen, er bod llawer o'r gwaith hwnnw wedi'i drefnu;

·         cadarnhawyd y cysylltwyd â pherchnogion tir ynglŷn â chyflwr eu gwrychoedd ar ochr y ffordd a'u bod wedi cyflwyno rhybudd i'w torri'n ôl, lle bo angen; a

·         dywedodd mai anaml yr oedd Dŵr Cymru neu Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am ddŵr wyneb y ffordd ond, pan oedd yn gyfrifol, fod yr Awdurdod wedi gweithio gyda nhw i'w ddatrys;

 

Roedd yna gonsensws i gytuno ar yr argymhelliad yn yr adroddiad.  Ni chafwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod:

 

(i)        cefnogi’r cynllun adfer, fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad;

(ii)       estyn diolch diffuant y Pwyllgor i holl staff Priffyrdd a Pharth Cyhoeddus am eu holl waith caled ac ymdrechion yn cyflwyno gwasanaethau hyd orau eu gallu yn ystod cyfyngiadau’r cyfnod clod, ac am eu gwaith yn paratoi a chynllunio adferiad y Gwasanaethau o ymateb i’r pandemig i ddarparu busnes o ddydd i ddydd ac amcanion adferiad y Gwasanaeth; a

(iii)      gofyn bod y Gweithdy Aelodau ar God Ymarfer Priffyrdd a materion  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 241 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Roedd yna gonsensws i gytuno ar yr argymhelliad.  Ni chafwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

Penderfynwyd: - Cymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor yn amodol ar yr argymhellion a wnaed yn ystod trafodaethau ar faterion agenda cynharach a chynnwys yr eitemau a awgrymwyd yn ystod y drafodaeth uchod.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn  gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor gyda’r bwriad i ganolbwyntio ar y cyfnod adfer o bandemig Covid-19 ac aildrefnu pynciau a restrwyd yn flaenorol ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor eu bod wedi cyfarfod ddiwethaf ym mis Mawrth, ond bod y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi cyfarfod yn y cyfamser ac wedi cytuno i glirio holl raglenni gwaith cychwynnol y Pwyllgorau Craffu pan oedd cyfarfodydd yn ailgynnull, gan ohirio pob pwnc yn y rhaglen bresennol, er mwyn canolbwyntio ar themâu adfer Covid-19.

 

Yn ogystal â hyn, roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi trefnu cyfarfod ychwanegol ar 12 Hydref 2020 (ar ôl i'r holl Bwyllgorau Craffu gyfarfod), pan fyddent mewn gwell sefyllfa i ddewis yr eitemau a oedd yn weddill (atodiad 1b) i'r cynlluniau gwaith i’r dyfodol, gan gofio y gallai rhai adroddiadau gael eu gohirio oherwydd blaenoriaethau oedd yn gwrthdaro gan adrannau wrth ailddechrau'r gwasanaeth arferol.

 

Roedd yr adroddiadau a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer Gorffennaf/Medi 2020 bellach ar gael:

·         Polisi Buddion Cymunedol

·         Gofal Plant Am Ddim Llywodraeth Cymru

·         Dyrannu Cyllid Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif.

·         Effaith Adolygiad Ardal Addysg Gynradd Rhuthun (adroddiad dilynol)

·         Cynigion ar gyfer y Dyfodol ar gyfer Carchar Rhuthun.

 

Neilltuwyd cyfarfod mis Hydref yn wreiddiol i ddelio â materion llifogydd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru. Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn brysur yn ymateb i effaith Covid-19 ac nid oedd yn gallu datblygu rhywfaint o'i waith modelu ac ni fyddai mewn sefyllfa i gyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor cyn y cyfarfod ar 10 Rhagfyr.

 

Cynigiwyd y dylid ychwanegu'r adroddiadau canlynol at yr agenda ar gyfer cyfarfod mis Hydref

 

·         Cynigion ar gyfer y Dyfodol ar gyfer Carchar Rhuthun.

·         Polisi Buddion Cymunedol

·         Effaith Adolygiad Ardal Addysg Gynradd Rhuthun (adroddiad dilynol) a

·         Dyrannu Cyllid Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Roedd Atodiad 4 yn adrodd ar gynnydd a wnaed ar argymhellion y cyfarfod diwethaf ym mis Mawrth. Roedd swydd Swyddog Rhostir wrthi'n cael ei llenwi. Gofynnodd yr Aelodau a oedd yr Awdurdod Tân ac Achub wedi ailystyried eu penderfyniad i wrthod cyfrannu at gyllido’r swydd.  Dywedodd y Cydlynydd Craffu nad oedd yr Awdurdod Tân ac Achub wedi cyfarfod ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor, ond cytunodd i fynd ar drywydd y mater gyda nhw.

 

Roedd yna gonsensws i gytuno ar yr argymhelliad yn yr adroddiad.  Ni chafwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

Penderfynwyd: - Cymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor yn amodol ar yr argymhellion a wnaed yn ystod trafodaethau ar faterion agenda cynharach a chynnwys yr eitemau a awgrymwyd yn ystod y drafodaeth uchod