Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT SYLW |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Rachel Flynn
and Cheryl Williams. Cafwyd ymddiheuriad hefyd gan yr Aelod Cyfetholedig Kathleen Jones. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Tina Jones gysylltiad
personol a allai fod yn niweidiol yn eitem 5 ar y rhaglen - Addysg Gynnar a
Chomisiynu Gofal Plant Dechrau’n Deg gan ei bod yn berchennog meithrinfa gofal
plant ac yn ymddiriedolwr Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru. Datganodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts
gysylltiad personol yn eitem 5 - Addysg Gynnar a Chomisiynu Gofal Plant
Dechrau’n Deg oherwydd bod ei blentyn yn mynychu darpariaeth mewn ysgol yn Sir
Ddinbych. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y
Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran
100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
Derbyn - (a) Cofnodion
cyfarfod arbennig y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2018
(copi wedi'i amgáu), a (b) cofnodion y
Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2018 (copi wedi’i amgáu). 10.05 a.m. – 10.15 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2018
a 25 Hydref 2018. 11 Hydref 2018 - Materion yn Codi - Tudalen 12, Eitem 3 Adolygiad o benderfyniad y Cabinet yn ymwneud â darpariaeth
safle Sipsiwn a Theithwyr – Cadarnhaodd y Cynghorydd Timms ei fod wedi mynychu
cyfarfod o'r Cabinet i roi ger eu bron benderfyniadau'r Pwyllgor Craffu
Cymunedau a wnaed yn eu cyfarfod ar 11 Hydref. 25 Hydref 2018 - Cywirdeb – Tudalen 15 a
thudalen 17, Rhif Eitem. 5
cynnig dyluniad gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu newydd – awgrymodd aelod
derminoleg arall yn y Gymraeg am nifer o’r termau a ddefnyddiwyd yn fersiwn
Cymraeg y cofnodion. Materion yn Codi - Tudalen 19, Eitem 5 - Dyluniad arfaethedig y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu newydd –
cyfeiriodd y Cydlynydd Craffu’r aelodau at yr adroddiad gwybodaeth ar gyfer
adborth a gafwyd gan y Gwasanaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd. Tudalen 22 - Eitem Rhif 6 – Adroddiad ar Gynnydd
Twristiaeth – cafodd yr aelodau ystadegau yn yr adroddiad yn rhoi diweddariad
ar nifer yr ymwelwyr â Chanolfannau Croeso'r Cyngor. PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 11 Hydref a
25 Hydref 2018 fel cofnod cywir. Gadawodd y Cynghorydd Tina Jones y cyfarfod cyn i'r drafodaeth ar yr eitem
nesaf o fusnes gychwyn. |
|
COMISIYNU GOFAL PLANT ADDYSG GYNNAR A DECHRAU’N DEG PDF 249 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Strategaeth a Datblygu (copi wedi’i amgáu) er mwyn
ceisio barn y Pwyllgor Craffu ar y penderfyniad dros ail gomisiynu elfennau
gofal plant y Cynllun Addysg Gynnar a Dechrau’n Deg trwy brosesau ffurfiol
paralel. 10.15 a.m. – 11.00 a.m. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Datblygu a Strategaeth yr adroddiad (a rannwyd eisoes) a oedd yn
cyflwyno trosolwg o’r broses arfaethedig ar gyfer comisiynu elfennau gofal
plant rhaglenni Addysg Gynnar a Dechrau’n Deg i Aelodau. Yn ystod y cyflwyniad,
pwysleisiodd y swyddog bod y rhaglenni hyn wedi cael llwyddiant blaenorol ac yn
cael eu gwerthfawrogi’n eang gan deuluoedd, ysgolion a budd-ddeiliaid eraill.
Esboniodd, fel rhan o waith y Cyngor i drechu tlodi, cafodd y rhaglenni
hyn eu hadolygu gyda’r bwriad o gael yr effaith mwyaf posib i leihau tlodi ac
amddifadedd yn Sir Ddinbych. Fel rhan o’r
cynnig gofal plant i’w gyflwyno ym mis Ionawr 2019, mae Addysg Blynyddoedd
Gynnar yn darparu 10 awr o’r cynnig 30 awr. Mae’r
ddarpariaeth hon y rhan o gwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant rhwng 3 a 7
mlwydd oed yng Nghymru. Mae’n
rhwymedigaeth statudol i’r ALl gynnig y ddarpariaeth ond nid yw’n ofynnol i
rieni a gofalwyr ddefnyddio’r cynnig. Mae Llywodraeth Cymru (LlC) yn noddi 10 awr o addysg yr wythnos i bob
plentyn i hyd at ddau dymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed. Gall
y cynnig hwn o addysg ei ddarparu mewn amryw leoliad gofal plant h.y. ysgol, cylch chwarae neu feithrinfa ddydd preifat. I
fod yn gymwys i wneud cais ar gyfer y nawdd, roedd yn ofynnol bod y lleoliad
gofal plant yn cydymffurfio gyda’r Fframwaith Cyfnod Sylfaen, gan ddarparu’r
amgylchedd priodol a hyfforddi staff i gyflwyno’r fframwaith. Mae pob plentyn yn y sir wedi gallu cael
mynediad at Addysg y Blynyddoedd Cynnar ers cyflwyniad y fframwaith Cyfnod
Sylfaen yn 2009. Mae’r cynnig gofal plant yn anelu i wella cefnogaeth i rieni
sy’n gweithio a darparu’r ddarpariaeth gofal plant am 20 awr ychwanegol am ddim
(yn amodol ar y cap enillion). Roedd prosiect Dechrau’n Deg,
ar y llaw arall, yn rhaglen a noddwyd gan LlC yn benodol ar gyfer plant dan 4
oed ac yn byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae hyn yn cynnwys Sir Ddinbych, ac mae ardaloedd
y Rhyl, Prestatyn a Dinbych yn rhan ohono. Yn Sir Ddinbych roedd Rhaglen Dechrau’n Deg yn
ffurfio rhan o’r gwasanaethau Cymorth Cynnar a’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf.
Yn ogystal â gofal plant, mae Dechrau’n Deg yn darparu rhaglenni rhianta,
cymorth gydag iaith a lleferydd â gwasanaeth ymwelydd uwch. Roedd
y rhaglen Dechrau’n Deg yn noddi dwy awr a hanner o ofal plant y dydd, 5
diwrnod yr wythnos am 39 wythnos yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn 2 oed, nes y
tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed. Roedd lleoliadau Gofal Plant sy’n gymwys i dderbyn
y nawdd yn cael cymorth Athro Ymgynghorol a Chynorthwywyr Addysgu Dechrau’n
Deg. O ystyried y trefniadau presennol, Canllaw LlC a’i Blaenoriaethau
Corfforaethol ei hun, roedd y Cyngor wedi adolygu eu mecanweithiau noddi ar
gyfer gwasanaethau Addysg y Blynyddoedd Cynnar a dechrau’n Deg. O ganlyniad, roeddent yn cynnig ail gomisiynu’r
ddarpariaeth addysg blynyddoedd cynnar a’r rhaglen Dechrau’n Deg ar y sail o
sicrhau: ·
gwasanaethau gofal o
ansawdd da i blant ·
dewis i rieni a theuluoedd ·
mynediad agored a theg i
gyllid a ·
gwerth am arian Cytunwyd ar ddull ar y cyd rhwng Dechrau’n Deg
ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar, a fyddai’n arwain at ail gomisiynu’r
gwasanaethau gofal plant drwy ddwy broses ar wahân ond paralel, gyda phob
gwasanaeth yn cael eu hail gomisiynu yn ystod 2019. Byddai cytundebau newydd ar
waith erbyn mis Medi 2019, i gyd-fynd gyda’r flwyddyn ysgol a lleihau amhariad
posib i blant. Mewn ymateb i gwestiynau aelodau i’r Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, ymatebodd y Swyddog Datblygu a Strategol, y Rheolwr Perfformiad a Busnes ac ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ar y pwynt hwn (11.15 a.m.) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth. Bu i’r cyfarfod ailymgynnull am 11:30 am. Ail ymunodd y Cynghorydd Tina
Jones gyda'r cyfarfod ar y pwynt hwn. |
|
PERFFORMIAD AC EFFEITHIOLRWYDD CYDYMFFURFEDD CYNLLUNIO PDF 373 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Datblygu a’r Swyddog Cynllunio (copi wedi’i amgáu),
sydd yn darparu gwybodaeth am effeithiolrwydd a pherfformiad y swyddogaeth
cydymffurfedd cynllunio. 11.15 a.m. – 12.00 p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a'r Amgylchedd yr adroddiad
a'r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) oedd yn rhoi trosolwg i'r Pwyllgor o
effeithiolrwydd a pherfformiad swyddogaeth cydymffurfedd cynllunio’r Cyngor. Yn ei gyflwyniad, fe bwysleisiodd mai pwrpas y
gyfundrefn gynllunio oedd rheoleiddio datblygiad a defnyddio’r tir er budd y
cyhoedd. Felly roedd
hi’n bwysig bod gan awdurdodau cynllunio lleol swyddogaeth cydymffurfedd
effeithiol oedd yn gallu ymchwilio’n amserol i honiadau honedig o dorri
rheolau, a defnyddio polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol i unioni
effeithiau niweidiol datblygiadau anawdurdodedig. Er mwyn i’r gwasanaeth cydymffurfedd wella’n barhaol a pherfformio’n well,
byddai angen i arferion gweithio gael eu mireinio a byddai angen cryfhau
cydweithio gyda budd-ddeiliaid eraill, er gwaethaf toriadau i gyllideb
llywodraeth leol. Rhoddodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd a’r Rheolwr Datblygu (Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd)
amlinelliad i’r Pwyllgor o waith y Gwasanaeth Cydymffurfedd o ddydd i ddydd, ei
berfformiad cyffredinol a throsolwg o sut roedd dangosyddion perfformiad yn
esblygu’n genedlaethol. Fe wnaethant
dynnu sylw at yr angen wrth symud ymlaen am fabwysiadu dull cyson ar y cyd â
budd-ddeiliaid lleol er mwyn parhau â gwaith monitro rhagweithiol a oedd yn
darparu gwelliannau sylweddol, gan mai dim ond un Swyddog Cydymffurfiaeth
Cynllunio penodol oedd yn ymchwilio i achosion honedig o dorri rheolau oedd gan
y Gwasanaeth. Ar gyfartaledd,
roedd y swyddog hwn yn ymchwilio i tua 240 o gwynion y flwyddyn. Yn sgil diffyg adnoddau i allu ymchwilio i achosion
honedig o dorri rheolau, roedd angen blaenoriaethu achosion ar sail maint y
niwed, felly ar y cyfan byddai achosion honedig o dorri rheolau oedd yn
effeithio ar adeiladau rhestredig, ardaloedd cadwraeth, Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol y Sir, coed gwarchodedig yn ogystal â'r rhai oedd yn groes i flaenoriaethau Cynllun Corfforaethol
y Sir, yn cael blaenoriaeth dros achosion honedig eraill o dorri rheolau. Roedd Swyddog Prosiect Cydymffurfedd Cynllunio
rhan-amser dros dro wedi cael ei benodi’n ddiweddar gyda’r bwriad o sicrhau bod
Prif Gynllun Canol Tref y Rhyl yn cael ei gyflawni trwy fynd i’r afael yn
rhagweithiol â’r nifer helaeth presennol o reolau cynllunio oedd yn cael eu
torri yn y dref. Rhagwelir y
byddai mabwysiadu’r dull yma’n rhoi hwb i’r ymdrechion i adfywio canol y dref a
lleihau lefelau amddifadedd yn yr ardal. Roedd y Swyddog Prosiect yn awyddus fel rhan o’r rhaglen Ardal Gwella
Busnes, i weithio gyda busnesau lleol yn y dref i dynnu eu sylw at eu rôl wrth
sicrhau bod pob busnes yn cydymffurfio â gofynion cynllunio a’u bod yn ymwneud
â’r gwaith gwella amgylcheddol i wella ymddangosiad cyffredinol y dref. Roedd y Gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau eraill y Cyngor, e.e. Trwyddedu, Gwasanaethau Tai, Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd a gwasanaethau cyhoeddus eraill e.e. Yr Heddlu, a’r Gwasanaeth Tân ac Achub mewn perthynas â materion o beidio â chydymffurfio, gan fod ymchwiliadau i un achos honedig o dorri rheolau fel arfer yn dod â materion eraill o beidio â chydymffurfio i’r amlwg. Felly fe allai pob gwasanaeth gefnogi ac ategu ymdrechion ei gilydd mewn cysylltiad â pheidio â chydymffurfio ac unrhyw waith unioni/trwsio cysylltiedig. Roedd gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol gyda phob gwasanaeth ac asiantaeth, a mabwysiadu dull rhagweithiol yn hytrach nac ymatebol i waith cydymffurfedd, yn golygu’r posibilrwydd o sicrhau elw ariannol ac amgylcheddol i’r Cyngor ac i breswylwyr o fewn y lefelau ariannol ac adnoddau dynol presennol. Dull posibl arall o wella'r dull rhagweithiol fyddai drwy lunio siarter rhwng y Cyngor Sir a chynghorau dinas, tref a chymuned y Sir, gan geisio eu caniatâd i roi gwybod i Wasanaeth Cydymffurfedd Cynllunio'r Cyngor am unrhyw achosion posibl o dorri rheolau cynllunio neu faterion ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 225 KB Rhoi ystyriaeth i adroddiad gan y
Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r
dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 12.00 p.m. – 12.15 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) yn gofyn
i’r Aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi diweddariad ar faterion
perthnasol. Datganodd y Cadeirydd y siom yr oedd yr aelodau’n ei
deimlo yn dilyn cyflwyniad sylwadau ac argymhellion y Pwyllgor i’r Cabinet ar
ôl iddo alw i mewn benderfyniadau perthnasol i’r Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
arfaethedig. Er bod yr aelodau’n
cydnabod fod sylwadau ac argymhellion y Pwyllgor wedi’u cyflwyno i’r Cabinet yn
unol â Rheolau’r Weithdrefn Galw i Mewn, roeddent yn teimlo nad oedd y Cabinet,
drwy gadarnhau eu penderfyniadau gwreiddiol yn syth ar ddiwedd y ddadl, wedi
rhoi'r ystyriaeth ddyledus i'r pwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor Craffu
Cymunedau. Er mwyn rhoi sylw i’r
pryderon a fynegwyd a chael diweddariad pellach gan yr Aelod Arweiniol dros Dai
Rheoleiddio a’r Amgylchedd, cytunwyd: GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD,
dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r
Cyhoedd o’r cyfarfod ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael
ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Trafododd yr aelodau’r broses oedd wedi digwydd hyd yma. Dywedwyd fod
swyddogion wedi dechrau rhannu’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn
ddosbarthiadau a’u bod yn gweithio i’w dadansoddi. Cadarnhawyd fod swyddogion
ychwanegol wedi’u dethol i roi sylw i’r llwyth gwaith. Ar ddiwedd y
dadansoddiad byddai adroddiad yn mynd gerbron y Cabinet. Trafododd yr aelodau eu pryderon ynghylch cyfraddau amser a’r cyllid
arfaethedig gan Lywodraeth Cymru. Gofynnodd aelodau’r Pwyllgor bod adroddiad yn
dadansoddi’r adborth a dderbyniwyd fel rhan o’r ymarfer ymgynghori
cyn-cynllunio yn cael ei gynnwys yn Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor ar
gyfer craffu cyn-penderfynu cyn i'r adroddiad fynd i'r Cabinet. Roedd aelodau o’r farn y byddai mabwysiadu’r
ymdriniaeth hon yn fanteisiol i'r holl fudd-ddeiliaid. SESIWN AGORED Ar ôl cwblhau'r busnes uchod, ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored.
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol – ·
yng ngoleuni penderfyniad diweddar Gweinidog Addysg
Llywodraeth Cymru, nid oes angen cadw’r eitem ar Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd
ar raglen waith y Pwyllgor ar gyfer trafodaeth yng nghyfarfod nesaf y
Pwyllgor. Am y rheswm hwnnw gofynnodd y
Pwyllgor am adroddiad ar y mater a’i oblygiadau ar gyfer ysgol bartner wedi’i
ffedereiddio. ·
cytunwyd y dylid gwahodd yr Aelodau Cabinet Arweiniol
perthnasol i’r cyfarfod nesaf. ·
adroddiad ar y safle Sipsiwn a Theithwyr arfaethedig i’w
ychwanegu at raglen gwaith i’r dyfodol Pwyllgor mis Ionawr. ·
cytunwyd y dylid symud yr adroddiad ar gau Ysgol y Rhewl
ymlaen i raglen cyfarfod mis Mawrth y Pwyllgor Craffu Cymunedau. ·
tynnwyd sylw at y ffaith fod cyfarfod arbennig wedi ei
drefnu ar gyfer 21 Chwefror 2019 i drafod materion yn deillio o’r tân ar Fynydd
Llantysilio. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y mae
yn Atodiad 1 i’r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan
gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor. 12.15 p.m. – 12.30 p.m. Cofnodion: Adroddodd
gynrychiolwyr y Pwyllgor ar eu presenoldeb mewn cyfarfodydd fel a ganlyn: Roedd y
Cynghorydd Huw Williams wedi mynychu’r Her Perfformiad Gwasanaeth ar ran
Grŵp Her y Gwasanaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd. Cadarnhaodd y
Cynghorydd fod y cyfarfod yn un cadarnhaol a buddiol. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 13:00 p.m. |