Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 1b, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 57 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

3.

ADOLYGIAD O BENDERFYNIAD Y CABINET YNGLŶN Â DARPARU SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm). Mae'r adroddiad yn ymwneud ag adolygiad, ar gais y Cynghorydd Peter Scott a phedwar o gynghorwyr eraill sydd ddim ar y Cabinet o dan drefniadau Craffu’r Cyngor 'galw i mewn', o benderfyniad ynghylch darpariaeth safle sipsiwn a theithwyr a gymerwyd gan y Cabinet ar y 25ain Medi 2018.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod ac eglurodd y galwyd y cyfarfod i ystyried cais am alw penderfyniad diweddar y Cabinet i mewn, sef cymeradwyo cynnal ymgynghoriad cyn cynllunio, a cheisiadau cynllunio llawn dilynol, ar gyfer darparu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr preswyl a theithiol ar safle Green-gates Farm East, ar gyrion Llanelwy.

 

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad cyfrinachol ac atodiadau y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw), oedd yn cyflwyno’r cais a wnaed gan bum cynghorydd nad ydynt yn rhan o’r Cabinet, dan Reolau Gweithdrefn Galw i Mewn y Cyngor, i’r Pwyllgor Craffu adolygu’r penderfyniad wnaeth y Cabinet ar 25 Medi mewn perthynas â safleoedd arfaethedig ar gyfer darpariaeth i sipsiwn a theithwyr yn y sir yn y dyfodol.  Hysbyswyd aelodau’r Pwyllgor y bodlonwyd y meini prawf o ran galw penderfyniad y Cabinet i mewn, ac mai sail y cais am alw i mewn oedd “na ystyriwyd gwell safle”.  Roedd y cais am alw i mewn yn cynnwys enghraifft benodol o “well safle”.  Fel prif lofnodwr y cais am alw penderfyniad y Cabinet i mewn, gwahoddwyd y Cynghorydd Peter Scott i annerch y Pwyllgor er mwyn egluro’r sail ar gyfer galw’r penderfyniad i mewn ac i gynnig gwybodaeth gefndir ychwanegol mewn perthynas â’r cais.

 

Yn ystod ei gyflwyniad, hysbysodd y Cynghorydd Scott y Pwyllgor ei fod wedi mynychu cyfarfod y Cabinet ar 25 Medi 2018 yn rhinwedd ei rôl fel aelod lleol ar gyfer yr ardal lle bwriedir lleoli’r safleoedd arfaethedig.  Eglurodd ei fod wedi mynegi ei farn yn y cyfarfod gan nodi pam nad oedd safle Green-gates Farm East yn briodol i'w ddatblygu fel safle preswyl na theithiol ar gyfer sipsiwn a theithwyr.  Eglurodd hefyd pam ei fod yn credu na chafodd safleoedd eraill, oedd yn ei farn ef yn well safleoedd, ystyriaeth ddyledus gan y Cabinet cyn cyrraedd eu penderfyniad, a dyma ei reswm dros gychwyn cais galw i mewn i gael y Pwyllgor Craffu i adolygu penderfyniad y Cabinet.

 

Wrth ymateb i gyflwyniad y Cynghorydd Scott, nododd yr Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd fod y broses i benderfynu a oedd angen yn Sir Ddinbych am safle preswyl, safle teithiol neu’r ddau, wedi bod yn mynd rhagddi ers nifer o flynyddoedd.  Roedd gofyniad cyfreithiol ar Sir Ddinbych, fel pob awdurdod lleol arall, i gynnal asesiad o anghenion i bennu a oedd yna angen o fewn y sir am safleoedd o’r fath.  Os byddai angen yn cael ei ganfod, byddai rhwymedigaeth gyfreithiol ar yr awdurdod lleol i ddarparu safleoedd o’r fath o fewn ei ffiniau daearyddol.  Eglurodd bod cyllid grant ar gael gan Lywodraeth Cymru (LlC) i ddatblygu safleoedd preswyl a theithiol, cyn belled â bod yr awdurdodau lleol yn canfod safleoedd a ffefrir, yn cynnal ymgynghoriad cyn cynllunio arnynt ac yn cael cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer y datblygiadau mewn pryd i gyflwyno ceisiadau am y cyllid grant cyn y dyddiad cau, sef 28 Chwefror 2019. Os byddai hyn i gyd yn cael ei gyflawni, y cynnig fyddai datblygu'r safle preswyl yn ystod blwyddyn ariannol 2019-20 a’r safle teithiol yn ystod 2020-21.  Roedd safle Green-gates Farm East eisoes wedi’i nodi a’i gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Ebrill 2018 fel y safle a ffefrir ar gyfer datblygu safle preswyl.  Gan fod canllawiau LlC ar y ‘Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr’ yn nodi’n benodol na ddylai safleoedd preswyl a theithiol fod wedi’i cyd-leoli, gwnaed cryn ymdrech i geisio canfod a sicrhau safle ar wahân ar hyd coridor yr A55 i’w ddatblygu fel safle ‘teithiol’.  Fodd bynnag, oherwydd mai rhan fer o’r A55 sy’n teithio trwy Sir Ddinbych a’r ffaith bod rhaid i’r safleoedd fod  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

Daeth y cyfarfod i ben am 12.20pm.