Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Ruthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Anton Sampson.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr canlynol gysylltiadau personol:

 

Eitem 4 ar y rhaglen, cofnodion y cyfarfod blaenorol:  Mae’r Cynghorwyr Brian Blakeley a Meirick Lloyd Davies yn cynrychioli’r Cyngor ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Eitem 5 ar y rhaglen, Darpariaeth Safle Sipsiwn a Theithwyr yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd:  Cynghorwyr Tina Jones a Merfyn Parry.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

 Dywedodd y Cadeirydd mewn ymateb i gais gan swyddogion, a gyda chytundeb pawb dan sylw, ei fod wedi caniatáu i eitemau 6 a 7 ar drefn busnes y Pwyllgor gael eu hail-drefnu.  Gan hynny, ymdrinnir â Phrosiect Archifau Sir Ddinbych a Sir y Fflint ar y cyd fel eitem rhif 6 a Dyluniad y Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Newydd Arfaethedig yn eitem rhif 7 ar y rhaglen.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 543 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 5 Medi 2019 (copi ynghlwm).

10.00am – 10.10am

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 5 Medi, 2019.

 

Diolchodd y Cynghorydd Merfyn Parry i’r swyddogion am adroddiad Tân Mynydd Llantysilio.

 

Dywedodd y Cydlynydd Craffu (CC) bod yr Awdurdod Tân ac Achub wedi gofyn i gael mynychu cyfarfod craffu cyn 2020 i drafod ei ymgynghoriad cyhoeddus ar ddatblygu Strategaeth Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Dywedodd y byddent yn mynychu cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Partneriaethau, ond roedd croeso i aelodau’r Pwyllgor Craffu Cymunedol fynychu.

 

PENDERFYNWYD: derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 5 Medi 2019 fel cofnod cywir.

 

 

5.

DARPARIAETH SAFLE SIPSIWN A THEITHWYR YN Y CYNLLUN DATBLYGU LLEOL NEWYDD pdf eicon PDF 299 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi amgaeedig) sy’n ceisio arsylwadau’r Pwyllgor am y broses o symud ymlaen â darpariaeth safle Sipsiwn a Theithwyr trwy’r CDLl newydd.

 

 10.10am – 11.10am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel adroddiad ac atodiadau (eisoes wedi’u cylchredeg) a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y broses a ddilynwyd er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol o ran darparu Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn y sir.  Roedd yr adroddiad hwn yn canolbwyntio’n benodol ar safleoedd a drafodwyd yng nghyfarfodydd y Grŵp Rheoli Asedau a’r Grŵp Cynllunio Strategol i’w hargymell i’r Cabinet i’w cynnwys ym mhroses y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd fel safleoedd posibl ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.

Yn ystod eu cyflwyniad, rhoddodd yr Aelod Arweiniol a'r swyddogion drosolwg i'r Pwyllgor o'r dyletswyddau statudol a osodir ar y Cyngor i ddarparu safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr.  Yng ngoleuni’r ffaith bod angen wedi’i nodi yn y sir trwy’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr a gymeradwywyd yn ffurfiol gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru yn 2017.  Hefyd, cafwyd amlinelliad o’r broses ddilynol i ddewis safleoedd posibl at ddibenion preswyl a thramwy, nifer y lleiniau sy’n ofynnol i safleoedd preswyl a thramwy ac atgoffwyd aelodau bod y Cabinet wedi penderfynu ym mis Mawrth 2019 mai'r lleoliad a ffefrir ar gyfer y safle preswyl chwe llain fyddai Green Gates (dwyrain) ger Llanelwy.  Wrth gytuno ar y safle hwn fel lleoliad a ffefrir ar gyfer safle preswyl, roedd y cabinet hefyd wedi cytuno y dylid dyrannu safleoedd posibl ar gyfer y safle tramwy pum llain fel rhan o broses y CDLl newydd, ac na ddylid ystyried Green Gates (dwyrain) ar gyfer safle tramwy, a dyna’r rheswm dros gyflwyno’r adroddiad hwn i’r Pwyllgor.

Ynghlwm wrth yr adroddiad oedd copi o adroddiad a gyflwynwyd yng nghyfarfod briffio’r Cabinet ar 9 Medi 2019 yn amlinellu’r broses y bwriedir ei dilyn er mwyn symud ymlaen â safleoedd tramwy posibl i Sipsiwn a Theithwyr i’w cynnwys yn y CDLl newydd, ynghyd â chopi o adroddiad yn nodi safleoedd tramwy posibl i Sipsiwn a Theithwyr a gyflwynwyd i'r AMG ar 30 Medi 2019.  Roedd yr ail adroddiad yn cynnwys manylion am y darnau perthnasol o ddeddfwriaeth a oedd yn gosod dyletswydd statudol ar y Cyngor i asesu’r angen am ddarpariaeth fel hyn, a darparu safleoedd yn ôl yr angen.  Atodiadau a gynhwyswyd gyda’r adroddiad hwnnw oedd:

·         manylion y meini prawf adolygu safleoedd dechreuol

·         gwybodaeth yn gysylltiedig â’r dadansoddiad safle ac argymhellion o ganlyniad i hynny, ynghyd â manylion yr ystyriaeth bellach a roddir i’r safleoedd hynny ar y rhestr fer ac ymateb yr Adran Brisio ac Ystadau ynglŷn â'r posibilrwydd o golli tir amaethyddol a phroblemau posibl yn ymwneud â chyflwyno hysbysiadau terfynu i denantiaid

Cadarnhaodd swyddogion bod yr holl safleoedd a ystyriwyd yn y gorffennol fel rhan o’r ymarfer darparu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gwreiddiol, yn cael eu hystyried eto.  Gan nad oedd unrhyw dirfeddianwr wedi dod ymlaen i gynnig tir ar gyfer Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, fel rhan o broses y galwad dechreuol am dir ar gyfer safle Sipsiwn a Theithwyr nac fel rhan o ymarfer tebyg o dan broses y CDLl newydd, roedd y Cyngor wedi cyflwyno nifer o safleoedd yr oedd yn berchen arnynt i’r diben hwn, gan fod angen iddo ddangos i Lywodraeth Cymru ei fod yn ymdrechu i gyflawni ei rwymedigaethau statudol.  Dyna pam y cynhwyswyd tir amaethyddol a mannau agored cyhoeddus dynodedig fel safleoedd posibl i’w cynnwys yn y CDLl newydd i’r diben hwn, gan fod proses y CDLl yn gyfle i'r Cyngor newid dynodiadau tir presennol. 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y Grŵp Rheoli Asedau yn ei gyfarfod ar 30 Medi wedi rhoi cefnogaeth i gynnwys y pedwar safle a gyflwynwyd i’w  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

PROSIECT ARCHIFAU AR Y CYD SIR DDINBYCH A SIR Y FFLINT pdf eicon PDF 665 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Prosiect (copi yn amgaeedig) sy’n ceisio arsylwadau'r Pwyllgor am gynigion i sefydlu un gwasanaeth archifau ar y cyd rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint a'r model arfaethedig ar gyfer darparu’r gwasanaeth newydd.

 

12.20pm – 1.05pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau’r adroddiad ac atodiadau (eisoes wedi'u cylchredeg) a oedd yn darparu gwybodaeth ynglŷn â phrosiect ar y cyd ar gyfer archifau Sir Ddinbych a Sir y Fflint, gyda ffocws arbennig ar y model cyflenwi gwasanaeth newydd arfaethedig.

 

Yn ystod ei gyflwyniad pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol y byddai darparu Gwasanaeth Archifau ar y cyd â Chyngor Sir y Fflint a datblygu gwasanaeth ‘gweithredu trwy bwynt canolog’, yn amodol ar gais llwyddiannus i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn fuddiol i drigolion Sir Ddinbych gan y byddai Gwasanaeth Archifau llawn amser ar gael yn hytrach na gwasanaeth tri diwrnod sydd ar gael yn y sir ar hyn o bryd.  Byddai hynny’n wir er gwaethaf y ffaith bod y ‘canolbwynt’ yn yr Wyddgrug gan y byddai holl lyfrgelloedd Sir Ddinbych yn cael mynediad at gofnodion digidol y gwasanaeth felly byddai trigolion yn gallu gwneud unrhyw waith ymchwil o'u llyfrgell leol, yn hytrach na gorfod trefnu apwyntiad i ymweld ag Archifdy’r Sir yn Hen Garchar Rhuthun fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Pe baent eisiau cael gafael ar ddogfennau gwreiddiol, byddent yn gallu gwneud hyn o dan y model newydd trwy fynychu â’r canolbwynt yn yr Wyddgrug.

 

Oherwydd eu hoedran a’u bregusrwydd, roedd yn rhaid i ddogfennau’r archifdy gael eu cadw dan amodau amgylcheddol caeth er mwyn eu gwarchod a’u diogelu, fel arall byddai’r Gwasanaeth mewn perygl o golli ei statws achrediad archif.  Roedd cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn awyddus i ddatblygu Gwasanaeth Archifau ar y cyd gan fod Sir y Fflint eisoes wedi mynd y tu hwnt i’w gapasiti storio tra bod disgwyl i Sir Ddinbych fod mewn sefyllfa debyg erbyn 2021.  Hefyd, roedd y System Rheoli Amgylcheddol yn Hen Garchar Rhuthun yn nesáu at ddiwedd ei oes a disgwylir i’r gost o’i newid fod yn sylweddol, felly dyna pam y teimlwyd y dylid ymchwilio i’r cyfle i ddarparu gwasanaeth ar y cyd, o bosibl mewn adeilad pwrpasol o’r radd flaenaf.  Er bod y Gwasanaeth Archifau presennol yn mynd â 70% o adeilad yr Hen Garchar, roedd yn denu tua 800 o ymwelwyr y flwyddyn, gyda nifer ohonynt yn ail ymweliadau gan yr un bobl.  Mewn cymhariaeth roedd y Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth yn denu oddeutu 11,000 o bobl y flwyddyn i’w gyfran o 30% o'r adeilad.    

 

Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol bod gan y Cyngor ymrwymiad eisoes i ddefnyddio’r Hen Garchar i ddarparu ei Wasanaeth Archifau tan 2025, pe bai’r model cyflenwi gwasanaeth o bwynt canolog yn dwyn ffrwyth, gan y byddai’n cymryd llawer iawn o amser i ddarparu’r prosiect hwn yn ei gyfanrwydd.  Yn y cyfamser byddai’n ymchwilio’n frwd i ddulliau posibl o gynyddu ystod y gwasanaethau treftadaeth a allai gael eu darparu yno ar ôl i’r Gwasanaeth Archifau ymadael, ar y cyd â safleoedd treftadaeth eraill y Cyngor, h.y. Nantclwyd y Dre a sefydliadau allanol megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol wrth yr Aelodau bod Cyngor Tref Rhuthun wedi cofrestru siom nad oedd wedi bod yn rhan o’r ymgynghoriad ynghylch y cynnig hyd yma, ond pe bai’r prosiect yn dwyn ffrwyth ni fyddai’r Gwasanaeth yn gadael yr Hen Garchar tan 2025, felly teimlwyd ei bod braidd yn rhy gynnar i ymgynghori â Chyngor y Dref ar hyn o bryd.  Y flaenoriaeth fyddai sicrhau £11.5m o grant Heritage Horizons gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.   Byddai angen i unrhyw gynnig am swm mor sylweddol o arian fod ar gyfer prosiect arbennig a phwrpasol iawn.  Dyna pam yr oedd Sir Ddinbych am weithio gyda Chyngor Sir y Fflint i adeiladu adeilad pwrpasol wrth ymyl Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug.  Roedd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

DYLUNIAD GWASANAETH GWASTRAFF AC AILGYLCHU NEWYDD ARFAETHEDIG pdf eicon PDF 225 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu (copi amgaeedig) sy’n ceisio barn y Pwyllgor am y gwasanaethau newydd arfaethedig, gan gynnwys dylunio’r gwasanaeth, costiadau a chyllid dangosol, a strategaeth gyfathrebu arfaethedig gyda phreswylwyr.

 

11.10am – 12.10pm

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Wastraff, Cludiant a’r Amgylchedd adroddiad y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu ac atodiadau (eisoes wedi’u cylchredeg).  Pwrpas hynny oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am sefyllfa ariannol ddiweddaraf y prosiect ynghyd â rhoi gwybodaeth am amserlenni a phrosiectau cysylltiedig.  Yn ystod ei gyflwyniad dywedodd yr Aelod Arweiniol er bod Atodiad II yr adroddiad yn sôn y byddai amserlen darparu prosiect yn ymestyn hyd at 2022, cyfeiriai hyn at y flwyddyn ariannol 2021/22.  Yn seiliedig ar y cynnydd hyd yma roedd ganddo bob ffydd y byddai’r gwasanaeth newydd yn weithredol erbyn mis Medi 2021.

 

Ar gais y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd darparodd y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu fersiwn PowerPoint o Atodiad III i’r adroddiad a oedd yn darlunio gosodiad arfaethedig y Depo Canolog newydd a fyddai’n cael ei greu yn Ninbych.  Rhoddodd drosolwg i’r Pwyllgor o’r gosodiad a swyddogaethau’r holl ardaloedd gwahanol a fyddai'n gynwysedig yn y safle chwe acer hwn a'r cyfyngiadau rheoliadol amgylcheddol, tân ac eraill y byddai'n rhaid cydymffurfio â nhw wrth eu dylunio a'u datblygu.

 

Mewn ymateb i gwestiynau aelodau fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol a’r Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu:

 

• ddweud nad oedd unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud ynglŷn â dyluniad y cynwysyddion ‘Trollibocs’ a fyddai’n cael eu prynu a’u cyflwyno, gan fod nifer o gynhyrchwyr newydd wedi dod i’r farchnad yn ddiweddar.

• cadarnhau nad oedd y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref presennol yn ffurfio rhan o’r prosiect penodol hwn.  Byddai unrhyw drafodaethau ynglŷn â’u dyfodol yn rhan o broses arall.  Roedd angen adnewyddu’r contract ar gyfer gweithredu’r canolfannau hyn ym mis Mawrth 2021 felly byddai ymarfer ail-dendro yn dechrau yn y dyfodol agos.  Fel rhan o’r broses ail-dendro, roedd modd ymchwilio i ddulliau o gynhyrchu incwm, gan gynnwys rhai ar gyfer cyrff elusennol o werthu ‘gwastraff’ y cartref sydd o safon dda.

• dweud er gwaethaf y ffaith bod safle’r depo canolog arfaethedig yn arwynebedd chwech acer, ni fyddai’n ddigon mawr ar gyfer symud y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref bresennol yn Ninbych i'r un safle gan fod cynigion i gynnwys ardal i drin gwastraff priffyrdd ar safle'r depo canolog faes o law, yn amodol ar gymeradwyo achos busnes ar wahân.

• dweud bod rheoliadau amgylcheddol yn golygu mai’r unig ddeunydd gwastraff y gellid ei ddadlwytho yn yr awyr agored oedd gwydr, byddai’n rhaid i bob gwastraff arall gael ei ddadlwytho dan orchudd mewn adeiladau pwrpasol.

• cadarnhau y byddai angen i ardal y depo cyfan gydymffurfio â rheoliadau caeth o ran sŵn, arogl, llygredd a thân a byddai angen hawlenni gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) cyn dechrau rhai ymarferion trin gwastraff, yn arbennig y rheiny sy’n gysylltiedig â Cham 2 y prosiect – trin gwastraff priffyrdd.

• dweud o dan y system newydd ar gyfer casglu gwastraff y cartref, byddai gwastraff bwyd yn dal i gael ei gasglu ar yr un pryd â gwastraff arall ac yna byddai’n cael ei drosglwyddo o ddepo Dinbych i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Bwyd yn Rhuallt.

• dweud, er bod lle i 90 o gerbydau yn y maes parcio i staff y depo arfaethedig, nid oedd y rhif hwn yn cymryd i ystyriaeth pobl a oedd eisoes yn rhannu ceir.  Roedd yn Cyngor yn ymwybodol o’i ddyletswydd i ostwng allyriadau carbon a dyna pam y byddai nifer o bwyntiau gwefru cerbydau yn cael eu gosod yn y maes parcio ar gyfer cerbydau trydan.  Hefyd ni fyddai staff y depo i gyd yn dechrau gweithio ar yr un amser a byddent yn amrywio rhwng 6am a 6.45am, gyda cherbydau casglu sbwriel yn gadael y depo  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 241 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi wedi’i amgau) yn gofyn am adolygiad o raglen waith ymlaen llaw’r pwyllgor ac yn diweddaru aelodau ar faterion perthnasol.

 

1.05pm – 1.20pm

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu (CC) adroddiad rhaglen gwaith i'r dyfodol y pwyllgor ac atodiadau (eisoes wedi’u cylchredeg) er mwyn ceisio cael y Pwyllgor i adolygu ei raglen waith i’r dyfodol.

 

Atgoffodd y CC aelodau am y ffurflen cynnig craffu, dywedodd y dylid anfon unrhyw gynigion ati hi fel eu bod yn cael eu hystyried gan y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu i’w cynnwys ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol.

 

Yng nghyfarfod y Cadeiryddion a’r Is-gadeiryddion Craffu ym mis Medi, cytunwyd aildrefnu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol er mwyn gallu cynnwys yr eitemau ar ddarpariaeth safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a Phrosiect Archifau Sir Ddinbych a Sir y Fflint ar y cyd yn y cyfarfod presennol.

 

PENDERFYNWYD: bod aelodau yn cytuno â rhaglen gwaith i'r dyfodol y pwyllgor.

 

 

 

9.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

1.20pm – 1.30pm

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw adborth.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 2.25pm