Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Ruthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Merfyn Parry, Huw Williams, Tina Jones, Rachel Flynn a Cheryl Williams.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr  Graham Timms, Glenn Swingler, Meirick Lloyd Davies, Brian Blakeley, Anton Sampson a David Lloyd i gyd gysylltiad personol yn eitem 5 gan eu bod i gyd yn Llywodraethwyr Ysgolion.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 476 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2019 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2019.

 

Materion yn Codi -

 

·         Tudalen 8 – Eitem 5 – Polisi Dyledion Prydau Ysgol – roedd yr aelodau’n bryderus ei bod yn ymddangos y dosbarthwyd y Polisi Dyledion Prydau Ysgol diwygiedig i ysgolion cyn iddo gael ei ddosbarthu i gynghorwyr o dan y Broses Penderfyniadau Dirprwyedig.  Roedd yr aelodau eisiau sicrwydd bod y newidiadau y gwnaethant eu hargymell wedi'u cynnwys yn y polisi terfynol.  Dywedodd y Swyddogion y byddent yn holi a wnaed hyn ac a yw’r Penderfyniad Dirprwyedig perthnasol wedi'i gyhoeddi.

 

·         Tudalen 11 – Eitem 6 – Darpariaeth Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr – roedd y ddau safle arfaethedig wedi mynd gerbron y Cabinet a derbyniwyd y safle preswyl parhaol ond nid y safle tramwy yn yr un lleoliad.  Bydd lleoliad arall ar gyfer y safle tramwy'n cael ei chwilio amdano yn ystod datblygiad y CDLl newydd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 14 Mawrth, 2019 fel cofnod cywir.

 

 

5.

POLISI CLUDIANT I DDYSGWYR SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 282 KB

Ystyried adroddiad gan Rheolwr Cynllunio ac Adnoddau Addysg (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor drafod y camau posibl i’r Cyngor eu hystyried mewn perthynas â chludiant anstatudol y mae’n ei ddarparu ar hyn o bryd.  

 

10.05am – 10.45am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc adroddiad y Rheolwr Addysg ac Adnoddau a’r atodiadau (a ddosbarthwyd eisoes) a oedd yn rhoi manylion am yr elfennau anstatudol ym Mholisi Cludiant Dysgwyr Cyngor Sir Ddinbych 2018.

 

Yn ystod ei gyflwyniad eglurodd yr Aelod Arweiniol y daeth Polisi Cludiant Dysgwyr presennol y Cyngor i rym ym mis Medi 2018 yn dilyn ymarfer ymgynghori gyda’r holl randdeiliaid y flwyddyn flaenorol.  Mae’r polisi'n nodi sut y mae'r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan Fesur Teithio Gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.  Wrth adolygu’r polisi yn 2017 roedd sawl anghysonder wedi dod i’r amlwg e.e. llwybrau peryglus, ysgolion bwydo a phwysigrwydd eu perthynas â’r ysgolion uwchradd y maent wedi’u cysylltu â nhw ayyb.  Cafodd yr anghysonderau hyn eu hunioni yn y polisi diwygiedig.  Mae’r adolygiad hwn o’r polisi ynghyd â newidiadau perthnasol i gludiant ar gyfer disgyblion sy’n mynychu ysgolion arbennig a darparwyr cludiant yn trosglwyddo costau chwyddiannol i’r Cyngor Sir wedi arwain at gynnydd o oddeutu £350k yng nghost cludiant ysgolion yn y sir yn ystod 2018/19.  Ni fydd cynnydd fel hyn yn gynaliadwy yn yr hirdymor.  Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol mai’r Gwasanaeth Priffyrdd a'r Amgylchedd sy’n dal y gyllideb cludiant ysgol ond mai’r Gwasanaeth Addysg sy’n pennu cymhwysedd disgybl i dderbyn cludiant am ddim.  Er bod hyn o bosibl yn ymddangos yn od, mae’n gweithio’n dda gan fod swyddogion Addysg yn gyfarwydd â’r darnau o ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu cymhwysedd dysgwyr am gludiant am ddim, ond mae’r arbenigedd o ran tendro am, a chaffael cludiant, a gwybodaeth am argaeledd cludiant cyhoeddus yn bodoli o fewn tȋm cludiant y Gwasanaeth Priffyrdd a’r Amgylchedd. 

 

Dywedodd yr Aelod Arweiniol wrth yr Aelodau bod darpariaeth cludiant ar gyfer dysgwyr er mwyn iddynt gael mynediad at elfennau addysg anstatudol yn fater cynhennus dros ben a bod sawl awdurdod lleol sydd wedi edrych ar y posibilrwydd o roi stop ar gludiant am ddim neu godi tâl am gludiant e.e. i ddarpariaeth addysg seiliedig ar ffydd neu'r iaith Gymraeg, wedi cael sylw anffafriol yn y wasg/cyfryngau, a hyd yn oed her gyfreithiol.    Er ei bod yn bosib y byddai rhoi’r gorau i gynnig cludiant am ddim, neu godi tâl am gludiant er mwyn galluogi disgyblion i gael mynediad at addysg anstatudol, yn arwain at arbedion sylweddol i’r Cyngor, byddai'n bwysig dros ben asesu effaith unrhyw newidiadau ar addysg disgyblion y a'r gefnogaeth a roddir i’w galluogi i ennill y sgiliau a'r wybodaeth y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.  Mae hyn yn arbennig o bwysig o safbwynt addysg ôl-16.  Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn gwario tua £1m bob blwyddyn ar gludo myfyrwyr i ddarpariaeth addysg ôl-16. 

 

Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau dywedodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, a’r Pennaeth Addysg a Gwasanaethau:

  • bod ar yr Awdurdod ddyletswydd ddeddfwriaethol i gydymffurfio â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) ochr yn ochr â gofynion deddfwriaethol eraill perthnasol i ddarpariaeth addysg.
  • bod unrhyw gynnig i roi’r gorau i gludiant am ddim i ddarpariaeth addysg anstatudol yn debygol iawn o ddenu sylw negyddol yn y cyfryngau  Yr elfen leiaf cynhennus yn ôl pob tebyg fyddai cludiant i fyfyrwyr ôl-16.  Fodd bynnag byddai risgiau ynghlwm â hyn hefyd, yn enwedig o ran cyfleoedd gyrfa disgyblion yn y dyfodol a'r economi ehangach.
  • bod cludiant dysgwyr yn Sir Ddinbych ar hyn o bryd yn costio cyfanswm o oddeutu £2.5m y flwyddyn  Roedd costau’n amrywio o sir i sir, gyda'r ardaloedd daearyddol mwyaf yn gwario llawer mwy ar gludiant dysgwyr.
  • bod hyn yn dangos y cymhlethdodau cysylltiedig â gwneud penderfyniadau am gludiant am ddim i ddysgwyr  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

EFFAITH CAU YSGOL RHEWL pdf eicon PDF 273 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Reolwr – Cefnogi Addysg (Copi ynghlwm) sy’n amlinellu’r gefnogaeth a ddarparwyd i Ysgol Rhewl yn ystod y broses cau ac adborth gan fudd-ddeiliaid ar y gefnogaeth a dderbyniwyd.

 

10.45am – 11.15am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc adroddiad y Prif Reolwr,  Moderneiddio Addysg, (a ddosbarthwyd eisoes) yn amlinellu'r gefnogaeth a roddwyd i Ysgol Rhewl yn ystod y broses o gau'r ysgol.  Ynghlwm wrth yr adroddiad roedd atodiadau’n crynhoi ymatebion rhieni i’r holiaduron a roddwyd iddynt, sylwadau a gafwyd gan yr ysgolion a fydd yn cymryd disgyblion Ysgol Rhewl yn ogystal â sylwadau’r Pennaeth dros dro ar adeg cau’r ysgol.  Dywedodd yr Aelod Arweiniol mai dim ond dau riant oedd wedi ateb yr holiadur ac o’r saith ysgol a dderbyniodd ddisgyblion ysgol Rhewl, pump oedd wedi ymateb. Roedd rhai o’r sylwadau a gafwyd hefyd yn gwrth-ddweud ei gilydd.

 

Disgwyliwyd i ddechrau y byddai mwyafrif y disgyblion yn trosglwyddo i’r ysgolion newydd yn Rhuthun ond ni ddigwyddodd hynny. Roedd nifer o’r plant wedi trosglwyddo i ysgolion mewn rhannau eraill o’r sir, rhai oherwydd eu bod yn byw'n agosach at yr ysgolion hynny ac eraill oherwydd dewis y rhieni.  Cydnabu'r Aelod  Arweiniol nad yw byth yn brofiad braf cau ysgol ond roedd yn falch o allu dweud fod y disgyblion wedi setlo’n dda yn eu hysgolion newydd.  Dywedodd y Prif Reolwr Moderneiddio Addysg wrth yr Aelodau bod swyddogion o Wasanaeth Addysg y Cyngor wedi gweithio’n agos â Phennaeth Dros dro Ysgol Rhewl drwy gydol y broses o gau’r ysgol a throsglwyddo’r disgyblion.  Dywedodd hefyd bod y Pennaeth Dros dro wedi gweithio’n ddiwyd gyda disgyblion a rhieni dan amgylchiadau anodd dros ben.  Yn ogystal â rhoi cefnogaeth i rieni (mewn cyfarfodydd un i un a chyfarfodydd grŵp), disgyblion a'r corff llywodraethu roedd y Cyngor hefyd wedi darparu cefnogaeth, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy Gyrfa Cymru, i staff yr ysgol - ffaith a nodwyd yn sylwadau'r Pennaeth Dros dro.  Gofynnodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant am i’r ffaith gael ei nodi, er bod y Cyngor yn ymgymryd â phroses siomedig ac amhleserus iddyn nhw’n bersonol, bod cymuned Ysgol Rhewl wedi ymddwyn yn broffesiynol, yn gwrtais ac yn barchus tuag at swyddogion y Gwasanaeth Addysg. 

 

Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion:

  • gydnabod bod cymunedau’n gwerthfawrogi eu hadeiladau ysgol gan ddweud bod y Cyngor yn cynnig yr opsiwn i’r gymuned leol brynu adeiladau ysgol diddefnydd.  Mewn man lle nad oes cyfleusterau cymunedol yn bodoli gallai fod yn gyfle da i'r gymuned brynu’r amwynder.  Fodd bynnag mae Pafiliwn Chwaraeon gyda'r holl offer angenrheidiol eisoes yn bodoli yn Rhewl felly nid oedd gan y gymuned unrhyw ddiddordeb mewn prynu adeiladau’r hen ysgol a oedd eisoes mewn cyflwr eithaf gwael.
  • nodi fod y swyddogion wedi gwneud eu gorau i ymgysylltu â rhieni, disgyblion a’r gymuned ysgol a’u cefnogi drwy’r broses, ond y byddai bob amser wersi i'w dysgu ar gyfer y dyfodol.
  • nodi ei bod yn bwysig bod cefnogaeth ac yn y blaen ar gael pan oedd rhieni a rhanddeiliaid yn barod i ymgysylltu.  Oherwydd sensitifrwydd cynigion i gau ysgolion nid yw pawb a effeithir bob amser yn barod i ymgysylltu neu geisio cefnogaeth ar yr un pryd. Bydd adeiladu hyblygrwydd i mewn i’r broses felly yn hollbwysig.
  • cadarnhau fod rhai disgyblion/rhieni wedi newid eu  meddwl am ba ysgol i drosglwyddo eu plentyn/plant iddi ar ôl dyddiau blasu mewn gwahanol ysgolion.
  • cynghori bod cefnogaeth hefyd wedi’i rhoi gan y Gwasanaeth Addysg i'r ysgolion hynny a oedd yn derbyn disgyblion o Ysgol Rhewl.
  • cadarnhau bod penderfyniad i beidio symud y disgyblion oedd wedi dewis symud i Ysgol Stryd Rhos i’r ysgol newydd pan fyddai’n agor ond yn hytrach aros tan y flwyddyn academaidd newydd wedi’i wneud ar ôl trafod ac ymgynghori gyda'r Pennaeth Dros dro.  Teimlwyd y byddai hyn  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CREDYD CYNHWYSOL pdf eicon PDF 232 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Prosiect Perfformiad a Chontractau - Cyllid (copi ynghlwm) sy'n amlinellu effaith Credyd Cynhwysol ar wasanaethau'r Cyngor a thrigolion y sir hyd yn hyn.  Mae’r adroddiad hefyd yn asesu effeithiolrwydd mesurau lliniaru hyd yn hyn, ac yn amlinellu cynlluniau ar gyfer mesurau lliniaru effeithiau yn y dyfodol.

 

11.30am – 12.15pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol adroddiad y Rheolwr Prosiect Contractau a Pherfformiad - Cyllid (a ddosbarthwyd eisoes) yn crynhoi effaith hyd yma symud drosodd i Gredyd Cynhwysol (CC) ar drigolion y Sir ac effeithiolrwydd mesurau lliniaru, gan amlinellu’r cynlluniau a sefydlwyd i liniaru’r effeithiau ar wasanaethau a thrigolion wrth i’r rhai sy’n derbyn budd-dal gal eu symud  drosodd i CC.  Croesawyd Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych i'r cyfarfod fel un o bartneriaid allweddol y Cyngor ar gyfer rhoi cefnogaeth gyda Chredyd Cynhwysol.  Eglurodd fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar gais yr aelodau ar ôl ystyried adroddiad y llynedd am y paratoadau yr oedd y Cyngor a’i bartneriaid yn eu gwneud yn barod ar gyfer lledaeniad cychwynnol CC i’r rhan fwyaf o’r sir.

 

Yn ystod ei gyflwyniad dywedodd yr Aelod Arweiniol bod y wybodaeth ddiweddaraf gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn nodi y dylai ‘ymfudo rheoledig’ pobl sydd eisoes yn derbyn budd-daliadau drosodd i Gredyd Cynhwysol ddechrau yn Sir Dinbych ddiwedd 2020.  Nododd aelodaeth y Bwrdd Credyd Cynhwysol amlasiantaeth yr oedd y Cyngor wedi’i sefydlu mewn ymgais i liniaru’r risgiau i'r Cyngor a phreswylwyr wrth gyflwyno CC.  Mae ymdriniaeth Sir Ddinbych o ran sefydlu tȋm amlasiantaeth sy’n  cynnwys cynrychiolwyr o’r Adran Gwaith a Phensiynau a Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn wahanol i ymdriniaeth awdurdodau lleol eraill,  sydd mae’n debyg wedi sefydlu Byrddau Cyllid neu Fyrddau Refeniw a Budd-Dal.  Ers i Gredyd Cynhwysol ddod i rym yn Sir Ddinbych mae deddfwriaeth newydd wedi’i chyflwyno sy’n berthnasol i fudd-dal tai a phrydau ysgol am ddim ayyb.   Mae hyn wedi creu gwaith ychwanegol ar gyfer staff sy’n delio â’r meysydd hynny a gyda hawliadau CC.  Roedd penderfyniad y Cyngor a’i bartneriaid i gydleoli staff yng Nghanolfan Waith y Rhyl wedi profi’n ddefnyddiol dros ben wrth fynd i'r afael â'r newidiadau, tynnu sylw hawlwyr budd-dal at hawliau eraill posibl a darparu gwasanaethau ymyrraeth mewn modd amserol er mwyn rhwystro sefyllfaoedd o argyfwng.   Roedd Atodiad 2 i’r adroddiad yn rhoi manylion camau penodol a gymerwyd gan wasanaethau unigol a’r canlyniadau a gafwyd ac roedd Atodiad 3 yn nodi astudiaethau achos dienw er mwyn dangos effeithiolrwydd ymdriniaeth y Cyngor a'i bartneriaid.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau dywedodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, Prif Weithredol CAB Sir Ddinbych, y Rheolwr Contractau a Pherfformiad – Cyllid a’r Rheolwr Prosiect Contractau a Pherfformiad - Cyllid:

  • hyd at 31 Mawrth 2019 bod CC wedi bod yn 'fudd-dal pasbort’ ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim.  O 1 Ebrill 2019 mae terfyn incwm o £7,400 wedi’i gyflwyno ar gyfer PYDd.  Fodd bynnag roedd unrhyw un oedd â hawl i PYDd ar 31 Mawrth 2019 wedi eu symud drosodd i PYDd o dan y Cynllun newydd.  I hwyluso’r gwaith hwn mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu cwmni o’r enw Atkins i gefnogi Awdurdodau Lleol yng Nghymru.  
  • cytuno bod digartrefedd ymysg pobl o dan 35 oed yn bryder cynyddol  Nid yw digartrefedd yn digwydd o ganlyniad i CC yn unig, yn aml iawn mae llawer o ffactorau'n cyfrannu ato.
  • er bod gwahanol fudd-daliadau a chredydau treth wedi’u cyfuno o dan ymbarél CC, nid oedd hynny’n golygu bod hawlwyr wedi colli unrhyw fudd-daliadau.  Byddai budd-daliadau blaenorol yn awr yn gydrannau o’r budd-dal CC newydd.  Roedd rhai premiymau wedi’u stopio ond eraill wedi’u cyflwyno.  Nod y CC newydd yw cefnogi’r rhai sy’n gallu gweithio  i fynd yn ôl i’r gwaith gan sicrhau hefyd y cefnogir y diamddiffyn a’r rhai nad ydynt yn gallu gweithio.  Mae'n bosib yn awr i rai unigolion weithio a derbyn elfen o CC.  Caiff CC ei  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 225 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu  (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

 

12.15pm – 12.25pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad (wedi’i ddosbarthu eisoes) yn gofyn barn yr aelodau ar y rhaglen waith gan roi diweddariad ar faterion perthnasol.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau y bydd 5 mater arwyddocaol dan sylw  yn y cyfarfod ar 4 Gorffennaf. Cytunwyd y dylid trafod yr adroddiad drafft ar dân mynydd Llandysilio mewn cyfarfod preifat arbennig o’r Pwyllgor cyn 4 Gorffennaf a chyn ei anfon at sefydliadau partner er ymgynghoriad yn barod ar gyfer ei gyhoeddi yng nghyfarfod mis Medi.

 

Atgoffwyd yr aelodau mai'r cyfarfod nesaf fyddai cyfarfod cyntaf yn y flwyddyn fwrdeistrefol newydd, felly bydd gofyn i’r Pwyllgor ethol ei Is-Gadeirydd ar gyfer 2019/20. Gofynnir i aelodau sydd â diddordeb yn y swydd hon anfon eu CV at y Cydlynydd Craffu erbyn 30 Mehefin.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol - gweler Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

 

9.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

12.25pm – 12.30pm

 

Cofnodion:

Dim.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.06 a.m.