Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 116 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mynegodd y
Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts, Brian Blakeley, Graham Timms, Glenn Swingler,
Huw Williams, Meirick Lloyd Davies, Tina Jones, Emrys Wynne, Peter Scott ac
Anton Sampson gysylltiad personol ag eitem 5 ar y Rhaglen – Trefniadau Clwstwr
Ysgolion gan eu bod oll yn Lywodraethwyr Ysgolion mewn ysgolion lleol. Datganodd yr
aelodau cyfetholedig Mike Hall a David Lloyd gysylltiad personol ag eitem 5 ar
y Rhaglen – Trefniadau Clwstwr Ysgolion gan eu bod yn Lywodraethwyr ysgolion
mewn ysgolion lleol. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni
chodwyd unrhyw fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2018 (copi
ynghlwm). 10am – 10.05am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd
ar 18 Ionawr 2018. PENDERFYNWYD
y dylid derbyn a
chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2018 fel cofnod cywir. |
|
TREFNIADAU CLWSTWR YSGOLION PDF 290 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) yn rhoi manylion am yr adborth a
dderbyniwyd mewn perthynas â datblygu proses lle gall ysgolion ofyn am i
ystyriaeth gael ei rhoi, gan yr Awdurdod Lleol, i symud clwstwr. 10.05am – 10.35am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Addysg, Plant a Phobl ifanc yr adroddiad (a gylchredwyd eisoes) oedd
yn rhoi adborth i aelodau ar y gwaith a wnaed gan swyddogion mewn ymateb i gais
gan y Pwyllgor, ym Mehefin 2017, y dylid ystyried datblygu proses i hwyluso
ysgolion, pe byddent yn dymuno, i wneud cais i adolygu eu trefniadau o ran
clwstwr ysgolion. Yn
ystod ei gyflwyniad, dywedodd yr Aelod Arweiniol bod cais y Pwyllgor yn deillio
o ystyried Polisi Cludiant I Ddysgwyr newydd y Cyngor, sy’n dod i rym ym Medi
2018, ac yn benodol mewn ymateb i bryderon gan rieni disgyblion yn Ysgol
Pantpastynog, Prion ac Ysgol Bro Cinmeirch, Llanrhaeadr ynglŷn ag a fydden
nhw yn gymwys am gludiant am ddim i'r ysgol i Ysgol Glan Clwyd neu Ysgol
Brynhyfryd, yn dibynnu ar eu cyfeiriad cartref. Yn ystod y broses o ddatblygu'r Polisi
newydd o ran Cludiant I Ddysgwyr daeth yn amlwg bod y trefniadau clwstwr
ysgolion a’r berthynas ‘ysgol fwydo’ gydag ysgolion uwchradd yn arbennig o
bwysig i ddisgyblion, rhieni / gofalwyr ac ysgolion fel ei gilydd.
O ganlyniad, gwnaed darpariaeth o
fewn y polisi newydd Cludiant I Ddysgwyr i gydnabod y berthynas ‘ysgol fwydo’ a
darparu cludiant am ddim yn ôl disgresiwn i un ai’r ysgol uwchradd addas agosaf
neu’r ysgol uwchradd ‘fwydo’ gydnabyddedig, cyn belled bod cyfeiriad y dysgwr
a'r man pigo i fyny ymhellach na thair milltir o’r ysgol uwchradd.
Roedd gan Ysgol Bro Cinmeirch
bryderon penodol bod rhieni / gofalwyr yn dewis addysg ffydd cyfrwng Cymraeg er
mwyn cael mynediad at Ysgol Pantpastynog ac wedyn er mwyn cael trosglwyddo i
Ysgol Glan Clwyd o dan y trefniadau ysgol fwydo os na gellid rhoi cludiant yn
ôl disgresiwn i Ysgol Glan Clwyd i ddisgyblion Bro Cinmeirch. Dywedodd y
Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant wrth Aelodau bod angen sefydlu Gweithgor
er mwyn symud cais y Pwyllgor i ystyried datblygu proses ar gyfer ysgolion
cynradd sydd am newid eu trefniadau clwstwr ysgolion ymlaen. Atodwyd trosolwg o gylch gwaith y Gweithgor fel Atodiad 3 i’r adroddiad.
Gwahoddwyd pob ‘clwstwr ysgolion
uwchradd' ar draws y sir i benodi dau gynrychiolydd i wasanaethau ar y
Gweithgor. Roedd y
cynrychiolwyr clwstwr a bendodwyd yn cynnwys trawstoriad o arbenigedd ysgolion
h.y. penaethiaid, rheolwyr busnes a chyllid a llywodraethwyr. Roedd cynrychiolaeth awdurdodau lleol ar y Gweithgor yn cynnwys aelodau o’r
timau Cyllid Ysgolion a Chludiant Dysgwyr. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth wrth y Pwyllgor bod
y Gweithgor, wrth ddwyn ei waith i ben, wedi penderfynu nad oedd angen datblygu
proses i alluogi ysgolion cynradd i wneud cais i newid eu trefniadau clwstwr.
Yn eu barn nhw dylai'r Cyngor barhau
i ganolbwyntio ar yr Agenda Moderneiddio Ysgolion. Roedd eu barn yn debyg i farn Gwasanaeth Addysg y
Cyngor. Wrth ymateb i
gwestiynau aelodau dywedodd yr Aelod Arweiniol, y Pennaeth Addysg, a’r Rheolwr
Adnoddau a Chynllunio: ·
tra bo deddfwriaeth yn
nodi bod gofyniad ar awdurdodau lleol i ddarparu cludiant am ddim i'r ysgol i
ddisgyblion oedd yn dewis derbyn addysg cyfrwng Cymraeg, cyn belled a’u bod yn
mynychu'r ysgol addas agosaf ac yn bodloni’r meini prawf pellter, roedd darparu
cludiant am ddim i'r ysgol i ysgolion ffydd yn ôl disgresiwn yr awdurdod lleol. Fodd bynnag, roedd Sir Ddinbych yn ymdrin ag ysgolion cyfrwng Cymraeg ac
ysgolion ffydd yn yr un modd wrth benderfynu ar hawl cludiant i’r ysgol; ·
roedd deddfwriaeth
cludiant i ddysgwyr yn nodi fod yn rhaid i’r cyfnod o amser yr oedd disgwyl i
ddisgybl ei deithio er mwyn derbyn addysg fod yn rhesymol; · roedd dewis rhieni yn flaenoriaeth pan fyddai rhieni / gofalwyr yn dewis ysgol i’w plentyn, roedd dyletswydd yr Awdurdod yn hyn o ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADRODDIAD DIWEDDARU AR REOLI GWYLANOD PDF 199 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) sy'n rhoi
manylion ar y cynnydd a wnaed mewn cyflawni'r Cynllun Gweithredu Rheoli
Gwylanod a cheisio safbwyntiau’r Pwyllgor ar gamau arfaethedig i'w cymryd yn y
dyfodol 10.35am - 11.05am
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd adroddiad y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a’i atodiadau cysylltiol (a gylchredwyd
eisoes), er mwyn diweddaru aelodau ar y cynnydd a wnaed hyd yma o ran rhoi
Cynllun Gweithredu Rheoli Gwylanod a chamau gweithredu arfaethedig ar waith i
liniaru’r niwsans a achosir gan wylanod yn y sir. Dywedodd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd wrth aelodau mai cynllun
Cyngor cyfan yw’r Cynllun Gweithredu, Atodiad 3 yr adroddiad, gyda chamau
gweithredu wedi eu dyrannu i nifer o wasanaethau eu symud ymlaen a'u
gweithredu. Y flaenoriaeth
ar hyn o bryd oedd darparu’r ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus, a amlinellir yn
Atodiad 4, a gweithio gyda busnesau bwyd i leihau gwastraff bwyd, sy'n denu
gwylanod. Ar hyn o bryd y
ffocws yw addysgu’r cyhoedd a pherswadio trigolion, ymwelwyr a busnesau i
weithio gyda’r Cyngor mewn ymgais i leihau’r niwsans a’r llanast a achosir gan
wylanod. Amlinellodd Arweinydd Tîm y Cyngor: Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchu y camau
gweithredu a’r mentrau sydd yn mynd rhagddynt fel rhan o’r ymgyrch
ymwybyddiaeth gyhoeddus, a gymeradwywyd ym mis Chwefror 2018. Roedd y rhain yn
cynnwys: ·
ymgyrch cyfryngau
cymdeithasol fyddai’n cynnwys fideos codi ymwybyddiaeth; ·
cysylltu â chynghorau dinas,
tref a chymuned er mwyn ceisio eu cefnogaeth i'r gwaith, a'u hannog i gefnogi
gwaith y Cyngor drwy rannu gwybodaeth gyda thrigolion a sicrhau bod y strydoedd
a mannau cyhoeddus yn cael eu cadw yn daclus ac yn lân; ·
annog busnesau, trigolion
ac ymwelwyr i waredu unrhyw wastraff bwyd yn gyfrifol ac yn ddiogel; ·
cysylltu gydag ysgolion er
mwyn addysgu plant am y poendod a achosir gan wylanod ac anifeiliaid eraill a’r
angen i waredu gwastraff bwyd a sbwriel yn ddiogel. Rhagdybiwyd y byddai'r ymagwedd hon yn ddefnyddiol er mwyn cyfathrebu’r un
neges i rieni ac ati gan y byddent hwy yn debygol o wrando ar farn eu plant ar
faterion; ·
Rhedeg cystadleuaeth
dylunio poster drwy Raglen Cyfoethogi'r Gwasanaeth Addysg, gyda’r poster buddugol
yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymgyrch ymwybyddiaeth y Cyngor. Rhannodd y Cynghorydd Anton Sampson boster gyda’r Pwyllgor oedd wedi cael
ei ddefnyddio gan Gyngor Bwrdeistref Great Yarmouth mewn ymgais i annog pobl i
waredu gwastraff bwyd ayb yn gyfrifol, tra rhannodd y Cynghorydd Brian Blakeley
nifero gwynion a sylwadau roedd wedi eu derbyn gan drigolion. Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol,
Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Uchelgais
Economaidd a Chymunedol, Pennaeth Gwasanaeth, ac Arweinydd Tîm: Rheoli Cyfathrebu ac
Ymgyrchoedd mai: ·
gwastraff bwyd oedd y prif
bryder gan ei fod yn atynnu gwylanod. Pe gellid lleihau mynediad at wastraff
bwyd rhagdybir y byddai’r problemau a achosir gan wylanod yn lleihau; ·
roedd archwiliadau
dyletswydd gofal busnesau i sicrhau bod ganddynt gytundebau gwaredu gwastraff
masnachol a’u bod yn defnyddio cynwysyddion gwrth bla ar gyfer gwastraff bwyd
yn mynd rhagddynt.
Roedd gwiriadau tebyg yn cael eu cynnal ar lefydd gwerthu
bwyd yn ystod archwiliadau hylendid bwyd arferol. Ar
hyn o bryd roedd ystyriaeth yn cael ei roi i a ddylid cynnwys diogelu gwastraff
bwyd fel maes cydymffurfedd ar gyfer archwiliadau hylendid bwyd; ·
mae gwaith glanhau stryd
yn cael ei wneud yn rheolaidd mewn trefi arfordirol er mwyn ceisio lleihau
faint o sbwriel sydd yno a chadw'r strydoedd a’r celfi stryd yn lân ac yn
daclus; ·
roedd heboga wedi ei
ddefnyddio’n llwyddiannus mewn blynyddoedd diweddar i gadw gwylanod draw,
effaith tymor byr yn unig oedd hynny ac unwaith roedd yr adar ysglyfaethus wedi
mynd daeth y gwylanod yn ôl. Roedd heboga hefyd yn
weddol ddrud ac felly ddim yn gynaliadwy yn y tymor hir; · roedd y Cyngor yn bwriadu lobïo LlC, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cael ymgyrch genedlaethol neu ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
MEYSYDD PARCIO YN SIR DDINBYCH PDF 281 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch y Ffyrdd (copi ynghlwm)
sy’n rhoi'r diweddaraf i aelodau ar weithredu’r gofrestr rheoli asedau meysydd
parcio a’r rhaglen fuddsoddi gysylltiedig, tra’n ceisio eu safbwyntiau arnynt
ac ar waith y Grŵp Tasg a Gorffen Meysydd Parcio traws-wasanaeth 11.15am – 11.45am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy
adroddiad y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd (a gylchredwyd
eisoes) er mwyn diweddaru'r Pwyllgor ar y cynnydd a wnaed o safbwynt rhoi'r
Cofrestr Rheoli Asedau Meysydd Parcio a'r Rhaglen Fuddsoddi ar waith. Hefyd yn yr adroddiad
oedd manylion y cynnydd a wnaed gan y Grŵp Tasg a Gorffen Meysydd Parcio o
ran datblygu mesurau i wella profiad ymwelwyr defnyddwyr meysydd parcio. Rhoddwyd trosolwg i
Aelodau o’r amrywiol elfennau o’r gwaith a wnaed hyd yma fel rhan o ddatblygiad
y Gofrestr Rheoli Asedau a'r Rhaglen Fuddsoddi arfaethedig (a amlinellir yn
Atodiad B yr adroddiad) ac ar yr ymyraethau a nodwyd gan y Grŵp Tasg a
Gorffen gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd. Wrth ymateb i gwestiynau'r Pwyllgor, dywedodd yr Aelod Arweiniol,
Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Uchelgais
Economaidd a Chymunedol a'r Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd: ·
eu bod yn fodlon gyda’r
cynnydd a wnaed wrth ddatblygu amrywiol agweddau o’r gwaith oedd angen ei
wneud.
Roedd cwblhau arolwg y meysydd parcio wedi cymryd cyfnod
sylweddol o amser, ond roedd y rhan fwyaf o’r gwaith cynllunio bellach wedi ei
gwblhau.
Roedd Swyddogion wedi ymweld â phob Grŵp Ardal
Aelodau er mwyn eu briffio ar y cynigion a cheisio eu cefnogaeth ar gyfer y
cynlluniau; ·
disgwylid y byddai’n
cymryd pum mlynedd i gwblhau’r rhaglen wella gyfan. Roedd y broses o'i rhoi ar waith yn ei chamau cynnar a dim ond oddeutu 12
peiriant talu ac arddangos newydd oedd wedi eu gosod hyd yma. Cyllideb Gwasanaeth Meysydd Parcio oedd yn talu am gost y gwaith hwn; ·
roedd angen mwy o waith
proffilio cyllideb ar gyfer y rhaglen fuddsoddi cyn ei datblygu fel Achos
Busnes i’w gyflwyno i Grŵp Buddsoddi Strategol y Cyngor er mwyn ei
gymeradwyo;
·
byddai'r gwaith yn cael ei
wneud fesul cam.
Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf byddai peiriannau talu ac
arddangos cyfredol yn cael eu disodli gan beiriannau fyddai’n cymryd taliadau
cerdyn ac yn cynhyrchu proffiliau data gwell o ddefnydd pob maes parcio. Byddai arwyddion
mewn meysydd parcio yn cael eu gwella yn ystod camau cyntaf y cynllun gan y
byddai hyn yn gwella’r profiad ymwelwyr drwy roi gwybodaeth glir o safbwynt
ardaloedd arhosiad byr / arhosiad hir y meysydd parcio. Byddai gwelliannau mwy cosmetig h.y. goleuo a thirlunio yn cael eu
huwchraddio yn ystod camau olaf y cynllun buddsoddi; ·
roedd angen gwneud gwaith
pellach er mwyn asesu effaith rhai o’r ymyraethau a gyflwynwyd gan Grŵp
Tasg a Gorffen Meysydd Parcio h.y. tocynnau talu ac arddangos y gellir eu
trosglwyddo rhwng meysydd parcio arhosiad hir ar draws y sir, trwyddedau parcio
di bapur ayb; ·
roedd y cynllun buddsoddi
yn cynnwys buddsoddiad o £1.3 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd mewn 44 o‘r
meysydd parcio yr oedd y Sir yn berchen arnynt. Tra
roedd y cynllun yn hyblyg, byddai gwaith yn cael ei gyflawni ar ôl ymarfer
blaenoriaethu; ·
byddai cytundeb y Cyngor
am beiriannau talu ac arddangos sy’n derbyn taliad dros y ffôn yn rhedeg am
ddwy flynedd arall.
Fodd bynnag doedd yr adnodd yma ddim yn cael ei defnyddio
yn aml, felly byddai’r peiriannau talu ac arddangos o bosib yn cael eu disodli
gan beiriannau sy’n darparu swyddogaethau gwahanol pan fyddai'r contract yn dod
i ben; ·
ni fyddai’r gwaith
ailwampio i’w gwblhau ar y maes parcio tanddaearol yn y Rhyl yn ffurfio rhan
o’r cynllun buddsoddi hwn. Roedd yr achos busnes ar
gyfer y gwaith hwnnw wedi ei gymeradwyo yn ddiweddar gan Grŵp Buddsoddi
Strategol a Chabinet y Cyngor; · nod y Cynllun Buddsoddi Meysydd Parcio pum mlynedd o hyd yw ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
YMCHWILIAD I LIFOGYDD 19 GORFFENNAF 2017 PDF 205 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Risg Llifogydd (copi ynghlwm) sy’n gofyn i'r Pwyllgor
ystyried p’run ai oes angen i'r Cyngor, yng ngoleuni'r gwersi a ddysgwyd o
lifogydd Gorffennaf 2017, weithredu neu adolygu arferion gweithio er mwyn
lliniaru rhag risg o lifogydd yn y sir yn y dyfodol 11.45am – 12.15pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy
adroddiad y Rheolwr Perygl Llifogydd (a gylchredwyd eisoes) oedd yn nodi
darganfyddiadau’r ymchwiliad i'r llifogydd yng ngogledd y sir ar 19 Gorffennaf
2017. Yn atodol i’r
adroddiad oedd copi o'r adroddiad terfynol a gynhyrchwyd yn unol ag Adran 19
Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. O dan ddarpariaethau'r Ddeddf roedd
angen i’r Cyngor ymchwilio, paratoi a chyhoeddi’r adroddiad hwn mewn ymateb i
achosion o lifogydd o fewn ei ffiniau daearyddol. Amlinellodd y Rheolwr Perygl Llifogydd ddyletswyddau’r cyngor o safbwynt
ymchwilio i'r llifogydd a ddigwyddodd, a dywedodd mai dim ond unwaith mewn 50
mlynedd y byddai disgwyl i faint o law a gwympodd yng ngogledd ysir ar 19
Gorffennaf 2017 gwympo mewn diwrnod. Aeth ymlaen i amlinellu’r broses o ymchwilio achos a
maint y llifogydd, a dywedodd ei fod wedi cymryd cryn dipyn o amser i gasglu a
dadansoddi’r dystiolaeth a’r wybodaeth a gasglwyd oherwydd yr ardal ddaearyddol
eang a effeithiwyd. Daeth yr
ymchwiliad i’r canlyniad mai achos y llifogydd oedd digwyddiad glawog oherwydd
nad oedd gormod o ddŵr wyneb yn gallu mynd i’r systemau draenio a
charthion yn ddigon cyflym i’w alluogi i ddraenio i ffwrdd. Roedd faint o law a
gwympodd y diwrnod hwnnw yn fwy na’r capasiti sydd o fewn y systemau draenio a
charthion lleol i lifo'n gyson.
Aeth
Aeth y diffyg capasiti hwn yn waeth oherwydd rhwystrau mewn pibellau ac
oherwydd problemau mewn gorsafoedd pwmpio, cyfrifoldeb Dŵr Cymru Welsh Water
(DCWW) oedd y ddau beth yma.
Pwysleisiodd
y Rheolwr Perygl Llifogydd bod DCWW a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio’n
agos gyda'r Cyngor wrth gyflawni'r gwaith o ymchwilio i'r llifogydd a dywedodd
yr Aelod Arweiniol wrth y Pwyllgor bod y swyddog wedi adeiladu perthynas waith
dda gyda’r ddau sefydliad, ac roedd y ddau yn derbyn bod gan yr holl
bartneriaid gyfrifoldebau o ran rheoli perygl llifogydd yn yr ardal hon. Manylodd aelodau o ardal y Rhyl am nifer o broblemau hir dymor yn ymwneud â
llifogydd yn ardal y Rhyl gan gynnwys cambr y ffordd yn Ffordd Derwen, dŵr
yn llifo oddi ar gaeau chwarae Ysgol Dewi Sant, tipio anghyfreithlon ar dir y
mae Network Rail yn berchen arno a phroblemau gyda draeniau a ffosydd cerrig y
mae’n berchen arnynt, problemau ar Ffordd Elan a chae newydd Clwb Rygbi'r Rhyl. Dywedodd Pennaeth
Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol bod achos nifer o’r problemau hyn yn
gymhleth iawn. Oherwydd y
cymhlethdodau roedd y Cyngor wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i gyflawni
astudiaeth fanwl i’r math o waith fyddai ei angen i wella'r sefyllfa. Er hynny, ni allai neb
roi sicrwydd pendant na fyddai digwyddiad o'r fath yn fyth yn digwydd eto, y
cwbl oedd modd ei wneud oedd lleihau'r perygl o lifogydd yn y dyfodol. Disgwylir canlyniadau'r
astudiaethau draenio yn Ffordd Derwen, y Rhyl ym mis Medi 2018. Yn yr un modd,
disgwylir canlyniadau'r cydweithio a fu rhwng DCWW a Chyfoeth Naturiol Cymru, i
ymchwilio a ellid gwella rheolaeth Ffos Y Rhyl a Gwter Prestatyn yn ogystal â'r
draeniau a'r carthffosydd cyfagos, tua’r un pryd. Gan ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd y swyddogion: ·
Roedd DCWW yn cynnal
astudiaeth i ardal Bro Berllan Rhuddlan er mwyn deall maint y llifogydd a’r
problemau draenio yno; ·
Roedd cafnau roedd y Cyngor
yn berchen arnynt yn cael eu gwagu o leiaf unwaith y flwyddyn, gyda’r rheiny
oedd yn achosi problemau yn cael eu gwagu’n fwy rheolaidd. Os oedd aelodau’n ymwybodol o gafnau a allai gynyddu’r perygl o lifogydd
neu oedd angen eu gwagu dylent gysylltu â’r Ganolfan Gwasanaeth i Gwsmeriaid i
adrodd am y mater; · roedd y Cyngor yn ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 226 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar
faterion perthnasol. 12.15pm – 12.30pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Archwilio adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) sy’n gofyn i’r Aelodau
adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi diweddariad ar faterion
perthnasol. Canolbwyntiodd y
drafodaeth ar y canlynol –
·
nododd aelodau bod y
Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio wedi cyfarfod i ystyried
nifer o eitemau posibl i fod yn destun archwilio, a oedd wedi eu cynnwys ar
raglen waith y Pwyllgor;
Felly: Penderfynwyd: -
cymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol y
Pwyllgor yn amodol ar yr uchod |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. 12.30pm
– 12.45pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddodd gynrychiolwyr y Pwyllgor ar eu presenoldeb mewn
cyfarfodydd fel a ganlyn - Roedd y
Cynghorydd Graham Timms wedi mynychu’r Her Gwasanaeth ar Gyfer Adnoddau, Asedau
a Thai a nododd fod adroddiad diweddaru wedi ei gynnwys yn y briff diweddaru
gwybodaeth. Daeth y cyfarfod i ben am 13.15pm. |