Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Cafwyd datganiad
o fuddiant rhagfarnus a phersonol gan y Cynghorydd Tina Jones yn ymwneud ag
eitem 5 – Rhoi Cynnig Gofal Plant am ddim Llywodraeth Cymru ar waith yn Sir
Ddinbych. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2018 (copi wedi’i atodi). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2018. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf
2018 fel cofnod cywir. |
|
RHOI CYNNIG GOFAL PLANT AM DDIM LLYWODRAETH CYMRU AR WAITH YN SIR DDINBYCH PDF 215 KB Ystyried Adroddiad gan y Prif Reolwr: Ymyrraeth, Ataliad, Iechyd a Lles (copi wedi’i atodi) i geisio barn y Pwyllgor Craffu ar weithrediad arfaethedig cynnig Gofal Plant am ddim Llywodraeth Cymru yn Sir Ddinbych o Ebrill 2019. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod, cafwyd datganiad o fuddiant rhagfarnus a
phersonol mewn rhoi Cynnig Gofal Plant am ddim Llywodraeth Cymru ar waith yn
Sir Ddinbych gan y Cynghorydd Tina Jones, sydd yn berchennog meithrinfa ddydd
ym Mhrestatyn. Hi hefyd yw Ymddiriedolwr
Cymru ar gyfer Cymdeithas Genedlaethol y Meithrinfeydd Dydd. O ganlyniad,
gadawodd y Cynghorydd Jones Siambr Y Cyngor ac ni chymerodd unrhyw ran yn y
drafodaeth. Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg, Plant a Phobl Ifanc
adroddiad y Prif Reolwr: Ymyrraeth,
Atal, Iechyd a Lles (a oedd eisoes wedi ei ddosbarthu). Yn ystod ei gyflwyniad,
pwysleisiodd yr Aelod arweiniol mai cynllun gan Lywodraeth Cymru oedd y cynnig
gofal plant am ddim, a'i fod yn deillio o addewid maniffesto yn etholiad
Cynulliad 2016 i gynnig 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi ei
ariannu gan y Llywodraeth i rai cymwys sydd mewn gwaith ac yn rieni i blant
tair a phedair mlwydd oed am 48 wythnos y flwyddyn erbyn 2020. Tra ei fod yn
gynllun Llywodraeth Cymru, yr Awdurdodau Lleol fyddai’n gyfrifol am ei
ddarparu. Roedd saith
ardal Awdurdod Lleol wedi eu dewis i roi cynllun peilot ar waith. Roedd tair
o’r ardaloedd hyn yng Ngogledd Cymru ac yn yr ardaloedd hynny roedd y cynllun
wedi ei roi ar waith ar draws yr holl sir. Un o’r ardaloedd peilot – neu Awdurdodau Lleol sy’n
Weithredwyr Cynnar (EILA) – oedd Cyngor Sir Y Fflint. Roedd Sir y Fflint,
trwy fod yn weithredwr cynnar, eisoes wedi datblygu’r systemau i weinyddu’r
cynnig gofal plant am ddim, ac roeddent bellach yn brofiadol yn y gwaith o
weinyddu’r cynllun. Roedd Sir Ddinbych
wedi cytuno i weithio mewn partneriaeth a Sir y Fflint, gyda Sir y Fflint yn
darparu’r cynllun ar eu rhan pan fyddai’n cael ei roi ar waith yn Sir Ddinbych ym
mis Ebrill 2019. Byddai Sir Ddinbych yn gweithredu fel Awdurdod Ymgysylltu,
gyda chyfrifoldeb dros hyrwyddo’r cynnig i rieni, gwarcheidwaid, darparwyr
gofal plant, a hyfforddi staff i ddelio ag ymholiadau ynglŷn a’r cynnig
gofal plant am ddim. Byddai Sir Ddinbych yn darparu Sir y Fflint â’r wybodaeth
berthnasol er mwyn prosesu’r ceisiadau a gweinyddu’r cynnig. Roedd Sir Ddinbych, yn
dilyn trafodaethau â Llywodraeth Cymru, wedi dewis rhoi’r cynllun gofal plant
am ddim ar waith ar draws y sir gyfan o Ebrill 2019 ymlaen yn hytrach nac
ymgymryd â gweithrediad graddol y cynnig mewn wardiau penodol o fewn y Cyngor. Roedd yr Aelod
Arweiniol a swyddogion o’r farn y byddai’r dull yma o fynd ati yn un llawer
tecach i’r holl blant a theuluoedd cymwys ar draws y sir. Tra y bu i’r ddau
gyngor gytuno ar y trefniadau i’r bartneriaeth ddarparu’r Cynllun, roedd Sir
Ddinbych yn disgwyl cadarnhad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru eu bod yn
cytuno i’r Cynllun gael ei roi ar waith drwy’r sir gyfan o Ebrill 2019 yn
hytrach nac Ebrill 2020. Serch hynny, roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi
sicrwydd ar lafar eu bod yn cytuno iddo gael ei roi ar waith ar draws y sir yn
Ebrill 2019. Nododd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant fod y cynllun gofal plant am
ddim yn un cymhleth gan ei fod yn cynnwys 10 awr o addysg gynnar ynghyd â 20
awr o ofal plant am 48 wythnos o’r flwyddyn. Pwysleisiodd fod Sir Ddinbych wedi ffafrio rhoi’r cynnig
ar waith ar draws y sir ar yr un pryd yn hytrach na’i gyflwyno yn raddol fesul
ward erioed, ac mai dyna’r rheswm dros beidio gwneud cais i fod yn Weithredwr
Cynnar. Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, nododd yr Aelod Arweiniol, Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant, a’r ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 226 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi wedi’i atodi) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor ac yn diweddaru aelodau ar faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a
chytuno ar ei Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn rhoi diweddariad ar faterion
perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o
Ffurflen Cynigion Aelodau wedi ei chynnwys yn Atodiad 2. Roedd Rhaglen Gwaith
i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn Atodiad 3 ac roedd tabl yn rhoi
crynodeb o benderfyniadau diweddar y Pwyllgor a’r cynnydd a wnaed o ran eu
gweithrediad wedi ei gynnwys yn Atodiad 4. Byddai’r model
Gwastraff ac Ailgylchu newydd yn cael ei gynnwys yng nghyfarfod 25 Hydref 2018
am fod angen gwaith pellach arno cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu. Oherwydd y diddordeb cyhoeddus a ragwelwyd yn
yr eitem hon, cytunwyd i symud yr adroddiad Gorfodi Cynllunio a oedd yn
gynwysedig yng nghyfarfod 25 Hydref 2018 ymlaen i gyfarfod 13 Rhagfyr
2018. Yn ychwanegol at hynny, byddai’r
eitemau ar Ysgol Rhewl ac Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd hefyd yn cael eu symud o
gyfarfod y 25 Hydref 2018. Byddai’r cyntaf yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod ar
24 Ionawr 2019, a'r cyflwyniad ar yr ail yn amodol ar gyhoeddi penderfyniad
Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch ei dyfodol. PENDERFYNWYD - yn
amodol ar yr uchod, i gymeradwyo Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor. Cofnodion: Dim. |
|
Hysbyswyd aelodau
gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Pharth Cyhoeddus mai'r gwasanaeth
nesaf i’w herio fyddai’r Gwasanaeth Gwella Busnes a Moderneiddio. Byddai’r ymholiad yn digwydd am 3.00 p.m. ar
18 Medi 2018, gyda’r cyfarfod Herio Gwasanaeth ar y 2 Hydref 2018. Y Cynghorydd
Andrew Thomas fyddai cynrychiolydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn y cyfarfod
Herio Gwasanaeth. Pwysleisiodd y
Cadeirydd, y Cynghorydd Huw Williams, bwysigrwydd mynychu’r cyfarfodydd Herio
Gwasanaethau – ac os nad oedd modd i Gynghorydd fynychu, bod angen trefnu i
Gynghorydd arall fynychu ar eu rhan.
Roedd hefyd yn bwysig – o ran craffu a chysondeb – mai’r un Aelod oedd
yn bresennol yn yr Ymholiad a’r cyfarfod Herio Gwasanaeth. Daeth y cyfarfod i ben am 10.55 a.m. |