Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Apologies were received from Councillor Merfyn Parry. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 69 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Brian Blakeley gysylltiad personol yn eitem rhif 5
ar y rhaglen gan fod ei wraig yn gweithio i'r GIG. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD hybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 17 Mai 2018 (copi
ynghlwm). 10.05am – 10.10am Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 17 Mai. Nid oedd unrhyw fater yn codi. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mai 2018 fel
cofnod cywir. |
|
YMDDIRIEDOLAETH GWASANAETH AMBIWLANS CYMRU A GWASANAETH MEDDYG TEULU TU ALLAN I ORIAU Derbyn cyflwyniad
ar y cyd gan gynrychiolwyr Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a
Gwasanaeth Meddyg Teulu Tu allan i Oriau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
ar eu perfformiad a’r gwaith sy’n cael ei wneud ar y cyd er mwyn gwella llwybr
gofal ar gyfer cleifion. 10.10am – 11.10am Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd gynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST) a
Gwasanaeth Meddyg Teulu Tu Allan i Oriau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
i'r cyfarfod, i roi cyflwyniad ar sut mae'r ddau wasanaeth yn cydweithio i
wella canlyniadau i gleifion drwy ddarparu ymateb sy'n addas yn glinigol, yn
hytrach na chanolbwyntio ar dargedau amser diystyr. Drwy gyfrwng
cyflwyniad PowerPoint, eglurodd cynrychiolwyr WAST y rhaglen trawsnewid sydd
wedi digwydd yn y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru dros y blynyddoedd diweddar.
Fe wnaethant dynnu sylw at nifer o
ddatblygiadau cadarnhaol a oedd wedi digwydd fel rhan o’r rhaglen trawsnewid
hon, ac fe wnaethant rannu eu profiad o weithredu’r Model Ymateb Clinigol (a
benderfynodd ar yr ymateb mwyaf addas i ddefnyddio galwad argyfwng). Fe
wnaethant sôn am y gwersi a ddysgwyd fel rhan o’r broses weithredu a’u dyheadau
am y dyfodol i wella'r llwybr gofal i gleifion. Rhoddwyd trosolwg
hefyd i Aelodau am sefyllfa’r Model Ymateb Clinigol yng nghyd-destun y newid
sefydliadol a system ehangach o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Comisiynwyd WAST gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru i roi gwasanaeth
ambiwlans i gludo cleifion i’w sefydliadau ac i ddarparu gwasanaethau ymyrraeth
iechyd addas ar y ffordd i’r sefydliadau hynny. Ar draws Cymru, roedd y Gwasanaeth yn delio gydag
oddeutu 1,300 o alwadau brys bob dydd. Roedd y Gwasanaeth – a ariannwyd gan y Llywodraeth
– am ddim yn y pwynt o angen. Yn debyg i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eraill, ac yn rhannol
oherwydd newidiadau demograffig, roedd o dan bwysau cynyddol, wrth i’r galw am
ei wasanaethau barhau i gynyddu. Roedd y cynnydd hwnnw mewn galw wedi tynnu sylw’r Gwasanaeth Ambiwlans at
yr angen i newid yr amgylchedd gweithredu roeddent yn gweithio o’i fewn.
Tynnwyd y ffocws oddi wrth fodloni targedau amser diystyr, i wella’r profiad
i’r claf pan roeddent yn cyrraedd, i’w trin gyda’r bwriad o wella’r canlyniadau
iddynt yn y tymor hir. Roedd y Model Ymateb Clinigol newydd wrth wraidd y rhaglen trawsnewid.
WAST oedd y Gwasanaeth Ambiwlans
cyntaf i fabwysiadu’r model hwn, fodd bynnag, roedd gwasanaethau yn Lloegr a’r
Alban bellach yn dilyn arweiniad WAST. Yn ystod y cyflwyniad, fe wnaeth cynrychiolwyr
WAST: ·
ddisgrifio’r broses
‘dylunio ambiwlans i ofal heb ei drefnu’ a’r weithdrefn flaenoriaethau Coch,
Oren, Gwyrdd (COG) y cytunwyd arni - a oedd wedi'i dylunio i fod â ffocws
clinigol, ac yn ddoeth a diogel i bob claf; ·
rhoi gwybod mai'r unig
darged roeddent yn cael eu mesur yn ei erbyn ar sail genedlaethol gan y
Llywodraeth oedd y targed 8 munud a osodwyd ar gyfer ymateb i alwad gyda statws
'Coch' - yr argyfwng â'r lefel uchaf, er eu bod fel Gwasanaeth â thargedau
amrywiol wedi'u gosod ar gyfer tasgau penodol neu feysydd gwaith; ·
rhoi gwybod bod lleihau’r
galw am y Gwasanaeth yn anodd iawn. Roedd data’n dangos
cynnydd mewn galw o’r naill flwyddyn i’r llall, gyda rhagamcaniadau'r dyfodol
hefyd yn amcangyfrif cynnydd o'r naill flwyddyn i'r llall mewn galw ar y
Gwasanaeth ar gyfer y dyfodol rhagweladwy. O ganlyniad, roedd
angen cynllun i geisio rheoli’r galw’n well; ·
egluro bod y Model Ymateb
Clinigol a dreialwyd ac a fabwysiadwyd yng Nghymru’n cynnwys gweithio gyda
phartneriaid - h.y. Byrddau Iechyd, Meddygon Teulu, Gwasanaethau Cymdeithasol,
Heddlu, Gwasanaeth Tân ac Achub ac ati - i gefnogi pobl yn effeithiol ac yn
addas a oedd yn galw’r Gwasanaeth Ambiwlans yn rheolaidd (Galwyr Rheolaidd). Er enghraifft, roedd clinigwyr nawr wedi’u lleoli yng Nghanolfannau Rheoli'r Heddlu a'r Gwasanaethau Tân ac Achub, gyda'r bwriad o flaenoriaethu ymateb y Gwasanaeth Ambiwlans i'r galwadau hynny'n addas. Roedd y dull ‘Gwrando a Thrin', lle'r oedd parafeddygon a chlinigwyr nyrs yn cynnal asesiadau ffôn ac ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
MYNWENTYDD CYNGOR SIR DDINBYCH PDF 204 KB Ystyried
adroddiad ar y cyd rhwng Rheolwr Uned Gwaith a Strydwedd a Rheolwr Strydwedd
(Gogledd) (copi ynghlwm) sy’n hysbysu aelodau o gymhwysedd gweddilliol o fewn mynwentydd y cyngor, ac yn amlinellu ardaloedd sydd
mewn perygl o ran capasati claddu yn y dyfodol. Mae’r adroddiad hefyd yn gofyn am farn yr
aelodau am gynyddu cost mynwentydd, ac yn amlinellu trefn cynnal a chadw
presennol (a pholisïau rheoli) ar gyfer holl fynwentydd a reolir gan y cyngor. 11:20 am - 12:00pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Dai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd yr
adroddiad ar y cyd (a gylchredwyd yn flaenorol) gan yr Uned Waith a’r Rheolwr
Strydwedd a’r Rheolwr Strydwedd (Gogledd), a ddiweddarodd aelodau ar faterion
rheoli'n ymwneud â mynwentydd ym mherchnogaeth y Cyngor Sir, yn cynnwys
capasiti gweddilliol mynwentydd ar draws y sir, a'r ardaloedd risg posibl o ran
capasiti claddedigaethau yn y dyfodol. Eglurodd ymhellach fod yr adroddiad a’r atodiadau
cysylltiedig yn ceisio safbwyntiau’r Pwyllgor ar y cynnydd arfaethedig mewn
ffioedd claddu a mynwentydd ym mherchnogaeth y sir, a ddylai grŵp tasg a gorffen
gael ei sefydlu i ystyried capasiti’r dyfodol mewn mynwentydd, ac fe
amlinellodd hefyd y weithdrefn cynnal a chadw cyfredol a pholisïau rheoli ar
gyfer y mynwentydd. Rhoddodd yr
Aelod Arweiniol wybod bod Sir Ddinbych ar hyn o bryd yn codi’r ffioedd
claddedigaethau isaf yng Ngogledd Cymru, a dyma’r rheswm dros gynnig y cynnydd
o 5% mewn ffioedd. Hyd yn oed pe
bai’r cynnydd o 5% yn cael ei gymeradwyo, byddai Sir Ddinbych yn dal yn un o’r
awdurdodau a fyddai’n codi’r ffioedd claddedigaethau isaf yn y rhanbarth. Tynnodd Bennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol sylw’r aelodau at
Atodiad 5 yr adroddiad, a oedd yn cynnwys canlyniadau’r astudiaeth ddichonoldeb
a gynhaliwyd yn 2004 gan y Grŵp Tasg a Gorffen Craffu ar gynnig i
ddatblygu mynwent newydd i’r Rhyl. Roedd yr astudiaeth ddichonoldeb wedi’i gwneud ar yr adeg
honno oherwydd y nifer gyfyngedig o leiniau newydd ar gael ym mynwent y dref. Fodd bynnag, oherwydd y
costau sy’n gysylltiedig â datblygu mynwent newydd, yr argymhelliad oedd peidio
â bwrw ymlaen â’r cynnig.
Ers
hynny, roedd mynwent y dref wedi cau i gladdedigaethau newydd. Roedd gweddill y
mynwentydd ym mherchnogaeth y Cyngor ar draws y sir â chapasiti ar hyn o bryd i
gynnwys claddedigaethau newydd.
Roedd
capasiti claddedigaethau’n amrywio rhwng mwy na 1,000 llain yng Nghoed Bell,
Prestatyn i 55 yn Llanrhydd, Rhuthun Wrth ymateb i gwestiynau aelodau, dywedodd yr Aelod
Arweiniol, y Pennaeth Gwasanaeth a’r swyddogion: ·
fod y ffioedd
claddedigaethau a amlinellir yn Atodiad 2 yr adroddiad yn ffioedd a godir ar
breswylwyr Sir Ddinbych.
Caniatawyd claddu preswylwyr nad oeddent o Sir Ddinbych
ym mynwentydd y sir, fodd bynnag, roedd ffioedd yn cael eu dyblu ar gyfer y
preswylwyr hynny.
Fodd bynnag, roedd unigolion a theuluoedd yn fodlon talu’r
gost ychwanegol; ·
cadarnhau nad oedd gan y
Cyngor ddigon o gapasiti i gynnal gwaith cynnal a chadw tiroedd ym mynwentydd
lawnt y sir, a dyma’r rheswm y cafodd ei gontractio'n allanol i gontractwr
allanol.
Ar hyn o bryd roedd contract tymor byr gyda chontractwr
allanol ar gyfer cynnal a chadw tiroedd y mynwentydd yn ei le am y flwyddyn
gyfredol.
Roedd Swyddogion ar hyn o bryd yn archwilio’r
posibilrwydd o ymgorffori’r contract cynnal a chadw tiroedd mynwentydd gyda’r
contract torri ymylon gwair priffyrdd o Fawrth 2019; ·
cydnabod dyheadau rhai
aelodau i gael y gwaith cynnal a chadw tiroedd wedi'i wneud yn fewnol. Fodd bynnag, nid oedd y Cyngor ar hyn o bryd â’r gallu i wneud y gwaith
hwn, ac yn yr hinsawdd ariannol gwasanaethau cyhoeddus cyfredol, roedd yn
annhebygol o fod mewn sefyllfa i wneud y gwaith hwn yn fewnol ar gyfer y
dyfodol rhagweladwy, oni bai bod arian refeniw'n cael ei ddargyfeirio i'r
Gwasanaeth o wasanaethau 'rheng flaen'; ·
cadarnhau bod y manylion
contract cynnal a chadw tiroedd cyfredol yn nodi’r safon o dorri sy’n ofynnol,
yr angen i glirio’r toriadau dros ben, atebolrwydd am ddifrod i gerrig beddi ac
ati. Roedd pob agwedd a gynhwysir yn y manylion contract yn cael eu monitro’n
rheolaidd fel rhan o broses monitro contractau’r Cyngor; · rhoi gwybod bod ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLAN WAITH ARCHWILIO PDF 238 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi
ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r
diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 12pm – 12.15pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r
Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn rhoi
diweddariad ar faterion perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer
y cyfarfod. Roedd copi o Ffurflen Cynigion Aelodau wedi ei chynnwys yn Atodiad 2. Roedd
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn Atodiad 3 ac roedd tabl
yn rhoi crynodeb o benderfyniadau diweddar y Pwyllgor a’r cynnydd a wnaed o ran
eu gweithrediad wedi ei gynnwys yn Atodiad 4. Atgoffwyd Aelodau bod gwyliau Awst ar y gweill, ond byddai unrhyw
ffurflenni cynnig craffu a ddaw i law hyd at ganol Awst yn cael eu hystyried
yng Ngrŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu 6 Medi. Roedd y Pwyllgor Craffu Cymunedau ym Medi â dwy eitem bwysig – y Model
Gwastraff ac Ailgylchu arfaethedig newydd a gweithredu’r cynnig gofal plant am
ddim gan Lywodraeth Cymru yn Sir Ddinbych. O ystyried y diddordeb cyhoeddus
posibl yn y ddwy eitem, byddai’r cyfarfod yn cael ei weddarlledu. Cytunwyd y byddai’r adroddiad ar Reoli Twristiaeth, Digwyddiadau a
Chyrchfannau’n cael ei ohirio i gyfarfod Hydref y Pwyllgor. PENDERFYNWYD - yn amodol ar yr uchod, i
gymeradwyo’r penodiadau a Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn diweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a
Grwpiau’r Cyngor. 12.15pm – 12.30pm Cofnodion: Dim. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12.15pm. |