Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
CROESO Gwnaeth y Cadeirydd groesawu pawb i’r cyfarfod a mynegodd groeso arbennig i
Lesley Powell, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych a Katie Goodwin, Rheolwr Partneriaethau Adran
Gwaith a Phensiynau a oedd yn bresennol ar gyfer eitem 6 ar y rhaglen - Credyd
Cynhwysol. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Rhoddodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans ymddiheuriadau fel Aelod Arweiniol ar gyfer
eitem 7 – Strategaeth Arwyddion Twristiaeth ar gyfer Sir Ddinbych. |
|
Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu
gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y
cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Merfyn Parry gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen - Credyd
Cynhwysol. |
|
Penodi
Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2018/19 (gweler ynghlwm gopi
o ddisgrifiad swydd ar gyfer Aelod Archwilio a Chadeirydd / Is-Gadeirydd) Cofnodion: Enwebwyd ac
eiliwyd Cynghorydd Graham Timms ar gyfer rôl Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu
Cymunedau. Ni dderbyniwyd enwebiadau eraill ac felly: PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Graham Timms
yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer blwyddyn y cyngor 2018/2019. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 22 Mawrth
2018 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 22 Mawrth. Materion yn codi - Tudalen 12 – Eitem 6 ar y Rhaglen – Adroddiad
Diweddaru Rheoli Gwylanod – Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu nad oedd gohebiaeth
gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn gofyn am wybodaeth o ran
niferoedd unigolion a oedd wedi mynychu Ysbytai Lleol wedi cynnwys nifer yr
unigolion a oedd wedi mynychu meddygfeydd Meddygon Teulu. Byddai’r dasg i
gasglu ffigurau pob meddygfa meddyg teulu yn fawr. PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2018
fel cofnod cywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Contractau a Pherfformiad Prosiect (copi ynghlwm) yn
manylu ar effaith tebygol cyflwyno’r Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol ar
Wasanaethau’r Cyngor ac ar breswylwyr y Sir a’r gwaith cynllunio a pharatoi sydd
wedi cael ei wneud hyd yn hyn. 10.10-11.00 a.m Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwnaeth yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol gyflwyno
adroddiad gan y Rheolwr Prosiect Contractau a Pherfformiad: Cyllid (dosbarthwyd
eisoes) a oedd yn amlinellu effaith debygol cyflwyniad diweddar Gwasanaeth
Llawn Credyd Cynhwysol ar wasanaethau’r Cyngor a phreswylwyr y sir, a’r gwaith
cynllunio a pharatoi a wnaed hyd yma gan y Cyngor a’i bartneriaid ar gyfer
effaith bosibl ei gyflwyno.
Cyn
egluro cynnwys yr adroddiad, cyflwynodd yr Aelod Arweiniol swyddogion y Cyngor
a oedd yn bresennol ynghyd â’r cynrychiolwyr o’r sefydliadau partner allweddol,
yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, ac roedd yr
awdurdod wedi bod yn gweithio’n agos gyda nhw gyda’r bwriad o reoli effaith
Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol yn y sir. Yn ystod ei gyflwyniad, dywedodd yr Aelod Arweiniol, er
bod y rhan fwyaf o Sir Ddinbych wedi ffurfio rhan o gyflwyno Gwasanaeth Llawn
Credyd Cynhwysol a ddechreuodd ym mis Ebrill 2018, gan ei fod yn cael ei
wasanaethu gan Ganolfan Waith y Rhyl, roedd preswylwyr yn rhan ddeheuol y sir
wedi bod yn destun Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol o fis Hydref 2017 gan fod
eu Canolfan Waith leol yn Wrecsam, ac roedd rhai a oedd yn byw ar gyrion
gorllewin yn y sir yn mynd rai wythnosau’n ddiweddarach gan fod Canolfan Waith
Llandudno yn effeithio arnynt. Dywedwyd wrth Aelodau fod cyflwyno Credyd Cynhwysol yn ffurfio rhan o
raglen Llywodraeth y DU o ddiwygio lles. Roedd yn fudd-dal a oedd yn seiliedig ar brawf modd,
wedi’i weinyddu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, a oedd ar gael i bobl oedran
gweithio ar incwm isel, naill ai mewn gwaith neu allan o waith. Roedd y budd-dal newydd
yn disodli’r chwe phrif fudd-dal neu gredydau treth a oedd ar gael i bobl
oedran gweithio a’u cyfuno yn un taliad aelwyd sengl bob mis. Gan fod yn ymwybodol o
oblygiadau posibl cyflwyno Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol ar breswylwyr a
gwasanaethau’r Cyngor fel ei gilydd, sefydlodd y Cyngor Fwrdd Credyd Cynhwysol
ym mis Gorffennaf 2017. Pwrpas y Bwrdd,
a oedd yn cynnwys swyddogion o amrywiaeth eang o wasanaethau’r Cyngor a
budd-ddeiliaid partner allweddol, h.y. yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyngor ar
Bopeth Sir Ddinbych a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, oedd datblygu
dull corfforaethol o ddarparu cefnogaeth a chyngor i breswylwyr a oedd wedi’u
heffeithio gan y newidiadau i sicrhau nad oeddent yn methu allan ar eu hawl i
fudd-daliadau neu unrhyw hawliau cysylltiedig, h.y. Prydau Ysgol Am Ddim ac
ati. Fel rhan o gynllunio ar gyfer cyflwyno Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol
yn y sir, roedd swyddogion wedi cysylltu’n agos gydag awdurdodau eraill, fel
Sir y Fflint, lle roedd Gwasanaethau Llawn Credyd Cynhwysol wedi’u cyflwyno yn
gynharach gyda bwriad o ddysgu o’u profiadau a chasglu arfer da. Eglurodd swyddogion y Cyngor a oedd yn bresennol wrth y Pwyllgor y mesurau a weithredwyd hyd yma mewn cais i liniaru effeithiau cyflwyno’r budd-dal ar breswylwyr ac ar wasanaethau’r Cyngor, gan ddangos y cysylltiadau rhwng gwaith amrywiaeth o grwpiau a budd-ddeiliaid. Gwnaethant amlinellu’r risgiau a nodwyd o ran ei gyflwyno a’r camau gweithredu lliniaru a anogwyd i reoli’r risgiau hynny (fel a nodir yn Atodiad 3) a’r amrywiaeth o gyfathrebu a oedd wedi’u rhoi i breswylwyr a budd-ddeiliaid yn ystod yr amser a oedd yn arwain at gyflwyno’r budd-dal ac wedi hynny (Atodiad 5). Gyda bwriad o ddarparu gwasanaeth di-dor a dull amlasiantaeth, mae gan Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych a’r Cyngor staff yng Nghanolfan Gwaith y Rhyl i ddarparu amrywiaeth o gefnogaeth a chyngor i’r rhai sy’n hawlio Credyd Cynhwysol gan gynnwys cyngor am gyllidebu a chyngor tai, atal digartrefedd a mynediad i hawliau eraill sydd ar gael gan y Cyngor. Roedd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ar y pwynt hwn (11:20 a.m.) cymerodd y cyfarfod egwyl am luniaeth. |
|
Ailddechreuodd y cyfarfod am 11:35 a.m. |
|
STRATEGAETH ARWYDDION TWRISTIAETH AR GYFER SIR DDINBYCH PDF 240 KB Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Traffig,
Parcio a Diogelwch Ffyrdd a’r Arweinydd Tîm – Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, gan roi’r diweddaraf i aelodau
am ddatblygiad cychwynnol strategaeth arwyddion twristiaeth ar gyfer Sir
Ddinbych. 11.15-12.00
p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn absenoldeb yr Arweinydd, cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd (Aelod Arweiniol
Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol) adroddiad ar y cyd gan Reolwr Traffig,
Parcio a Diogelwch Ffyrdd y Cyngor, a’r Arweinydd Tîm: Twristiaeth, Marchnata a
Digwyddiadau (a ddosbarthwyd eisoes) a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i
aelodau am ddatblygiad dechreuol strategaeth arwyddion twristiaeth ar gyfer Sir
Ddinbych. Rhoddodd
friff i aelodau am gefndir y prosiect ac eglurodd, pan fyddai’r arwyddion
twristiaeth ‘brown’ wedi’u codi ar ochr yr A55 i gyfeirio ymwelwyr i Rhuddlan,
Llanelwy a Dinbych, byddai angen arwyddion eraill i’w cyfeirio i atyniadau
eraill ar draws y sir. Barn Aelodau Arweiniol a swyddogion oedd fod codi’r arwyddion ar yr A55 a
chyflwyno menter dwristiaeth Llywodraeth Cymru (LlC) ‘Ffordd Cymru’ (ynghlwm
wrth atodiad C yr adroddiad) a oedd yn canolbwyntio ar hyrwyddo tri llwybr
twristiaeth craidd yn y sir, yn darparu cyfle delfrydol i’r Cyngor ei hun
ddatblygu strategaeth arwyddion twristiaeth ar gyfer Sir Ddinbych a oedd yn
ategu arwyddion yr A55 a gweledigaeth LlC, wrth ddatblygu economïau trefol a
gwledig y sir. Yn ogystal
â gweithio gyda cynghorau tref a chymuned,
twristiaeth a busnesau eraill i ddatblygu a darparu arwyddion ‘traddodiadol’,
byddai hefyd yn ddoeth cynyddu portholion gwybodaeth ddigidol a chyfleoedd
busnes, fel ‘i-beacons’. Dywedodd
swyddogion fod awdurdodau lleol Gogledd Cymru wedi cyflwyno cynnig ar y cyd
llwyddiannus dan brosiect ‘Ffordd Cymru’ i ddatblygu twristiaeth y gaeaf yn y
rhanbarth. Roedd gwaith yn
mynd rhagddo gyda busnesau lleol ar draws y rhanbarth gyda bwriad o’u
hymgysylltu gyda phrosiect a fyddai’n gweld busnesau sy’n gysylltiedig â
thwristiaeth ar agor drwy’r flwyddyn ac yn ffynnu, beth bynnag yw’r tymor. Er bod technoleg yn
datblygu bob dydd, roedd arwyddion ochr ffordd yn dal yn ffordd bwysig o dynnu
sylw twristiaid at atyniadau, roedd gwybodaeth ddigidol yn ategol at arwyddion. Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol a
swyddogion: ·
roedd gweithredwyr
twristiaeth fel arfer yn talu am arwyddion ‘brown’, ond roedd y Cyngor fel
arfer yn talu am unrhyw gostau cynnal a chadw ar eu cyfer, er nad oedd ganddynt
gyllideb benodol ar gyfer costau cynnal a chadw’r arwyddion; ·
gallai’r gweithgor aelodau
etholedig a swyddogion arfaethedig weithio allan manylion llwybrau twristiaid a
ffefrir a rhai amgen drwy’r sir, fel rhan o’i waith o ran datblygu ‘llwybrau
twristiaid'. Gallai’r Grŵp drafod gyda chynghorau dinas, tref a chymuned hefyd
beth yw manteision datblygu a phrynu arwyddion a oedd â brandio cyson. Byddai’r gweithgor hwn yn edrych ar strategaeth arwyddion yn unig, gan
gynnwys rhoi symbolau hawdd eu hadnabod ac ati arnynt, ar gyfer rhwydwaith
priffyrdd y sir, ni fyddai’n archwilio arwyddion cefnffyrdd gan mai cyfrifoldeb
LlC oeddent.
Pan oedd wedi’i sefydlu, rhagwelwyd y byddai cyfle i’r
Gweithgor weithio gydag awdurdodau cyfagos eraill gyda bwriad o sicrhau y
byddai ‘llwybrau twristiaeth’ pob awdurdod yn ategu llwybrau ei gilydd a’r rhai
a nodwyd fel rhan o gynnig Ffordd Gogledd Cymru i gyd; ·
er nad oedd gan y Cyngor
ei ‘Siop Arwyddion’ ei hun bellach, gallai gaffael arwyddion ffordd ar gyfradd
gystadleuol, er byddai rhywfaint o oedi o ran amser darparu; ·
roedd y Gweithgor oedd â’r
dasg o ddatblygu arwyddion twristiaeth yr A55 ar gyfer atyniadau Dyffryn Clwyd
wedi ailgyfarfod yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ym mis Tachwedd gyda bwriad o
ddatblygu’r prosiect. Roedd rhywfaint o ddiffyg o ran y cyllid a oedd ar gael ar gyfer yr
arwyddion, ac roedd yr Aelod Cynulliad (AC) yn ceisio datrys hyn drwy LlC; ·
er bod twristiaid yn
dibynnu fwyfwy ar wybodaeth ddigidol am le i ymweld ag ef ac ati, byddai angen
dogfennau papur o hyd fel mapiau a chanllawiau; ac · nid oedd cydbwysedd gwleidyddol yn ofyniad i ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 226 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r
diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 12.00-12.15
p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) sy’n gofyn i’r Aelodau
adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi diweddariad ar faterion
perthnasol. Canolbwyntiodd
y drafodaeth ar y canlynol – ·
ail-gadarnhawyd y ddwy eitem ar y rhaglen waith ar gyfer
cyfarfod nesaf y Pwyllgor, a chytunwyd i wahodd yr Aelodau Cabinet Arweiniol
perthnasol i’r cyfarfod hwnnw; ·
cytunwyd i gynnwys adroddiad diweddaru am Gredyd
Cynhwysol a Strategaeth Arwyddion Twristiaeth ar gyfer Sir Ddinbych ar Raglen
Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor ymhen 12 mis; ·
cyfeiriwyd at friff gwybodaeth y Pwyllgor, a oedd yn
cynnwys diweddariad ar gamau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf, ynghyd â
gwybodaeth bellach yn ôl y gofyn Felly: Penderfynodd y
Pwyllgor: - gymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor yn
amodol ar yr uchod |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw
ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. 12.15-12.20 p.m. Cofnodion: Adroddodd
gynrychiolwyr y Pwyllgor ar eu presenoldeb mewn cyfarfodydd fel a ganlyn - Roedd y
Cynghorydd Huw Williams wedi mynychu’r Her Perfformiad Gwasanaeth ar gyfer
Cyllid, a nododd fod adroddiad diweddaru wedi ei gynnwys yn y briff diweddaru
gwybodaeth. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12:25 p.m. |