Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
CROESO Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a rhoddodd groeso arbennig i
Charlotte Owen o Swyddfa Archwilio Cymru a oedd yn bresennol i arsylwi
gweithdrefnau fel rhan o waith maes, ar gyfer yr astudiaeth genedlaethol ar
Archwilio ‘Parod at y Dyfodol’. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorwyr Meirick Davies a Merfyn Parry |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2017 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2017. Materion yn Codi - Tudalen 9 Eitem 5 Arwyddion Cyfeiriad i Dwristiaid
ar gyfer Dyffryn Clwyd – Roedd dadansoddiad manwl o gostau a oedd yn
gysylltiedig â’r prosiect Arwyddion Twristiaeth, fel a oedd yn ofynnol gan yr
aelodau yn y cyfarfod diwethaf, wedi’u cynnwys ym mriff gwybodaeth y Pwyllgor
(a gylchredwyd yn flaenorol). Roedd y
cyfarfod nesaf o’r Gweithgor a sefydlwyd i symud ymlaen â darpariaeth o’r
prosiect wedi’i drefnu ar gyfer 19 Ionawr 2018. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd
2017 fel cofnod cywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth (copi ynghlwm)
sydd yn gofyn am farn y Pwyllgor ar ymagwedd a gweithdrefn newydd i reoli
gweithgareddau sy’n ymwneud â choed ar draws y sir. 10.05am – 10.35am
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai, Adfywio a’r
Amgylchedd a’r Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol adroddiad y
Rheolwr Cefn Gwlad a Threftadaeth (a gylchredwyd yn flaenorol), gan roi gwybod
i aelodau bod eisiau eu barn ar weithdrefn ddrafft i reoli pob gweithgaredd yn
ymwneud â choed ar draws y sir. Fe wnaethant esbonio bod y penderfyniad i lunio gweithdrefn wedi codi o her
gwasanaeth diweddar a oedd wedi tynnu sylw at yr angen am weithdrefn a chanllaw
ysgrifenedig i gynorthwyo swyddogion ar draws yr awdurdod i ateb ymholiadau
rheoli coed. Gan fod nifer o wasanaethau’r Cyngor gyda choed wedi’u lleoli yn eu heiddo
neu o'i gwmpas, roedd rheoli coed yn gyfrifoldeb ledled yr awdurdod. Felly, roedd angen gweithdrefn hygyrch
iawn, sy'n gyfeillgar i ddefnyddwyr, i helpu swyddogion i ddelio ag
ymholiadau'n ymwneud â'u rheolaeth. Byddai bodolaeth gweithdrefn o’r fath hefyd yn cynorthwyo’r Cyngor i
gyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol fel perchennog tir, ei ddyletswyddau
rheoleiddio o dan y Deddfau Cynllunio, ac i gefnogi’r ddarpariaeth o nifer o
elfennau yn y Flaenoriaeth Amgylcheddol o'r Cynllun Corfforaethol newydd, wrth
gefnogi ei uchelgeisiau bioamrywiaeth ar yr un pryd. Roedd cyflwyniad y weithdrefn ddrafft i’r
Pwyllgor ar gyfer sylwadau aelodau’n ffurfio rhan o’r broses ymgynghori ar ei
gynnwys. Unwaith y byddai’n cael ei gymeradwyo, byddai’n cael ei gyhoeddi ar wefan a
mewnrwyd y Cyngor, a byddai dogfen Cwestiynau Cyffredin, hawdd ei darllen, yn
cael ei chynhyrchu er mwyn gallu cyfeirio ati. Cyn gwahodd cwestiynau gan aelodau o’r Pwyllgor,
croesawyd y Cynghorydd Hugh Irving i’r cyfarfod gan y Cadeirydd, a’i wahodd i
annerch y Pwyllgor, gan fod y Cynghorydd Irving wedi gofyn yn ffurfiol bod
Archwilio’n ymchwilio i’r angen am bolisi neu weithdrefn ledled y sir i ddelio
â choed. Yn ei anerchiad, croesawodd y Cynghorydd Irving y weithdrefn, gan nodi
esiamplau o broblemau a gafodd eu hachosi gan goed wedi gordyfu ac ati, o'i
brofiad fel cynghorydd. Cefnogodd yr awgrym o gael fersiwn cryno hawdd ei ddarllen o’r weithdrefn,
a fyddai’n ddefnyddiol i swyddogion, cynghorwyr a phreswylwyr fel ei gilydd. Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, fe wnaeth y
Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Economi ac Uchelgais
Cymunedol, y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol, a’r Rheolwr
Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth - ·
gadarnhau
mai’r egwyddor sylfaenol i gael gweithdrefn ysgrifenedig ar gyfer delio â choed
oedd amddiffyn coed ar draws y sir lle bynnag y bo’n bosibl, drwy sicrhau mai
tocio coed fyddai’r dewis olaf h.y., os oedd yn achosi neu’n peri perygl. Trafodwyd yr agwedd hon yn Adran 15 o’r weithdrefn ddrafft ·
rhoi
gwybod na fyddai coed yr ystyrir iddynt fod yn ‘rhwystro golau naturiol’ i eiddo’n
cael eu dosbarthu fel perygl, ac felly ni fyddent yn cael eu tocio neu eu torri
ar y sail honno ·
esbonio’r
broses ar gyfer gwneud cais am Orchymyn Cadw Coed (TPO) a dywedwyd nad oedd TPO
yn gyfyngedig i amser. Os byddai’n cael ei ystyried yn addas i dorri coeden i lawr a oedd gyda
TPO, byddai cais yn gorfod cael ei wneud ar gyfer diddymiad, neu amrywiad, i'r
gorchymyn. Os byddai’r Cyngor yn caniatáu’r diddymiad/amrywiad, gallai wneud hynny ar
y sail bod coeden newydd yn cael ei phlannu yn ei lle, ac y gallai’r goeden
newydd hefyd fod yn destun TPO. Roedd y mwyafrif o goed a oedd yn destun TPO wedi’u lleoli ar dir preifat,
ac nid ar dir a oedd yn berchen i’r Cyngor ·
cadarnhau
bod Cynllun Corfforaethol newydd y Cyngor yn cynnwys strategaeth ar gyfer mynd
i’r afael â’r diffyg coed mewn mannau penodol o’r sir · rhoi gwybod bod yr Adran Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd wedi cyflogi swyddog TPO a oedd yn delio ag ymholiadau a ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 225 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar
faterion perthnasol. 10.35am – 11am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Archwilio adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) sy’n gofyn i’r
Aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor a rhoddodd ddiweddariad ar faterion
perthnasol. Canolbwyntiodd y
drafodaeth ar y canlynol – ·
ail-gadarnhawyd y tair eitem ar y rhaglen waith ar gyfer
cyfarfod nesaf y Pwyllgor, a chytunwyd i wahodd yr Aelodau Cabinet Arweiniol i’r
cyfarfod hwnnw; cytunwyd hefyd bod y cyfarfod yn cael ei weddarlledu; ·
nododd aelodau y byddai’r Grŵp Cadeiryddion ac
Is-Gadeiryddion Archwilio’n cyfarfod y prynhawn hwnnw i ystyried nifer o eitemau
posibl i fod yn destun archwilio, a all effeithio ar raglen gwaith i'r dyfodol
y Pwyllgor ·
cyfeiriwyd
at friff gwybodaeth y Pwyllgor, a oedd yn cynnwys diweddariad ar gamau
gweithredu o’r cyfarfod diwethaf; ynghyd â gwybodaeth bellach yn ôl y gofyn;
roedd adroddiad gwybodaeth ar wahân hefyd wedi’i gylchredeg yn manylu ynghylch
y broses ymgynghori, a wnaed mewn perthynas ag Adolygiad Addysg Cynradd
Rhuthun, yn ôl cais y Pwyllgor yn ei gyfarfod 19 Hydref 2017 ·
anogwyd
aelodau i fynd i sesiwn hyfforddi am 9.30 a.m. ddydd Llun 29 Ionawr 2018 yn
Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun, yn ymwneud ag archwilio materion yn
ymwneud ag addysg, a fyddai’n cael ei hwyluso ar y cyd gan Staff Addysg y
Cyngor a GwE. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r rhaglen gwaith
i'r dyfodol fel y caiff ei manylu yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn diweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a
Grwpiau’r Cyngor. 11am – 11.05am Cofnodion: Adroddodd gynrychiolwyr y Pwyllgor ar eu presenoldeb mewn
cyfarfodydd fel a ganlyn - Adroddodd y Cynghorydd Rachel Flynn ar yr Her Gwasanaeth
gyda’r Gwasanaethau Cymunedol, lle trafodwyd amrywiaeth o faterion, yn cynnwys
gofal seibiant i ofalwyr; cysylltu cymunedau a sut i hyrwyddo cysylltiadau
ymhellach; delio gyda digartrefedd a materion cyllido. Roedd pawb a oedd yn bresennol yn fodlon bod
materion yn cael eu rheoli’n dda yn y gwasanaeth. Byddai nodiadau ffurfiol o’r cyfarfod yn cael eu
cylchredeg i aelodau yn y dull arferol ym mriff gwybodaeth y Pwyllgor. Gan nad oedd y Cadeirydd wedi gallu dod i’r cyfarfod
Grŵp Buddsoddi Strategol, gofynnodd i’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill
roi ychydig o adborth. Roedd manylion
argymhellion y Grŵp Buddsoddi Strategol ar gyfer prosiectau penodol wedi’u
cylchredeg yn flaenorol i aelodau, a byddent yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet
cyn i’r Cyngor roi cymeradwyaeth ffurfiol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Thompson-Hill at waith y
Grŵp Buddsoddi Strategol wrth adolygu cynigion ar gyfer dyraniadau, gan
dynnu sylw at y ffaith bod galw’n rhagori’n llwyr ar y cyllid sydd ar gael,
gyda sawl prosiect yn cael eu lleihau yn dilyn asesiad risg. Roedd y Cynghorydd Graham Timms wedi mynd i’r Grŵp
Monitro Safonau Ysgolion a nododd fod y tri chynrychiolydd archwilio i gyd yn
gyn-athrawon, ac fe ystyriodd y byddai cymysgedd mwy amrywiol o gynrychiolwyr
yn addas. Holodd hefyd a oedd
modd gwneud trefniadau i benodi dirprwyon pe na fyddai cynrychiolwyr yn gallu
bod yn bresennol. Cadarnhaodd y
Cydlynydd Archwilio fod un dirprwy-gynrychiolydd eisoes wedi'i benodi. Nodwyd y byddai’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad yn
ystyried materion perfformiad cyffredinol ar draws ysgolion mewn cyfarfodydd
o’r dyfodol, y gellid gwahodd cynrychiolwyr ysgol i gyfarfodydd o'r dyfodol, i
drafod perfformiad ysgolion unigol. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiadau ar lafar. Ar y pwynt hwn (11.25 a.m.) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel
y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
CYNLLUN CORFFORAETHOL AR GYFER HEN SAFLEOEDD YSGOL Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Rheolwr Rhaglen - Newid Busnes (Cyfleusterau, Tai
ac Asedau) (copi ynghlwm) sydd yn gofyn am farn y Pwyllgor ar sut mae’r Cyngor
yn bwriadu rheoli neu gael gwared ar hen safleoedd ysgol. 11.20am – 12pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol adroddiad cyfrinachol
(a gylchredwyd yn flaenorol), y Rheolwr Cyfleusterau, Asedau a’r Rhaglen Tai
(Newid Busnes), a amlinellodd sut roedd y Cyngor yn cynnig rheoli a gwaredu
safleoedd ysgol diangen yn y dyfodol. Roedd y Pwyllgor wedi gofyn am y wybodaeth yn
dilyn trafodaeth, mewn cyfarfod cynharach, am weithrediad yr argymhellion a
oedd wedi codi o adolygiad addysg gynradd yn ardal Rhuthun. Yn ystod ei
gyflwyniad, rhoddodd yr Aelod Arweiniol wybod i'r Pwyllgor mai nod y Cyngor
wrth ddelio â safleoedd ysgol diangen oedd gwireddu'r buddion mwyaf posibl
ohonynt i'r Awdurdod a'r gymuned, wrth sicrhau ar yr un pryd nad oeddent yn dod
yn safleoedd dolur llygad, a oedd yn peri rhwymedigaethau cynnal a chadw
gormodol, ac felly’n straen fawr ar adnoddau ariannol gwerthfawr.
Tynnodd sylw hefyd at
y cymhlethdodau o amgylch perchnogaeth rhai o’r adeiladau a safleoedd ysgol, yn
cynnwys cymalau a chyfamodau cyfyngol, ymddiriedolaethau a materion
perchnogaeth tir ac ati. Yn amgaeedig gyda’r adroddiad oedd cynllun ar gyfer
safleoedd ysgol diangen, a oedd gyda gwybodaeth am bob safle diangen cyfredol,
neu safleoedd y rhagwelwyd y byddent yn dod yn ddiangen o fewn y ddwy flynedd
nesaf, manylion ynghylch eu perchnogaeth a chynigion cyfredol y Cyngor ar gyfer
y safleoedd hynny. Hefyd yn amgaeedig oedd dogfen yn amlinellu’r dull a gymerwyd gan y Cyngor,
unwaith roedd hen ysgol wedi’i dynodi’n safle nad oedd ei hangen. Rhoddodd yr Aelod
Arweiniol wybod i Aelodau, o ganlyniad i brofiadau’r gorffennol, bod y Cyngor
bellach wedi pennu terfyn amser i gofrestru diddordeb defnydd cymunedol, ac i
gymeradwyo cynllun busnes ar sail dystiolaeth ar gyfer defnyddio’r safle yn y
dyfodol. Y rheswm dros hyn oedd, tra bod yr adeilad yn wag ac ym mherchnogaeth y
Cyngor, roedd yr Awdurdod yn atebol am yr adeilad a chynnal a chadw'r safle, yn
cynnwys costau ar gyfer gwneud y safle'n ddiogel. Gan gyfeirio at safleoedd diangen a restrwyd
yn yr adroddiad a oedd naill ai ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth neu fod eu
perchnogaeth yn dal yn destun ymchwiliad, dywedodd yr Aelod Arweiniol y
byddai’r safle(oedd) yn cael eu gwerthu a’r derbynebau’n cael eu cadw mewn
ymddiriedolaeth, hyd nes y datryswyd y materion ymddiriedolwr, unwaith roedd
digon o amser wedi mynd heibio ac os oedd modd olrhain yr ymddiriedolwyr neu eu
buddiolwyr. Wrth ymateb i
gwestiynau aelodau, gwnaeth yr Aelod Arweiniol a swyddogion - ·
roi
gwybod y byddai achosion busnes a gyflwynwyd yn y dyfodol fel cynigion ar gyfer
adeiladau ysgol newydd sy’n cael eu cyflwyno i'r Grŵp Buddsoddi Strategol
a'r Cabinet, yn gorfod cynnwys manylion ynghylch beth roedd y Gwasanaeth Addysg
yn cynnig ei wneud gydag unrhyw asedau neu safleoedd diangen, yn codi o’r
cynnig · cadarnhau bod Siarter y Cyngor Sir gyda chynghorau tref a chymuned yn gofyn bod y Cyngor yn ceisio datganiadau o ddiddordeb gan gynghorau tref a chymuned, mewn unrhyw ased sydd ym mherchnogaeth y sir, nad oedd eu hangen Gallai’r Cyngor Sir gynnig trosglwyddo ased dros ben i gyngor tref neu gymuned, a oedd â chynllun busnes cadarn a chytûn ar gyfer ei ddefnydd yn y dyfodol. Byddai swyddogion o’r Gwasanaeth a Moderneiddio Busnes (BIMS) ar gael i gynghorau tref a chymuned neu grwpiau cymunedol a gyfansoddwyd, i’w helpu i archwilio opsiynau posibl a llunio'r cynllun busnes gofynnol. Ni fyddai unrhyw ased yn cael ei drosglwyddo oni bai bod cyllid digonol wedi’i ddiogelu gan y corff a gyfansoddwyd, i weithredu’r cyfleuster ar gyfer y dyfodol hyd y gellir ei ragweld. Ond os oedd cyfleuster cymunedol eisoes yn gweithredu o fewn y gymuned honno, roedd y Cyngor yn annhebygol o gytuno i drosglwyddo ased i’r ... view the full Cofnodion text for item 8. |