Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 1a, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol
neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y
cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd
Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol yn Eitem Rhif 5. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio
Cymunedau a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2016 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio
Cymunedau a gynhaliwyd ar 27 Hydref, 2016:- Materion yn codi:- Codwyd y pwyntiau canlynol mewn perthynas â
Thudalennau 14 i 19 – ‘Effaith y cynnydd mewn taliadau parcio ceir ar draws y
sir’. (i) Mewn ymateb i sylw, pe bai Pennaeth Gwasanaeth yn diystyru penderfyniadau a
wnaed gan bwyllgor archwilio wrth benderfynu ar bolisi dan rymoedd a ddyrannwyd
iddo/iddi fel unigolyn, nid oedd yn ddefnydd effeithiol o amser aelodau i
drafod y cynigion. Dywedodd y Cadeirydd,
gan fod y penderfyniad penodol hwn wedi cael ei gymryd, roedd ‘Penderfyniadau a
Ddyrannwyd i’r Swyddog Arweiniol’ bellach yn destun proses debyg i rai Aelod
Arweiniol, gyda’r posibilrwydd y gallai Archwilio alw penderfyniad Swyddog
Arweiniol i mewn ar gyfer ei archwilio, cyn ei weithredu. Gofynnodd
y Pwyllgor i arweiniad ar y broses hon gael ei chylchredeg i aelodau er
gwybodaeth. (ii) Dywedodd y Cynghorydd Martyn Holland fod y datganiad yn y cofnodion yn
ymwneud â’r ffaith fod Cyngor Tref yr Wyddgrug yn rhoi cymhorthdal tuag at
ffioedd parcio yn yr Wyddgrug yn anghywir. Dywedodd
Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus ei fod wedi cael gwybod fod hyn yn wir o
ffynhonnell ddibynadwy. Gofynnodd Aelodau i’r Cydlynydd Archwilio
gysylltu â Chlerc Cyngor Tref yr Wyddgrug i ganfod a oedd y Cyngor yn rhoi
cymhorthdal tuag at ffioedd parcio yn y dref; a (iii) roedd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd wedi cwestiynu
geiriad penderfyniad (x) ar dudalen 19 ac wedi gofyn iddo gael ei ddiwygio i
ddweud “dylid cyflwyno adroddiad cynnydd pellach i’r Pwyllgor ymhen chwe mis er
mwyn rhoi diweddariad ar yr argymhellion sydd wedi eu cynnwys yn Atodiad A yr
adroddiad a gyflwynwyd ar 27 Hydref 2016, ynghyd â'r cynllun rheoli asedau
meysydd parcio drafft i gael sylwadau’r aelodau”. PENDERFYNWYD: yn amodol ar ddarparu’r wybodaeth
uchod a’r diwygiad, fel y drafftiwyd yn (iii) uchod, dylid cymeradwyo’r
cofnodion fel cofnod gwir a chywir o’r trafodion. |
|
GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran
100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o
gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 16 Rhan 4 Atodlen 12A Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972. RHAN II |
|
POLISI CLUDIANT O’R CARTREF I’R YSGOL SIR DDINBYCH Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi
ynghlwm) yn diweddaru'r aelodau ar yr adolygiad o Bolisi Cludiant o’r Cartref
i'r Ysgol Sir Ddinbych. 09:40am- 10:30am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Mrs Kathy Jones, a oedd
wedi’i phenodi’n ddiweddar gan yr Eglwys Gatholig i wasanaethu fel ei
gynrychiolydd cyfetholedig ar gyfer materion yn ymwneud ag addysg ar y Pwyllgor
Archwilio, i’w chyfarfod cyntaf. Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg yr
adroddiad cyfrinachol (a gylchredwyd yn flaenorol) a ddiweddarodd y Pwyllgor ar
yr adolygiad o Bolisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol y Sir a oedd yn gweithredu
ar hyn o bryd. Atodwyd copi o fersiwn ddiweddaraf y Polisi drafft
i’r adroddiad er gwybodaeth yr aelodau.
Rhoddodd y Pennaeth Addysg
drosolwg byr o'r cefndir a oedd wedi arwain at y penderfyniad i adolygu’r
polisi yn 2014, a’r adolygiad presennol dilynol o’r Polisi. Dywedodd
eu bod wedi gofyn am gyngor cyfreithiol ar elfennau o’r Polisi diwygiedig i
sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion sy’n llywodraethu cludiant o’r
cartref i’r ysgol yn ogystal â deddfwriaeth arall sy’n ymwneud â diogelu a
lles. Dywedodd y Pennaeth
Addysg a swyddogion eraill wrth aelodau fod y Polisi diwygiedig, cyn belled a
bod hynny’n bosibl yn rhesymol, yn ystyried y pwyntiau a godwyd yn flaenorol
gan gynghorwyr a rhieni yn ystod gweithrediad y polisi yn dilyn adolygiad 2014,
gofynion Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, y berthynas agos rhwng
ysgolion cynradd ‘bwydo’ a’u hysgolion uwchradd cysylltiedig, y polisi llwybrau
peryglus i'r ysgol, polisi teithio dewisol a hefyd hygyrchedd y broses
apeliadau ar gyfer rheini/ gwarcheidwaid. Wrth ymateb i gwestiynau aelodau dywedodd yr Aelod
Arweiniol, y Pennaeth Addysg, y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a
Democrataidd a’r Rheolwr Adnoddau a Chymorth Addysg (Cynllunio ac Adnoddau)
fod: • y Cyngor o’r farn ei bod yn bwysig cael cyngor
cyfreithiol ar gynnwys y polisi drafft cyn ymgynghori â’r cyhoedd ar y cynigion
oedd wedi eu cynnwys ynddo, • Caniatáu rhieni/ gwarcheidwaid i gwrdd â
swyddogion fel rhan o’r broses Apeliadau wedi bod yn hynod ddefnyddiol. Byddai
trafodaethau gyda rhieni/ gwarcheidwaid yn cael eu cynnwys rŵan yn y
polisi mewn perthynas â ‘darpariaethau dewisol’, gan mai yn ystod trafodaethau
o’r fath a sgyrsiau wyneb i wyneb yr oedd amgylchiadau unigol yn cael eu
harchwilio a’u deall yn gywir; • roedd y term ‘ysgol addas agosaf’ yn cynnwys
cludiant i ysgolion ffydd y tu allan i’r sir os mai honno oedd ysgol ffydd
agosaf y disgybl; • roedd barn gyfreithiol eisoes wedi’i derbyn ar rai
elfennau o’r polisi diwygiedig, roeddem yn dal i aros am gyngor yr ymgynghorydd
cyfreithiol ar elfennau eraill. Roedd y farn a dderbyniwyd hyd yma yn
ffafriol; • prif nod y polisi diwygiedig oedd sicrhau fod y
disgyblion cywir yn derbyn y cludiant yr oed ganddynt yr hawl i’w dderbyn i’w
‘hysgol agosaf briodol’. Unwaith y pennwyd hynny, gellid rhoi
ystyriaeth i geisiadau cludiant gostyngol, gan gynnwys cyfathrebu clir gyda
rhieni/ gwarcheidwaid y disgyblion y dyfarnwyd cludiant gostyngol iddynt ar yr
amser y dyfarnwyd y cludiant gostyngol; • byddai asesiad effaith yn cael ei chynnal ar bob
cais am drefniadau teithio, statudol a dewisol; • byddai’r polisi yn mynd i'r afael ag unrhyw
anghysonderau a ddaeth i’r amlwg o dan yr adolygiad blaenorol h.y. perthnasau
wedi eu hen sefydlu gydag ysgol uwchradd fel ‘ysgol fwydo’ er mwyn peidio â
chael effaith negyddol ar ysgolion penodol a’u disgyblion; • Byddai pob ymdrech yn cael ei gwneud i ymgymryd ag
ymgynghoriad cyhoeddus ar y polisi diwygiedig yn ystod y tymor er mwyn sicrhau
y byddai cyfle digonol i bob budd-ddeiliad i gyflwyno eu barn; • Fel rhan o’r broses ymgynghori, byddai cyfarfodydd yn cael eu cynnal i drafod y polisi diwygiedig bwriedig gydag unrhyw barti cysylltiedig h.y. Fforwm Llywodraethwyr Ysgol, Cynhadledd Penaethiaid; pob llywodraethwr ysgol ac ati. Byddai ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHAN 1 |
|
RHEOLI DŴR A LLINIARU LLIFOGYDD Trafod mesurau rheoli dŵr a lliniaru
llifogydd a'u heffaith bosibl ar drigolion ac eiddo yn Sir Ddinbych gyda
chynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Ddinbych. 10:45am- 11:30am Cofnodion: Croesawyd Mr Keith Ivens, Rheolwr Gweithrediadau
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Uwch Beiriannydd y Cyngor - Rheoli Perygl
Llifogydd i’r cyfarfod gan y Cadeirydd i hwyluso trafodaeth ar reoli dŵr a
mesurau lliniaru llifogydd yn Sir Ddinbych. Yn ystod y drafodaeth, cododd yr aelodau
nifer o bryderon mewn perthynas â chynnal afonydd, nentydd, ffosydd a llifoedd,
gan holi pwy oedd yn gyfrifol am eu cynnal a’u clirio. Mewn ymateb i gwestiynau'r Pwyllgor, dywedodd y
ddau swyddog: • gweithiodd yr
awdurdod lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru yn agos gyda’i gilydd i liniaru risg i
fywyd ac eiddo rhag llifogydd o ‘brif’ afonydd; • Rhestrir gwaith
cynnal a chadw a gynlluniwyd ar bob prif afon a chwrs dŵr dan
oruchwyliaeth CNC ar ‘Rhaglen Cynnal a Chadw Arferol Gogledd Cymru 2016/17’ ar
wefan Cyfoeth Naturiol Cymru • Lluniwyd
amserlenni cynnal a chadw Cyfoeth Naturiol Cymru yn seiliedig ar asesiad risg a
dyraniad cyllideb sydd ar gael. Mae gwaith modelu eisoes wedi cael ei
raglennu ar gyfer 2017-18 er mwyn deall a ellid gwella isadeiledd a threfnau
cynnal a chadw Ffos y Rhyl. Fodd bynnag, nid oedd Ffos y Rhyl yn cael
ei hystyried yn ardal lle’r oedd perygl mawr ar hyn o bryd, gan fod tri phwynt
allanfa ar gyfer dŵr o’r Ffos, gan gynnwys gorsaf bwmpio a leolir yno; • Roedd yr
arwyddion yn awgrymu fod cynnydd mewn cyfnodau o law trwm iawn yn y blynyddoedd
diwethaf ac roedd hyn yn dod yn anodd i’w ragweld a’i reoli mewn perthynas â
gwaith cynnal a chadw cyrsiau dŵr; • Roedd
cyfrifoldeb am oruchwylio gwaith cynnal a chadw cyrsiau dŵr ar draws Cymru
yn cael ei bennu gan ddynodiad pob cwrs dŵr. Roedd CNC yn gyfrifol am oruchwylio ‘prif afonydd’
- roedd y rhain yn cynnwys prif afonydd / afonydd mawr, nentydd a rhai cyrsiau
dŵr llai. Mae pob cwrs dŵr agored arall, a elwir yn
‘gyrsiau dŵr arferol’, yn cael eu goruchwylio gan yr awdurdod lleol yn ei
gymhwyster a’r ‘Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol’. Roedd
gwybodaeth am ddynodiadau cyrsiau dŵr ar gael ar wefan CNC; • Dyrannwyd
cyllideb i CNC a oedd ‘wedi'i glustnodi’ at ddibenion cynnal a chadw ‘prif
afonydd’ at ddibenion dyfrhau ac er mwyn lliniaru’r perygl o lifogydd ar yr
afonydd hynny. Roedd yn rhaid i awdurdodau lleol (awdurdodau
llifogydd lleol arweiniol) ariannu unrhyw waith Rheoli Perygl Llifogydd o’i
gyllideb nad oedd wedi’i glustnodi; • Er bod gan CNC, awdurdodau lleol a thirfeddianwyr lleol
ddyletswyddau mewn perthynas â rheoli dŵr a'r perygl o lifogydd, rhannwyd
y rhain yn ddau gategori - cyfrifoldebau ac awdurdodaeth. Roedd
dyletswyddau a oedd yn perthyn i’r categori cyntaf yn rhoi cyfrifoldeb
cyfreithiol ar berchennog glan yr afon i wneud gwaith lliniaru/ rheoli
dŵr. Er bod gan CNC ac awdurdodau lleol rymoedd deddfwriaethol i wneud gwaith ar
gyrsiau dŵr, nid oes unrhyw ymrwymiad arnynt i wneud hynny; • Roedd cyllid
cyfalaf a ddyrannwyd i CNC yn tueddu i fod tuag at waith lliniaru llifogydd
lle'r oedd perygl mawr e.e. gwaith lliniaru llifogydd, ond roedd cyllid refeniw
yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith atal llifogydd/ cynnal a
chadw afonydd; • Roedd
dyletswyddau perchnogion glannau afonydd mewn perthynas â chyrsiau dŵr yn
unol â Deddf Draenio Tir 1991, yn ymestyn i sicrhau nad oedd llif dŵr
drwy’r tir yn cael ei atal. • Roedd yr orsaf bwmpio ger Gwersyll Gwyliau Lyons yn y Rhyl a fethodd yn ystod y digwyddiad glaw trwm yn haf 2016 yn eiddo i Ddŵr Cymru ac nid CNC. Roedd y Cyngor wedi cysylltu ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 110 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi
ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf
i’r aelodau ar faterion perthnasol. 11:30am- 11:45am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (CA), a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei raglen gwaith i'r dyfodol ac a oedd yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o ‘ffurflen gynnig Aelodau’ wedi ei chynnwys yn Atodiad 2. Gofynnodd y Cydlynydd Archwilio i unrhyw gynigion gael eu cyflwyno iddi hi. Roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn Atodiad 3 ac roedd tabl yn rhoi crynodeb o'r penderfyniadau Pwyllgor diweddar ac a oedd yn hysbysu’r Aelodau ynglŷn â’r cynnydd gyda’u gweithrediad, wedi’i gynnwys yn Atodiad 4. Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddrafft o’i Raglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, Atodiad 1, a chytunwyd ar y newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:- • Gwahodd Prif Gwnstabl yr Heddlu i ddod i Gyfarfod o’r Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhelir ar 2 Chwefror 2017. • Ychwanegu adroddiad drafft Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol i gyfarfod 2 Chwefror 2017. • Symud Cynllun Gweithredu Gwylanod drafft o gyfarfod mis Chwefror i Raglen 23 Mawrth 2017. • Symud effaith y cynnydd mewn taliadau parcio ceir ledled y sir a’r Cynllun Rheoli Asedau Meysydd Parcio drafft o gyfarfod mis Mawrth i raglen 15 Mehefin 2017. PENDERFYNWYD - yn amodol ar y newidiadau a’r cytundebau uchod, cymeradwyo'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw
ddiweddariadau gan gynrychiolwyr ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau Cyngor Cofnodion: Nid oedd unrhyw adroddiadau wedi dod i law. |
|
Daeth y
cyfarfod i ben am 11:55am |