Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
CROESO Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a rhoddodd groeso arbennig i'r
Cynghorydd Meirick Davies oedd yn aelod newydd o’r Pwyllgor. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2017 (copi’n
amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2017. Materion yn Codi - Tudalen 11 Eitem 6 Rhaglen Waith Archwilio, ail
bwynt bwled – Dywedodd y Cydlynydd Archwilio fod y wybodaeth yr holodd y
Pwyllgor amdano ar gynigion Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif wedi ei
gynnwys yn yr adroddiad i’r Cabinet dyddiedig 18 Gorffennaf 2017 ac wedi ei
ailgynhyrchu ym mriff gwybodaeth y Pwyllgor er hwylustod. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2017
fel cofnod cywir. |
|
ARWYDDION CYFEIRIAD I DWRISTIAID AR GYFER DYFFRYN CLWYD PDF 282 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd (copi'n amgaeedig),
yn diweddaru aelodau a cheisio eu sylwadau ar y prosiect i ddatblygu cynllun
arwyddion cyfeiriad i dwristiaid ar gyfer Dyffryn Clwyd, ac egluro’r broses ar
gyfer ymgeisio am arwyddion cyfeiriad i dwristiaid ar y rhwydwaith cefnffyrdd
yn gyffredinol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ar Y Ffyrdd (a
gylchredwyd eisoes) oedd yn amlinellu’r cynnydd a wnaed hyd yma ar y prosiect i
ddatblygu cynllun arwyddion cyfeiriad i dwristiaid ar gyfer Dyffryn Clwyd. Roedd yr adroddiad hefyd
yn cynnwys manylion am y broses ymgeisio oedd yn rhaid ei dilyn er mwyn
ymgeisio am arwyddion cyfeiriad i dwristiaid ar rwydwaith y cefnffyrdd yn
gyffredinol. Wrth gyflwyno'r adroddiad, amlygodd yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol
Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â
chael caniatâd i osod arwyddion twristaidd ‘brown’ ar ochr cefnffordd. Roedd natur gymhleth y
broses yn amharu ar uchelgais y Cyngor o ddatblygu economi dwristiaeth leol,
pwynt oedd wedi ei godi mewn Cynhadledd Rheoli Cyrchfan ddiweddar yn y sir, a
neges sydd wedi ei gyflwyno i Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon
Llywodraeth Cymru. Oherwydd y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â’r broses ymgeisio ar gyfer
arwyddion ar gefnffyrdd, yn arbennig y meini prawf cymhwyso llym y mae’n rhaid
eu bodloni er mwyn gallu ymgeisio i godi arwydd gwybodaeth i dwristiaid ar y
gefnffordd, roedd y Cyngor yn ddiolchgar i'r Aelod Cynulliad (AC) am sefydlu
gweithgor er mwyn dyfeisio ffordd arloesol o alluogi ardaloedd gwledig, fel
Dyffryn Clwyd, i fodloni'r meini prawf angenrheidiol. Roedd manylion am sut
roedd y meini prawf wedi eu bodloni yn yr adroddiad. Credwyd mai'r dull
gweithredu a gymerwyd, oedd yn cynnwys ‘grwpio’ nifer o safleoedd i dwristiaid
unigol gyda’i gilydd, oedd yr esiampl gyntaf o’r fath yn unrhyw le yng Nghymru
gyda'r bwriad o fodloni'r meini prawf cymhwyso ar gyfer arwyddion i dwristiaid. Roedd y gwaith wedi
golygu cryn ymdrech ar ran yr holl bartneriaid, gan gynnwys cynghorau dinas a
threfi, Esgobaeth Llanelwy, Cadw, Cyngor Sir Ddinbych a’r AC. Tra roedd y costau, fel
y manylir yn yr adroddiad ac fel yr adroddwyd yn y wasg, yn ymddangos yn ddrud
ac yn achosi pryder, roeddynt yn amcangyfrif gofalus o'r holl gostau
cysylltiedig â'r prosiect, gan gynnwys cost yr arwyddion, gwaith diogelwch a
chau’r gefnffordd ayb. Dywedodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd, gan fod
amcangyfrif o 36,000 o dripiau’r diwrnod yn cael eu gwneud ar hyd rhan Llanelwy o’r A55, roedd gan yr arwyddion
arfaethedig y potensial i amlygu safleoedd twristaidd y Dyffryn i gynulleidfa
estynedig, a thra byddai’r rheiny oedd yn teithio ar y gefnffordd eisoes wedi
penderfynu ar eu cyrchfannau ar gyfer y diwrnod penodol hwnnw, byddai gweld
arwyddion tuag at Ddyffryn Clwyd ar ochr y ffordd o bosib yn eu hatynnu yn ôl
ar ddyddiad arall er mwyn archwilio'r ardal ymhellach. Gallai hyn o bosib
gynrychioli budd cyfrannol i gael budd o'r arwyddion newydd, ac un y byddai'n
rhaid manteisio arno, er mwyn sicrhau fod twristiaid yn ymwybodol o lefydd
diddorol i ymweld â nhw yn y sir, ar ôl iddynt gael eu cyfeirio oddi ar y
cefnffyrdd. Unwaith byddai’r arwyddion twristiaeth ar y gefnffordd wedi eu
sicrhau, byddai’n bwysig datblygu strategaeth arwyddion cyfeiriad i dwristiaid
ar gyfer y sir gyfan er mwyn cael y manteision mwyaf posib gan y rheiny
fyddai’n ymweld â’r sir. Cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm - Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau’r
Cyngor, oedd yn bresennol, fod gan yr ‘arwyddion Twristiaeth brown’ y potensial
i ddod â phobl oddi ar y cefnffyrdd i ymweld ag ardaloedd eraill gerllaw. Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi lansio prosiect 10 mlynedd
newydd o’r enw ‘Ffordd Cymru’, a’i bwrpas yw amlygu trysorau cudd y wlad. Bydd datblygu
strategaeth arwyddion cyfeiriad i dwristiaid sirol a fyddai’n cysylltu â’r
arwyddion i dwristiaid ar y cefnffyrdd yn cefnogi gweledigaeth ‘Ffordd Cymru’
yn Sir Ddinbych. Bu’r Arweinydd, y Rheolwr Traffig, ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 225 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi’n amgaeedig) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar
faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) sy’n gofyn i’r
Aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi diweddariad ar faterion
perthnasol. Canolbwyntiodd y
drafodaeth ar y canlynol – ·
byddai
adroddiad ar gynllun y Cyngor ar gyfer hen safleoedd ysgolion ac unrhyw
safleoedd gwag eraill fel y gofynnwyd amdano yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor
yn cael ei gyflwyno yn eu cyfarfod nesaf ar 18 Ionawr 2018. ·
Byddai swyddogion Swyddfa Archwilio Cymru yn mynychu
cyfarfod nesaf y Pwyllgor fel sylwedyddion, fel rhan o’u gwaith maes ar yr
astudiaeth ‘Parod at y dyfodol’ yn archwilio sut mae darpariaethau Deddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn effeithio ar archwilio, a
byddent hefyd yn cwrdd Cadeiryddion ac Is Gadeiryddion Grwpiau Archwilio /
Craffu ac aelodau eraill fel rhan o’r broses honno. Byddent hefyd
yn asesu cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu a luniwyd wedi eu hastudiaeth
gwelliant flaenorol yn 2014 / 15 ar ‘Craffu Da'? Cwestiwn Da!’ ·
roedd Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio
wedi cyfeirio mater at archwilio o ran darganfyddiadau Adran 19 Deddf Rheoli
Llifogydd a Dŵr 2010 ar yr ymchwiliad i ddigwyddiad llifogydd yn haf 2017
yn Y Rhyl, Rhuddlan a Phrestatyn, oedd wedi ei gynnwys yn rhaglen waith y
Pwyllgor o dan faterion i’w hystyried yn y dyfodol. ·
cytunodd
aelodau i wahodd yr Aelodau Arweiniol perthnasol o’r Cabinet i gyfarfod nesaf y
Pwyllgor ac i drefnu sesiwn briffio rhag-gyfarfod o flaen llaw. ·
cyfeiriwyd
at y ffaith fod y Pwyllgor yn ddiweddar wedi archwilio’r cynllun codi tâl ar
ddeiliaid ‘bathodyn glas’ ar gyfer parcio ym meysydd parcio’r cyngor a
chadarnhawyd fod barn y Pwyllgor wedi ei ystyried fel rhan o broses
penderfyniad wedi’i ddirprwyo gyda'r nod o gyflwyno awr ychwanegol am yr un
pris â defnyddwyr eraill.
Cadarnhaodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai’n sicrhau fod aelodau yn cael gwybod unwaith
byddai’r penderfyniad wedi’i ddirprwyo yn cael ei weithredu. ·
byddai’r
adroddiadau yr holodd y Pwyllgor amdanynt o dan yr eitem flaenorol ar yr agenda
yn cael eu cynnwys o fewn y rhaglen waith ac yn cael eu gweithredu fel bo'n
addas. PENDERFYNWYD
yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r rhaglen gwaith i'r
dyfodol fel y caiff ei manylu yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn diweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a
Grwpiau’r Cyngor. Cofnodion: Roedd y Cadeirydd
wedi methu mynychu’r Her Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod Y Cyhoedd diweddar a
chadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei fod wedi cymryd yr her fel y cyn
Bennaeth Gwasanaeth ac ni chodwyd unrhyw fater mawr. Dywedwyd wrth Aelodau y byddai nodiadau'r Her
Gwasanaeth yn cael eu cylchredeg ym mriff gwybodaeth y Pwyllgor yn y dull
arferol. Roedd nodiadau Her Gwasanaeth
Gwelliant Busnes a Moderneiddio a Chwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata a
gynhaliwyd fis Hydref wedi eu cynnwys ym mriff gwybodaeth diweddaraf y
Pwyllgor. Dywedodd y Cynghorydd Glenn
Swingler fod mwy o waith wedi ei wneud ar y defnydd o gyfryngau cymdeithasol
ers ei adroddiad diwethaf ar gyfarfod Her Gwasanaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a
Marchnata. Nododd y Pwyllgor bwysigrwydd
cael eu cynrychioli ar gyfarfodydd Her Gwasanaeth ac fe'u cynghorwyd y gellid
symud unrhyw faterion a nodwyd gan aelodau o fewn y nodiadau ar gyfer archwilio
pellach ymlaen yn y dull arferol wedi cwblhau ffurflen cynnig aelod. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiadau ar lafar. Daeth y cyfarfod
i ben am 11.45 a.m. |