Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

CROESO

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a llongyfarch Mr Graham Boase ar ei swydd newydd fel Cyfarwyddwr Corfforaethol Economi a Pharth Cyhoeddus y Cyngor. Estynnodd y Cadeirydd groeso arbennig i Mike Hall, Aelod Cyfetholedig, sy'n mynychu ei gyfarfod pwyllgor cyntaf fel Cynrychiolydd Rhiant-Lywodraethwyr.

 

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Dim.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen -

 

Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts – Cadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Pen Barras

Y Cynghorydd Merfyn Parry - Llywodraethwr Ysgol Rhewl, Ysgol Bryn Clwyd ac Ysgol Gellifor

Y Cynghorydd Arwel Roberts – Llywodraethwr Ysgol y Castell ac Ysgol Dewi Sant

Y Cynghorydd Huw Williams – Rhiant plentyn yn Ysgol Pen Barras

Y Cynghorydd Emrys Wynne – Llywodraethwr Ysgol Borthyn ac, ynghyd ag aelodau o’i deulu, yn rhan o’r ymgyrch i gefnogi addysg Categori 1 (iaith) yn ardal Pentrecelyn a Llanfair Dyffryn Clwyd.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 310 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 7 Medi 2017 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 7 Medi 2017.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Medi 2017 fel cofnod cywir.

 

 

5.

GWERSI YN DILYN ADOLYGIAD O ADDYSG GYNRADD ARDAL RHUTHUN pdf eicon PDF 242 KB

Ystyried adroddiad gan y Pen Reolwr Cefnogaeth Addysg (copi ynghlwm) yn amlinellu cynnydd Adolygiad Ardal Cynradd Rhuthun a gwersi a ddysgwyd hyd yma o’r gwaith a gyflawnwyd.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc adroddiad Prif Reolwr Cymorth Addysg (a gylchredwyd ymlaen llaw). Dywedodd bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno ar gais y pwyllgor oherwydd, yn ystod cyfnod y Cyngor diwethaf, bod yr aelodau wedi gofyn am adolygiad o gynnydd adolygiad addysg gynradd ardal Rhuthun er mwyn deall y gwersi a ddysgwyd yn ystod yr ymarfer a cheisio gwella prosesau adolygiadau tebyg.

 

Er budd aelodau newydd, amlinellodd yr Aelod Arweiniol a Phennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant gefndir yr adolygiadau addysg gynradd sydd wedi eu cynnal yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dywedwyd mai amcanion yr adolygiadau yw –

 

·         Sicrhau cynaliadwyedd darpariaeth addysg o ansawdd uchel ar draws y sir

·         Gwella safon adeiladau a chyfleusterau ysgolion

·         Sicrhau bod y nifer a’r math cywir o leoedd ysgolion ar gael yn y lleoliadau cywir

 

Bu iddynt hefyd bwysleisio bod adolygiad addysg gynradd ardal Rhuthun wedi ei gynnal tra bo tri Gweinidog/ Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru gwahanol wedi bod yn gyfrifol am y portffolio addysg. Roedd gan bob un ddull neu bwyslais ychydig yn wahanol i’r llall o ran yr angen i fynd i’r afael â lleoedd ysgolion gwag os bwriedir gwneud cais am gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfleusterau addysgol. Dechreuodd Sir Ddinbych foderneiddio ei wasanaethau addysg yn 2009 ar ôl mabwysiadu Fframwaith Polisi Moderneiddio Addysg. Roedd y fframwaith hwn yn sylfaen i’r Cyngor gynllunio sut a lle y byddai modd darparu gwasanaethau addysg yn y dyfodol. Roedd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru ar y pryd yn glir iawn ynghylch bod yn rhaid i awdurdodau lleol fynd i’r afael â lleoedd ysgolion gwag os oedd arnynt eisiau gwneud cais am gyllid Ysgolion yr 21ain ganrif gan Lywodraeth Cymru. Roedd dangos tystiolaeth o sut y bwriedir mynd i’r afael â lleoedd gwag yn ofyniad allweddol wrth gyflwyno ceisiadau am gyllid Ysgolion yr 21ain ganrif ar gyfer prosiectau cyfalaf addysgol. Er mwyn i’r Cyngor dderbyn y cyllid hwn roedd yn rhaid ad-drefnu ysgolion, felly roedd cau rhai ysgolion yn anorfod. Pwysleisiodd y Gweinidog yr angen i fynd i’r afael â lleoedd gwag pan ysgrifennodd at awdurdodau lleol yn 2012. Ym mis Mehefin 2013 bu i’r Cabinet gymeradwyo’r chwe argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad mewn perthynas â dyfodol addysg gynradd yn ardal Rhuthun. Fodd bynnag, ym mis Hydref y flwyddyn honno cyflwynodd Llywodraeth Cymru God Trefniadaeth Ysgolion a oedd â goblygiadau mawr o ran manylder yr wybodaeth a oedd angen ei darparu yn ystod y camau ymgynghori ffurfiol ynghylch cynigion i ad-drefnu ysgolion. Tra bod y cod yn fanwl iawn ynghylch gofynion gorfodol y broses ymgynghori roedd hefyd yn cynnwys awgrymiadau ar y camau ‘y dylid’ eu cymryd. Fodd bynnag nid oedd yn gofyn i awdurdodau lleol gymryd y camau hynny. Wrth edrych yn ôl byddai wedi bod yn well petai’r Cyngor wedi cymryd y camau hyn oherwydd iddo fethu bodloni’r gofynion hyn yn yr achosion y cyfeiriwyd at y Gweinidog a’r Uchel Lys. Dywedwyd hefyd bod y Cyngor yn dal yn aros am benderfyniad gweinidogol ynghylch ail apêl yn erbyn y penderfyniad i gau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd, deunaw mis ar ôl atgyfeirio’r penderfyniad at Lywodraeth Cymru.

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau dywedodd yr Aelod Arweiniol, y Pennaeth Gwasanaeth a’r swyddogion:

 

·         Mai dyletswydd statudol y Cyngor mewn perthynas ag addysg yw darparu addysg o’r radd flaenaf i ddisgyblion y sir.

·          Er mwyn gwneud hyn a sicrhau bod gan ddisgyblion fynediad i gyfleusterau sy'n briodol ar gyfer darparu cwricwlwm modern, gan gynnwys pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Roedd hyn yn golygu cau adeiladu hŷn nad oedd modd eu haddasu ac uno ysgolion llai neu, fel arall, ni fyddai’r awdurdod  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 227 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) sy’n gofyn i’r Aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol –

 

·         Mae Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio wedi cyfeirio mater yn ymwneud ag arwyddion twristiaeth Dyffryn Clwyd. Cytunodd y Pwyllgor i ystyried yr eitem honno yn ei gyfarfod nesaf ar 30 Tachwedd

·         Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan aelodau yn ymwneud â gallu ysgolion amrywiol yn y sir i ymdopi â’r galw am leoedd, anogwyd yr aelodau hynny i lenwi’r ffurflen gais briodol a’i chyflwyno i Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion ar gyfer trafodaeth bellach yn ôl yr angen

·         Gofynnwyd cwestiynau am gynigion Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Dywedwyd wrth yr aelodau bod adroddiad ar y cynigion hyn wedi ei gyflwyno i’r Cabinet yn ddiweddar.-Cytunodd y Cydlynydd Archwilio anfon yr wybodaeth honno at aelodau’r pwyllgor

·         Dywedwyd wrth yr aelodau bod yr eitem ar y Polisi Cynnal a Chadw Coed drafft (a oedd wedi ei chynnwys dros dro ar raglen cyfarfod mis Hydref) wedi ei gohirio tan fis Ionawr 2018 gyda chaniatâd y Cadeirydd gan fod angen gwneud rhagor o waith ar y polisi cyn bod modd ei gyflwyno i’r pwyllgor ar gyfer sylwadau

·         Mae un eitem ar raglen waith y pwyllgor yn ymwneud â’r Ardreth Seilwaith Cymunedol ond eglurodd y swyddogion nad yw erioed wedi cael ei gyflwyno a bod y cyfrifoldeb drosto wedi ei drosglwyddo o Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru. Dywedwyd bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r ardreth gyda’r bwriad o gyflwyno rhywbeth gwahanol ar gyfer Cymru ond, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw arwydd o bryd y bydd y cynigion yn cael eu cyhoeddi. Cytunodd y pwyllgor i dynnu'r eitem oddi ar y rhaglen waith ac ystyried craffu ar y cynigion unwaith maent wedi eu cyhoeddi

·         Tynnwyd sylw’r aelodau ar yr wybodaeth a gylchredwyd ymlaen llaw a oedd yn cynnwys diweddariad ar y materion a godwyd yn y cyfarfod blaenorol nad ydynt wedi eu nodi yn adroddiad y rhaglen waith.

·         Gofynnwyd am ddatganiadau o ddiddordeb gan aelodau pwyllgor yn dilyn derbyn cais i enwebu cynrychiolydd ar gyfer y Grŵp Monitro Safonau Ysgolion, mae’r manylion wedi eu cylchredeg

·         Yn olaf, atgoffwyd yr aelodau bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynnal hyfforddiant Sgiliau Cadeirio ar gyfer pwyllgorau craffu am 2.00 p.m. ddydd Iau, 2 Tachwedd yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

 

Wedi trafod y materion uchod:

 

PENDERFYNWYD –

 

(a)       Yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol a geir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

(b)       Penodi’r Cynghorydd Graham Timms yn gynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp Monitro Safonau Ysgolion.

 

 

7.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn diweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cynghorydd Glenn Swingler at gyfarfod Her Gwasanaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata y bu iddo ei fynychu’n ddiweddar a soniodd am y drafodaeth ar gael Strategaeth Twristiaeth drosfwaol. Darparodd hefydd ddiweddariad ar ‘EMMA’ a datblygiad system CRM newydd, gan gyfeirio at y camau cadarnhaol i gynyddu defnydd y Cyngor o’r cyfryngau cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad ar lafar.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.25 p.m.