Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Y Cynghorwyr
Merfyn Parry a Graham Timms yn datgan cysylltiad personol yn eitem 5, “Sir
Ddinbych fel Lleoliad Twristiaeth a Digwyddiadau”. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. Ymateb i ymholiad
gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies ynglŷn â pham fod aelodau sydd ddim
yn rhan o'r pwyllgor yn cael eu heithrio o'r sesiwn briffio cyn y cyfarfod.
Dywedodd y Cydlynydd Archwilio bod y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Archwilio wedi gofyn i’r Pwyllgor dreialu pa mor effeithiol yw cynnal sesiwn
briffio i aelodau’r pwyllgor cyn y cyfarfod er mwyn gwella ansawdd canlyniad y
broses archwilio. Cytunodd i godi’r achos gyda’r Grŵp Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Archwilio yn y cyfarfod nesaf ym mis Hydref ynglŷn â dylai
aelodau heb fod yn aelodau pwyllgor gael caniatâd i fynychu sesiynau briffio
o'r fath yn y dyfodol. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2017
(copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 20
Gorffennaf, 2017. Materion yn Codi
– Eitem 7 – Ystyriaeth i Barcio am Ddim i Ddeiliaid Bathodyn Anabledd DDywedodd y
Cynghorydd Graham Timms fod erthygl anghywir yn y wasg ynglŷn â chostau
parcio i ddeiliaid bathodyn anabledd. Dywedodd y Pennaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a
Marchnata wrth yr Aelodau bod yr adroddiad yn y wasg wedi bod yn aneglur ond
bod Sir Ddinbych wedi cyhoeddi'r wybodaeth gywir yn y lle cyntaf mewn datganiad
i'r wasg. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2017 fel cofnod cywir. |
|
SIR DDINBYCH FEL LLEOLIAD TWRISTIAETH A DIGWYDDIADAU PDF 257 KB Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) ar waith y Tîm Twristiaeth i hyrwyddo Sir Ddinbych fel
lleoliad twristiaeth a digwyddiadau a gwneud argymhellion ar sut y dylid
datblygu twristiaeth yn y sir ymhellach.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans adroddiad (wedi’i ddosbarthu yn barod) yn
manylu ar waith y Tîm Twristiaeth i hyrwyddo a gwerthu Sir Ddinbych fel
lleoliad twristiaeth a digwyddiadau gan ganolbwyntio’n benodol ar weithio mewn
partneriaeth â’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol i ddatblygu a mireinio'r
broses o wneud cais i gynnal digwyddiadau a’r arloesedd a’r gwaith datblygu a
wnaed. Dywedodd yr Arweinydd wrth y Pwyllgor ei fod ef a’r staff eisiau clywed
safbwyntiau archwilio ar y gwaith a wnaed i atynnu twristiaid i Sir Ddinbych ac
effeithiolrwydd y bartneriaeth o ran twristiaeth i gynyddu’r gwerth sy’n cael
ei wario gan dwristiaid yn y sir.
Roeddent
hefyd yn awyddus i dderbyn arsylwadau
archwilio os yw Strategaeth Twristiaeth y Sir yn gynaliadwy ac yn un a fyddai'n
cyfrannu'n effeithiol at uchelgais hirdymor y Cyngor o ddatblygu’r economi. Mae Sir Ddinbych yn
ffodus fod ganddi ystod eang o atyniadau twristiaeth. Mae ganddi hefyd
‘gefnffyrdd’ sy’n croesi ar hyd y sir gyda miloedd o dwristiaid yn teithio i
wahanol gyrchfannau gwyliau yng Ngogledd
Cymru, Gogledd Ddwyrain Lloegr a Chanolbarth Lloegr. Felly mae hi’n bwysig i
economi Sir Ddinbych ein bod yn atynnu'r twristiaid sy'n teithio ar y
cefnffyrdd i ymweld â threfi, atyniadau, llety, llefydd bwyta ayb yn Sir
Ddinbych fel eu bod yn gwario eu harian yn yr ardal. Rhoddodd yr Arweinydd Tîm (Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau)
amlinelliad i’r Pwyllgor o’r manteision i'r Cyngor a'r sir o weithio mewn
partneriaeth â chynghorau Sir y Fflint a Wrecsam mewn perthynas â gwaith
twristiaeth a digwyddiadau, yn enwedig gan mai nifer fechan o swyddogion sydd
gan Sir Ddinbych yn gweithio yn y maes hynny. Bu swyddogion o’r dair sir yn ogystal â chynrychiolwyr o
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn cyfarfod fel Partneriaeth Twristiaeth
Gogledd Ddwyrain Cymru yn fisol i gynllunio a datblygu’r gwaith. Yn y misoedd diwethaf
maent wedi: ·
bod yn llwyddiannus i
sicrhau £40k o gyllid gan Lywodraeth Cymru i dalu am waith hyrwyddo ar gyfer y
thema Blwyddyn y Môr 2018. Trwy
gymryd i ystyriaeth mai dim ond rhan o ardal Gogledd Ddwyrain Cymru sydd wrth
yr arfordir roedd y bartneriaeth wedi canolbwyntio ar y cynnig ‘ffyrdd i’r môr’
gan bwysleisio'r cynnig i dwristiaid yn yr ardal o ffordd i’r môr yn ogystal
â’r cynnig traeth a’r môr ei hun; ·
bod yn gweithio’n agos â busnesau twristiaeth
ar y Cynllun Llysgennad Twristiaeth. Canolbwyntiwyd
ar yr hyn y gall gwahanol fathau o fusnesau twristiaeth ei wneud i hyrwyddo
busnesau eraill fyddai’n debygol o elwa o dwristiaid. Mae cyllid Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP) wedi ei sicrhau yn ddiweddar gan
Cadwyn Clwyd i wella’r cynllun hwn ymhellach trwy ddatblygu model yn seiliedig
ar y we i atynnu mwy o gyfranogwyr ac i sicrhau bod y Cynllun yn gynaliadwy yn
y dyfodol; ·
bod yn rhan o waith y
grŵp tasg a gorffen ar feysydd parcio yn edrych ar sut y gellir gwneud
gwell defnydd o feysydd parcio cyhoeddus y sir er mwyn hyrwyddo a chyfeirio
twristiaid at atyniadau a busnesau twristiaeth yr ardal. Mae’r
gwaith yn parhau gyda hynny. Gyda’r bwriad o gefnogi trefnwyr digwyddiadau mae Tîm Twristiaeth Sir Ddinbych wedi datblygu ‘proses hysbysu digwyddiadau’ newydd a llai trafferthus. Gwaith wedi’i wneud i wella’r broses. O ganlyniad, dim ond dwy dudalen ar y ffurflen hysbysu fydd angen eu llenwi gan eu bod yn cynnwys yr holl agweddau ynghlwm â chynnal digwyddiad gan gynnwys gofynion trwyddedu, cau ffyrdd ac ati. Bydd y broses hysbysiad sengl yn cael ei dreialu o fis Ionawr 2018 ymlaen. Mae bellach yn amlwg bod nifer gynyddol o dwristiaid yn defnyddio safleoedd cyfryngau cymdeithasol i gael gwybodaeth i dwristiaid ac ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL ARCHWILIO PDF 238 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar
faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a
chytuno ar ei Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn rhoi diweddariad ar faterion
perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o
Ffurflen Cynnig yr Aelodau wedi ei chynnwys yn Atodiad 2. Roedd Rhaglen Gwaith
i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn Atodiad 3, ac roedd tabl yn rhoi
crynodeb o benderfyniadau diweddar y Pwyllgor a’r cynnydd a wnaed o ran eu
gweithrediad wedi ei gynnwys yn Atodiad 4. Yn ystod y
drafodaeth ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor, cafwyd sylwadau gan nifer o
aelodau bod cynnal sesiwn briffio cyn cyfarfod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer y
Pwyllgor. Ar sail hynny gofynnwyd i’r
ymarfer barhau ar gyfer y dyfodol. PENDERFYNWYD –
yn amodol ar yr uchod i gymeradwyo Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn diweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a
Grwpiau’r Cyngor. Cofnodion: Dim. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.55 a.m. |