Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
cysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Cofnodion: Enwebwyd ac
eiliwyd Cynghorydd Graham Timms ar gyfer rôl Is-Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio
Cymunedau. Ni dderbyniwyd unrhyw enwebiadau eraill ac felly: PENDERFYNWYD y
dylid penodi'r Cynghorydd Graham Timms yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio
Cymunedau ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2017/2018. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2017 (copi
wedi’i atodi). 9.35 a.m. – 9.45 a.m. Cofnodion: Cyflwynwyd
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 15 Mehefin
2017 PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2017
fel cofnod cywir. |
|
DIWEDDARIAD AM REOLI MEYSYDD PARCIO PDF 211 KB Ystyried
adroddiad (copi wedi’i atodi) yn darparu diweddariad ar ddatblygiad y Cynllun
Rheoli Asedau Meysydd Parcio a’r argymhellion eraill yn yr adroddiad meysydd
parcio a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio Cymunedau ym mis Hydref 2016. 9.45 a.m. – 10.20 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy’r
adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am
ddatblygiad Cynllun Rheoli Asedau Meysydd Parcio a’r argymhellion eraill a
nodwyd yn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio Cymunedau fis Hydref
2016 ar feysydd parcio. Roedd argymhellion yn ymwneud â datblygiad cynllun rheoli asedau meysydd
parcio a mentrau cynhyrchu incwm gyda’r bwriad o gynyddu adnoddau i fuddsoddi
ym meysydd parcio’r sir. Dywedwyd wrth aelodau fod y cynigion a gyflwynwyd
iddynt yn y cyfarfod hefyd wedi’u cyflwyno i rhan fwyaf o Grwpiau Ardal yr
Aelodau, ac eithrio grŵp Ardal Aelodau Elwy. Roedd Swyddogion am ei
gyflwyno i Grŵp Elwy cyn diwedd mis Gorffennaf. Roedd pob un
o’r pum grŵp yr ymwelwyd â hwy hyd yma wedi bod yn barod i dderbyn a
chefnogi’r cynigion. Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol a
swyddogion: ·
byddai’r
cynllun buddsoddi arfaethedig, pe bai’n cael ei gyflwyno gan y Grŵp
Buddsoddi Strategol, yn cael ei gyllido o’r gyllideb Gwasanaethau Parcio Ceir
ynghyd ag elfen o Benthyca Darbodus, a fyddai’n angenrheidiol oherwydd
graddfa’r buddsoddiad gofynnol i gyflawni uchelgais y Gwasanaeth ar gyfer ei
gyfleusterau; ·
roedd yr adroddiad
blaenorol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym mis Hydref 2016 wedi cynnwys
dadansoddiad manwl o effaith y cynnydd mewn prisiau parcio ceir ar eu defnydd; ·
roedd
angen y cynnydd mewn taliadau parcio ceir yn 2016, y cynnydd cyntaf ers 7
mlynedd, er mwyn mynd i’r afael â diffyg yn y gyllideb. Roedd aelodau’r Pwyllgor bryd hynny wedi bod yn glir eu bod yn cefnogi
polisi prisio cyson ar draws y sir; ·
roedd
ystadegau diweddaraf ar ddefnydd meysydd parcio yn y sir yn dangos bod lefelau
defnydd presennol yn gyfartal â lefelau defnydd cyn y cynnydd o ran taliadau. Yn gyffredinol, roedd lefelau defnydd wedi aros yn gyson am gyfnod. Yn yr un modd roedd yr incwm a gafwyd o feysydd parcio’r Cyngor wedi
cynyddu rhywfaint; ·
gallai
peiriannau talu ac arddangos a oedd i’w gosod ym meysydd parcio’r Cyngor gael
eu hailraglennu’n rhwydd gan staff pe bai angen, h.y. os oedd parcio â
chymhorthdal i gael ei ddarparu gan gyngor tref. Byddent
hefyd yn derbyn taliadau arian a cherdyn; ·
pe
bai’r cynllun buddsoddi’n cael cymeradwyaeth y Grŵp Buddsoddi Strategol,
rhagwelwyd y byddai’n cymryd tua phum mlynedd i weithredu’r cynllun rheoli
asedau meysydd parcio yn gyfan gwbl; ·
byddai’r cynllun yn
cynnwys darparu arwyddion gwell a chliriach mewn meysydd parcio sy’n eiddo i’r
Cyngor gyda bwriad o wella profiad defnyddwyr a gwella meysydd parcio i fod yn
byrth i Sir Ddinbych i dwristiaid; ·
roedd rhai o’r arwyddion a
byrddau gwybodaeth presennol ym meysydd parcio’r sir wedi eu hariannu gan
wasanaethau neu sefydliadau eraill h.y. gwasanaethau cefn gwlad, cynghorau tref
ac ati.
Roedd cyllid ar gyfer rhai o’r arwyddion hyn wedi’i
ddiogelu drwy ffrydiau ariannu grantiau penodol h.y. Cyllid Ewropeaidd; · rhagwelwyd y byddai’r opsiwn presennol o dalu am barcio ceir drwy ffôn
symudol yn cael ei ddileu yn raddol. Byddai hyn oherwydd cyflwyno peiriannau talu ac arddangos newydd gyda
chyfleuster i dderbyn taliadau arian a cherdyn. Byddai’r
contract presennol ar gyfer prosesu taliadau ffôn symudol yn dod i ben ymhen
dwy flynedd; ac ·
roedd Astudiaeth Parcio a
Rheoli Traffig Canol Tref Sir Ddinbych wedi archwilio graddau camddefnyddio
parcio ar y stryd yng nghanol trefi yn fanwl, a chyfleusterau parcio ceir a’u
heffaith ganlyniadol ar fusnesau a phreswylwyr. Ar ddiwedd y drafodaeth, fe wnaeth y Pwyllgor: BENDERFYNU: (i) ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad
o’r Effaith ar Les (Atodiad D) fel rhan o’i ystyriaethau; (ii) ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad, a’r atebion a ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
YSTYRIED PARCIO AM DDIM I DDEILIAID BATHODYN ANABLEDD PDF 226 KB Ystyried
adroddiad (copi wedi'i atodi) ar p'un a ddylai deiliaid Bathodynnau Parcio
Anabledd (Bathodynnau Glas) gael parcio am ddim ym meysydd parcio Talu ac
Arddangos y Cyngor. 10.20 a.m. – 10.50 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Priffyrdd Cynllunio a Theithio Cynaliadwy yr
adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) i ystyried p'un a ddylai deiliaid Bathodynnau
Parcio Anabledd (Bathodynnau Glas) gael parcio am ddim ym meysydd parcio Talu
ac Arddangos y Cyngor. Wrth iddo gyflwyno, dywedodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd
mai’r Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, yn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol,
oedd yn gweinyddu a chyhoeddi bathodynnau parcio anabledd (bathodynnau glas). Dywedodd wrth y
Pwyllgor fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i aelodau gan ymateb i rybudd am gais
i’r Cyngor Sir ym mis Ionawr 2017 yn ymwneud ag egwyddor codi tâl ar ddeiliaid
‘bathodynnau glas’ am barcio eu cerbydau ym meysydd parcio sy’n eiddo i’r
cyngor. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol gan yr Aelodau: ·
teimlent gan mai Sir
Ddinbych oedd yr unig Gyngor yng Ngogledd Cymru i godi tâl ar ddeiliaid
‘bathodynnau glas’ am barcio ym meysydd parcio’r cyngor, roedd hyn yn arwain at
ddryswch, yn enwedig i’r rhai sy’n ymweld â’r ardal; · byddai pobl ag anabledd angen cyfnod hirach yn gyffredinol i gyflawni’r un
gweithgareddau â phobl abl, h.y. siopa, ymweld â’r banc ac ati. Felly byddent angen prynu
tocyn parcio drytach i ganiatáu ar gyfer y cyfnod hirach byddent ei angen i
gyflawni eu gweithgaredd; ·
roedd Sir Ddinbych, o
gymharu ag awdurdodau lleol eraill, fel pe baent yn mabwysiadu dull anhaelionus
i ddeiliaid ‘bathodynnau glas’. ·
nid oedd yr adroddiad yn
cynnwys manylion y goblygiadau ariannol i’r Cyngor pe bai’n penderfynu newid ei
bolisi i ganiatáu i ddeiliaid bathodynnau glas barcio am ddim yn ei feysydd
parcio; ·
byddai’n ddefnyddiol i bob
awdurdod lleol pe bai Llywodraeth Cymru (LlC) yn rhoi cyfarwyddeb glir o ran
codi tâl ar ddeiliaid ‘bathodynnau glas’ am barcio ym meysydd parcio sy’n eiddo
i’r cyngor; ·
roedd angen polisi cyson o
ran parcio anabl yn ardaloedd trefol a gwledig y sir; · i osgoi dryswch ac ansicrwydd o ran codi tâl roedd angen arwyddion clir ym
mhob maes parcio.
Awgrymwyd i hwyluso hyn, dylid cynnal trafodaethau rhwng
y Cyngor Sir a chynghorau tref a chymuned; ·
wrth dderbyn nad oedd yr angen am ‘fathodyn glas’ yn seiliedig ar brawf modd
roedd pobl ag anabledd yn aml yn talu costau ychwanegol o ran eu hanghenion
symudedd, er bod rhai pobl anabl yn cael budd-daliadau i helpu i dalu eu costau
symudedd; ·
gyda’r newidiadau
demograffig presennol yn y sir, mae’n debygol y byddai cynnydd o ran nifer y
ceisiadau am drwyddedau parcio i bobl anabl yn y dyfodol agos; Gan ymateb i’r pwyntiau a’r cwestiynau a godwyd gan aelodau, gwnaeth
swyddogion: ·
ddweud er mai Sir Ddinbych
oedd yr unig awdurdod yng Ngogledd Cymru a oedd yn codi tâl ar ddeiliaid
‘bathodynnau glas’ am barcio yn ei feysydd parcio, nid oedd yn unigryw o ran
mabwysiadu’r dull hwn.
Roedd nifer o gynghorau eraill yng Nghymru ac ar draws y
DU yn mabwysiadu dull tebyg. O’r rhai a oedd yn codi
tâl, roedd rhai yn mabwysiadu’r un dull â Sir Ddinbych, roedd eraill yn rhoi
amser ychwanegol am yr un tâl, h.y., awr ychwanegol ar ben yr amser a godir; · pwysleisio nad oedd bod yn ‘ddeiliaid bathodyn glas’ yn adlewyrchu gallu person i dalu am barcio. Roedd ‘bathodynnau glas’ yn cael eu rhoi i bobl oedd angen cymorth i gael mynediad i wasanaethau neu gyfleusterau oherwydd problemau symudedd nid oherwydd nad oedd ganddynt y modd digonol i dalu. Nid oedd bathodynnau parcio anabledd yn seiliedig ar ‘brawf modd’, roeddent yn cael eu rhoi i bobl oedd yn bodloni asesiad meini prawf symudedd ac roedd y bathodynnau yn eiddo i’r person nid i gerbyd penodol. Gallai fod nifer o ddefnyddwyr meysydd parcio eraill a oedd ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ar y pwynt hwn (11.00 am) cafwyd egwyl o 15 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.15am. |
|
ADOLYGU A DIWEDDARU PROSIECT RHEOLEIDDIO PARCIAU CARAFANAU GWYLIAU PDF 223 KB Ystyried
adroddiad (copi wedi’i atodi) ynglŷn â rheoleiddio parhaus parciau
carafanau gwyliau yn y sir a sut mae’r cyngor yn monitro a gorfodi achosion
posibl o dorri rheolau. 11.00 a.m. – 11.35 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy yr
adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am
reoleiddio parhaus parciau carafanau gwyliau yn y sir a sut roedd y Cyngor yn
monitro a gorfodi achosion posibl o dorri rheolau. Dywedodd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a’r Rheolwr Datblygu
(Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) wrth aelodau fod y gwaith cychwynnol sy’n
ymwneud â’r Prosiect wedi dechrau tua phedair i bum mlynedd yn ôl a’i fod wedi
bod yn seiliedig ar dystiolaeth anecdotaidd sy’n ymwneud ag achosion honedig o
dorri amodau cynllunio a thrwyddedu ar rai o barciau gwyliau’r sir. Ar y pryd, roedd gan aelodau a swyddogion
bryderon o ran y canfyddiad bod rhai unigolion yn byw fel preswylwyr parhaol
mewn carafanau gwyliau, a thra nad oeddent yn talu Treth y Cyngor, roeddent yn
defnyddio Gwasanaethau’r Cyngor, yn ogystal â gwasanaethau cyhoeddus eraill
h.y. gwasanaethau iechyd yn y sir. Gyda’r bwriad o gadarnhau’r dystiolaeth anecdotaidd, dechreuwyd ymholiadau
gyda nifer o wasanaethau’r Cyngor i bennu a oedd meddianwyr carafanau yn
defnyddio gwasanaethau a gaiff eu rhedeg gan y Cyngor fel yr amheuwyd. Gwnaeth yr ymholiadau gadarnhau bod rhai
meddianwyr carafanau ‘gwyliau’ yn defnyddio amrywiaeth o wasanaethau. Yn dilyn y darn
cychwynnol hwn o waith, gofynnwyd i Wasanaeth Busnes, Gwelliant a
Moderneiddio’r Cyngor wneud rhagor o waith i helpu i gydlynu cronfeydd data’r
Cyngor er mwyn ei gwneud yn haws i Swyddogion Gorfodi gasglu tystiolaeth o bobl
sy’n preswylio mewn carafanau yn defnyddio gwasanaethau yn ddiweddar. Gwnaeth y
Gwasanaeth Busnes, Gwelliant a Moderneiddio ddatblygu adnodd monitro yn benodol
at y diben hwn - rhoddwyd arddangosiad o sylfaen dystiolaeth yr adnodd a’i allu
i aelodau yn y cyfarfod. Roedd gan yr
adnodd monitro hwn y gallu i gyrraedd Grŵp Ardal yr Aelodau, wardiau’r
Cyngor a manylion carafanau unigol, a oedd yn hynod o ddefnyddiol i Swyddogion
Gorfodi wrth wneud eu gwaith. Roedd y wybodaeth a oedd yn cael ei chofnodi yn yr
adnodd yn cael ei diweddaru bob mis. Roedd y ddogfen
gyfrinachol yn Atodiad 1 yr adroddiad yn dangos effeithiolrwydd yr adnodd i
leihau nifer y gwasanaethau a ddarperir i bobl sy’n preswylio mewn carafanau
gwyliau ers 2015. Roedd y lleihad hwn wedi’i sicrhau drwy waith partneriaeth
effeithiol gyda’r Gymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain
(BHHPA) a phartneriaid eraill. Gyda’i adnoddau cyfyngedig o 1 Swyddog
Cydymffurfiaeth Cynllunio a 0.5 Swyddog Trwyddedu, byddai’r Cyngor wedi cael
anawsterau wrth wneud gwaith cydymffurfio a gorfodi o ran y 6,000 llain
carafanau sefydlog a 400 llain carafanau teithiol yn y sir. Felly roedd
gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol os oedd gwaith cydymffurfio i lwyddo. Drwy weithio
gyda’r BHHPA daeth yn amlwg mai achos gwreiddiol pobl sy’n preswylio mewn
carafanau yn defnyddio gwasanaethau’r Cyngor o ‘garafanau gwyliau’ oedd bod
llond llaw o safleoedd carafanau mawr naill ai heb allu rheoli cofnodion safle
yn effeithiol neu wedi diystyru’r amodau cynllunio a thrwyddedu a roddwyd ar gyfer
eu safleoedd. Roedd cymorth y BHHPA wedi bod yn hanfodol wrth gynorthwyo’r
Cyngor i gyrraedd y safle roedd ynddo ar hyn o bryd. O ganlyniad i’r
gwaith hwn, roedd nifer y bobl sy’n preswylio mewn carafanau gwyliau ac sy’n
defnyddio gwasanaethau’r Cyngor wedi lleihau, roedd perchnogion safleoedd
carafanau nawr yn fwy parod i gydweithio gyda’r Cyngor a chymryd cyfrifoldeb
dros reoli eu safleoedd y unol â’r amodau a roddwyd. Roedd un
erlyniad oedd yn cael ei aros am dorri amodau cynllunio hefyd wedi digwydd o
ganlyniad i’r gwaith sy’n ymwneud â’r Prosiect. Roedd Swyddogion yn hyderus nawr, ar sail y gwaith a wnaed hyd yma a’r berthynas waith gryf oedd yn bodoli rhwng swyddogion a swyddogion BHHPA, ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Rhaglen Waith Archwilio PDF 227 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi wedi’i atodi) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar
faterion perthnasol. 11.35 a.m. – 12.00
p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei
Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi
ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o
‘ffurflen ar gyfer cynigion Aelodau’ wedi ei chynnwys yn Atodiad 2, roedd
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn Atodiad 3 ac roedd tabl
yn rhoi crynodeb o benderfyniadau diweddar y Pwyllgor a’r cynnydd a wnaed o ran
eu gweithrediad wedi ei gynnwys yn Atodiad 4. Cadarnhawyd fod y
Cadeirydd, y Cynghorydd Huw Williams am fod ar Grŵp Herio’r Gwasanaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a gwasanaethu fel cynrychiolydd y Pwyllgor ar y
Grŵp Buddsoddi Strategol. PENDERFYNWYD -
yn amodol ar yr uchod bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r penodiadau a rhaglen
gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 12.00 p.m. – 12.10 p.m. Cofnodion: Dim. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12.05 p.m. |