Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
PWYNT O SYLW Eglurodd Pennaeth
y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd (Swyddog Monitro’r
Cyngor hefyd) y ddeddfwriaeth a oedd yn pennu'r trefniadau cadeirio ar gyfer
pwyllgorau archwilio awdurdodau lleol.
Oherwydd bod y Grŵp
Llafur eisoes wedi cyhoeddi na fyddent yn cymryd swyddi ar y Cabinet a’u bod am
fod mewn ‘Gwrthblaid’, roedd hawl awtomatig gan y Grŵp i gadeirio un o’r
pwyllgorau archwilio, roeddent wedi dewis cadeirio’r Pwyllgor Archwilio
Partneriaethau. Roedd cadarnhad yn dal i gael ei aros ar a
fyddai’r Grŵp Plaid Cymru yn cymryd eu seddi ar y Cabinet, oherwydd hyn
roedd yr wrthblaid yn dal yn aneglur ar ba grwpiau Cabinet fyddai â hawl i
benodi cadeiryddion pwyllgorau archwilio. Felly,
dywedodd efallai byddai’r Pwyllgor am benodi cadeirydd ar gyfer y cyfarfod yn
absenoldeb penodiad swyddogol. Gwnaeth aelodau’r pwyllgor enwebu ac
eilio’r Cynghorydd Mark Young i gadeirio'r cyfarfod. Gwnaeth
y Pwyllgor: Benderfynu:
penodi’r Cynghorydd Mark Young i gadeirio’r cyfarfod. |
|||||||||||||||||||||||
YMDDIHEURIADAU |
|||||||||||||||||||||||
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Huw Hilditch- Roberts a’r Cynghorydd Huw Jones
gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen- Polisi Cludiant i Ddysgwyr Sir
Ddinbych oherwydd eu bod yn llywodraethwyr ysgol. |
|||||||||||||||||||||||
Penodi
Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2017/18 (gweler ynghlwm gopi
o ddisgrifiad swydd ar gyfer Aelod Archwilio a Chadeirydd / Is-Gadeirydd) 11.15am – 11.20am
Cofnodion: Gohiriwyd penodi
Is-gadeirydd tan cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau ar 20 Gorffennaf 2017. |
|||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
faterion brys. |
|||||||||||||||||||||||
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2017 (copi
ynghlwm). 11.20am – 11.25am Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2017. Nid oedd unrhyw
fater yn codi ohonynt. PENDERFYNWYD: Y dylid derbyn a chymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2017 fel cofnod cywir. |
|||||||||||||||||||||||
POLISI CLUDIANT I DDYSGWYR SIR DDINBYCH PDF 228 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor ystyried
yr ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar ar ddrafft y
Polisi Cludiant i Ddysgwyr, ac argymell bod y Cabinet yn mabwysiadu’r
polisi. 11.25am – 12pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Plant a Phobl Ifanc yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) a oedd yn
rhoi’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar ar y polisi
newydd arfaethedig i’r aelodau. Yn ei gyflwyniad, dywedodd yr Aelod Arweiniol wrth yr aelodau am gefndir yr
adolygiad o’r polisi presennol a datblygiad y polisi newydd, ei daith drwy
bwyllgorau archwilio yn ystod tymor y Cyngor blaenorol, a’r penderfyniad i
newid ei enw o’r ‘Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol’ i’r ‘Polisi Cludiant i
Ddysgwyr’ er mwyn adlewyrchu’r faith ei fod yn cynnwys holl gludiant ysgol o 4
oed i ôl-16 oed. Yn ystod y broses
adolygu daeth i’r amlwg fod gan weithredu’r polisi oblygiadau ehangach o lawer
na dim ond cludo disgyblion i’w hysgol addas agosaf. Ar gyfer dalgylchoedd ysgol penodol, roedd
goblygiadau cymunedol, oherwydd gallai fod angen i blant a oedd wedi mynychu’r
un ysgolion cynradd drwy eu haddysg cyfnod cynradd fynychu ysgolion uwchradd gwahanol
pan fyddai rheolau’r ‘polisi cludiant o’r cartref i’r ysgol’ yn cael eu
defnyddio. Gallai hyn
effeithio ar les disgyblion unigol ar y cam pontio hanfodol o’u haddysg.
Un ysgol a oedd wedi cael profiadau
negyddol o ganlyniad i weithrediad llym y rheolau hyn oedd Ysgol Pant Pastynog,
Prion, lle roedd ei disgyblion wedi trosglwyddo’n gyffredinol i Ysgol Glan
Clwyd, Llanelwy, nes i’r polisi gael ei weithredu’n llym. Oherwydd y pellter o gartrefi disgyblion
unigol i’r ysgol addas agosaf, penderfynwyd bod rhai disgyblion yn gymwys i
gael cludiant am ddim i Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun yn unig. O ganlyniad, roedd hyn wedi achosi pryder
i rieni y byddai disgwyl i’w plant fynychu ysgolion uwchradd gwahanol i’w
ffrindiau, neu eu brodyr a chwiorydd mewn rhai achosion hyd yn oed. Roedd yr
anghysonder hwn yn amlygu’r angen i gydnabod pwysigrwydd perthynas ag ysgolion
bwydo yn y polisi newydd. Mater arall a ddaeth i’r amlwg yn ystod datblygiad y polisi newydd a’r
ymgynghoriad arno, oedd diffyg hyblygrwydd yn y trefniadau ‘clwstwr ysgolion’
presennol i ganiatáu ysgolion i newid clystyrau os penderfynwyd nad oedd yr
ysgol uwchradd roeddent yn bwydo i mewn iddi yn bodloni disgwyliadau'r
disgyblion/rhieni bellach. Codwyd y mater gan rieni, llywodraethwyr ac ati yn Ysgol Bro Cinmeirch.
Cynigiodd Swyddogion ddatblygu
gweithdrefn i ysgolion a oedd am ddiwygio trefniadau clwstwr presennol ac
adrodd yn ôl i’r pwyllgor archwilio maes o law. Agwedd arall a
oedd wedi’i chryfhau dan y polisi newydd arfaethedig oedd y broses o apelio yn
erbyn gwrthod darparu cludiant am ddim i'r ysgol. Byddai hon yn broses dau gam bellach. Byddai’r cam cyntaf yn
cynnwys swyddogion yn asesu’r apêl, yna byddai Panel Apeliadau yn cyfarfod a
byddai croeso i rheini/gofalwyr fynychu i gyflwyno eu hachos. Gan ymateb i gwestiynau aelodau, eglurodd yr Aelodau Arweiniol a oedd yn
bresennol a’r swyddogion y meini prawf 2 a 3 milltir i fod yn gymwys i gael
cludiant am ddim i'r ysgol i ysgolion cynradd ac uwchradd. Gwnaethant hefyd
egluro’r term ‘llwybr peryglus i’r ysgol’ a'r broses a ddilynir i benderfynu ar
ddiogelwch llwybrau i'r ysgol.
Byddai
llwybrau i’r ysgol bob amser yn cael eu hailasesu os oedd datblygiad newydd yn
cael ei adeiladu ar hyd llwybr neu os oedd newidiadau i lif traffig yn digwydd. Hefyd, dywedasant: · roedd y polisi newydd arfaethedig yn ystyried dewis rhieni o ran y categori addysg roeddent am ei gael i’w plentyn e.e. cludiant i’r ysgol ‘addas’ agosaf, ar sail dewis iaith a/neu ffydd, gan gynnwys cludiant i ysgolion trawsffiniol os oedd yr ysgol addas agosaf mewn sir arall. Mae gan rieni hawl i fynegi dewis rhieni; fodd bynnag, mae’r polisi yn egluro pryd fyddai cludiant am ddim ar gael yn unol â gofynion Mesur Teithio ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|||||||||||||||||||||||
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 225 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar
faterion perthnasol. 12pm - 12.30pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio (CA), a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno
ar ei raglen gwaith i'r dyfodol ac a oedd yn rhoi diweddariad ar faterion
perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o ‘ffurflen gynnig Aelodau’ wedi ei chynnwys yn Atodiad 2.
Gofynnodd y Cydlynydd Archwilio bod unrhyw gynigion yn cael eu cyflwyno iddi
hi. Roedd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cabinet wedi’i gynnwys fel Atodiad 3, roedd gwybodaeth a thabl yn dangos
Grwpiau Herio Gwasanaeth wedi eu cynnwys fel Atodiad 4. Dywedodd y CA wrth
aelodau, ar gyfer pob un o’r 9 grŵp Herio Gwasanaeth, gofynnir i
gynrychiolydd o’r Pwyllgor Archwilio Cymunedau i fod ar y grwpiau. Yn
ychwanegol, roedd angen cynrychiolydd i fod ar y Grŵp Buddsoddi Strategol. Yn dilyn trafodaethau, penododd y
Pwyllgor y canlynol:
Ystyriodd y Pwyllgor ei Raglen Gwaith i'r Dyfodol drafft
ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, Atodiad 1 ac ni wnaed diwygiadau. Penderfynwyd cymeradwyo'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad a dirprwyo a chadarnhau’r cynrychiolwyr i wasanaethu ar y 9 Grŵp Gwasanaeth. |
|||||||||||||||||||||||
Daeth y cyfarfod
i ben am 12:45 p.m. |