Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwylgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorwyr Bill Cowie, Peter Evans a Rhys Hughes. Yr Aelod Cabinet Bobby Feeley ar gyfer eitem 7 hefyd, fel Aelod Arweiniol
Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd David Simmons gysylltiad personol ag eitem 5 ar y
rhaglen – rheoleiddio dyfeisiau hedfan di-yrrwr. Mae’r Cynghorydd Simmons yn
Gadeirydd mewn sefydliad sy'n defnyddio dronau ar gyfer gweithgarwch chwilio ac
achub. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
faterion brys. Cydymdeimlodd y Cadeirydd a’r Pwyllgor â theuluoedd y dioddefwyr yn yr
ymosodiad terfysgol yn San Steffan y diwrnod cynt gan ddymuno'r gorau i'r rhai
a anafwyd yn yr ymosodiad. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2017 (copi
ynghlwm). 9.30am – 9.35am Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2017. Nid oedd unrhyw
fater yn codi ohonynt. Penderfynwyd: y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2017 fel cofnod cywir. |
|
RHEOLEIDDIO PEIRIANNAU AWYR SY’N HEDFAN HEB YRWYR PDF 217 KB Ystyried adroddiad gan Bennaeth yr Adran
Gyfreithiol, AD a Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) ar y
posibilrwydd o reoleiddio’r defnydd o beiriannau awyr sy’n hedfan heb yrwyr yn
Sir Ddinbych a phenderfynu a ddylid argymell unrhyw gamau gweithredu pellach o
ran y mater. 9.35am – 10.15am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Cadeirydd
gyflwyno Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus gan ddiolch iddo am y gwaith roedd
wedi'i wneud o fewn ei bortffolio dros y 5 mlynedd ddiwethaf. Ategwyd hyn gan
aelodau'r Pwyllgor. Cyflwynodd Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) gan ddweud
wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad wedi'i gyflwyno iddynt er mwyn ymateb i gais y
Cyngor Sir, yn dilyn ei drafodaeth ym mis Rhagfyr 2016 ar Rybudd o Gynnig a
gyflwynwyd gan y Cynghorydd Arwel Roberts, a oedd yn gofyn am wahardd 'dronau'
rhag hedfan dros bob man cyhoeddus yn Sir Ddinbych. Roedd y Cyngor
Sir wedi penderfynu y dylai’r Pwyllgor Archwilio ystyried a ddylai’r Cyngor
gyflwyno cyfyngiadau yn ychwanegol at y rhai sydd wedi’u cynnwys yn y gyfraith,
mewn perthynas â hedfan dyfeisiau di-yrrwr. Roedd Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a’r Gwasanaethau Democrataidd (GCADaGD) wedi
darparu adroddiad i'r Pwyllgor a oedd yn manylu ar y fframwaith rheoleiddio
mewn perthynas â defnyddio dyfeisiau hedfan di-yrrwr, gan restru'r deddfau a'r
rheoliadau a oedd yn rheoli eu defnydd ar hyn o bryd. Roedd Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth
Leol (Cymru) 2012 yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol lunio is-ddeddfau i atal
neu gael gwared â niwsans yn eu hardal.
Er hynny, gallai gorfodi is-ddeddfau lleol mewn perthynas â hedfan
dyfeisiau di-yrrwr fod yn anodd iawn, oherwydd natur y broblem. Dywedodd Pennaeth
y GCADaGD bod y ddeddfwriaeth gyfredol, a oedd wedi’i chynnwys yn Neddf Hedfan
Sifil 1982 ac, yn ddiweddarach, yng Ngorchymyn Llywio yn yr Awyr 2016, yn
gynhwysfawr iawn a’i bod yn trafod holl agweddau hedfan peiriannau a dyfeisiau,
gyda gyrwyr a hebddynt, gan gynnwys dronau.
Dywedodd na allai’r Cyngor wneud unrhyw beth i reoli dronau sy’n
hedfan. Yr unig bwerau a oedd ar gael
iddynt oedd rhai i gyflwyno is-ddeddfau a oedd yn gwahardd pobl rhag eu hedfan
o dir sy’n eiddo i’r Cyngor. Tynnodd Pennaeth
y GCADaGD sylw’r Aelodau at ymgynghoriad diweddar gan Adran Drafnidiaeth y DU –
‘Datgloi Economi Technoleg Uwch y DU: Ymgynghoriad ar ddefnyddio Dronau yn
ddiogel yn y DU’ a ddaeth i ben yn ddiweddar. Eglurodd bod yr ymgynghoriad eang (roedd copi
ohono wedi'i atodi i'r adroddiad) yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth
ynglŷn â ffyrdd o ddefnyddio dronau yn ddiogel at ddibenion masnachol a
hamdden, heb rwystro mentergarwch ac arloesedd. Dywedodd wrth y Pwyllgor hefyd fod y Cyngor ei hun
wedi defnyddio dronau i fesur adeiladau a thiroedd. Dywedodd y
Cynghorydd David Simmons ei fod yn gwybod bod Sefydliad Cenedlaethol y Badau
Achub yn treialu dronau datblygedig iawn ar hyn o bryd, gyda’r dechnoleg
ddiweddaraf a fyddai’n cynorthwyo gwaith achub yr elusen. Roedd System Leoli Fyd-Eang (GPS) ar rai
o'r dronau roedd Sefydliad y Badau Achub yn eu defnyddio ar hyn o bryd, a oedd
yn gallu mesur pellter gwrthrych oddi wrth reolwr y drôn. Gan ymateb i
gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd Pennaeth y GCADaGD: ·
Nad
oedd gan awdurdodau lleol unrhyw reolaeth dros yr awyr mewn perthynas â hedfan
– yr Awdurdod Hedfan Sifil a oedd yn rheoli hynny; ·
Roedd
Deddf Hedfan Sifil 1982 a Gorchymyn Llywio yn yr Awyr 2016 yn cyfeirio at
faterion fel prysurdeb yn yr awyr a lefelau sŵn dyfeisiau a pheiriannau
hedfan. ·
Roedd
cyfreithiau preifatrwydd, niwed personol a diogelu data yn amddiffyn hawliau
unigolion i breifatrwydd a hawliau rhag ymyrraeth wedi’i achosi gan ddronau a pheiriannau
hedfan di-yrrwr. ·
Roedd
hedfan drôn mewn ardaloedd adeiledig neu, os oedd camera arno, o fewn 50m i
adeilad, yn anghyfreithlon heb drwydded; ac · Roedd yn debygol y byddai canllawiau ychwanegol yn cael eu cyhoeddi gan yr Adran Drafnidiaeth unwaith y byddai’r holl ymatebion i'r ymgynghoriad wedi'u hystyried, cyn cyflwyno ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
YMAGWEDD GORFFORAETHOL TUAG AT REOLI "GWYLANOD" AR DRAWS Y SIR PDF 211 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn ceisio
barn y Pwyllgor ar gamau gweithredu arfaethedig i reoli poblogaeth “gwylanod” y
sir. 10.15am – 11am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) gan roi
gwybod i’r Pwyllgor bod gwylanod, fel adar eraill, ynghyd â'u nythod a'u hwyau,
wedi'u gwarchod gan y gyfraith dan ddarpariaethau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau
Tramwy 2000, er bod nifer yn eu hystyried yn bla. Rhoddwyd gwarchodaeth
ychwanegol i nifer o ‘wylanod’ hefyd, gan fod niferoedd y rhai gwyllt yn
gostwng. Fodd bynnag,
roedd y Cyngor yn cydnabod bod ymddygiad gwylanod mewn blynyddoedd diweddar
wedi dod yn broblem gynyddol i'r Awdurdod, i drigolion, i ymwelwyr ac i fusnesau
lleol ac felly roedd angen gweithredu er mwyn lleihau’r effaith niweidiol ar y
Sir. Tynnodd yr Aelod
Arweiniol sylw’r aelodau at Atodiad 2 i’r adroddiad, a oedd yn cynnwys cynllun
gweithredu drafft i fynd i’r afael â’r problemau a achosid gan wylanod.
Dywedodd fod Uwch Dîm Arweinyddiaeth
y Cyngor wedi ystyried y cynllun gweithredu hwn eisoes ac roedd swyddogion
bellach yn ceisio casglu barn yr aelodau ar y camau arfaethedig, ynghyd ag
unrhyw gamau gweithredu eraill roedd aelodau'r Pwyllgor yn dymuno eu cynnig.
Roedd nifer o atodiadau’r adroddiad
yn pwysleisio’r cymhlethdodau a oedd ynghlwm ag ymdrin â phroblemau a oedd yn
ymwneud â gwylanod, a'r amryw atebion a dreialwyd mewn ardaloedd eraill yn y DU
i fynd i'r afael â phroblemau a achosid ganddynt. Pwysleisiodd
aelodau’r Pwyllgor y problemau roedd gwylanod yn eu hachosi yn eu cymunedau
hwythau a'r modd roedd rhai o'r problemau hyn yn cael eu gwaethygu gan bobl ac
arferion gwael e.e. bwydo'r adar, rhoi bagiau sbwriel y tu allan y noson cyn
iddynt gael eu casglu, arferion gwastraff bwyd bwytai a bwytai bwyd brys, ac
ati. Bu iddynt hefyd
restru nifer o gynlluniau y gwyddent fod awdurdodau lleol eraill wedi’u treialu
er mwyn ceisio lleihau niwsans gwylanod a rheoli eu niferoedd h.y. gosod
baneri/balwnau, rhwydi/pigau ar doeau, tyllu wyau mewn nythod, dulliau atal
cenhedlu, ac ati. Amlygwyd
graddau’r niwsans a pha mor gyffredin oedd gwylanod yn y Sir gan aelodau drwy
gyfeirio at uned fanwerthu yn y Rhyl, lle daethpwyd o hyd i 71 o nythod
gwylanod ar y to wrth ei archwilio. Cyfeiriodd aelod arall at ysgol yn y Sir a oedd
wedi gwario arian o’i chyllideb i ariannu gwaith i ddiogelu’r adeilad a’r
disgyblion rhag gwylanod. Gan ymateb i gwestiynau’r
aelodau, bu i'r Aelod Arweiniol a Phennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: ·
gytuno gyda’r aelodau bod
cymaint o fai ar bobl am y problemau a achosid gan wylanod â’r gwylanod eu
hunain.
Yn sicr, roedd angen addysgu pobl mewn perthynas â bwydo gwylanod
a sut i wella eu dulliau o gael gwared â gwastraff cartref; ·
cadarnhau, yn yr un modd,
bod angen addysgu bwytai a lleoedd bwyta am ffyrdd o gael gwared â’u gwastraff,
ac ati; ·
dweud bod problemau mewn
perthynas â gwylanod yn dod mor gyffredin yng nghefn gwlad ag yr oeddent ar hyd
yr arfordir; a ·
chadarnhau bod yr Uwch Dîm
Arweinyddiaeth o’r farn bod angen ymagwedd amlochrog tuag at reoli gwylanod ac,
er bod ganddynt rai pryderon ynglŷn â pha mor ymarferol oedd gorfodi
unrhyw is-ddeddfau posib’ ynglŷn â bwydo’r gwylanod, efallai y byddai
cymeradwyo is-ddeddf yn fanteisiol o safbwynt datgan yn glir wrth drigolion ac
ymwelwyr nad oedd croeso i arferion o’r fath ac na fyddent yn cael eu goddef. Roedd y Pwyllgor
yn cefnogi’r holl gamau gweithredu a gynigiwyd gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth.
Ar ben hynny, awgrymodd yr aelodau y
dylid cymryd y camau canlynol mewn perthynas â rheoli gwylanod ledled y Sir: · gan ei bod yn hysbys y gallai gwylanod hedfan hyd at 60 milltir yn ystod y nos a chan nad oeddent ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried
adroddiad gan Rheolwr Gwasanaethau – Ardal (copi ynghlwm) sy’n manylu’r cynnydd
hyd yma mewn perthynas ag uno swyddogaeth rheolaeth y gwasanaethau uchod gyda’r
bwriad o ddarparu canlyniadau gwell i breswylwyr. 11.10am – 11.45am Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol y Rheolwr Gwasanaeth: Ardaloedd ar gyfer y
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a’r adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r
Pwyllgor. Dywedodd Pennaeth
y Gwasanaeth mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi diweddariad i'r Pwyllgor ar y
cynnydd o ran uno swyddogaeth reoli'r gwasanaethau ar ôl i'r cyfnod ymgynghori
gyda'r holl staff a oedd yng nghwmpas y gwasanaeth newydd ddod i ben.
Roedd hefyd yn cynnwys manylion y
dangosyddion arfaethedig a fyddai’n cael eu defnyddio i fesur effeithiolrwydd y
Gwasanaeth wrth ddarparu canlyniadau, unwaith y byddai’r strwythur rheoli
newydd wedi’i roi ar waith ar 1 Ebrill 2017. Er y byddai’r
Gwasanaeth yn gwneud arbedion ariannol drwy uno’r strwythur rheoli, nid oedd
unrhyw aelod o staff wedi’i ddiswyddo, ac roedd un aelod o staff wedi’i
adleoli. Byddai
cynllun busnes newydd yn cael ei lunio unwaith y byddai’r Gwasanaeth newydd yn
weithredol ym mis Ebrill. Byddai’r Gwasanaeth yn canolbwyntio ar ddarparu llawer o wasanaethau o fath
sy’n ailalluogi, yn hytrach na gwasanaethau a oedd yn creu dibyniaeth ar ofal
cymdeithasol, gan yr ystyrid bod y dull hwn yn gwella bywydau defnyddwyr y
gwasanaethau yn y tymor hir. Gan ymateb i
gwestiynau gan yr aelodau, dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth: ·
mai’r sail resymegol ar
gyfer uno'r tri gwasanaeth hwn mewn un strwythur rheoli oedd sicrhau eu bod yn
gweithio'n effeithiol gyda'i gilydd, gan ategu ac ychwanegu at sgiliau
arbenigol ei gilydd; ·
mewn perthynas â rheoli
rhyddhau pobl o Ysbyty Glan Clwyd, bod hyn yn cael ei wneud drwy ‘glwstwr camu
i lawr’, 1 o 5 yn y Sir – 3 yng ngogledd y Sir (gan gynnwys y 'clwstwr camu i
lawr’) a 2 yn y de; ·
na fu unrhyw achos o oedi
wrth drosglwyddo gofal ym mis Ionawr na mis Chwefror 2017 oherwydd unrhyw
fethiant gan Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol. Achos
yr oedi oedd problemau roedd darparwyr gofal yn eu cael wrth geisio recriwtio
staff, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig; ·
roedd gwaith ar fynd ar
hyn o bryd gyda’r Bwrdd Iechyd i ystyried a ellid defnyddio gwelyau gofal preswyl
‘gwag’ yn y Sir ar gyfer y cyfnodau cyn rhyddhau cleifion o'r ysbyty, tra roedd
pecynnau gofal unigol yn cael eu trefnu ar gyfer y cleifion. Roedd hwn yn faes cymhleth a oedd yn gofyn bod darparwyr gofal annibynnol
yn cydweithio.
Fodd bynnag, roedd potensial yma i allu defnyddio
gwelyau'r ysbyty at ddibenion meddygol; ·
Roedd Arolygiaeth Gofal a
Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW) ar hyn o bryd yn ystyried yr hyn y
gellid ei wneud o fewn y sector gofal nyrsio er mwyn lleihau’r pwysau ar welyau
mewn ysbytai, gan gynnwys a ellid llacio’r angen am sicrhau bod gofal nyrsio ar
gael ar y safle bob awr o'r dydd pe bai trefniadau digonol ar waith i alw am
ofal nyrsio, pe bai ei angen; ac ·
O fis Ebrill 2018 ymlaen,
dan ddarpariaethau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014,
byddai angen i’r Gwasanaeth Iechyd ac i awdurdodau lleol sefydlu cyllidebau
cyfun i wario ar gartrefi gofal, gan geisio gwella canlyniadau ar gyfer
defnyddwyr y gwasanaeth a gwella eu lles yn gyffredinol. Roedd gwaith ar fynd ar hyn o bryd mewn perthynas â datblygu’r cyllidebau
cyfun ac roedd disgwyl i adroddiad gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio
Partneriaethau ar 6 Ebrill 2017 ar y cynnydd hyd yma yn Sir Ddinbych mewn
perthynas â chyllidebau cyfun ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Wrth ddod â’r drafodaeth i ben, bu i’r Pwyllgor annog y swyddogion i barhau i weithio gyda’r Bwrdd Iechyd er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer y trigolion, gan sicrhau eu bod yn gallu bod yn annibynnol eto a pharhau i fod yn annibynnol am ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 302 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r newyddion diweddaraf i’r aelodau
am faterion perthnasol. 11.45am – 12pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau
adolygu rhaglen waith y Pwyllgor gan roi diweddariad ar faterion
perthnasol. Cyfeiriodd y
Cydlynydd Archwilio at adran 5 yn yr adroddiad a’r eitemau diwygiedig a
gynhwysid yn rhaglen y Pwyllgor Archwilio Cymunedau gan Grŵp Cadeiryddion
ac Is-gadeiryddion Archwilio. Roeddent yn cynnwys: ·
amnewid adroddiad Adolygu
Darpariaeth Ysgolion Cynradd yn Ardal Rhuthun – gohiriwyd hyd nes y byddai’r
adolygiad wedi dod i ben ac ymateb Gweinidogol ar Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd
wedi’i dderbyn – am adroddiad Rheoleiddio Dyfeisiau a Pheiriannau Hedfan
Di-yrrwr; ·
cyfeirio rheoli dŵr yn
Nglasdir at Grŵp Ardal Aelodau Rhuthun fel mater lleol; ·
gwneud cais i’r Pwyllgor
ystyried adroddiad gan yr Adran Gynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ar y cynnig a
gyflwynwyd i'r Cyngor Sir ar 31 Ionawr 2017 ynglŷn â pharcio ceir am ddim
i ddeiliaid bathodyn anabledd; ·
trefnu bod eitemau’r
Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
ar y rhaglen ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor yn yr hydref; ·
gwahodd Prif Gwnstabl Heddlu
Gogledd Cymru i Sesiwn Friffio'r Cyngor ar ôl etholiadau lleol mis Mai. Penderfynwyd: yn
amodol ar yr uchod, gymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel ag y mae yn
Atodiad 1 i’r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol
Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. 12pm Cofnodion: Nid oedd adborth
i'w dderbyn. Diolchodd y
Cadeirydd i aelodau'r Pwyllgor am eu cyfraniad dros y 5 mlynedd ddiwethaf.
Talodd deyrnged i’r Cynghorydd Cefyn Williams, a oedd wedi penderfynu peidio â
sefyll yn yr etholiad y tro hwn, am ei gefnogaeth, ei bresenoldeb ac am rannu
ei brofiad i gynorthwyo wrth lywio'r Pwyllgor. Diolchodd y
Cynghorydd Martyn Holland i’r Cadeirydd am reoli’r cyfarfodydd yn dda. Daeth y cyfarfod
i ben am 11:23am. |