Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthin

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Bill Cowie, Rhys Hughes, Bob Murray a David Simmons

 

Aelodau Cabinet – Y Cynghorwyr Bobby Feeley, David Smith ac Eryl Williams

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 88 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Brian Blakeley gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen – Comisiynydd Heddlu a Throsedd gan mai ef oedd cynrychiolydd y Cyngor ar Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

 

 Datganodd y Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts, Martyn Holland, Anton Sampson, Cheryl Williams a Cefyn Williams gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen - Polisi Drafft Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol Sir Ddinbych, oherwydd maent yn llywodraethwyr ysgol.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts hefyd ddatgan cysylltiad personol ag eitem 9 ar y rhaglen – Rhaglen Waith Archwilio, oherwydd cyfeiriwyd at y Banciau Nat West lleol yn cau, ac roedd yn rhedeg Swyddfa Bost Rhuthun, a oedd yn darparu gwasanaethau bancio.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 218 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2016 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2016.

 

Materion yn codi -

 

Tudalen 8, Cofnodion Eitem 4 (Effaith y cynnydd mewn taliadau parcio ceir ar draws y sir) – Roedd Cyngor Tref yr Wyddgrug wedi rhoi gwybod nad ydynt yn rhoi cymhorthdal ar gyfer taliadau parcio ceir yn yr Wyddgrug.  Roedd swm bach o elw o’r incwm parcio gwir wedi dod i law – nid mewn “arian sychion” ond roedd y Cyngor Tref yn gallu manylu ynghylch pa brosiectau y dylid gwario’r arian arnynt.  Yna fe gynhaliwyd y gwaith y cytunwyd arno mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, ac roedd pob prosiect yn ymwneud ag isadeiledd.  Roedd Cyngor Tref yr Wyddgrug hefyd wedi rhoi gwybod bod Cyngor Tref Bwcle wedi cytuno talu swm penodol i Gyngor Sir y Fflint dros gyfnod y Nadolig, fel y byddai ymwelwyr yn elwa o barcio am ddim am y pythefnos yn arwain at y Nadolig.

 

Tudalen 10, Eitem 6 Rheoli Dŵr a Lliniaru Llifogydd - cyfeiriodd y Cynghorydd Martyn Holland at (1) drafodaethau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn y cyfarfod diwethaf, a roddodd wybod am y gwaith i liniaru’r risg i fywydau ac eiddo, oherwydd llifogydd o'r prif afonydd, a (2) Strategaeth Cynnal a Chadw Pontydd y Cyngor a ystyriwyd yn ddiweddar gan y Pwyllgor Archwilio Perfformiad.  Roedd y Cynghorydd Holland yn gobeithio y byddai’r pontydd yn cael eu cynnwys yn y categoreiddio eiddo a gyfeiriwyd ato gan Gyfoeth Naturiol Cymru at ddibenion y gwaith lliniaru, o ystyried y niwed posibl i bontydd o ganlyniad i goed wedi disgyn ac ati, a goblygiadau cost atgyweirio/cynnal a chadw dilynol.  Nodwyd y byddai rheolaeth dŵr a llifogydd yn Sir Ddinbych yn cael ei drafod yn Sesiwn Briffio’r Cyngor ym mis Mehefin, a chytunwyd y byddai’r mater yn cael ei godi bryd hynny.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2016 fel cofnod cywir.

 

 

5.

COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDD

Trafod gyda Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd ei weledigaeth a’i flaenoriaethau ar gyfer y rhanbarth.

 

9.35 a.m. – 10.15 a.m.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Arfon Jones, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd i’r cyfarfod ar ôl cael gwahoddiad gan y Pwyllgor, i rannu ei weledigaeth a’i flaenoriaethau ar gyfer y rhanbarth.  Nododd yr Aelodau’r gwahaniaeth rhwng rôl strategol y Comisiynydd a rôl weithredol y Prif Gwnstabl wrth blismona, a chytunwyd i wahodd y Prif Gwnstabl i gyfarfod yn y dyfodol i drafod ei weledigaeth a’i flaenoriaethau.

 

Cyn ei anerchiad ffurfiol, rhoddodd y Comisiynydd wybod bod Panel yr Heddlu a Throsedd wedi cymeradwyo ei gyllideb ddrafft 2017/18 yn gynharach yr wythnos honno, a fyddai’n arwain at 17 o swyddogion heddlu ychwanegol, a 6 aelod staff arall yn cael eu recriwtio.    O’r 17 swyddog heddlu ychwanegol i’w recriwtio, byddai 10 yn cael eu defnyddio ‘ar y bît’ ar draws gogledd Cymru i ddelio â throseddau lefel isel, fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, tra byddai’r 7 swyddog sy’n weddill, a 6 aelod arall o staff yn cael eu cyflogi mewn rolau arbenigol, i archwilio cam-fanteisio ar blant a seiber-fwlio yn bennaf.  I ariannu’r gyllideb hon, roedd y Pwyllgor wedi cytuno pennu praesept yr Heddlu ar 3.79%, a oedd yn cyfateb i gynnydd o £9 y flwyddyn, neu 17c y diwrnod, ar eiddo Band D ar draws gogledd Cymru.

 

Anerchodd Mr Jones y Pwyllgor drwy amlinellu ei rôl a’i gyfrifoldebau fel y Comisiynydd etholedig, cynrychiolydd y cyhoedd ar gyfer ymgysylltu â Heddlu Gogledd Cymru.  Roedd y dyletswyddau hyn yn cynnwys -

 

·         gosod y gyllideb a’r praesept ar gyfer Gwasanaeth yr Heddlu

·         dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am gyflawni ei brif ddyletswydd, o ddarparu gwasanaeth plismona effeithiol ac effeithlon i ogledd Cymru, gan ddarparu gwerth am arian a lleihau troseddau

·         dyrannu refeniw i grwpiau i atal trosedd ac anhrefn ar draws gogledd Cymru

·         llunio Cynllun yr Heddlu a Throsedd, gan nodi’r cyfeiriad strategol ar gyfer plismona yng Ngogledd Cymru.

 

 Roedd y Comisiynydd ar hyn o bryd yn y broses o ymgynghori ar ei Gynllun Heddlu a Throsedd, ei gynllun cyntaf ers iddo gael ei ethol ym Mai 2016. Fel rhan o’i ymgynghoriad ar y Cynllun, roedd holiadur ar-lein wedi bod ar gael i breswylwyr ei lenwi, a chyfres o gyfarfodydd cyhoeddus wedi’u cynnal ar draws gogledd Cymru.  Rhoddodd wybod i aelodau nad oedd wedi newid Cynllun ei ragflaenydd wedi iddo gael ei ethol, gan ei fod yn cytuno â’r mwyafrif o gamau gweithredu ynddo.   Fodd bynnag, byddai ei Gynllun yn adlewyrchu’r newidiadau a’r bygythiadau sy’n wynebu gogledd Cymru, yn ogystal â blaenoriaethau preswylwyr, asiantaethau statudol, y sector gwirfoddol a’r gymuned fusnes ar draws y rhanbarth, lle bo modd.

 

Byddai Cynllun y Comisiynydd yn canolbwyntio ar freguster yn hytrach na cheisio delio â phawb a phopeth.  O ganlyniad, byddai’n cynnwys cynlluniau i fynd i'r afael â cham-drin domestig, cam-drin plant, caethwasiaeth fodern a masnachu pobl.  Er bod egwyddorion sylfaenol plismona wedi aros yr un fath â phan yr oedd yn swyddog gyda’r heddlu, roedd agweddau eraill ar blismona wedi newid, yn ogystal â’r mathau o droseddau roeddent yn delio â nhw o ddydd i ddydd.    Roedd troseddau ffiaidd fel cam-fanteisio’n rhywiol ar blant, masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern yn llawer mwy cyffredin nawr, fel yr oedd digwyddiadau seiberdroseddau.  Roedd ystadegau bellach yn dangos fod yna fwy o droseddau’n cael eu cyflawni ar-lein y dyddiau hyn, o’i gymharu ag ar y strydoedd.  O ganlyniad, roedd angen mwy o adnoddau’r Heddlu i ddelio â throseddau a oedd i bob pwrpas yn ‘guddiedig’, neu nid yn weladwy i fwyafrif y boblogaeth.  Er gallai’r drosedd ‘guddiedig’ hon ymddangos yn fater hawdd i’w ymchwilio i ddechrau, roedd cyflymder a phŵer seiberdroseddau a chyfryngau cymdeithasol yn golygu ei fod yn faes cymhleth a  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

POLISI DRAFFT CLUDIANT O’R CARTREF I’R YSGOL SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 298 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) yn diweddaru'r aelodau ar yr adolygiad o Bolisi Cludiant o’r Cartref i'r Ysgol Sir Ddinbych a chyflwyno’r polisi drafft newydd er mwyn i aelodau ei ystyried cyn ymgynghori gyda rhanddeiliaid.

10.15 a.m. – 10.45 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) a ddiweddarodd aelodau ar y cynnydd hyd yn hyn gyda’r adolygiad o Bolisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor.  Roedd copi o’r drafft diwygiedig diweddaraf o’r polisi yn amgaeedig â’r adroddiad er ystyriaeth a sylwadau aelodau.

 

Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor bod mwyafrif o’r cyngor cyfreithiol wedi’i geisio ar bob agwedd ar y polisi wedi dod i law, a bod y fersiwn a gyflwynwyd iddynt wedi’i newid yn unol â’r cyngor hwnnw.  Tynnodd y Rheolwr Adnoddau a Chefnogaeth Addysg sylw at y prif newidiadau yn y polisi drafft, fel yr amlinellir yn yr adroddiad hwn, sef -

 

·         roedd perthnasau ‘ysgol fwydo’n’ cael eu cydnabod yn y polisi drafft newydd. Roedd y polisi cyfredol ond yn cydnabod yr ysgol addas agosaf, a gallai’r ffactor hwn gael effaith niweidiol ar blant yn gallu aros gyda’i gilydd wrth bontio i’r ysgol uwchradd.   Byddai ceisiadau ar gyfer cludiant ysgol uwchradd o dan y polisi newydd arfaethedig newydd felly'n cael eu hasesu ar gyfer yr ysgol addas agosaf neu a oeddent wedi mynd i 'ysgol fwydo gynradd ddynodedig'.  Bydd cludiant ar sail ysgol fwydo’n cael ei roi fel trefniant dewisol.

·         byddai’r canllaw mewn perthynas â mannau casglu a llwybrau peryglus yn cael eu hymgorffori yn y polisi newydd i helpu tryloywder ac eglurder

·         eglurder ar ddarpariaeth teithio dewisol

·         amserlen estynedig ar gyfer y broses apelio i sicrhau fod yr holl elfennau’n ymwneud ag apêl wedi’u hymchwilio’n iawn, a

·         nifer o newidiadau mân eraill drwy gydol y ddogfen ar gyfer dibenion cryfhau neu egluro.

 

Mewn ymateb i gwestiynau aelodau, dyma swyddogion yn -

 

·         rhoi gwybod i’r Pwyllgor bod y polisi diwygiedig wedi’i ddrafftio o ran gofynion y ddeddfwriaeth ddiweddar, h.y. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

·         fe wnaethant gadarnhau, ar gyfer disgyblion yn ne’r sir sy’n mynd i ysgolion ffyrdd, neu a oedd yn dymuno cael mynediad at addysg uwchradd yn seiliedig ar ffydd, dylai eu hysgol agosaf yn seiliedig ar ffydd fod yn Wrecsam.  Ni fyddai disgwyl iddynt deithio i’r Rhyl

·         rhoddwyd gwybod y byddant yn edrych yn fuan ar wella cysylltiadau cludiant ar draws ffiniau’r sir, gyda’r bwriad o archwilio a allai disgyblion Sir Ddinbych ddefnyddio'r cludiant a gomisiynwyd gan awdurdodau eraill i gludo eu disgyblion i ysgolion Sir Ddinbych, ac i'r gwrthwyneb, i weld a allai disgyblion o siroedd eraill deithio ar gludiant a gomisiynir gan Sir Ddinbych i ysgolion y tu allan i’r sir

·         rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor y byddai darpariaethau’r polisi mewn perthynas â mannau casglu dynodedig a llwybrau peryglus, angen cael eu cymhwyso mewn dull teg a chyfiawn, gan roi ystyriaeth ddyledus i’r holl ystyriaethau a gyflwynir

·         unwaith y cafodd y polisi diwygiedig ei gymeradwyo ar gyfer ymgynghori, byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i hyrwyddo’r ymgynghoriad drwy’r cyfryngau, ysgolion ac unrhyw ddulliau addas eraill, gyda’r bwriad o ddenu’r ymgysylltiad budd-ddeiliaid mwyaf gyda’r broses

·         roedd y Gwasanaeth Addysg yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Priffyrdd ac Amgylcheddol mewn perthynas â monitro a allai llwybrau ysgol ddod yn arbennig o beryglus yn ystod y tymor tyfu, yn enwedig y llwybrau hynny yn ne’r sir a oedd yn destun torri ochr ffordd bioamrywiaeth.  Byddai diogelwch y disgyblion yn hollbwysig

·         cadarnhawyd bod yr amserlen ar gyfer cymeradwyo a gweithredu’r polisi newydd wedi’i nodi ym mharagraff 4.5.1 o’r adroddiad.  Fodd bynnag, lle bo modd, byddai Cefnogaeth Addysg yn cymhwyso’r un egwyddorion i geisiadau cludiant ysgol a ddaw i law yn y cyfamser

·         cynghorwyd bod angen diffiniad clir o’r term ‘cludiant dewisol’ fel rhan o’r ymgynghoriad ar y polisi, gan gynnwys gwybodaeth am hyd dyfarniadau cludiant dewisol

·         cadarnhaodd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

YMDDIRIEDOLAETH GWASANAETH AMBIWLANS CYMRU

Derbyn cyflwyniad gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a thrafod gyda nhw y problemau a’r pwysau y mae’r Gwasanaeth yn ei wynebu yn Sir Ddinbych.

11.00 a.m. – 11.45 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chroesawyd cynrychiolwyr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru o Ymddiriedolaeth y GIG (WAST), David Scott (Cyfarwyddwr Anweithredol), Sonia Thompson (Pennaeth Gweithrediadau Dros Dro Ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) a Claire Bevan (Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd, Nyrsio a Phrofiad Cleifion).  Roedd cynrychiolwyr WAST wedi’u gwahodd i ddod i’r cyfarfod i drafod y problemau a’r pwysau y mae’r gwasanaeth yn ei wynebu yn Sir Ddinbych, ac ar draws Cymru, a sut roeddent yn mynd i’r afael â’r pwysau hynny.

 

Trwy gyflwyniad PowerPoint, dangosodd cynrychiolwyr WAST i aelodau -

 

·         ddata ar nifer y galwadau ac ymholiadau gwefan a dderbyniwyd gan y gwasanaeth y llynedd, a oedd yn dangos cynnydd sylweddol o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, a nifer y teithiau gofal cleifion a gynhaliwyd gan y gwasanaeth a'i rwydwaith gwirfoddolwyr

·         data ar nifer y galwadau a ymatebwyd iddynt gan wirfoddolwyr Ymatebwr Cyntaf Cymunedol

·         effaith sy’n mynd yn groes i’r graen o ddiwallu amseroedd ymateb ambiwlans - gallu bodloni'r targedau sydd wedi'u gosod, ond nid gwella'r profiad neu'r canlyniadau ar gyfer y claf, ar wahân i'r rhai hynny sy'n ddifrifol sâl

·         y mesurau sy’n cael eu gweithredu gyda’r bwriad o wella rheolaeth galwadau ac asesiad cleifion i helpu i anfon ambiwlansys mewn argyfwng yn addas, a cherbydau ymateb eraill, gan gynnwys buddion disgwyliedig y dull hwn i'r claf ac i WAST

·         y gwelliannau a wireddwyd hyd yn hyn o fabwysiadu’r Model Clinigol Newydd, gan gynnwys lleihad o 38% yn nifer y Cerbydau Ymateb Cyflym nad oedd angen cyrraedd yr argyfwng yn y pen draw

·         gwaith a wnaed gyda’r Gwasanaeth Iechyd a staff yr Heddlu, gyda’r bwriad o leihau nifer y ‘galwadau cyson’ a’r Gwasanaeth Tân ac Achub mewn perthynas ag atal cwympiadau

·         y cynnydd yn nifer y cleifion a oedd wedi'u hasesu'n glinigol gan y Tîm Asesiadau Ffôn Clinigol a oedd wedi golygu nad oeddent angen ambiwlans mewn argyfwng

·         y fenter Trawsnewid Gofal yn Agosach at y Cartref ledled Cymru, a oedd wedi arwain at lai o gleifion yn cael eu cludo i ysbyty yng ngogledd Cymru na gweddill Cymru

·         y gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd a’r cynnig i roi hwb i welliannau o ran rheoli galwadau ar gyfer cymorth, a oedd yn cael eu hystyried i fod yn alwadau nad ydynt yn rhai argyfwng

·         y gwaith sy’n mynd rhagddo i geisio gwella amseroedd trosglwyddo o WAST i’r Bwrdd Iechyd, ar hyn o bryd roedd perfformiad yn ardal BIPBC yn erbyn y dangosydd penodol hwn y gwaethaf yn gyson yng Nghymru

·         mentrau’n mynd rhagddynt ar draws gogledd Cymru, gyda’r bwriad o hybu gwelliannau.  Roedd y rhain yn cynnwys tîm o glinigwyr yng Nghanolfan Reoli’r Heddlu ac yn Ystafell Reoli WAST a allai asesu anghenion claf, a datblygu Llwybrau Gofal Amgen - gan gynnwys Tîm Cymorth Cymunedol mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Tân ac Achub, y Llwybr Nyrsys Ardal, Protocol Uned Mân Anafiadau diwygiedig, ac ym Mawrth 2017, byddai cynllun peilot Llwybr Iechyd Meddwl yn dechrau yn Ysbyty Glan Clwyd

·         yn ogystal, byddai Protocol Trosglwyddo Cyflym yn cael ei gyflwyno ledled gogledd Cymru i gefnogi’r gwaith o drosglwyddo cleifion yn brydlon nad oedd angen trafodaeth clinigwr i glinigwr, byddai Gwasanaeth Ymatebwr Cyntaf Cymunedol yn cael ei ehangu i weithio yn ardaloedd gogledd Cymru nad oedd â phresenoldeb Ymatebwr Cyntaf Cymunedau ar hyn o bryd; a byddai gwaith yn parhau gyda defnyddwyr gwasanaeth mynych gyda’r bwriad o gefnogi eu hanghenion, heb iddynt orfod galw ar y gwasanaeth.

 

Rhoddodd gynrychiolwyr WAST wybod i’r Pwyllgor fod yr adborth cychwynnol gan y cyhoedd a Gweinidogion Llywodraeth Cymru i’r dull Model Clinigol Newydd wedi bod yn ffafriol, roedd morâl staff wedi gwella hefyd.

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan aelod o’r  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

AROLWG PRESWYLWYR CYNGOR SIR DDINBYCH 2017 pdf eicon PDF 109 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio (copi ynghlwm) yn amlinellu ymagwedd ddiwygiedig i Arolwg Preswylwyr 2017 a cheisio safbwyntiau aelodau ar y trefniadau newydd arfaethedig.

11.45 a.m. – 12.15 p.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwella a Moderneiddio Busnes yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol), a amlinellodd y broses arfaethedig i gynnal Arolwg Preswylwyr 2017 yn Sir Ddinbych.

 

Yn ei gyflwyniad, fe amlinellodd y Pennaeth Gwasanaeth bwysigrwydd yr ymarfer Arolwg Preswylwyr fel ffordd o fesur bodlonrwydd dinasyddion gyda gwasanaethau'r Cyngor, ac i geisio cael eu barn ar y gwasanaethau yr hoffent eu cael yn y dyfodol.   Amlinellodd gynigion y Cyngor ar gyfer cynyddu ymgysylltiad preswylwyr gyda’r broses arolwg, ar gyfer yr arolwg sydd i ddod, a dywedodd pe gellid diogelu rhwng 2000 a 3000 o ymatebwyr, byddai'r awdurdod yn ystyried hynny'n gyfradd ymateb addas.  Byddai ymatebion yr arolwg yn cael eu dadansoddi ochr yn ochr ag ymgynghoriad y Cynllun Corfforaethol, a byddai’r dadansoddiad yn cyfrannu at gynllunio strategol newydd y Cyngor ar gyfer y dyfodol.

 

Gyda’r bwriad o wneud y gorau o ymgysylltiad preswylwyr gyda’r broses, gofynnodd aelodau i swyddogion holi a oedd modd cynnig cymhelliant i breswylwyr lenwi’r arolwg, h.y. aelodaeth hamdden 12 mis am ddim i un/dau o bobl.  Roedd y Pwyllgor yn awyddus fod aelodau gyda chyfle i roi sylw ar yr arolwg drafft cyn ei roi i breswylwyr, felly -

 

PENDERFYNWYD –

 

(a)       yn amodol ar y sylwadau uchod ac ymholiadau’n cael eu gwneud i sefydlu a oedd cymhelliant ar ffurf gwobr yn gallu cael ei roi i un ymatebwr am lenwi’r arolwg, bod y trefniadau newydd arfaethedig am gynnal yr Arolwg Preswylwyr yn cael eu cefnogi, a

 

(b)       bod yr Arolwg Preswylwyr drafft yn cael ei gyflwyno i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio am sylwadau cyn ei gyhoeddi.

 

 

9.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 107 KB

I ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

12.15 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor a rhoi diweddariad ar faterion perthnasol. 

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol -

 

·         nodwyd bod swyddogion Nat West wedi gwrthod gwahoddiad y Pwyllgor i ddod i’w gyfarfod ym Mawrth i drafod y rhesymeg dros gau canghennau yn y sir, a chynigion yn y dyfodol i ddarparu cyfleusterau bancio, ond wedi cynnig cyfarfod gyda swyddogion neu aelodau yn unigol. Mynegodd yr Aelodau bryder nad oedd swyddogion Nat West wedi bod yn fodlon ymgysylltu a thrafod materion mewn fforwm cyhoeddus, gyda’r bwriad o weithio gyda’r Cyngor er budd cwsmeriaid a darparu gwasanaethau yn y dyfodol.  Cytunwyd bod datganiad i’r wasg yn cael ei gyhoeddi’n tynnu sylw at siom a llesteiriant y Pwyllgor yn y cyswllt hwn.  Gofynnodd y Cynghorydd Cheryl Williams fod dulliau amgen o ddarparu’r gwasanaethau bancio hynny i gymunedau lleol yn cael eu harchwilio, gan gynnwys defnyddio siopau un stop.  Rhoddodd y Cadeirydd wybod fod Swyddfa Bost Rhuthun yn darparu rhai cyfleusterau                               

·         cytunodd Aelodau i wahodd yr Aelodau Cabinet Arweiniol perthnasol i ddod i gyfarfod nesaf y Pwyllgor ar gyfer eitemau'n ymwneud â Chefnogi Annibyniaeth yn Sir Ddinbych; Adolygu Darpariaeth Ysgol Gynradd yn ardal Rhuthun, a Rheoli Dŵr (ardal Glasdir, Rhuthun), a

·         fe wnaeth y Pwyllgor hefyd ailadrodd eu penderfyniad i dderbyn adroddiad yn ôl ar Bolisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol Sir Ddinbych, yn dilyn proses ymgynghori, i gynnwys adolygu llwybrau cludiant ysgol hefyd, a mannau casglu.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r Rhaglen Waith fel y caiff ei manylu yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

 

10.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

I dderbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Martyn Holland wybod fod y Grŵp Cydraddoldeb yn adolygu’r ffordd roedd yn gweithredu yn y sir yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad ar lafar.

 

The meeting concluded at 12.55 p.m.