Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Ffordd Churton, Rhyl
Rhif | Eitem |
---|---|
HYSBYSIAD Cadarnhaodd y
Cydlynydd Archwilio y darpariaethau a oedd wedi'u cynnwys ym Mesur Llywodraeth
Leol (Cymru) 2011 ar gyfer penodi cadeiryddion trosolwg ac archwilio. Byddai'r
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn parhau yn ei swydd fel Cadeirydd, oni
fyddai'r grwpiau gwleidyddol perthnasol yn dod i gytundeb ynghylch penodi
rhywun gwahanol. Talodd y Cynghorydd Huw Williams deyrnged i sgiliau cadeirio'r
Cynghorydd Hilditch-Roberts, ond mynegodd siom nad oedd y grwpiau dan sylw wedi
dod i gytundeb. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorydd
David Smith (Aelod Arweiniol Tir y Cyhoedd) a'r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi
Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2014/15. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
CVs/datganiadau wedi dod i law cyn y cyfarfod ar gyfer swydd yr Is-gadeirydd.
Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau gan y rhai a oedd yn bresennol, a
chynigiodd y Cynghorydd Bob Murray y dylid penodi'r Cynghorydd Win Mullen-James
yn Is-gadeirydd. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Huw Williams. Gan na chafwyd
unrhyw enwebiadau eraill - PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Win
Mullen-James yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Cymunedau
ar gyfer blwyddyn gyngor 2014/15. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Gan ei bod yn
denant Cyngor, datganodd y Cynghorydd Cheryl Williams gysylltiad personol ag
eitem 7 ar y Rhaglen - Rhaglen Ailwampio Stoc Tai'r Cyngor. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol
ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
faterion brys wedi'u codi. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2014 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod diwethaf y pwyllgor a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2014. Tud. rhif 9 -
Eitem 9 Polisi a Rhaglen Torri Lleiniau Glas ar Briffyrdd 2014/15 - Cafwyd
nifer o sylwadau gan yr aelodau ynghylch lleiniau glas mewn ardaloedd penodol,
a gofynnodd y Cadeirydd iddynt anfon eu sylwadau'n uniongyrchol at y Rheolwr
Adain: Rheoli Rhwydwaith, neu godi'r materion yn y grŵp perthnasol o blith
Grwpiau Ardal yr Aelodau, fel bo'n briodol.
Er iddi wneud cais, nid oedd y Cynghorydd Win Mullen-James wedi cael
copi o'r amserlen cynnal a chadw ar gyfer y Rhyl, felly cytunodd y Cydlynydd
Archwilio ymchwilio i'r mater. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a
chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2014 fel cofnod
cywir. |
|
CEFNOGAETH GYSYLLTIEDIG Â THAI AR GYFER POBL HŶN YN SIR DDINBYCH PDF 105 KB Ystyried adroddiad
gan y Rheolwr Cefnogi a Gofal Tai (copi ynghlwm) yn amlinellu'r newidiadau a
wneir i Wasanaeth Warden Tai Gwarchod y Cyngor. 9.35 a.m. – 10.05 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod
Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) a
amlinellai'r newidiadau i Wasanaeth Wardeiniaid Tai Gwarchod y Cyngor, yn dilyn
Adolygiad Aylward yn 2010, a fersiwn ddiwygiedig o'r Canllawiau Grant Cefnogi
Pobl a gyflwynwyd yn 2012. Dywedwyd wrth yr aelodau mai mentrau Llywodraeth
Cymru oedd yn ysgogi'r newidiadau, yn enwedig newidiadau i'r Grant Cefnogi
Pobl. Byddai hyn yn creu gwasanaeth tecach i'r holl breswylwyr ac arnynt angen
gwasanaethau Cefnogaeth i Fyw'n Annibynnol, yn hytrach na bod y gwasanaethau
hynny ond yn hygyrch i rai a oedd yn byw mewn llety gwarchod. Rhoddwyd sicrwydd
na fyddai'r gefnogaeth yn cael ei thynnu'n ôl oddi wrth y defnyddwyr gwasanaeth
presennol ac arnynt angen y ddarpariaeth dan sylw. Eglurodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr achos
dros newid ac adroddodd am y gwasanaeth newydd a oedd yn cael ei roi ar waith
fesul cam yn rhai o gynlluniau llety gwarchod y Cyngor. Roedd aelodau’r pwyllgor yn croesawu’r gwasanaeth
newydd fel dull o sicrhau darpariaeth ehangach o fewn yr adnoddau presennol,
gyda mwy o bwyslais a ffocws ar ddarparu gwasanaethau sy'n grymuso yn hytrach
na rhai sy'n annog dibyniaeth. Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r trefniadau
newydd a lefel y gefnogaeth fyddai'n cael ei darparu, yn enwedig ar gyfer
preswylwyr mewn llety gwarchod, er mwyn sicrhau na fyddai hyn yn eu rhoi dan
anfantais, ac na fyddai defnyddwyr gwasanaeth yn teimlo wedi'u hynysu yn eu
cartrefi eu hunain. Tynnwyd sylw at y
pwysigrwydd o fonitro'r gwasanaeth newydd ac o fesur canlyniadau, ynghyd â
sicrhau cysylltiadau effeithiol â gwasanaethau eraill sy'n darparu gofal a
chymorth, a gofynnwyd am sicrwydd ynghylch hynny. Dyma oedd ymateb y swyddogion - ·
Manylwyd
ar natur y gefnogaeth fyddai'n cael ei darparu i sicrhau bod unigolion yn
parhau i fod yn annibynnol ac yn gallu cael mynediad at wasanaethau gofal a
chymorth eraill fel bo'n briodol. ·
Eglurwyd y byddai pwll o
Swyddogion Cefnogaeth i Fyw’n Annibynnol wedi’u hyfforddi’n arbennig yn cael ei
ddefnyddio i ddarparu’r gwasanaeth. Fel hyn gellid trefnu bod staff ar gael yn
ystod absenoldeb salwch neu wyliau, ac y byddai'r ddarpariaeth y tu allan i
oriau'n parhau. ·
Cafwyd
cydnabyddiaeth o bwysigrwydd rhyngweithio cymdeithasol er lles cyffredinol drwy
greu pedair swydd newydd i sicrhau cefnogaeth ar gyfer gweithgareddau
cymdeithasol. ·
Cadarnhawyd
y byddai'r gwasanaeth ar gael i breswylwyr lleol fel bo'r angen, ac y gellid
cael mynediad i'r gwasanaeth droeon pe bai hynny'n briodol, a hynny ar y cyd â
gwasanaethau gofal cymdeithasol neu iechyd. ·
Byddai
polisi tecach yn cael ei weithredu ar gyfer taliadau, gyda rhai categorïau
wedi'u heithrio rhag gorfod talu, ac roedd hi'n annhebygol iawn y byddai unrhyw
gategori o dan anfantais ariannol o ganlyniad i'r newidiadau. ·
Byddai
defnyddwyr gwasanaeth yn cymryd rhan yn llawn yn y gwaith o ddatblygu eu
Cynllun Cymorth, y gallent ei ddefnyddio i ddwyn y gwasanaeth i gyfrif. ·
Eglurwyd
y gwahaniaeth rhwng y cynlluniau cymorth a'r pecynnau gofal a oedd yn ddwy
swyddogaeth ar wahân, a'r rhyngweithio rhwng y naill a'r llall. ·
Rhoddwyd
sicrwydd y byddai'r gwasanaeth newydd yn cael ei werthuso a'i fonitro'n
rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn darparu'r cymorth yr oedd ar y preswylwyr
ei angen. PENDERFYNWYD, yn amodol ar y
sylwadau uchod, y dylid cefnogi'r ymagwedd sy'n cael ei mabwysiadu er mwyn
darparu cefnogaeth gysylltiedig â thai i bobl hŷn yn y sir. |
|
RHAGLEN AILWAMPIO STOC TAI'R CYNGOR PDF 87 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol (copi ynghlwm) yn manylu’r
dull i ddod â'r Stoc Tai hyd at Safon Ansawdd Tai Cymru, ac yn amlinellu
materion a wynebwyd a'r gwersi a ddysgwyd o'r profiad. 10.05 a.m. – 10.35 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod
Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau, yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) a
fanylai ar yr hyn a wnaed er mwyn gwella'r Stoc Tai hyd at Safon Ansawdd Tai
Cymru (SATC), ac amlinellodd y problemau a gafwyd a'r gwersi a ddysgwyd yn sgil
y profiad hwnnw. Eglurodd y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol
(PTDC) fod y mwyafrif o stoc tai'r Cyngor bellach wedi'i adnewyddu er mwyn
cyrraedd SATC. Dechreuwyd y rhaglen
ailwampio tai yn 2005 a rhoddwyd wyth o gontractau tai ar dendr. Roedd contractau 1-7 wedi'u cwblhau'n
llwyddiannus, ond roedd problemau sylweddol wedi codi gyda Chontract 8, ac
roedd y rhain wedi'u nodi yn yr adroddiad ynghyd â'r gwersi a ddysgwyd wrth
sefydlu contractau cyfalaf tai yn y dyfodol. Adroddodd y Cynghorwyr Cefyn Williams, Rhys
Hughes, Hugh Evans a Stuart Davies yr amrywiaeth o broblemau a gafwyd gan
denantiaid yn eu hardaloedd yn ystod y rhaglen ailwampio. Soniodd y Cynghorydd
Cheryl Williams am ei phrofiad hi ei hun fel tenant Cyngor, a phrofiadau
aelodau ei ward yn 2010, yn enwedig y diffyg parch tuag at denantiaid a'u
heiddo. Cynigiodd sawl awgrym er mwyn
gwella arferion, gan gynnwys dwyn contractwyr i gyfrif pan fyddai eiddo
personol yn cael ei ddifrodi, hap-wiriadau ar ansawdd y gwaith, atgyweirio
gwaith diffygiol yn gyflym, a threfniadau gwell ar gyfer fetio darpar
gontractwyr. Holwyd y swyddogion gan yr aelodau ynglŷn â'r
problemau a gafwyd er mwyn iddynt fod yn fodlon bod mesurau digonol yn cael eu
cyflwyno i sicrhau na fyddai yr un problemau'n codi eto yn y dyfodol. Roedd y pwyllgor o'r farn y dylid dilyn
proses gaffael gref a chlir yn y dyfodol ar gyfer prosiectau mawr tebyg i'r
prosiect hwn, a oedd yn cynnwys nifer o wasanaethau, ac i gefnogi hynny y dylid
sefydlu trefniadau cadarn ar gyfer monitro a rheoli contractau. Cyfeiriwyd yn arbennig at rôl bwysig Clerc
Gwaith a chanddo ddigon o awdurdod i weithredu a digon o gefnogaeth. Yn ogystal â hyn, dylid cyfarwyddo
contractwyr i barchu urddas tenantiaid a'u hawl i breifatrwydd yn eu cartrefi
eu hunain, ac i ymddwyn mewn modd cwrtais, parchus ac urddasol yn eu
gŵydd. Derbyniodd y PTDC y materion a godwyd ac ymddiheurodd am y problemau a
gafwyd. Aeth y swyddogion ati i
ymhelaethu ar yr arferion a'r trefnau a fabwysiadwyd yn ystod y rhaglen, ynghyd
â ffactorau a gyfrannodd at y perfformiad gwael, gan gynnwys ansawdd
isgontractwyr a gyflogwyd o du hwnt i ffiniau'r ardal. Manylwyd ar y mesurau fyddai'n cael eu
cyflwyno i liniaru pryderon yr aelodau ac i sicrhau na fyddai'r problemau a
gafwyd yn codi eto, yn enwedig - ·
cymalau
mewn contractau'n gysylltiedig â defnyddio cadwynau cyflenwi a gweithwyr lleol ·
rhoi
mwy o bwys ar ansawdd yn hytrach na chost wrth sgorio ceisiadau yn y dyfodol ·
defnyddio
cymalau cwblhau adrannol mewn contractau yn y dyfodol er mwyn rhoi mwy o
reolaeth i'r cleient dros y rhaglen (bydd hyn o gymorth er mwyn tarfu cyn
lleied â phosib ar denantiaid) ·
cadarnhau
rolau a chyfrifoldebau a gwerthuso a monitro'r gwaith wrth iddo fynd rhagddo ·
sicrhau
bod gwaith diffygiol yn cael ei unioni o fewn cyfnod rhesymol o amser. PENDERFYNWYD yn achos pob contract ailwampio tai yn
y dyfodol - (a) yn amodol ar y sylwadau uchod, y dylid
nodi'r gwersi a ddysgwyd yn sgil Rhaglen Safonau Ansawdd Tai Cymru; (b) y dylid gwneud gwaith i gryfhau trefnau
caffael mewn perthynas â rhaglenni buddsoddi cyfalaf mawr, ac y dylai'r gwaith
hwnnw gynnwys cryfhau'r rheolaeth ar gontractau, ansawdd contractau a threfnau
monitro contractau; (c) y dylid cynnwys gofyniad mewn contractau yn y dyfodol i gontractwyr barchu eiddo ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
STRATEGAETH CYFATHREBU CORFFORAETHOL PDF 141 KB Ystyried
adroddiad gan yr Arweinydd Tîm - Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrch yn rhoi
diweddariad ar y cynnydd a wnaed gyda Chynllun Gweithredu’r Strategaeth
Gyfathrebu ac amcanion ar gyfer y deuddeg mis nesaf, a chyflwyno'r protocol
drafft ar gyfathrebu gydag aelodau. 10.35 a.m. – 11.05 a.m. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata
Corfforaethol (RhCMC) yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) gan roi’r
newyddion diweddaraf am y cynnydd a gafwyd gyda Chynllun Gweithredu'r
Strategaeth Gyfathrebu a'r amcanion ar gyfer y deuddeg mis nesaf. Hefyd,
cyflwynodd ddrafft o'r protocol ar gyfer cyfathrebu â'r aelodau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol: ·
yr
angen i'r ddolen 'Cysylltu â ni' fod yn fwy amlwg ar wefan y Cyngor ·
yr
angen i'r calendr digwyddiadau newydd 'EMMA' fod yn fwy hygyrch i'r aelodau ac
wedi'i gyfeirio'n briodol. ·
yr
angen i hysbysu'r aelodau am ddigwyddiadau - digwyddiadau'r Cyngor, Llywodraeth
Cymru, Llywodraeth y DU neu ddigwyddiadau eraill sy'n cael eu cynnal yn eu
his-adran etholiadol (ddim i gael gwahoddiad i'r digwyddiad o reidrwydd, ond i
fod yn ymwybodol ohono). Yn ogystal â hyn, dylid ymgysylltu'n well â Chynghorau
Dinas, Tref a Chymuned mewn perthynas â digwyddiadau ardal leol. ·
mynegwyd
pryderon gan rai aelodau ynghylch ansawdd cyfieithu adroddiadau pwyllgor ayyb,
ers i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ddarparu'r gwaith. ·
roedd
rhai'n teimlo bod y Cyngor yn colli cyfle wrth ymdrin â'r cyfryngau, a bod
angen mabwysiadu dull llawer mwy rhagweithiol ·
yr
angen i farchnata'r Cyngor yn y dull cywir ac i uniaethu'n well â phreswylwyr
lleol wrth lunio datganiadau i'r wasg ·
cadarnhawyd
y byddai sesiynau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau i'r aelodau yn cael eu cynnwys yn
rhan o gynllun gweithredu Blwyddyn 2 ar gyfer y Strategaeth Cyfathrebu
Corfforaethol ·
yr
angen i asesu'r adegau pan na fyddai'n briodol ymuno â dadl gyhoeddus ar
faterion ·
asesu
manteision cyhoeddi 'safbwynt neu farn Sir Ddinbych' ar faterion neu gynigion
cenedlaethol penodol. Adroddodd y RhCMC ar y Broses Rheoli Cyfrifon er
mwyn cyfathrebu'n well ag adrannau a sicrhau bod materion posib yn gysylltiedig
â'r cyfryngau'n cael eu nodi'n fuan a strategaeth yn cael ei chynllunio i'w
datrys. Ymhelaethodd hefyd ar
strategaethau i godi proffil yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr ar raddfa
genedlaethol. O ran teilwra datganiadau
i'r wasg, nododd yr aelodau fod deddfwriaeth yn atal y Cyngor rhag dyfynnu ar
ran aelodau unigol ar wahân i aelodau Cabinet, a hynny oherwydd cyfyngiadau
gwleidyddol. PENDERFYNWYD - (a) yn
amodol ar ddatrys y materion uchod, y dylid nodi'r cynnydd a wnaed o ran
Cynllun Gweithredu Blwyddyn 1; (b) y
dylid cynnwys y materion a nodwyd uchod yng Nghynllun Gweithredu Blwyddyn 2, ac
(c) y
dylid cefnogi'r protocol drafft ar gyfathrebu â'r aelodau tra'n aros iddo gael
ei gymeradwyo gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth, ac y dylid tynnu sylw'r staff at
y protocol wedi iddo gael ei gymeradwyo. |
|
GWELL RHEOLEIDDIO SAFLEOEDD CARAFANNAU PDF 96 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Rheoli Datblygu (copi ynghlwm) yn rhoi diweddariad ar
ddeddfwriaeth berthnasol newydd Llywodraeth Cymru ar reoleiddio safleoedd
carafannau a'i oblygiadau i’r Cyngor. 11.15 a.m. – 11.45 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Rheoli Datblygu (RhRhD) adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) a
roddai'r newyddion diweddaraf am ddeddfwriaeth berthnasol sydd ar ddod yn
Llywodraeth Cymru ynghylch rheoleiddio safleoedd carafanau, a goblygiadau hynny
i'r Cyngor. Dywedwyd wrth yr
aelodau na chafwyd y cynnydd a ragwelwyd yn wreiddiol gyda drafft y Strategaeth
Carafanau, a hynny oherwydd ymarfer ad-drefnu staff o fwn y gwasanaeth a'r
ddeddfwriaeth oedd ar ddod gan Lywodraeth Cymru. Roedd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn o
bryd ar y Bil Safleoedd Carafanau Gwyliau (Cymru) ac roedd y Ddeddf Cartrefi
Symudol (Cymru) 2013 wedi dod i rym ar 1 Hydref 2013. Mae'r
canfyddiad bod pobl yn preswylio mewn carafanau yn y sir drwy'r flwyddyn gron
wedi bod yn bryder i aelodau a swyddogion fel ei gilydd ers tro. Byddai Swyddogion Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd a Thrwyddedu yn cyfarfod yn rheolaidd i archwilio materion a oedd yn
destun pryder, ac roedd dau erlyniad ar ddod am dorri amodau trwydded. Nodwyd rheoleiddio safleoedd carafanau yn
well fel un o'r blaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth ar ôl ei ad-drefnu. Cyfeiriodd yr
aelodau at nifer o achosion lle cafwyd amheuon bod carafanau'n cael eu
defnyddio i ddibenion preswyl parhaol o fewn y sir. Mynegwyd amheuon ynghylch gallu'r Gwasanaeth
i orfodi unrhyw ddeddfwriaeth newydd neu gymryd camau gorfodi yn erbyn achosion
o dorri amodau cynllunio/trwyddedu oherwydd prinder adnoddau. Nodwyd y gellid ystyried hunanwerthusiadau o
safleoedd carafanau gan berchnogion a'r posibilrwydd o sefydlu trefn i godi tâl
am arolygu safleoedd fel ffordd o gynhyrchu incwm i ariannu camau gorfodi. Holodd yr aelodau a ellid defnyddio
cofrestrau etholiadol, cofnodion ysgolion neu gofnodion treth y cyngor/budd-dal
tai er mwyn dilysu preswyliaeth. Codwyd pryderon hefyd ynglŷn â'r effaith
bosibl ar Wasanaethau Tai'r Cyngor pe bai camau gorfodi'n cael eu cymryd yn
erbyn pobl a oedd yn byw ar safleoedd carafanau drwy'r flwyddyn, a'r safleoedd
hynny heb drwydded ar gyfer preswylio dros 365 o ddiwrnodiau. Adroddodd y RhRhD ar waith i lunio drafft o
Fframwaith Strategaeth Safleoedd Carafanau yn seiliedig ar y ddeddfwriaeth a
oedd ar ddod, a fyddai'n mynd i'r afael â'r materion a godwyd. Ymatebodd hefyd i gwestiynau'r aelodau
ynglŷn â'r agweddau cyfreithiol oedd yn rheoli cartrefi mewn parciau,
lleoli carafanau a materion cynllunio. Ar ôl cynnal
trafodaeth fanwl ymhlith yr aelodau - PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau
uchod, y dylid nodi cyfeiriad y prosiect ac y dylid cyflwyno'r drafft o
Fframwaith Strategaeth Safleoedd Carafanau gerbron y Pwyllgor i'w archwilio
maes o law. |
|
RHAGLEN Y RHYL YN SYMUD YMLAEN – ADRODDIAD CHWARTEROL PDF 79 KB Ystyried
adroddiad gan y Reolwr Datblygu Busnes Economaidd (copi ynghlwm), sy’n rhoi
diweddariad ar Raglen Y Rhyl yn Symud Ymlaen gan gynnwys cynnydd a
chyflawniadau cyflwyno ei ganlyniadau rhagweledig. 11.45 a.m. – 12.15 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Hugh Evans, yr Arweinydd a'r Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd yr
adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) oedd yn rhoi'r newyddion diweddaraf am
Raglen y Rhyl yn Symud Ymlaen. Hysbyswyd aelodau'r pwyllgor fod Bwrdd y Rhaglen wedi cytuno i adolygu'r
rhaglen er mwyn sicrhau bod y prosiectau'n gyfredol ac yn addas i'r diben. Yn y dyfodol, byddai gwybodaeth o Fynegai
Amddifadedd Lluosog y Wardiau yn cael ei chynnwys gyda'r nod yn y pen draw o
sicrhau na fyddai unrhyw ward yn y Rhyl yn disgyn i'r categori hwn ar ôl
cyflawni'r rhaglen. Er bod nifer o'r
prosiectau wedi'u cwblhau'n llwyddiannus, roedd pryderon ynghylch nifer y
cyfleoedd am swyddi a grëwyd, a byddai angen i hyn fod yn nodwedd gref ym
mhrosiectau'r dyfodol. Hefyd, roedd
angen bod yn fwy strategol wrth fuddsoddi, a byddai'r Cyngor yn gofyn am gyfraniad
gan Lywodraeth Cymru er mwyn ariannu mentrau yn y dyfodol. Dyma'r
datblygiadau a gafwyd ers llunio'r adroddiad- ·
ni
chafwyd unrhyw wrthwynebiad yn gysylltiedig â'r cais cynllunio i ddarparu Man
Gwyrdd yng Ngorllewin y Rhyl. ·
roedd
y safle datblygu ar John Street/Rhodfa’r Gorllewin bellach ar y farchnad ·
roedd
trafodaethau ar y gweill ar y ffordd orau o ddefnyddio'r £1m a neilltuwyd
drwy'r cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid ·
roedd
y Bwrdd Iechyd wedi dechrau ymgysylltu â swyddogion ynglŷn â'r ysbyty
cymunedol Cyfeiriwyd at
drefniadau llywodraethu'r Rhaglen, a rhoddwyd sicrwydd bod i'r Rhaglen
drefniadau llywodraethu cadarn a bod disgwyl i aelodau'r Bwrdd adrodd yn ôl
wrth randdeiliaid ar gynnydd y Rhaglen.
Trafododd yr Aelodau ddatblygiad safle Ocean Plaza, gan godi pryderon
ynglŷn â'i ymddangosiad blêr a'r diffyg cynnydd a welwyd o ran cymryd
camau gorfodi. Rhoddwyd sicrwydd bod
ymdrechion ar waith i fynd i'r afael ag ymddangosiad y safle. PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau
uchod, y dylid nodi'r cynnydd a wnaed a gofyn am gael cyflwyno adroddiadau
pellach ar Raglen y Rhyl yn Symud Ymlaen gerbron y Pwyllgor bob chwarter, ar
ffurf adroddiad gwybodaeth gyda darpariaeth i'r Pwyllgor alw'r Rhaglen i mewn i
gael ei harchwilio os daw agweddau sy'n peri pryder i'r amlwg. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 85 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor a diweddaru'r Aelodau ar faterion
perthnasol. 12.15 p.m. – 12.30 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (a gylchredwyd yn flaenorol) a oedd yn
gofyn i'r aelodau adolygu rhaglen waith y pwyllgor i'r dyfodol, ac yn rhoi'r
newyddion diweddaraf am faterion perthnasol. Cytunodd yr
aelodau ar y diwygiadau canlynol i'r rhaglen waith - ·
Adolygiad Cynlluniau Tref ac Ardal - gohirio hyd fis Medi
·
Moderneiddio Addysg - Mehefin ·
Strydwedd (adroddiad cynnydd) - Medi Awgrymwyd y gallai'r aelodau nodi meysydd i'w harchwilio o fewn y Cynllun
Corfforaethol ac adrodd yn ôl wrth Grŵp y Cadeiryddion a'r
Is-gadeiryddion. PENDERFYNWYD - (a) yn amodol ar yr uchod, ac ar unrhyw
newidiadau eraill y cytunwyd arnynt yn ystod y cyfarfod, y dylid cymeradwyo'r
rhaglen waith i'r dyfodol, fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad, a (b) y dylid ailbenodi Cynrychiolwyr
Archwilio'r Pwyllgor ar y Grwpiau Herio Gwasanaethau a'r Grŵp Monitro
Safonau Ysgolion. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau
a Grwpiau'r Cyngor. 12.30 p.m. Cofnodion: Dywedodd yr
Aelodau eu bod wedi bod i'r cyfarfodydd canlynol - Y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts - Bwrdd Uchelgais Economaidd Y Cynghorydd
Cefyn Williams - Rhianta Corfforaethol Y Cynghorydd Win
Mullen-James – Grŵp Herio'r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd Daeth y cyfarfod
i ben am 1.20pm |