Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSTAFELL BWLLGOR 1A, NEUADD Y SIR, RHUTHUN
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
cysylltiad personol na chysylltiadau sy’n rhagfarnu gan unrhyw un. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2014 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ddydd Iau 6
Mawrth 2014. Materion yn Codi: ·
Llwybrau
diogelach – Darllenodd y Cydlynydd Archwilio lythyr i’r Aelodau a anfonwyd gan
Weinidog Economi, Gwyddoniaeth a Chludiant. ·
Kingdom
– gwisgo’r wisg. Cafwyd ymateb gan Swyddog Gorfodi Diogelwch
Cymunedol: o
“Mae’r
amodau sy’n ymwneud â gwisgo gwisg benodol yn nodi oni bai bod cyfarwyddyd
penodol, nid oes yn rhaid i’r swyddogion wisgo gwisg benodol. Y
cyfarwyddiadau mewn perthynas â’r Rhyl yw y bydd y swyddogion yn gwisgo’r wisg
sy’n cael ei darparu gan Kingdom Security yng nghanol y dref sef yr ardal
siopa. Mae’r cyfarwyddyd yr un fath ar gyfer Prestatyn nes yr hysbysir yn wahanol.
Os gwelir y
swyddogion yng nghanol y dref heb wisg benodol, yna bydd rheswm penodol y
gellir ei egluro.” PENDERFYNWYD bod
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Iau 6 Mawrth 2014 yn cael eu derbyn a'u
cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
CYNLLUNIAU TREF AC ARDAL (ADRODDIAD CHWARTEROL) PDF 104 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Economaidd a Busnes (copi ynghlwm) i Aelodau
fonitro perfformiad y Cyngor hyd yma o ran cyflawni ei gynlluniau tref a’u budd
i'r trefi eu hunain a chymunedau ymhellach i ffwrdd. 9.35 a.m. – 10.10 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Datblygu Economaidd a Busnes adroddiad Cynlluniau Tref ac Ardal (a
gylchredwyd yn flaenorol) i fonitro perfformiad y Cyngor wrth ddarparu
Cynlluniau Tref a’r buddiannau ar gyfer y trefi a’r cymunedau cyfagos. Yng nghyfarfod y
Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2014, roedd yr elfennau canlynol wedi’u
mabwysiadu: ·
Cynllun
Tref ac Ardal Dinbych ·
Cynllun
Tref ac Ardal Rhuddlan ·
Cynllun
Tref ac Ardal y Rhyl Roedd Cynllun
Tref ac Ardal Bodelwyddan yn parhau’n weddill gan ei fod yn ychwanegiad hwyr,
ond dylai fod ar gael erbyn dechrau’r haf. Cafwyd trafodaeth
bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Holodd
yr Aelodau os oedd unrhyw hyblygrwydd o fewn y cynlluniau i gynnwys newidiadau
ym mlaenoriaethau’r cymunedau, ac os oedd fformiwla safonol wedi’i defnyddio i gyfrifo
dyraniad cyllid ar gyfer pob cynllun. ·
Teimla’r
Aelodau ei bod yn hanfodol bod pob Cynllun Tref ac Ardal yn amlygu'r
weledigaeth hir dymor ar gyfer pob ardal. ·
Cynghorodd
y Swyddogion mai penderfyniad pob Grŵp Ardal Aelodau (GAA) fyddai
penderfynu os oes modd newid blaenoriaeth neu ddiwygio blaenoriaeth yn eu
cynllun ac os oes modd ariannu unrhyw brosiect newydd/ diwygiedig. ·
Yn
dilyn cyfarfod y Tîm Gweithredol Corfforaethol, gofynnwyd i gael adolygu
effaith Cynlluniau Tref ac Ardal ar ddechrau mis Mai. Roedd
Rheolwr Rhaglen, Uchelgais Economaidd a Chymunedol a Phennaeth Archwilio Mewnol
am gynnal yr adolygiad. Byddai’r adolygiad yn archwilio materion megis
fformiwla cyllid, natur cynnwys y cynlluniau cyfredol ac os byddai pob cynllun
yn cael eu tanategu gan weledigaeth hir dymor ar gyfer pob tref ac ardal
gyfagos. Cynghorodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol, Uchelgais Economaidd a Chymunedol y byddai’n darparu
Cylch Gorchwyl ar gyfer yr adolygiad i'r Aelodau. Cynigodd Aelod
Arweiniol Hamdden, Ieuenctid, Twristiaeth a Datblygu Gwledig i ymweld ag unrhyw
Grŵp Ardal Aelodau (GAA) neu ardaloedd i gynorthwyo gydag unrhyw
anawsterau a gafwyd oherwydd y cynlluniau. PENDERFYNWYD: (i)
Yn amodol ar yr arsylwadau uchod, i nodi'r
cynnydd a wnaed hyd yn hyn wrth ddarparu’r Cynlluniau Tref ac Ardal. (ii)
Ystyried canfyddiadau adolygiad y
Cynlluniau Tref ac Ardal yng Nghyfarfod Pwyllgor Archwilio Cymunedau ar 26
Mehefin 2014. |
|
CYSYNIAD DYLUNIO MAN GWYRDD - WRHIP PDF 96 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Economaidd a Busnes/Rheolwr Prosiect Gwella
Tai Gorllewin Y Rhyl (copi ynghlwm) ar gyfer archwilio cyn gwneud penderfyniad
ar y cynigion dylunio a'r broses ymgynghori mewn perthynas â’r dyluniad. 10.10 a.m. – 10.45 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Rheolwr Datblygu Busnes ac Economi Gysyniad Dylunio Mannau Gwyrdd – adroddiad WRHIP
(a gylchredwyd yn flaenorol) i ddarparu manylion i’r Aelodau o’r man Gwyrdd
sy’n rhan allweddol o Brosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl (WRHIP) a
goblygiadau posibl ar gyfer cynnal a chadw i’r dyfodol a ffynonellau cyllid
posibl. Hysbysodd Rheolwr
Datblygu Busnes ac Economi fod yr WRHIP yn brosiect mawr wedi’i arwain gan
Lywodraeth Cymru ac yn waith partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych a
Chymdeithas Tai Pennaf. Cafwyd trafodaeth
bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Pwysleisiwyd, er
bod prosiect man gwyrdd wedi bod yn rhan allweddol o’r gwelliannau yng
Ngorllewin y Rhyl a Rhaglen Y Rhyl yn Symud Ymlaen, cyfleuster
cymunedol/cymdogaeth ydyw nid atyniad i dwristiaid. ·
Y
rhesymeg ar gyfer darparu man gwyrdd yn yr ardal oedd gwneud y lle’n fwy deniadol
i deuluoedd. Roedd gwaith yn cael ei gynnal i drawsnewid y tai
yn yr ardal i fod yn gymysgedd, yn bennaf cynyddu nifer y perchnogion sy’n
breswylwyr a llety rhent preifat i deuluoedd. ·
Cadarnhaodd
y Swyddogion y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda Chyfoeth Naturiol Cymru
o ran unrhyw berygl o lifogydd yn y datblygiadau tai arfaethedig cyn cyflwyno
unrhyw geisiadau cynllunio. Holodd y Cynghorydd Win Mullen-James os
oedd yn ddichonadwy cael tanc dal dŵr tanddaearol o dan y parc i ddal
unrhyw ddŵr ychwanegol a lliniaru'r risg o lifogydd difrifol. Cynghorodd
y Swyddogion y dylai cwblhau Cam 3 gwaith Amddiffyn yr Arfordir ymdrin ag
unrhyw risg o lifogydd i’r parc ei hunan. ·
Gofynnwyd cwestiynau
os cafwyd cytundeb ynglŷn â lleoliad storio priodol ar gyfer biniau
olwynion y preswylwyr. Cadarnhaodd y Rheolwr Economaidd a Busnes
y byddai’n gwirio’r mater ac yn hysbysu’r Pwyllgor o hynny. ·
Darparodd
y Rheolwr Datblygu Economaidd a Busnes fanylion o drigolion, sydd â’u cartrefi
wedi bod yn destun Gorchmynion Prynu Gorfodol ar gyfer y pwrpas o ddatblygu
ardal man gwyrdd, wedi symud. Roedd 122 wedi’u symud, ac o’r rhain,
roedd 97 wedi dewis aros yn y Rhyl. Roedd
y rhai oedd wedi symud i fan arall wedi gwneud hynny o ddewis ac roeddent yn
byw mewn llety o ansawdd gwell yn awr. ·
Gofynnwyd
cwestiynau os oedd unedau busnes bychain ar gael ger ardal y man gwyrdd. Cynghorodd
y Swyddogion fod canlyniadau ymgynghoriad gyda’r trigolion lleol wedi nodi’n
gryf eu bod yn dymuno gweld y math o barc a gynigwyd yn yr adroddiad, lle y
gallai teuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd. Roedd
ffrydiau gwaith Rhaglen Y Rhyl yn Symud Ymlaen yn ceisio ymdrin â materion cyflogaeth.
·
Mewn
ymateb i bryderon a godwyd ynglŷn â llythyrau negyddol a gyhoeddwyd yn y
wasg leol ynglŷn â’r gwaith sydd ar y gweill yng Ngorllewin y Rhyl,
cynghorodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Uchelgais Economaidd a Chymunedol y gwnaed penderfyniad i beidio ag
ymateb yn uniongyrchol i'r llythyrau. Fodd
bynnag, roedd y Cyngor yn gweithio gyda’r wasg, y Daily Post yn bennaf, mewn
ymgais i geisio cyhoeddi storïau newyddion positif ynglŷn â’r llwyddiannau
a’r cynnydd a wnaed yn y Rhyl. Teimlwyd, yn hir dymor, byddai’r ymagwedd
hon yn creu buddiannau ar gyfer y Cyngor. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr arsylwadau uchod, nodi'r cynnydd a wnaed i ddarparu Prosiect
Gwella Tai Gorllewin y Rhyl ac yn bennaf elfen man gwyrdd. |
|
Ar y pwynt hwn (10.20 a.m.) cafwyd egwyl o 10
munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 10.30 a.m. |
|
Oherwydd bod y
cyfarfod yn mynd rhagddo’n gynt na’r amseroedd a ddisgwyliwyd, cytunodd y
Cadeirydd i amrywio’r eitemau oedd yn weddill ar y Rhaglen. Gan
nad oedd disgwyl i gynrychiolydd Priffyrdd, ar gyfer eitem 7, (Polisi a Rhaglen
Torri Gwair Ymy Priffyrdd 2014/15) gyrraedd cyn 11.00am cytunwyd i drafod
Rhaglen Waith Archwilio (Eitem 8) ac yna Adborth gan Gynrychiolwyr Pwyllgor
(Eitem 9). |
|
Rhaglen Waith Archwilio PDF 85 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) sy’n adolygu rhaglen waith y
pwyllgor a darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar faterion perthnasol. 11.30 a.m. – 11.50 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Gydlynydd Archwilio (a gylchredwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r
Aelodau adolygu Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor a darparu diweddariad
ynglŷn â materion perthnasol, Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft (atodiad
1), Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet (Atodiad 2) a chynnydd o ran Penderfyniadau’r
Pwyllgor (Atodiad 3). Cytunodd yr
Aelodau ar y diwygiadau canlynol i’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol (i)
15 Mai 2014 Roedd yr Adroddiad Cyfathrebu wedi’i ohirio tan 15 Mai 2014 oherwydd pwysau
gwaith. (ii)
26 Mehefin 2014 Roedd adolygiad Cynlluniau Tref ac Ardal yn cael eu hychwanegu at Raglen 26
Mehefin 2014. Gofynnwyd i’r Aelodau Arweiniol fod yn bresennol yn y cyfarfod. PENDERFYNWYD
fod y Pwyllgor yn cymeradwyo Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Archwilio
Cymunedau yn amodol ar y newidiadau uchod. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol
Fyrddau a Grwpiau'r Cyngor. 11.50 a.m. – 12.00 a.m. Cofnodion: Mynegodd y
Cynghorydd Joe Welch fater, ar y pwynt hwn, o ran Herio Gwasanaethau. Os
nad oedd aelodau Archwilio yn gallu mynychu Her Gwasanaeth yna gofynnwyd bod
aelod arall yn mynychu ar eu rhan. Cytunwyd ar hyn
gan bawb oedd yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Ar y pwynt hwn (10.40 a.m.) cafwyd egwyl o 10
munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 10.50am. |
|
POLISI A RHAGLEN TORRI GWAIR YMYL PRIFFORDD 2014/2015 PDF 75 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Priffyrdd Strategol/Rheolwr Adran Rheoli Rhwydwaith
(copi ynghlwm) i'r Aelodau archwilio Polisi a rhaglen torri gwair y Cyngor ar
gyfer y tymor i ddod. 11.00 a.m. – 11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Risg ac Asedau, Polisi a Rhaglen Torri Gwair Ymyl Priffyrdd 2014/15 (a
gylchredwyd yn flaenorol) i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â’r paratoadau i
raglen torri gwair priffyrdd eleni gan gynnwys asesiad o’r ymgynghoriad a
gynhaliwyd gyda’r budd-ddeiliaid ers tymor yr hydref 2013. Cafwyd trafodaeth
bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Hysbyswyd
yr Aelodau fod rhaglen torri gwair ymyl priffyrdd ar gyfer y tymor hwn wedi'i
drefnu i ddechrau ar 12 Mai 2014. Fodd bynnag, roedd hyblygrwydd yn y cytundeb
i ddechrau'r rhaglen wythnos yn gynt os yw’r tywydd cynnes yn parhau. ·
Cynghorodd
Aelod Arweiniol Hamdden, Twristiaeth Ieuenctid a Datblygu Gwledig fod cyfres o
ymweliadau i Gynghorau Tref a Chymuned i egluro manylion torri ‘bioamrywiaeth’
wedi dechrau. Fodd bynnag, roeddent wedi’u gohirio yn awr tan yr
hydref gan y byddai’n rhy hwyr i newid yr amserlen ar gyfer 2014/15 i gynnwys
unrhyw newidiadau i anghenion yr ardaloedd unigol yn awr. Cynghorodd
yr Aelodau hefyd y byddai’n fodlon mynychu cynghorau tref a chymuned neu
sefydliadau lleol eraill i egluro rhaglen torri gwair ac opsiwn bioamrywiaeth. ·
Cynghorodd
y Rheolwr Risg ac Asedau y byddai rheoli ymylon trefol a gwledig yn awr yn cael
eu trin gan yr un gwasanaeth, ac felly ni ddylai anghysondeb hanesyddol ar
gyrion trefi fodoli bellach. Dylid datrys unrhyw broblemau yn y dyfodol
ar unwaith yn awr. ·
Mewn
ymateb i gwestiynau’r Aelodau, amlinellodd y Rheolwr Risg ac Asedau sut y
rheolir y contractwyr allanol ac fe nododd mai 2014/15 fyddai blwyddyn olaf y
contract. Byddai contract torri gwair priffyrdd y tymor
nesaf yn destun proses dendro. Awgrymwyd mewn ardaloedd trefol, megis y
Rhyl, gellir gofyn i wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol ymgymryd ag ychydig o’r
gwaith. Gyda hyn mewn golwg, gofynnodd y Cynghorydd Win
Mullen-James am gael copi o’r amserlen cynnal a chadw ar gyfer y Rhyl. ·
Ymatebodd
y Rheolwr Risg ac Asedau i’r pryderon dilynol a godwyd oherwydd bod canghennau
coed yn gorchuddio arwyddion ffyrdd. ·
Mynegwyd
pryderon ynglŷn ag ardaloedd gwair harddwch yn cael eu torri yn ystod
cyfnodau o law trwm a sbwriel ar yr ymylon a gofynnwyd iddynt ymdrin â’r
materion hyn. Cynghorodd y Rheolwr Risg ac Asedau fod yr
amserlen casglu sbwriel yn cyd-fynd â'r amserlen torri gwair ymylon ond
oherwydd natur amrywiol y ddau fath o waith, mae’n debyg y bydd modd gweld
sbwriel am gryn dipyn o amser ar ôl torri’r gwair. ·
Cadarnhaodd
y Rheolwr Risg ac Asedau y byddai gwair ar gyffordd a chorneli dall yn cael eu
torri neu eu strimio. Gofynnodd y
Rheolwr Risg ac Asedau i’r Aelodau roi gwybod i’r Adran Gwasanaeth Cwsmer ar
unwaith os ydynt yn canfod unrhyw ardaloedd peryglus nad oedd wedi’u torri. Yna
byddai’r gwasanaeth yn ymdrin â’r mater ac yn eu cynnwys yn eu hamserlenni yn y
dyfodol. ·
Mewn ymateb i
gwestiwn yn holi os mai’r Cynghorau Tref a Chymuned oedd y fforwm mwyaf priodol
i’w ymgynghori ynglŷn ag amserlenni torri gwair ymylon priffyrdd, cytunodd
aelodau’r Pwyllgor a’r swyddogion mai nhw oedd llais y cymunedau lleol. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr arsylwadau uchod, i gytuno ar y paratoadau ar gyfer tymor 2014 a
chadarnhau fod pryderon ynglŷn ag elfennau bioamrywiaeth y cynllun torri
wedi'u hasesu a'u hymgorffori'n briodol yn y rhaglen. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.10 a.m. |