Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd Y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiadau personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganodd yr
un o’r Aelodau unrhyw gysylltiad personol na rhagfarnol mewn unrhyw fusnes a
oedd wedi’i nodi ar gyfer ei ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys
yn unol ag Adran 100B(4) o’r Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
eitemau a ddylai gael eu hystyried fel mater o frys ym marn y Cadeirydd yn unol
ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
Y POLISI PARCIO AC YMARFER CWMPASU’R ADOLYGIAD TRAFFIG A PHARCIO PDF 167 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2014 (copi'n
amgaeëdig). Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac
Amgylcheddol (PGPacA), a oedd yn rhoi trosolwg o’r polisi parcio drafft newydd
ac yn manylu ar yr ymarfer cwmpasu a gynhaliwyd i asesu opsiynau ar gyfer
cynnal Adolygiad Traffig a Pharcio (ATaPh) ar gyfer y prif drefi ar draws Sir
Ddinbych, wedi cael ei gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod. Cyflwynodd y Rheolwr Adain: Traffig a Thrafnidiaeth (RhATaTh) yr adroddiad
a oedd yn dilyn yr un a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2013, Atodiad A, pan
gytunwyd y byddai’r polisi parcio’n cael ei adolygu ac y byddai ymarfer
cwmpasu’n cael ei gynnal i asesu’r opsiynau ar gyfer ATaPh. Roedd rhai eitemau yn y Polisi presennol, Atodiad B, yn dal yn berthnasol
gyda rhai wedi cael eu disodli oherwydd datblygiadau wedi hynny. Roedd y polisi
newydd, Atodiad C, yn mabwysiadu dull a oedd yn cydnabod y rôl y gallai
rheolaeth parcio effeithiol ei chyflawni o ran cefnogi’r economi leol. Gallai
cyfundrefn barcio a reolir yn dda gael effaith gadarnhaol o ran cynorthwyo
canolfan adwerthu. Roedd y deg blaenoriaeth yn y polisi newydd wedi cael eu
rhestru yn yr adroddiad. Eglurwyd mai Cam Gweithredu 5.1d yn y “Strategaeth Uchelgais Economaidd a
Chymunedol” fu cynnal ATaPh ar gyfer y prif drefi ar draws Sir Ddinbych. Roedd
yr ymarfer wedi arwain at ddatblygu methodoleg awgrymedig ar gyfer yr ATaPh a
oedd wedi’i chynnwys yn Atodiad D. Roedd adborth oddi wrth y Bwrdd Uchelgais
Economaidd a Chymunedol wedi cael ei ymgorffori yn y fethodoleg. Darparodd y CC-UEaCh a’r Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol (PTaDC) fanylion
yr adolygiad a’i arwyddocâd o ran adnabod anghenion y trigolion, busnesau
lleol, a’i bwysigrwydd o ran hybu a chefnogi’r economi leol. Roedd yr ATaPh wedi cael ei gynnig i arfarnu sut y gallai rheolaeth parcio
a thraffig gyfrannu at y Flaenoriaeth Gorfforaethol i ddatblygu’r economi leol,
ac roedd wedi cael ei gydnabod na allai darpariaeth parcio ar ei phen ei hun
ddylanwadu ar hyfywedd a ffyniant canolau trefi. Roedd pwysigrwydd arwyddion
da, darparu mynediad diogel ar gyfer cerddwyr, beicwyr, cludiant teithwyr a’r rhai
â nam ar eu symudedd wedi cael ei amlygu hefyd. Nodwyd y gallai tagfeydd
traffig neu “rwydd hynt i bawb” barcio o bosib greu amgylchedd anatyniadol,
anniogel a digroeso. Cafodd manylion y data a ddarparwyd gan fesuryddion talu ac arddangos
presennol ei amlinellu, ac eglurwyd fod diffyg data mewn meysydd penodol ar hyn
o bryd wedi ei gwneud yn anos arfarnu ac asesu’r costau cysylltiedig. Roedd y
man cychwyn arfaethedig ar gyfer yr ATaPh wedi cael ei gynnwys yn yr adroddiad,
a’r cam terfynol fyddai adnabod datrysiadau posib i geisio gwella dylanwad
rheolaeth traffig a pharcio yng nghanol trefi. Roedd crynodeb o’r costau wedi
cael ei gynnwys yn yr adroddiad. Hysbyswyd yr Aelodau y byddai angen i’r adolygiad o’r polisi parcio gael ei
gynnal o fewn cyllidebau presennol gwasanaethau, a bod angen asesu’r effaith ar
gostau a lefelau incwm yn ystod adolygiadau. Byddai angen i’r pwysau cyllidebol
cyfredol, yn bennaf mewn perthynas â meysydd parcio Prestatyn a’r Rhyl, gael eu
hystyried fel rhan o’r adolygiadau. Roedd dogfen Asesu’r Effaith ar
Gydraddoldeb wedi cael ei chynnwys yn Atodiad E. Trafododd yr Aelodau gynnwys yr adroddiad yn fanwl ac fe nodwyd y camau
gweithredu a’r materion canlynol:- · yr angen i gysylltu â Chynghorau Tref
ynghylch y diwrnodau mwyaf priodol i’w clustnodi fel ‘diwrnodau parcio am ddim’
i sicrhau nad yw’r Sir yn dioddef colledion incwm sylweddol. · ei bod yn bwysig sicrhau bod yr holl
fesuryddion talu ac arddangos yn casglu data perthnasol a defnyddiol i
alluogi’r Cyngor i’w ddefnyddio’n effeithiol. · angen i feysydd parcio fod ag arwyddion eglur ar gyfer ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
CYNLLUN LLWYBRAU DIOGEL PDF 90 KB Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (copi'n amgaeedig) sy'n manylu’r fenter Llwybrau Diogel mewn Cymunedau (SRIC), ac sy’n amlinellu’r fenter a'r prosesau sy'n gysylltiedig yn ystod amrywiol gamau'r prosiect. 10.10 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac
Amgylcheddol (PGPacA), a oedd yn manylu ar y fenter Llwybrau Diogel mewn
Cymunedau (LlDMC), ac yn rhoi cefndir y fenter yn ogystal â’r prosesau i’w
dilyn ar yr amryw gamau mewn prosiect a gyllidir â Grant LlDMC Llywodraeth
Cymru, wedi cael ei gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod. Cyflwynodd y PGPacA yr adroddiad a chyfeiriodd at broblemau parcio sy’n
gysylltiedig ag ysgolion a oedd yn aml yn waeth mewn ysgolion trefol. Roedd yr
adroddiad yn amlygu prif nod prosiectau LlDMC, ac roedd Atodiad A yn cynnwys
manylion prosiectau LlDMC a gyflawnwyd ers 2006. Roedd yr adroddiad yn
crynhoi’r broses weinyddol ar gyfer cynlluniau LlDMC a gyflawnwyd, a oedd yn
cynnwys cynhyrchu Cynllun Teithio gan y priod ysgolion/cymunedau. Roedd y Cynghorydd E.A. Jones a Chyngor Tref Bodelwyddan wedi mynegi
pryderon ynghylch y modd yr oedd prosiect LlDMC Bodelwyddan yn cael ei reoli.
Darparodd y Cynghorydd E.A. Jones grynodeb o’r problemau yr oedd trigolion ym
Modelwyddan wedi’u hwynebu, gan gyfeirio’n arbennig at faterion a oedd wedi
codi yn dilyn gweithredu cynllun gostegu traffig ar Ronaldsway yr honnwyd ei
fod wedi gwaethygu’r problemau yn yr ardal. Mynegodd y Cynghorydd Jones y farn
bod hwn wedi bod yn gynllun cymhleth mewn ardal fechan ac roedd pryderon wedi
cael eu mynegi ynghylch ansawdd a safon y gwaith, yn enwedig mewn perthynas â
darparu’r clustogau arafu. Cafodd y gwahaniaethau a awgrymwyd rhwng y cynllun a oedd wedi’i gytuno a’r
hyn a weithredwyd eu hamlygu ac roeddent wedi’u cynnwys yn Atodiad B. Dim ond
Cam 1 o’r cynllun oedd wedi cael ei weithredu hyd yma a darparwyd manylion y
broses ymgynghori a oedd wedi cael ei mabwysiadu. Roedd yr ardal gollwng
teithwyr wedi cael ei hychwanegu yn dilyn ceisiadau a gafwyd yn yr ymatebion
ymgynghori, ac nid oedd hyn wedi cael ei gyfleu i Bwyllgor Teithio’r Cyngor
Tref tan ar ôl i’r cynnig gael ei gyflwyno oherwydd diffyg amser. Roedd y
raddfa amser dynn wedi codi oherwydd awydd y Pwyllgor Teithio i’r cynllun
ddechrau cyn gynted â phosib, yn hytrach na disgwyl am y cylch cyllido nesaf.
Roedd y farn wedi cael ei mynegi nad oedd y Cyngor Tref wedi ymgysylltu’n llawn
â’r prosiect ac y bu diffyg perchnogaeth ar y cynllun. Mynegwyd pryderon ynghylch meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun
hwn, gan fod y newid mewn meini prawf wedi arwain at ddryswch ynglŷn â’r
Cynllun. Nododd Aelodau’r problemau a oedd wedi codi gyda’r Cynllun ym
Modelwyddan a chytunwyd fod llinellau ymgysylltu a chyfathrebu eglur rhwng y
Cyngor Sir, contractwyr, Cynghorau Tref a Chymuned a’r cyhoedd yn hollbwysig er
mwyn i gynlluniau o’r fath gael eu cyflawni’n llwyddiannus. Fe ofynnon nhw
hefyd i swyddogion gynnal cyswllt â’r Cynghorydd E.A. Jones a’r Grwpiau Ardal
Aelodau mewn perthynas â phroblemau penodol a chanlyniadau’r cynllun ym
Modelwyddan. Cytunodd yr Aelodau y byddai llythyr yn cael ei
anfon gan y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor at Weinidog Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru’n erfyn arni i adolygu’r meini prawf ar gyfer y
Cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a’i gyfyngu yn y dyfodol i lwybrau
diogel i ysgolion. PENDERFYNWYD:- (a) yn amodol ar y sylwadau a ddarparwyd, fod y
Pwyllgor yn cefnogi ceisiadau parhaus am gyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau
yn Sir Ddinbych |
|
GORCHMYNION RHEOLI CŴN PDF 93 KB Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) ar y posibilrwydd i’r Cyngor gyflwyno rheolaethau cyfreithiol ychwanegol dros gŵn a'u perchnogion ar draws y Sir. 10.55 a.m. Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd
(PCaGC), a oedd yn manylu ar y potensial i’r Cyngor gyflwyno rheolaethau
cyfreithiol ychwanegol dros gŵn a’u perchnogion ledled y Sir, wedi cael ei
ddosbarthu gyda phapurau’r cyfarfod.
Roedd Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996 a Deddf Cymdogaethau Glân a’r
Amgylchedd 2005 wedi cael eu crynhoi yn yr adroddiad. Roedd cwynion yn dod i
law yn fynych ynghylch baeddu gan gŵn ac roedd pwerau cyfredol yn cyfyngu
ar y camau gweithredu y gellid eu cymryd yn erbyn perchnogion cŵn a oedd yn
caniatáu i’w cŵn faeddu mewn ardaloedd penodol. Roedd dadl glir o safbwynt
iechyd y cyhoedd a gwella amwynder dros gyflwyno mwy o reolaethau cyfreithiol,
ar ffurf Gorchmynion Rheoli Cŵn, i fynd i’r afael â phroblem rheoli
cŵn mewn ffordd wahanol a mwy cadarn. Roedd baeddu gan gŵn yn cael ei
reoli ar hyn o bryd gan Ddeddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996, a oedd yn ei gwneud
yn anghyfreithlon methu â chodi baw wedi i’ch ci faeddu tir. Fodd bynnag roedd esemptiadau ar gyfer rhai mathau o dir cyhoeddus gan
gynnwys tir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth neu goetiroedd, tir comin
gwledig, tir sy’n bennaf yn gorstir, gweundir neu rostir a thir priffordd â
therfyn cyflymder o 40mya neu fwy. Nid oedd modd cymryd camau gorfodi ar hyn o
bryd yn yr ardaloedd hyn. Eglurodd y Cynghorydd Smith fod cynnig yn cael ei wneud i gyflwyno 3
Gorchymyn Rheoli Cŵn yn amodol ar ymgynghori â Chynghorau Dinas, Tref a
Chymuned, aelodau o’r cyhoedd a rhanddeiliaid perthnasol eraill. Roedd y
Gorchmynion hyn yn cynnwys:- ·
Gorchymyn Baeddu Tir gan Gŵn (CSDd) Drafft
2014. Byddai hwn yn ei gwneud yn
anghyfreithlon baeddu ar unrhyw dir o fewn ardal weinyddol y Cyngor oni bai fod
yr unigolyn wedi cael caniatâd gan y tirfeddiannwr. ·
Gorchymyn Cŵn ar Dennyn yn ôl Cyfarwyddyd (CSDd)
Drafft 2014. Byddai hwn yn ei gwneud yn
anghyfreithlon bod â chi yn eich gofal nad oedd ar dennyn ar unrhyw briffordd
neu unrhyw dir arall oedd ag arwydd eglur ym mhob mynedfa’n dynodi bod yn rhaid
i gŵn gael eu cadw ar dennyn. Roedd yr ardaloedd o ‘dir arall’ wedi cael
eu diffinio yn Atodiad 1. ·
Gorchymyn Gwahardd Cŵn (CSDd) Drafft 2014. Byddai
hwn yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gŵn fynd i mewn i ardal ddynodedig
oedd ag arwyddion eglur ym mhob mynedfa’n dynodi bod cŵn wedi’u gwahardd
yn benodol. Byddai’r ymgynghoriad yn nodi pa ardaloedd yn union y gellir eu
cynnwys fel ardaloedd gwahardd, ac roedd hyn wedi’i gynnwys yn Atodiad 2. Byddai torri Gorchmynion yn gyfystyr â thramgwydd troseddol a gellid naill ai erlyn amdano yn y Llys Ynadon neu roi’r cyfle i berchennog y ci dalu HCB rhwng £75 a £150. Y gosb ariannol ar hyn o bryd oedd £75 a byddai’r dull gorfodi llym mewn perthynas â methiant i dalu’r HCB yn parhau, gyda phobl sy’n dewis peidio â thalu eu HCB yn cael eu herlyn. Cynigiodd y Cynghorydd H.O. Williams, gyda’r Cynghorydd C.H. Williams yn eilio, welliant bod yr HCB yn cael ei godi o £75 i £100. Roedd y bleidlais yn gyfartal a defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw o blaid yr argymhelliad yn yr adroddiad, ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) ar weithgareddau gorfodi swyddogion Kingdom at ddiben troseddau amgylcheddol, a chost a manteision y trefniadau presennol.
11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a’r Rheolwr
Gwarchod y Cyhoedd, a oedd yn darparu diweddariad cynhwysfawr ar weithgareddau
Kingdom Security Ltd (KSL) i orfodi yn erbyn troseddau amgylcheddol, sut yr
oedd y gwasanaeth wedi cael ei reoli a’i ddatblygu dros y 12 mis diwethaf, a’r
costau cysylltiedig, wedi cael ei gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod. Cyflwynodd y Cynghorydd D.I. Smith yr adroddiad ac
eglurodd fod y Cyngor, ym mis Hydref 2012, wedi penodi KSL i gyflawni rôl bwysig
gorfodi yn erbyn troseddau amgylcheddol ledled y Sir. Roedd KSL yn gyfrifol am
orfodi yn erbyn troseddau amgylcheddol megis gadael sbwriel, baeddu gan
gŵn, gosod posteri’n anghyfreithlon, ysmygu mewn man amgaeëdig a graffiti.
Baeddu gan gŵn oedd y trosedd yr oedd pobl yn cwyno amdano’n fwyaf mynych,
a gadael sbwriel oedd y trosedd y rhoddwyd y mwyaf o HCBau amdano. Roedd rôl a chylch gwaith swyddogion KSL wedi cael
eu crynhoi yn yr adroddiad. Roedd papurau briffio aelodau wedi cael eu hanfon
at yr holl Aelodau a Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn chwarterol i ddarparu
diweddariadau ar weithgareddau swyddogion a nifer yr HCBau a oedd wedi cael eu
rhoi. Roedd Atodiad 1 yn ymgorffori’r papur briffio diweddaraf ar gyfer
Aelodau. Roedd ymgyrchoedd arbennig wedi cael eu cynnal i
fynd i’r afael ag ardaloedd lle’r oedd baeddu gan gŵn yn broblem, a’r
rheiny’n cynnwys ymgyrchoedd yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau mewn
lleoliadau amrywiol. Roedd teledu cylch cyfyng wedi cael ei ddefnyddio i
ategu’r ymgyrchoedd ac roedd digwyddiad addysgol llwyddiannus a barodd am
wythnos wedi cael ei gynnal ar Stryd Fawr y Rhyl. Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint darparodd cynrychiolwyr KSL ddeunydd
fideo ar gyfer yr Aelodau a oedd yn dangos HCB yn cael ei roi ar Coast Road
rhwng y Rhyl a Phrestatyn. Roedd gwybodaeth ariannol a manylion cefndir yr
HCBau wedi cael eu cynnwys yn yr adroddiad. Roedd cyfanswm y patrolau a
gwblhawyd ledled y Sir a nifer y rhybuddion a’r rhybuddiadau a roddwyd wedi
cael eu hymgorffori yn Atodiad 2. Hysbyswyd yr Aelodau fod manylion cwynion a
gafwyd ers mis Hydref 2012, y weithdrefn ymchwilio a fabwysiadwyd, y broses
ymgynghori, risgiau a chamau a gymerwyd i fynd i’r afael â hwy wedi cael eu
darparu hefyd. Cafodd yr Aelodau fanylion y cynllun “amser i’w finio i fod ar eich ennill”
a gyflwynwyd gan KSL i roi mwy o gymhelliad i’r cyhoedd waredu eu sbwriel a
gwastraff cŵn mewn modd cyfrifol. Amlygodd y Cynghorydd Smith bwysigrwydd
cynnal momentwm y gwaith a oedd yn cael ei wneud o ran gorfodi yn erbyn
troseddau amgylcheddol yn y Sir. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd R.M. Murray ynghylch
darparu canllawiau ac eglurder mewn perthynas â’r gofyniad i swyddogion KSL
wisgo iwnifformau swyddogol wrth gyflawni eu dyletswyddau swyddogol, eglurodd
cynrychiolwyr KSL fod y wisg hamdden yn fwy ffafriol wrth gyflawni rhai
gweithgareddau, megis y rhai sy’n ymwneud â throseddau baeddu gan gŵn.
Eglurodd cynrychiolwyr KSL na fyddent yn gallu rhoi ymateb pellach i unrhyw
gwynion a gafwyd tra’u bod yn disgwyl am ddadansoddiad llawn o unrhyw
dystiolaeth gysylltiedig. Hysbyswyd y Cynghorydd Murray y byddai’n cael ymateb
manwl, a allai fod yn gysylltiedig ag aelodau o’r cyhoedd, wedi i’r
ymchwiliadau gael eu cwblhau. Rhoddwyd sicrwydd i’r Aelodau y byddai swyddogion
KSL yn gwisgo iwnifformau swyddogol yn y dyfodol wrth gyflawni dyletswyddau yng
Nghanol Trefi. Cafodd manylion y defnydd o gamerâu ar y corff gan swyddogion KSL, a’r
oriau pan fo swyddogion yn cyflawni eu dyletswyddau, eu darparu ar gyfer y Pwyllgor. PENDERFYNWYD – yn amodol ar gael eglurhad o ganllawiau’r Cyngor ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
PARKING POLICY AND PARKING AND TRAFFIC REVIEW SCOPING EXERCISE PDF 90 KB Derbyn adroddiad
gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (copi'n amgaeëdig) ar y
polisi parcio ac ymarfer cwmpasu adolygu parcio a thraffig. 9.35 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: A
copy of a report by
the Head of Highways and Environmental Services (HHES), which provided an
overview of the draft new parking policy and detailed the scoping exercise
carried out to assess options for conducting a Traffic and Parking Review (TPR)
for the main towns across Denbighshire, had been circulated with the
papers for the meeting. The
Section Manager:
Traffic and Transportation (SMTT) introduced the follow up report to the one
submitted in November, 2013, Appendix A, when it had been agreed that the
parking policy be reviewed and a scoping exercise be undertaken to assess the
options for a TPR. Some items in the
existing Policy, Appendix B, were still relevant with some having been
superseded due to subsequent developments.
The new policy, Appendix C, adopted an approach which recognised the
role that effective management of parking could play in supporting the local
economy. A well-managed parking regime
could have a positive effect in assisting a retail centre. The ten priorities in the new policy had been
listed in the report. It was explained
that Action 5.1d in the “Economic and Community Ambition Strategy” had been to
carry out a TPR for the main towns across Denbighshire. The exercise had resulted in the development
of a suggested methodology for the TPR which had been incorporated in Appendix
D. Feedback received from the Economic
and Community Ambition Board had been incorporated in the methodology. The CDECA
and Head of Housing and Community Development (HHCD) provided details of the
review and its significance in identifying the needs of the residents, local
businesses, and its importance in promoting and supporting the local economy. The TPR had been
proposed to evaluate how parking and traffic management could contribute
towards the Corporate Priority of developing the local economy, and it had been
recognised that parking provision alone could not influence the viability and
vibrancy of town centres. The importance
of good signage, provision of safe access for pedestrians, cyclists, passenger
transport and those with impaired mobility had also been highlighted. It was noted that traffic congestion or a
parking “free for all” could potentially create an unattractive, unsafe and
unwelcoming environment. Details of the data
provided by present pay and display meters had been outlined, and it was
explained that a current lack of data in certain areas had made it more
difficult to evaluate and assess the costs involved. The proposed starting point for the TPR had
been included in the report, with the final stage being to identify potential
solutions to try and improve the influence of traffic and parking management in
town centres. A summary of the costs had
been incorporated in the report. Members were
informed that the parking policy review would need to be undertaken within
existing service budgets, with the effect on costs and income levels requiring
assessment during the reviews. The
current budget pressure, primarily relating to Prestatyn and Rhyl car parks,
would need to be considered as part of the reviews. An Equality Impact Assessment document had
been included as Appendix E. Members discussed
the contents of the report in detail and the following actions and issues were
identified:- · the need to liaise with Town
Councils on the most appropriate days to earmark as 'free parking days' to
ensure the County does not incur substantial income losses. · it being important to ensure
that all pay and display meters collect relevant and useful data to enable the
Council to use it effectively. · a need for car parks to have clear signage for short and long term stays and that all signage is current ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 83 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi'n amgaeedig) yn gofyn am adolygiad o
raglen waith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi diweddariad i’r aelodau ar faterion
perthnasol.
12.05 p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad
gan y Cydgysylltydd Archwilio, a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu a chytuno
ar ei rhaglen gwaith i’r dyfodol ac a oedd yn rhoi diweddariad ar faterion
perthnasol, wedi cael ei gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod. Roedd
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi cael ei gynnwys fel Atodiad 2 ac
roedd tabl a oedd yn crynhoi penderfyniadau diweddar gan y Pwyllgor, ac yn
hysbysu ynghylch cynnydd o ran eu gweithredu, wedi cael ei atodi yn Atodiad 3
wrth yr adroddiad. Aeth y Pwyllgor ati i ystyried ei Raglen Gwaith i’r
Dyfodol ddrafft ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol a oedd wedi’i chynnwys yn
Atodiad 1, a chytunwyd ar y diwygiadau a’r ychwanegiadau canlynol:- (a)
Adroddiad ar amserlennu a phrosesau monitro ansawdd ar
gyfer gwaith adnewyddu tai’r Cyngor i gael ei gynnwys ym Mlaenraglen Waith y
Pwyllgor ar gyfer Mai 2014. Yr adroddiad i fanylu ar welliannau o ran
amserlennu a monitro gwaith i adnewyddu stoc dai’r Cyngor i sicrhau bod
contractau yn y dyfodol yn cael eu monitro’n briodol i gyflawni gwaith o
ansawdd uchel mewn ffordd resymegol. (b)
Adroddiad ar y cynnydd a’r mesurau a gymerwyd hyd yma i
gyflawni Strategaeth Gyfathrebu Gorfforaethol y Cyngor i gael ei gynnwys ym
Mlaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer Ebrill 2014. Yr adroddiad i nodi’r drefn
gyfathrebu ddwyffordd rhwng y Cyngor a thrigolion, y wasg a chyfryngau eraill,
a Chynghorwyr. Roedd Aelodau’n teimlo y byddai cyfathrebu effeithiol yn
cynorthwyo’r Awdurdod i drosglwyddo’i negeseuon i drigolion trwy’r holl sianeli
sydd ar gael. Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r priod Aelodau Arweiniol yn
cael eu gwahodd i gyflwyno’r adroddiadau. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd T.R. Hughes,
eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol y byddai
materion mewn perthynas â’r Gorchymyn Prynu Gorfodol ar gyfer hen Safle Ysbyty
Gogledd Cymru, Dinbych yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet a’r Pwyllgor Cynllunio i
gael eu hystyried maes o law. PENDERFYNWYD
– yn amodol ar y diwygiadau a’r cytundebau uchod, y byddai’r Rhaglen Waith a
oedd wedi’i nodi yn Atodiad 1 wrth yr adroddiad yn cael ei chymeradwyo. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol
Fyrddau a Grwpiau'r Cyngor. 12.15 p.m. Cofnodion: Dywedodd y
Cadeirydd ei fod wedi mynychu’r cyfarfodydd Herio Gwasanaethau canlynol yn
ddiweddar:- Adnoddau Dynol:-
Roedd gwaith yn cael ei wneud ar faterion a nodwyd. Addysg:- Cyfarfod
cadarnhaol iawn, arweinyddiaeth dda gyda gwaith da’n cael ei wneud. Cymeradwyodd y
Pwyllgor gais gan y Cadeirydd bod y rhestr o Aelodau sydd wedi’u henwebu i
fynychu cyfarfodydd Herio Gwasanaethau’n cael ei chylchredeg. PENDERFYNWYD:- (a)
derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys, a hefyd (b)
cylchredeg y rhestr o Aelodau sydd wedi’u henwebu i
fynychu’r priod gyfarfodydd Herio Gwasanaethau. Daeth y cyfarfod i ben am 12.35 p.m. |