Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorydd
Cheryl Williams |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi
Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2013/14 Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw CVs/datganiadau cyn y cyfarfod ar gyfer swydd
Is-Gadeirydd y pwyllgor ar gyfer 2013/14.
Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau gan y rhai a oedd yn bresennol a
chynigiodd y Cynghorydd Bob Murray y dylid penodi’r Cynghorydd Carys Guy yn
Is-Gadeirydd ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Peter Evans. Gan nad oedd unrhyw enwebiadau pellach - PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Carys
Guy yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Cymunedau ar gyfer y flwyddyn i ddod. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu gydag unrhyw
fater a nodwyd y dylid eu hystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o gysylltiad personol na chysylltiadau oedd yn rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd am
eitemau y mae’r Cadeirydd yn credu y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Trorri Gwair – Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen James fod
cyfarfod o’r Gweithgor Torri Gwair ar Ymylau Priffyrdd yn cael ei drefnu i
drafod amserlenni torri gwair a materion bioamrywiaeth. Amlygodd Aelodau’r angen am agwedd synnwyr
cyffredin tuag at y rhaglen dorri gwair ac wrth ymateb i bryderon bioamrywiaeth
lleol. Cytunodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Cymunedau y byddai’n sicrhau fod y wybodaeth a ofynnwyd amdani
yn flaenorol gan y pwyllgor o safbwynt amserlenni a mapiau torri gwair, gan
gynnwys torri gwair ar gyfer bioamrywiaeth yn yr Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol (AHNE), yn cael ei chylchredeg mor fuan â phosibl. [HW – i hwyluso’r uchod] |
|
Cael cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 18 Ebrill
2013 (mae copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod diwethaf y pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2013. PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2013 fel cofnod cywir. |
|
CYNLLUNIAU TREF AC ARDAL PDF 80 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Adfywio Strategol (mae copi ynghlwm) sy’n amlinellu
perfformiad y Cyngor hyd yma o ran gweithredu ei gynlluniau tref gan ofyn i
aelodau nodi unrhyw lithriadau a chamau i wella’r gwaith gweithredu er mwyn
cynorthwyo’r Cyngor i ddod yn nes at ei gymunedau. 9.40am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Adfywio Strategol (RhAS) adroddiad (a gylchredwyd
yn flaenorol) yn amlinellu perfformiad y Cyngor hyd yn hyn o ran cyflawni ei
gynlluniau tref a gofyn am farn aelodau ar y cynnydd. Roedd yr adroddiad perfformiad chwarterol ar
gyfer cynlluniau tref (Atodiad A); sylwadau am weithredoedd unigol gyda statws
coch/oren (Atodiad B) ynghyd â’r grynodeb o’r prif ganlyniadau ar gyfer y
Cynlluniau blwyddyn gyntaf (Atodiad C) ynghlwm i’r adroddiad. Roedd y broses a ddatblygwyd ar gyfer monitro
perfformiad Cynlluniau Tref ac Ardal yn cynnwys cyflwyno adroddiadau chwarterol
i’r Grwpiau Aelodau Ardal (GAA) yn amlygu’r hyder darparu ynghlwm â
gweithredoedd blaenoriaeth. Byddai’r
wybodaeth honno hefyd yn cael ei chyfuno a’i chynnwys yn yr adroddiadau perfformiad
chwarterol i’r Cabinet. Roedd dyraniad
arian diweddar i gyflawni’r flaenoriaeth gorfforaethol i wella’r economi leol
wedi ein galluogi i fynd ati i gyflwyno gweithredoedd blaenoriaeth yn fuan a
byddent yn cael eu cynnwys yn yr adroddiadau chwarterol nesaf i’r MAGs. Roedd gwaith hefyd wedi dechrau ar y broses o
ddatblygu Cynlluniau Tref i fod yn Gynlluniau Tref ac Ardal er mwyn diwallu
anghenion a blaenoriaethau cymunedau llai a mwy gwledig. Amlygodd y Cynghorydd Hugh Evans, yr Arweinydd a’r
Aelod Arweiniol ar gyfer Datblygu Economaidd rôl bwysig y Cefnogwyr Tref yn y
broses a’i obaith y byddai’r Cynlluniau’n esblygu ac yn dod yn fwy uchelgeisiol
yn y dyfodol i greu gweledigaeth ar gyfer pob tref a’r ardaloedd o’u cwmpas. Wrth ystyried yr adroddiad, gwnaeth yr aelodau’r
sylwadau a ganlyn – ·
roedd
yn galonogol fod y rhan fwyaf o brosiectau yn mynd i’r cyfeiriad cywir i gael
eu darparu ond roedd hefyd angen adrodd ar ganlyniadau ac effeithiau clir ·
amlygwyd pa mor bwysig oedd
bod arian ar gael pan fod angen i gyflawni prosiectau fel y cynlluniwyd ·
cydnabuwyd
fod y cynlluniau yn dal ar eu camau cyntaf ac y byddai’n cymryd amser i
ddatblygu a chyflawni eu potensial llawn ·
awgrymwyd
y dylid cyflawni prosiectau syml, yn enwedig rhai gydag effaith weledol, yn
fuan ·
amlygwyd pwysigrwydd aelodau
lleol wrth symud eu cynlluniau tref/ardal ymlaen yn ogystal â rhyngweithio
gyda’r Cefnogwr Tref a’r Swyddog Cyswllt ·
pwysleisiwyd
yr angen i gynlluniau gynnig gwir adlewyrchiad o’r buddsoddiad a’r manteision
cyffredinol yn y gwahanol ardaloedd ynghyd â ffynonellau ariannol a nodwyd ar
gyfer prosiectau/ gweithredoedd i sicrhau eu bod yn agored ac yn atebol ·
roedd
angen sicrhau nad oedd darparu gweithredoedd a nodwyd i’w cyflawni y tu hwnt i
reolaeth y Cyngor ·
pwysleisiwyd
rôl bwysig y Cefnogwr Gwledig yn y broses a’i ryngweithiad ag aelodau lleol yr
ardaloedd ·
Cyfeiriodd
y Cynghorydd Cefyn Williams at gyfeiriad yr adroddiad fod adolygiad addysgol
ardal Edeyrnion wedi cefnogi gwelliannau mewn cyrhaeddiad addysgol ac roedd yn
dymuno datgan yn glir nad oedd unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r datganiad hwnnw a
oedd yn fater o farn ac yn dal yn ddadleuol. Wrth ymateb i sylwadau aelodau nododd y swyddogion mai dim ond yn ddiweddar y cymeradwywyd y dyraniad ariannol i fwrw ymlaen â chamau blaenoriaeth ar gyfer gwella’r economi leol a gan ystyried yr amser aros cyn i brosiectau cyfalaf adrodd eu bod yn cyflawni’r prosiectau hynny, byddent yn ymddangos yn yr adroddiad nesaf i’r MAGs ym mis Gorffennaf. Roedd gwaith yn parhau i ehangu’r cynlluniau tref presennol i fod yn gynlluniau tref ac ardal ac wedi hynny byddai’r cynnwys a’r manylion yn cael eu datblygu ymhellach. Cyfrifoldeb yr aelodau lleol a’r Cefnogwyr Tref yw gosod eu blaenoriaethau eu hunain ar gyfer y camau a nodwyd. O safbwynt canlyniadau a fesurwyd, cytunwyd i ychwanegu gwybodaeth at yr adroddiad ar hyder darparu ynglŷn â’r nifer o brosiectau a gwblhawyd a’u heffaith dilynol. Adroddodd y Cynghorydd Huw Jones, Cefnogwr Gwledig ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
AILSTRWYTHURO’R GWASANAETHAU ADFYWIO, CYMORTH I FUSNESAU A THWRISTIAETH PDF 100 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Tai a Chymunedau (mae copi ynghlwm) sy’n
amlinellu’r rhesymeg a’r broses ar gyfer ailstrwythuro’r Gwasanaethau. Mae’r adroddiad yn gofyn am farn yr aelodau
am eu disgwyliadau a’u dyheadau ar gyfer y Gwasanaeth a’i waith wrth gefnogi’r
broses o wireddu blaenoriaethau’r Cyngor o ran yr economi a thai. 10.10am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans, Aelod
Arweiniol Datblygu Economaidd yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn
amlinellu’r rhesymeg a’r broses ar gyfer ailstrwythuro’r gwasanaethau er mwyn
cyflawni blaenoriaethau economaidd a rhai’r Cyngor. Yn dilyn pryderon yr aelodau ynglŷn ag
effaith y cynigion ar unigolion a chymunedau, rhoddwyd sicrwydd yw gweithredu’r
broses gyda chefnogaeth a chyngor gan Adnoddau Dynol a byddai’n symud yn nes at
gymunedau drwy gynnig strwythur lleol.
Cyfeiriodd hefyd at ei weledigaeth ar gyfer y gwasanaeth gan nodi y
byddai’r strwythur newydd yn cyflawni’r disgwyliadau oedd wedi’u cynnwys yn y
Strategaeth Uchelgais Economaidd a oedd yn cael ei datblygu. Manylodd y Pennaeth Tai a Gwasanaethau Cymunedol (PTGC) ar y broses
adolygu gwasanaeth a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â’r Pennaeth Cyfathrebu,
Marchnata a Hamdden (PCMH) lle rhannwyd canlyniad gwasanaeth. Daeth yr adolygiad gwasanaeth i’r casgliad
nad oedd y strwythur presennol, y sail sgiliau a’r dyraniad adnoddau yn addas
i’w pwrpas ar sawl lefel ac na fyddai’n gallu cyflawni’r rhaglen uchelgeisiol o
Adfywio a Datblygiad Busnes oedd wedi’i gynnwys yn y Cynllun Corfforaethol a’r
Strategaeth Uchelgais Economaidd. Datblygwyd
strwythur newydd (Atodiad 1 yr adroddiad) yn cynnig ymagwedd gytûn, gadarn a
strategol gydag adnoddau wedi’u halinio i gyflawni blaenoriaethau Uchelgais
Economaidd y Cyngor. Byddai
ailstrwythuro’r Uwch Dîm Rheoli yn cael ei gwblhau ym mis Mehefin, a byddai’r
holl benodiadau wedi’u cwblhau erbyn diwedd mis Medi. Rhoddodd y PCMH adroddiad ar gam nesaf y
broses o safbwynt Gwasanaethau Cyfathrebu a Marchnata ac integreiddio’r
swyddogaeth dwristiaeth i sicrhau strwythur addas i’w bwrpas i ymateb i flaenoriaethau
corfforaethol. Amlygodd rinweddau’r
ailstrwythuro hwnnw a chroesawodd y cyfle i gynnig adroddiad manwl i’r aelodau
ym mis Medi. Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau i ganolbwyntio ar
gynigion i ddarparu gwasanaeth yn hytrach na materion gweithredol yn ymwneud â
swyddi unigol yn y gwasanaeth. Mewn
ymateb i bryderon aelodau yn y cyswllt hwnnw, rhoddwyd sicrwydd y byddai pob
ymdrech yn cael ei gwneud i gadw staff a oedd yn dymuno aros gyda’r awdurdod ac
roedd y broses briodol ar gyfer rheoli newid gweithredol yn cael ei dilyn. Cydnabu’r pwyllgor yr angen am ailstrwythuro yn y
gwasanaeth er mwyn cyflwyno gwelliannau a diwallu anghenion busnes a rhoddwyd
cydnabyddiaeth i’r gwaith a wnaed ar yr adolygiad cynhwysfawr. Gofynnodd Aelodau am sicrwydd ynglŷn ag
arbedion yn y dyfodol; datblygiad cynigion ariannol ar gyfer grwpiau a
gwasanaethau cymunedol, ac eglurhad ar ganlyniadau ac effaith y strwythur
newydd ar ddarpariaeth gwasanaeth.
Codwyd cwestiynau hefyd ynglŷn â’r rhyngweithiad a’r rhan a chwaraewyd
gydag asiantaethau eraill fel Asiantaeth Fenter Sir Ddinbych a gwaith
partneriaeth i gyflawni amcanion a gwella’r economi leol. [Datganodd yr
Arweinydd gysylltiad personol mewn perthynas ag Asiantaeth Fenter Sir Ddinbych] Amlygwyd hefyd yr angen am well cyfathrebu
gydag aelodau a strategaeth dwristiaeth glir.
Roedd y Cadeirydd hefyd yn awyddus i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
fel arf hyrwyddo a marchnata. Cafwyd yr
ymatebion a ganlyn – ·
ni
fyddai cost ychwanegol i’r ailstrwythuro gyda’r gostyngiad mewn rheolwyr yn
creu arbedion a gaiff eu hail fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen ·
byddai’r
strwythur newydd yn hwyluso darpariaeth gwasanaeth rhagorol a fyddai’n
canolbwyntio ar ardaloedd lleol i’w gwneud yn haws i aelodau, busnesau a
chyfranogion dderbyn cyngor, cymorth a chefnogaeth o ansawdd ·
cydnabuwyd
mai’r brif risg yn gysylltiedig ag ailstrwythuro oedd methiant i gyflenwi
canlyniadau ond lliniarwyd y risg hon oherwydd yr ymagwedd strategol a gymerwyd ·
esboniwyd
mwy am y nodau o ddod yn nes at fusnesau a gweithio’n agos gydag asiantaethau
eraill i ddarparu cefnogaeth a chyngor i fusnesau ·
roedd
gweithrediad pennawd o’r Strategaeth Uchelgais Economaidd oedd yn cael eu
datblygu yn ceisio archwilio’r posibilrwydd o greu partneriaeth o asiantaethau
cefnogi busnes · rhoddwyd sicrwydd y ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ADOLYGU STRATEGAETH TAI LLEOL – SIR DDINBYCH PDF 115 KB Ystyried
adroddiad (mae copi ynghlwm) gan yr Uwch Swyddog – Strategaeth a
Phartneriaethau sy’n amlinellu’r cynnydd hyd yma o ran adolygu’r Strategaeth
Tai Leol a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndŵr ac mae’n
gofyn am gyfraniad aelodau i’r Strategaeth. 10.40am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Swyddog - Strategaeth a Phartneriaethau (USSPh) y Dr.
Colin Stuhlfelder, Prifysgol Glyndŵr a chyflwynodd adroddiad (a
gylchredwyd yn flaenorol) yn amlinellu cynnydd hyd yn hyn wrth adolygu’r
Strategaeth Tai Lleol (STLl) a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol
Glyndŵr a gofynnodd i aelodau gyfrannu at y Strategaeth oedd yn cael ei
datblygu. Trefnwyd cyfres o
ddigwyddiadau ymgynghori ac wedi hynny, byddai adroddiad manwl a chynllun
gweithredu’n cael eu cyflwyno i’r pwyllgor ym mis Gorffennaf. Roedd yr STLl yn amlinellu’r sefyllfa dai ar draws
bob daliadaeth ac yn cynnig cyfeiriad strategol am bum mlynedd. Amlinellodd Dr Stuhlfelder y broses o
ddatblygu’r STLl ac eglurodd mai’r grynodeb lefel uchel a’r adroddiad cynnydd
llawn oedd y man cychwyn o safbwynt gosod y weledigaeth, themâu a’r amcanion. Byddai’r Strategaeth yn cynnwys tair thema
(1) Cyfathrebu, (2) Cyfuno, ac (3) Adeiladu gydag amcanion a chanlyniadau
penodol wedi’u nodi ar gyfer pob un. Trafododd y pwyllgor wahanol agweddau o’r
strategaeth tai gan amlygu’r angen am dai fforddiadwy, yn enwedig yn sgil
diwygiadau lles diweddar a gofynnodd am wybodaeth bellach ynglŷn â
chynlluniau fel rhannu perchnogaeth a daliadaethau dros dro i ddiwallu’r galw
presennol. Gofynnwyd am sicrwydd hefyd y
gellid cynnal safonau ansawdd yn stoc tai’r cyngor. Mewn ymateb, clywodd aelodau fod – ·
y Diweddariad Anghenion Tai
(ymchwil a gomisiynwyd gan Brifysgol Glyndŵr 2011) wedi argymell targed
tai fforddiadwy o 36% ond gosodwyd targed o 10% yn y Cynllun Datblygu Lleol yn
seiliedig ar hyfywedd economaidd safleoedd ·
roedd
angen cydbwyso amgylchedd ffafriol ar gyfer adeiladu gyda’r angen am dai
fforddiadwy ac archwilio dulliau eraill o ariannu prosiectau tai fforddiadwy
fel y Strategaeth Cartrefi Gwag a chynlluniau gyda landlordiaid preifat a allai
helpu cyflawni targedau cartrefi fforddiadwy ·
byddai ymchwil yn cael ei
gynnal ar fodelau rhannu perchnogaeth a pha mor fforddiadwy ydynt ynghyd â
chynlluniau eraill gan gynnwys rhent canolradd ·
roedd
pwysigrwydd y sector rhentu preifat yn y sir yn cynyddu ac roedd gwaith yn cael
ei wneud gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddatblygu modelau
priodol i ddiwallu gofynion tai ·
dylid
cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer stoc tai’r cyngor erbyn diwedd
2013/14 a chwblhawyd arolwg stoc tai llawn yn ddiweddar gyda rhaglen dreigl o
fuddsoddiad i sicrhau bod safonau’n cael eu cynnal yn y dyfodol; roedd hefyd
potensial i gynyddu stoc tai yn dilyn newidiadau yn y dyfodol i gyllid tai
cyngor. PENDERFYNWYD – (a) yn
amodol ar y sylwadau uchod gan aelodau, dylid nodi’r adroddiad ar y cynnydd
wrth adolygu’r Strategaeth Tai Lleol a maint yr heriau tai presennol sydd angen
eu hymgorffori i’r strategaeth, a (b) dylid
cymeradwyo’r tri maes thema bwriedig i’w cynnwys yn y Strategaeth Tai Lleol
newydd. [SK&SL i nodi a gweithredu’r uchod] Ar y pwynt hwn (11.50 a.m.) torrodd y pwyllgor am
egwyl lluniaeth. |
|
ADOLYGIAD O WASANAETHAU DYDD YNG NGOGLEDD SIR DDINBYCH PDF 112 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth: Ardal y De (mae copi ynghlwm) sy’n gofyn
i’r Pwyllgor ystyried y cynigion diwygiedig i ailfodelu gofal dydd i bobl
hŷn yng ngogledd y Sir, cyn i’r cynigion gael eu cyflwyno i’r Cabinet. 11.10am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol yr adroddiad (a
gylchredwyd yn flaenorol) yn manylu ar y cynigion diwygiedig i ailfodelu gofal
dydd i bobl hŷn yng ngogledd y sir cyn cyflwyno’r cynigion i’r
Cabinet. Amlygodd yr angen am wasanaeth
cynaliadwy i’r dyfodol yn sgil y cynnydd yn y boblogaeth hŷn a’r
gostyngiad yn y ddarpariaeth ariannol. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes fod y cynigion wedi’u
diwygio yn dilyn adborth gan y pwyllgor
hwn a’r broses ymgynghori. Ymhelaethodd
ar y rhesymeg y tu ôl i’r cynigion a fyddai’n sicrhau fod y gwasanaeth a
ddarparwyd yn cyd-fynd â’r ymagwedd ail-alluogi ac yn gynaliadwy wrth symud ymlaen. Roedd y cynigion yn cynnwys - ·
symud
gwasanaethau presennol ym Mhrestatyn o Lys Nant i Nant y Môr er mwyn cynnig
rhagor o gyfleoedd i bobl ·
archwilio’r posibilrwydd yn y tymor canolig / hir i symud
darpariaeth gofal dydd yn y Rhyl i Gorwel Newydd a defnyddio Hafan Deg i symud
yr ymagwedd ail-alluogi yn ei blaen ·
symudiad cychwynnol i 3 diwrnod o ddarpariaeth gofal dydd
yn Hafan Deg gyda’r 2 ddiwrnod arall yn canolbwyntio ar gynnig gwasanaeth
ail-alluogi ·
datblygu
cynllun prosiect manwl ar gyfer y trefniadau presennol yn Hafan Deg a Llys Nant
gan ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Mewn ymateb i
gwestiynau, clywodd aelodau fod – ·
swyddogion
yn anymwybodol o unrhyw effaith ar Nant y Môr o ganlyniad i gau Canolfan
Seibiant Michael Phillips yn y Rhyl ond byddent yn archwilio’r mater ymhellach ·
yn amodol ar dderbyn cymeradwyaeth y Cabinet i’r cynigion
ar 25 Mehefin, byddai trafodaethau manwl yn dechrau gyda defnyddwyr gwasanaeth
a gofalwyr Llys Nant am y symudiad i Nant y Môr; rhoddwyd sicrwydd i’r pwyllgor
na fyddai Llys Nant yn cau nes bod trefniadau addas ar gyfer pob defnyddiwr
gwasanaeth ·
cadarnhawyd
y byddai’r ddau ddefnyddiwr gwasanaeth sydd ar hyn o bryd yn mynychu Hafan Deg
am fwy na 3 diwrnod yr wythnos yn derbyn gwasanaethau cefnogi amgen ·
cadarnhawyd
hefyd y byddai darpariaeth gofal seibiant hefyd yn trosglwyddo i Nant y Môr ac
ni fyddai hyn yn effeithio ar y gefnogaeth a ddarperir i ofalwyr ·
byddai’r
awdurdod yn cysylltu â’r trydydd sector a phartïon eraill ynglŷn â sut y
gellir datblygu trefniadau cludiant mwy effeithiol ·
gallai
modelau gofal cymdeithasol traddodiadol greu dibyniaeth ond roedd y model
newydd yn canolbwyntio ar helpu unigolion i gefnogi eu hunain. Diolchodd y
Cynghorydd Brian Blakeley y swyddogion am wrando ar farn cynghorwyr ac adborth
yr ymgynghoriad ac am newid y cynigion yn unol â hynny. Rhoddodd ganmoliaeth i swyddogion ar eu
gwaith caled ac awgrymodd y dylai’r pwyllgor barhau i adolygu’r mater. Roedd y Cadeirydd yn falch i amlygu rôl y pwyllgor yn y broses a’r modd yr
oeddynt wedi dylanwadu ar y cynigion i sicrhau y gellid cael cyfaddawd
derbyniol. Diolchodd Aelodau’r
swyddogion am eu gwaith yn y cyswllt hwnnw. PENDERFYNWYD
– (a)
Argymell i’r Cabinet eu bod yn
gweithredu’r model newydd fel yr amlinellir ym mharagraffau 4.10 i 4.13 yr
adroddiad, a (b)
dylai’r pwyllgor dderbyn adroddiad
gwerthuso ar ddarpariaeth Gwasanaethau Gofal Dydd yn Sir Ddinbych ymhen oddeutu
deuddeg mis. [PG a HT i weithredu’r ddau argymhelliad] |
|
GRŴP TASG A GORFFEN ADOLYGU BWYD PDF 89 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid (mae copi ynghlwm) sy’n
cyflwyno canfyddiadau’r Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd i adolygu polisïau
a gweithdrefnau’r Cyngor o ran caffael, rheoleiddio a rheoli bwyd yn gywir yn
sgil y sgandal cig ceffyl. Gofynnir i’r
Pwyllgor ystyried argymhellion y Grŵp cyn eu cyflwyno i’r Cabinet. 11.40am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid y Rheolwr Arlwyo; Rheolwr Gwarchod y
Cyhoedd a’r Rheolwr Caffael Strategol a chyflwynodd adroddiad (a gylchredwyd yn
flaenorol) yn cyflwyno canfyddiadau’r Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd i
adolygu polisïau a threfnau’r Cyngor mewn perthynas â chaffael, rheoleiddio a
rheoli contractau bwyd yn sgil y sgandal cig ceffyl. Trafododd y
Grŵp Tasg a Gorffen faterion yn ymwneud â’r meysydd allweddol a ganlyn – ·
caffael
cig a chynhyrchion cig ·
rôl y
Cyngor fel corff gorfodi a rheoleiddio, a ·
digonolrwydd
trefniadau cytundebol gyda gwasanaethau a gomisiynwyd. Ar ôl archwilio’r
meysydd uchod, rhoddwyd y dasg i swyddogion o lunio Datganiad Sefyllfa ac
argymhellion ar gyfer gwella’r gwasanaeth (ynghlwm i’r adroddiad) a deilliodd
argymhellion yr adroddiad o’r dogfennau hynny.
Rhoddodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol Parth Cyhoeddus
ganmoliaeth i ymateb y Cyngor i’r sgandal cig ceffyl a’r modd y deliodd yr
awdurdod gyda materion ac argyfyngau o’r fath yn gyffredinol. Roedd y Cynghorydd Win Mullen-James yn aelod
o’r Grŵp Tasg a Gorffen ac ategodd y sylwadau hynny gan dynnu sylw at
waith caled y swyddogion dan sylw. Holodd y pwyllgor gwestiynau ynglŷn â chaffael cig a manylebau
contract a gofynnwyd am sicrwydd pellach ynglŷn â chadernid y trefnau oedd
mewn grym i ganfod twyll bwyd. Mewn
ymateb aeth swyddogion ati i - ·
adrodd
ar y contractau a’r manylebau presennol ar gyfer cig gan gynnwys yr amod i gael
cig Prydeinig dan 30 mis oed a’r statws Dangosiad Daearyddol a Ddiogelwyd
(DDDd) (tarddiad Cymreig) gan gyflenwyr cig eidion ac oen a gymeradwywyd ·
ymhelaethu
ar ganlyniadau ymchwiliadau diweddar a ddarganfu fod un eitem o gynnyrch (cyw
iâr) yn tarddu o’r Almaen ·
egluro
fod yr awdurdod lleol a’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cynnal samplau ac roedd agwedd
rhagweithiol yn cael ei dilyn i sefydlu’r gallu i olrhain, hylendid a chyflawni
manylebau contract ·
amlygu’r
trefnau rheoli contract cryfach gan gynnwys yr angen i adrodd am unrhyw
newidiadau yn y gadwyn gyflenwi ·
cynnig
sicrwydd fod systemau cadarn mewn grym ond o gofio natur y diwydiant, nid oedd
modd dileu achosion twyll yn llwyr ·
ymhelaethu
ar archwiliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd ym mis Gorffennaf 2013 a oedd yn
edrych ar hylendid, safonau a darpariaeth ·
cadarnhau fod swyddog safonau bwyd ychwanegol wedi’i
gyflogi am gyfnod o 12/18 mis nes bod swyddog dan hyfforddiant presennol yn dod
yn hollol gymwys. I sicrhau ansawdd
a tharddiad y cig a gynhyrchwyd, holodd y Cadeirydd a fyddai modd gosod amod fod yn rhaid i bob cyflenwr fod yn
rhai Red Tractor Assured mewn contractau yn y dyfodol. Cyfeiriodd swyddogion at yr anawsterau posibl
gyda’r ymagwedd honno gan gynnwys problemau cyflenwi, sicrhau fod cynhyrchion
ar gael drwy’r flwyddyn ynghyd â’r goblygiadau ariannol o ran gosod y gofyniad
hwnnw. Yn benodol, byddai unrhyw gynnydd
i bris prydau ysgol dros £2.00 yn cael effaith niweidiol ar y niferoedd a
fyddai’n manteisio arno. Nodwyd y
byddai’r Grŵp Tasg a Gorffen yn cael ei chynnal dros y tymor byr i fonitro
sut y cyflawnwyd argymhellion yr adroddiad ac awgrymwyd y dylai’r fforwm honno
roi ystyriaeth bellach i’r mater.
Cytunwyd i dderbyn adroddiad yn ôl ar waith y Grŵp Tasg a Gorffen mewn oddeutu
deuddeg mis. PENDERFYNWYD
– (a)
cefnogi argymhellion y Grŵp Tasg
a Gorffen Adolygu Bwyd fel y nodwyd ym mharagraffau 3.1 – 3.13 yr adroddiad a’u
hargymell i’r Cabinet eu cymeradwyo; (b)
gofyn i’r Grŵp Tasg a Gorffen
Adolygu Bwyd archwilio hyfywedd
contractau caffael cig yn y dyfodol gan nodi fod yn rhaid i bob cyflenwr fod yn
Red Tractor Assured, a (c) dylid cyflwyno adroddiad ar waith y Grŵp Tasg a ... view the full Cofnodion text for item 10. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 54 KB Ystyried adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio (mae copi ynghlwm) sy’n gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor ac sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am
faterion perthnasol. 12.15pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (a gylchredwyd yn flaenorol) yn gofyn i
aelodau adolygu rhaglen waith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi diweddariad ar
faterion perthnasol. Roedd rhaglen waith
i’r dyfodol ddrafft (Atodiad 1); rhaglen waith i’r dyfodol y Cabinet (Atodiad
2), a Chynnydd ar Benderfyniadau Pwyllgorau (Atodiad 3) ynghlwm i’r adroddiad. Cytunodd Aelodau
ar yr adolygiadau a ganlyn i’r rhaglen waith
– ·
Medi – Strategaeth Sipsiwn ac adroddiad gwybodaeth ar
ailstrwythuro’r Gwasanaethau Cyfathrebu a Marchnata ·
Hydref – adroddiad gwybodaeth ar y Strategaeth Uchelgais
Economaidd ·
Mai/Mehefin 2014 – Darparu Gwasanaethau Gofal Dydd yn Sir
Ddinbych a Grŵp Tasg a Gorffen Adolygu Bwyd Tynnodd y Cydlynydd Archwilio sylw aelodau at yr her perfformiad gwasanaeth
newydd a fanylwyd arno ym mriff gwybodaeth y pwyllgor (a gylchredwyd yn
flaenorol). Gofynnwyd am gynrychiolwyr
pwyllgor ar gyfer pob asesiad gwasanaeth a rhoddwyd manylion yr amserlen
gyfarfodydd. Cytunwyd cyfateb y
cynrychiolwyr pwyllgor a benodwyd yn flaenorol mor agos â phosibl â’r meysydd
gwasanaeth newydd. Byddai angen rhoi
ystyriaeth bellach i unrhyw swyddi oedd heb eu llenwi yn dilyn y broses benodi
honno. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr
uchod, dylid cymeradwyo’r rhaglen waith i’r dyfodol fel y manylir yn Atodiad 1
yr adroddiad. [RhE i weithredu’r uchod] |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Cael unrhyw
ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor am amryw Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor 12.30pm Cofnodion: Ni dderbyniwyd
unrhyw adroddiadau gan gynrychiolwyr y pwyllgor. Daeth y cyfarfod
i ben am 12.50pm. |