Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth y Cynghorydd Michelle Blakeley-Walker. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Yr Aelodau I ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Huw Williams, gysylltiad personol oedd yn rhagfarnu ag eitem 6 ar y rhaglen, sef Cynllun Buddsoddi mewn Meysydd Parcio 2024/29, ac yntau mewn anghydfod ynglŷn â mater parcio yn Sir Ddinbych. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2024. Materion yn codi
- Eitem 5 (tudalen 7) - dywedodd y Cydlynydd Craffu yr ail-hysbysebwyd swydd y
Prif Swyddog Cydymffurfiaeth Cynllunio a bod y tîm yn aros am awdurdodiad i
lenwi swydd y Swyddog Cydymffurfiaeth. PENDERFYNWYD- derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2024 a’u cymeradwyo fel rhai cywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaeth Amgylcheddol (copi wedi’i
amgáu) ar gynnydd a wnaed hyd yma wrth ddarparu’r gwasanaeth diwygiedig yn
dilyn yr adnoddau ychwanegol a ddarparwyd; a’r broses a ddilynwyd i weithredu’r
newidiadau/cyflwyno casgliadau pen draw lonydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yr adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) gan atgoffa’r Pwyllgor bod yr adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf yn sgil penderfyniad y Cabinet ar 1 Hydref 2024 i neilltuo adnoddau ychwanegol i gyflwyno’r drefn casglu gwastraff newydd. Yn ogystal â hynny, roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi derbyn cynnig i graffu ar y penderfyniad i newid y trefniadau casglu mewn rhai ardaloedd a chyflwyno trefn Pen Lôn. Cydnabu’r Aelod Arweiniol fod lle i’r gwasanaeth wella, ond dywedodd fod cynnydd wedi’i wneud ers ei gyflwyno ym mis Mehefin. Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol fod a wnelo’r adroddiad yn bennaf â phenderfyniad y Cabinet i gymeradwyo rhoi £1.299 miliwn yn ychwanegol i’r Gwasanaeth, wedi’i ariannu drwy grantiau a benthyca cyfalaf. Soniwyd bod y Gwasanaeth yn dal yn aros i Lywodraeth Cymru gadarnhau’r swm y gallai ei gyfrannu. Ac eithrio’r cyfnodau o dywydd eithafol yn y Sir ddechrau’r flwyddyn, roedd y Gwasanaeth wedi sefydlogi a dod yn fwy cyson, ac roedd pethau’n gwella bob wythnos. Bwriedid cyflwyno casgliadau Pen Lôn ar gyfer 36 o aelwydydd o blith 47,000 ledled y Sir, a hysbyswyd y preswylwyr dan sylw. Roedd rhai trigolion wedi mynegi pryderon ynglŷn â newid eu gwasanaeth ond roedd gan yr Awdurdod rym i weithredu’r newidiadau hynny dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Aseswyd eiddo yn unol â’r protocolau a gweithdrefnau priodol cyn hysbysu’r trigolion o’r newid. Soniodd rhai pobl fod y polisi perthnasol yn amwys a dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth fod y polisi hwnnw dan adolygiad. Cydnabu’r Pennaeth Gwasanaeth hefyd na hysbyswyd yr aelodau o’r llythyrau a anfonwyd at y trigolion a dywedodd y dysgid gwers o hynny ar gyfer y dyfodol. Holodd aelodau a oedd costau llogi cerbydau ychwanegol wedi’u cynnwys yn y cynllun ariannol cychwynnol. Dywedodd y swyddogion fod arian yng nghyllideb refeniw/gweithredu’r Gwasanaeth i dalu am y costau llogi. Gwnaed pob ymdrech i ddod â chyfnodau llogi’r cerbydau dros dro i ben cyn gynted â phosib. Wrth ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor, dywedodd Swyddogion:
Rhagwelid y byddai’r gwasanaeth yn dychwelyd i’r arfer yn yr wythnosau nesaf fel bod modd i breswylwyr roi gwybod am gasgliadau a gollwyd drwy’r Ganolfan Gyswllt neu ar-lein.
Roedd angen hefyd ystyried topograffi a maint y cerbydau a ddefnyddir ac asesu risgiau i staff.
|
|
CYNLLUN BUDDSODDI MEWN MEYSYDD PARCIO 2024 - 2029 Cael adroddiad
diweddaru gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd (copi wedi’i
amgáu) i adolygu cynnydd y Cynllun Buddsoddi dros y 12 mis diwethaf. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yr Is-gadeirydd,
y Cynghorydd Karen Edwards, a fu’n cadeirio ar gyfer yr eitem hon. Cyflwynodd Aelod
Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yr adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw)
a gyflwynai’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chynnydd y Cynllun Buddsoddi
mewn Meysydd Parcio. Rhoes y Rheolwr
Traffig a Chludiant fraslun o’r gwaith a gyflawnwyd yn y flwyddyn gyntaf, gan
gynnwys:
Unwaith y
byddai’r cynlluniau’n barod i’w hasesu ar sail dichonolrwydd, cyflwynid y
darpar safleoedd i’r Grwpiau Ardal Aelodau perthnasol
Roedd y Cynllun
Buddsoddi mewn Meysydd Parcio’n cynnwys cynigion ar gyfer yr ail flwyddyn, sef blwyddyn
ariannol 2025-26. Newidiwyd y rhaglen drwy ychwanegu gwaith arfaethedig i roi
wyneb newydd ar y maes parcio yng Ngallt Melyd, er mwyn braenaru’r tir ar gyfer
cyflwyno taliadau posib am barcio. Wrth ateb
cwestiynau’r Aelodau, rhannodd y swyddogion y wybodaeth ganlynol:
Atgoffwyd yr
aelodau y cyflwynid adroddiad ynghylch taliadau meysydd parcio i’r Pwyllgor
Craffu Perfformiad ar 13 Mawrth. PENDERFYNWYD-
nodi Cynllun Buddsoddi mewn Meysydd Parcio 2024-2029. |
|
CYNLLUN GWEITHREDU STRATEGAETH TAI A DIGARTREFEDD SIR DDINBYCH Ystyried adroddiad gan yr Uwch Swyddog - Cynllunio Strategol a Thai (copi wedi’i amgáu) ar y cynnydd a wnaed o ran cyflwyno’r Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu diwygiedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau’r adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw).
Roedd a wnelo’r adroddiad â darparu mwy o gartrefi a thai fforddiadwy, atal
digartrefedd a gwella ansawdd tai cymdeithasol. Tynnodd Pennaeth
y Gwasanaeth Tai a Chymunedau sylw’r Pwyllgor i’r ffaith bod y Cyngor llawn
wedi cymeradwyo’r adroddiad yn 2020. Roedd y Cyngor yn arfer dull Un Cyngor
wrth fynd i’r afael â digartrefedd ac roedd amryw wasanaethau’n cydweithio i
gyflawni’r uchelgeisiau ym maes tai ledled y Sir. Cydnabuwyd bod yr adroddiad
yn fanwl iawn. Gofynnwyd i’r Pwyllgor cyflwyno cynigion i graffu ar unrhyw
feysydd penodol yn yr adroddiad y dymunai eu hystyried yn fwy treiddiol. Wrth ateb
cwestiynau’r Aelodau, rhannodd y swyddogion y wybodaeth ganlynol:
Roedd hi fel
arfer yn fanteisiol i’r Cyngor eu prynu, yn enwedig os oeddent yn dai pâr neu’n
fflatiau mewn blociau’r oedd yr Awdurdod yn berchen arnynt, gan y gellid
rheoli’r adeilad cyfan yn fwy effeithlon
PENDERFYNWYD-
bod y Pwyllgor yn derbyn a chymeradwyo Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Tai a
Digartrefedd. |
|
PROSES WAREDU TAI'R CYNGOR Ystyried adroddiad gan y Swyddog Arweiniol – Tai Cymunedol (copi wedi’i amgáu) am y broses i waredu tai’r Cyngor Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau’r adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) a
esboniai’r rhesymau dros benderfynu gwerthu tai cyngor yn y portffolio tai.
Nodwyd nad oedd hynny bron byth yn digwydd. Eglurodd y
Swyddog Arweiniol – Tai Cymunedol bod y Gwasanaeth yn gyndyn o werthu unrhyw
eiddo yn ei bortffolio ond ei bod weithiau’n gwneud synnwyr yn economaidd i
werthu eiddo mewn ardaloedd heb alw mawr am dai neu pan oedd angen buddsoddi
arian sylweddol er mwyn bodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru. Ni phenderfynid
gwerthu eiddo ond pan oedd pob ffordd bosib o’i gadw wedi methu. Cyfeiriwyd at
atodiad 2 i’r adroddiad wrth egluro i’r Pwyllgor y gallai’r broses fod yn
hirfaith yn aml iawn a dangos yr amryw gamau a gymerwyd o glustnodi eiddo
gwarged, bodloni’r amryw ofynion a’i werthu yn y pen draw. Câi Aelodau Lleol eu
cynnwys yn y broses a’u gwahodd i ddod i weld unrhyw eiddo y bernir ei fyd yn
warged yn eu wardiau hwy. Arolygwyd yr holl
eiddo a glustnodwyd i’w werthu (atodiad 3) er mwyn cael y prisiau gorau ar y
farchnad. Ar ôl penderfynu gwerthu’r eiddo, roedd yn rhaid cwblhau’r broses yn
effeithlon gan fod yr Awdurdod yn gyfrifol am dalu treth y cyngor ar gyfer yr
adeiladau gwag. Os bernid nad
oedd hi’n ymarferol yn economaidd i wella cyflwr eiddo er mwyn bodloni Safonau
Ansawdd Tai Cymru, roedd hynny fel arfer oherwydd diffyg cyfleusterau cyfoes
ynddo. Roedd angen sicrhau cydbwysedd rhwng dyletswydd yr Awdurdod i ddarparu
cartrefi diogel – er enghraifft, archwilio cyfarpar nwy a’i gynnal a’i gadw – a
pharodrwydd y tenant i roi mynediad i’r Awdurdod i wneud addasiadau eraill nad
oeddent o reidrwydd yn dymuno eu cael. Ail-fuddsoddwyd
incwm a gafwyd o werthu eiddo, sef y derbyniad cyfalaf, wrth geisio prynu
ychwaneg o dai mewn ardaloedd â mwy o alw amdanynt. Diolchodd y
Pwyllgor i’r swyddogion am yr adroddiad, gan gymeradwyo’r broses a ddilynwyd
wrth werthu eiddo nad oedd yn economaidd ei gadw ac ail-fuddsoddi’r arian wrth
brynu tai mewn ardaloedd â mwy o alw amdanynt. PENDERFYNWYD-
bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad
ynghylch Proses Gwerthu tai’r Cyngor. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglan gwaith i’r dyfodol y pwllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu’r rhaglen waith yn atodiad 1a. Hysbyswyd y
Pwyllgor y bu gwall yn y pecyn dogfennau ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Cymunedau ar 27 Mawrth a bod yr adroddiad ynghylch Rhaglen Adfywio’r Rhyl a’r
Trefniadau Llywodraethu wedi’i hepgor. Cywirwyd hynny bellach. Cadarnhaodd y
Cydlynydd Craffu y câi’r mater ei drafod yng nghyfarfod mis Mawrth. Roedd yno bedair
o eitemau ar y rhaglen ar gyfer 27 Mawrth a thri ohonynt yn rhai swmpus.
Gofynnwyd i’r Pwyllgor ohirio’r drafodaeth ynghylch Gwresogi Mewn Argyfwng tan
y cyfarfod dilynol (15 Mai) fel y gellid ystyried y materion eraill yn llawn. PENDERFYNWYD-
yn amodol ar y newidiadau uchod, nodi’r Rhaglen Waith. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
sylwadau. Daeth y cyfarfod i ben am 12.30pm. |