Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Council Chamber, County Hall, Ruthin and by video conference

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Michelle Blakeley-Walker, James Elson a Merfyn Parry.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau I ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Cheryl Williams gysylltiad personol yn eitem 8 ar y rhaglen - Diweddariad ar Ddarpariaeth Mewnol Un Llwybr Mynediad at Dai (ULlMaD) - gan ei bod ar restr ULlMaD.

 

 

3.

PENODI IS-GADEIRYDD

Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer blwyddyn 2024/25 y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Huw Williams am enwebiadau ar gyfer penodi Is-Gadeirydd newydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer y flwyddyn 2024-2025.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Huw Williams y Cynghorydd Karen Edwards ac eiliodd y Cynghorydd Cheryl Williams.

 

Ni chafwyd rhagor o enwebiadau.

 

Cadarnhaodd yr holl aelodau a oedd yn bresennol eu cytundeb i benodi’r Cynghorydd Karen Edwards.

 

Diolchodd y Cynghorydd Edwards i bawb am bleidleisio iddi fod yn Is-Gadeirydd.

 

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Karen Edwards yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau am y flwyddyn 2024-2025.

 

4.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim materion brys.

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 472 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 9 Mai 2024 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ddydd Iau 9 Mai 2024.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 9 Mai 2024 fel cofnod cywir.

 

 

 

Ar y pwynt hwn, newidiwyd trefn yr Eitemau ar y Rhaglen.

 

6.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y DDARPARIAETH FEWNOL UN LLWYBR MYNEDIAD AT DAI (ULLMAD) pdf eicon PDF 224 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth a’r Rheolwr Tîm - Gwasanaethau Cefnogaeth yn y Gymuned (copi ynghlwm), er mwyn hysbysu’r Aelodau ynghylch y cynnydd hyd yma a pherfformiad y gwasanaeth brysbennu digartrefedd ac ULlMaD.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, ynghyd â Phennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion a Digartrefedd, y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a Phennaeth Tai a Chymunedau yn bresennol i gyflwyno’r adroddiad ar y wybodaeth ddiweddaraf am Ddarpariaeth Fewnol ULlMaD.

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau a rhoi cyfle i’r aelodau archwilio effeithlonrwydd y gofrestr ULlMaD yn dilyn ail-ddylunio darpariaeth y gwasanaeth yn 2023.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, Nigel Jones i’r Pwyllgor bod y gwasanaeth wedi dod yn ôl yn fewnol ym mis Ebrill 2023.  Roedd ULlMaD Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir y Fflint, tai cymdeithasol a thai cymunedol, ond Sir Ddinbych oedd yn gyfrifol am gadw’r gofrestr.

 

Roedd y newidiadau mewn systemau TGCh wedi oedi mynediad at ddata am gyfnod sylweddol i ddechrau. Nid oedd hyn dan reolaeth Cyngor Sir Ddinbych gan mai ymgynghorwyr meddalwedd oedd yn gweithio ar y broblem, ac yn y pen draw, cafodd ei ddatrys.

 

Roedd y gwasanaeth bellach yn rhedeg yn eithriadol o dda ac roeddem yn cyrraedd y targed o 28 diwrnod rhwng cais ac asesiad. Mae hyn wedi cymryd 3-4 mis yn y gorffennol.  

 

Prif fantais gweithio’n fewnol oedd gallu cynnal adolygiadau ar amser a chynnal y gofrestr a’i chadw’n gyfredol. Byddai pob achos yn cael ei adolygu bob chwe mis a chysylltir â’r preswylydd i weld os oedd newid wedi bod i’w hamgylchiadau.

 

Cafwyd mwy o ddatblygiadau, un oedd y gofrestr tai arbenigol. Eleni, daethpwyd o hyd i 9 eiddo arbenigol, gwelliant mawr o’r blynyddoedd blaenorol.

 

Bellach, roedd Un Llwybr Mynediad at Dai yn rhan o’r gwasanaeth digartrefedd ac roedd llawer o gydlyniad yn y gwasanaeth.

 

Cadarnhawyd bod y bartneriaeth â Landlordiaid Cymdeithasol a Landlordiaid Cymunedol wedi cael ei ddangos fel arfer gorau.

 

Roedd y broses newydd yn darparu taith well i’r cwsmer ac yn gallu dynodi digartrefedd yn gynt. O safbwynt y cwsmer, roedd yn broses fwy llyfn.

 

Dywedodd y Pennaeth Tai a Chymunedau, cyn sefydlu’r ULlMaD, roedd gan bob Cyngor restr tai, a bellach, gyda’r llwybr mynediad, y prif beth i Gyngor Sir Ddinbych oedd defnyddio dull o atal digartrefedd. 

 

Os bydd y ffrydiau ariannu yn parhau fel y maent ar hyn o bryd, byddai’r pwysau’n cael eu bodloni yn y dyfodol. 

 

Diolchodd yr aelodau i’r swyddogion am eu gwaith ar yr Un Llwybr Mynediad at Dai.

 

PENDERFYNWYD y gall y Pwyllgor Craffu Cymunedau fod yn dawel eu meddwl bod  y gwasanaeth Un Llwybr Mynediad at Dai yn perfformio’n dda ar ôl ail-ddylunio darpariaeth y gwasanaeth a’i fod yn bodloni’r disgwyliadau a amlinellwyd ar adeg y penderfyniad i gymryd y gwasanaeth yn ôl gan y cyn-ddarparwr wedi’i gomisiynu, Cyngor Sir y Fflint.

 

7.

CYNNAL A CHADW A RHEOLI COED pdf eicon PDF 227 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Arweiniol – Coed a Choetiroedd (copi ynghlwm), er mwyn sicrhau bod yr Aelodau’n deall sut y caiff coed CSDd eu rheoli ar hyn o bryd ar draws yr awdurdod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant ynghyd â’r Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad, y Swyddog Arweiniol - Coed a Choetiroedd, Rheolwr y Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth a Rheolwr yr Uned Waith a Gwasanaethau Stryd yn bresennol i gyflwyno’r adroddiad ar Gynnal a Chadw a Rheoli Coed.

 

Cyflwynodd yr Aelodau Arweiniol, y Cynghorydd Barry Mellor adroddiad i helpu’r Aelodau ddeall sut y mae coed CSDd yn cael eu rheoli ar draws yr awdurdod, o fewn cyd-destun pob maes gwasanaeth.

 

Fel perchennog tir, mae gan y Cyngor ddyletswydd gofal i sicrhau, cyn belled ag sy'n rhesymol ymarferol, bod yr holl goed ar ei dir yn cael eu cadw mewn cyflwr derbyniol ac nad ydynt yn achosi perygl afresymol i bobl nac eiddo.

 

Roedd y gwaith i ymateb i’r Clefyd Coed Ynn wedi bod yn flaenoriaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

 

Crëwyd tîm o Swyddogion Coed yn 2020 i ddelio â’r clefyd coed ynn. Bu’r tîm yn gweithio gyda phob adran oedd â choed yn eu portffolio e.e. cynllunio, gwasanaethau stryd a gwaith yn ymwneud â choed a warchodir, wrth weithio tuag at y polisi oedd ynghlwm â’r adroddiad.

 

Roedd arolygon coed wedi cael eu cynnal a gwnaed gwaith sylweddol yn y gobaith o achub cymaint o goed â phosibl.

 

Mae coed yn elfen allweddol yn y gwaith o gyflawni Sir Ddinbych sy’n Fwy Gwyrdd a Chyngor Di-garbon Net ac Ecolegol gadarnhaol erbyn 2030. Bydd yr asedau coed presennol yn cael eu rheoli a’u datblygu’n briodol i’n helpu i gyflawni’r nodau hyn.

 

Mae rheoli adnoddau wedi bod yn her erioed, ond gwnaed arbedion yn y gwasanaeth dros y blynyddoedd ac roeddent yn cael eu hadolygu’n gyson. Cadarnhawyd bod digon o adnoddau, yn enwedig i ymdrin â phroblem y clefyd coed ynn.

 

Holwyd am berchnogaeth coed ac os oedd hynny’n peri problemau. Ymatebodd y swyddogion bod y gwasanaeth Priffyrdd hefyd yn ymdrin â choed mewn ardaloedd trefol y tu allan i’r 30mya. Roedd swyddogion y Gwasanaethau Stryd yn cynnal archwiliadau diogelwch ar y priffyrdd. Dan y Ddeddf Priffyrdd, roedd gan y Cyngor ddyletswydd gofal i gynnal archwiliadau. Mae’r bartneriaeth rhwng y ddau wasanaeth yn gweithio’n hynod o dda.  

 

Fel rhan o’r prosiect Clefyd Coed Ynn, mae cynnydd wedi’i wneud i gysylltu â pherchnogion tir i roi gwybod iddynt am eu dyletswydd gofal i ymateb i broblemau.   Os oedd problemau oherwydd difrod yn dilyn storm neu goed ar y briffordd, yna byddem yn cysylltu â’r preswylwyr i ymdrin â’r perygl. Yn anffodus, roedd rhywfaint o ôl-groniad o waith gan fod y prif bwyslais wedi bod ar y Clefyd Coed Ynn. Felly, roedd y Strategaeth yn cael ei chroesawu gan fod angen cael ffordd benodol ymlaen.

 

Os oedd problemau â choed ar dir ysgolion, roedd cefnogaeth ar waith iddynt gan nad oedd ganddynt yr arbenigedd i ddelio â materion o’r fath. Roedd y gwasanaeth mewn cysylltiad ag Addysg ac Iechyd a Diogelwch.

 

Yn y gorffennol, y gyllideb oedd y broblem fwyaf, oedd yn caniatáu i swyddogion ganolbwyntio ar sail iechyd a diogelwch yn unig. Byddai’r Strategaeth yn gosod y ffordd ymlaen o ran sut mae’r gwasanaethau’n gweithio ac i ddefnyddio adnoddau’n well ac mewn ffordd fwy penodol.

 

Cadarnhaodd y swyddogion y byddent yn rhoi gwybod i aelodau lleol pan fyddai gwaith cynnal a chadw coed yn digwydd yn eu Wardiau. 

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, bod y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

8.

RHAGLEN CYNNAL A CHADW GRIDIAU A GYLÏAU PRIFFYRDD pdf eicon PDF 310 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Priffyrdd, Asedau a Risg Dros Dro (copi ynghlwm), er mwyn archwilio polisi’r Cyngor ar gyfer cynnal a chadw systemau draenio priffyrdd ledled y Sir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, ynghyd â’r Pennaeth Priffyrdd a’r Amgylchedd yn bresennol i gyflwyno adroddiad ar y rhaglen cynnal a chadw Gridiau a Gylïau Priffyrdd.

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol, Barry Mellor yr adroddiad i helpu’r Aelodau ddeall sut mae dyletswyddau statudol y Cyngor o dan y Ddeddf Priffyrdd a’r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr yn cael eu bodloni o ran rheoli dŵr wyneb drwy ein gwaith o gynnal a chadw’r rhwydwaith draenio priffyrdd a cheuffosydd perygl llifogydd hanfodol, er mwyn sicrhau bod y priffyrdd wedi’u draenio’n dda ac felly’n ddiogel a bod eiddo yn cael eu hamddiffyn yn ystod cyfnodau o stormydd.  

 

Dywedodd yr aelodau mai dail oedd yn cau’r gylïau’n bennaf. Eglurodd y Swyddog Arweiniol eu bod yn cael adroddiadau bod gylïau wedi cau yn aml, ond mai dim ond dail oedd yn achosi’r broblem dros dro - nid oedd yr adnoddau oedd eu hangen i glirio’r rhain yr un fath â gylïau wedi cau go iawn. Byddai adroddiadau cywir am y mater yn atal oedi wrth ymateb. Holwyd sut y gellid gwneud yn siŵr bod y wybodaeth gywir yn cael ei chasglu i sicrhau bod yr adnoddau cywir yn cael eu hanfon i’r ardal.   Hefyd, sut i godi ymwybyddiaeth mewn Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.

 

Ymatebodd y Pennaeth Priffyrdd a'r Amgylchedd mai capasiti’r draen oedd y broblem weithiau, os oedd glaw mawr sydyn, a byddai’r gyli’n clirio ei hun weithiau. Y ffordd ymlaen fyddai addysgu’r cyhoedd, Cynghorwyr a Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned gan y byddai hynny’n helpu i reoli adnoddau, a byddai hyn yn cael ei drafod yn y dyfodol.

 

Yn ystod y trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol –

(i)              Pa mor sylweddol oedd y dŵr oedd yn rhedeg o eiddo oedd wedi palmentu dros eu gerddi ac arwyneb hydraidd dreifiau? Hefyd, i ryw raddau, y gymuned amaethyddol ble roedd tir cywasgedig yn cyfrannu at broblemau llifogydd.

Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaeth nad oedd tystiolaeth bendant am hyn ond ei fod yn batrwm i rai perchnogion tai. Roedd trafodaethau ar y gweill gyda Dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru gan y cydnabyddir bod dŵr glaw ar gynnydd. Hefyd, roedd angen cysylltu gyda’r tîm Cynllunio ac adrannau eraill am drwyddedau ar gyfer datblygiadau newydd am y mater penodol hwn. Yn anffodus, roedd yn debygol o fod yn broblem barhaus os bydd y tueddiad presennol yn parhau.

(ii)             Dywedodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant wrth y Pwyllgor bod cyfarfodydd wedi cael eu cynnal gyda Dŵr Cymru am yr hen draeniau Fictoraidd yn y Rhyl gan mai dim ond hyn a hyn o ddŵr y gallant eu dal pan mae’n mynd i’r Llyn Morol ac yn cael i bwmpio i’r system storio yno.   Yn anffodus, nid oedd y tanc yn ddigon mawr i gymryd y dŵr i gyd os bydd yn bwrw’n drwm iawn. Pan fydd y tanc yn llawn, mae’n cael ei ollwng i’r môr, ond nid dim ond dŵr yw hyn, ond carthffosiaeth hefyd. Dywedwyd bod ar Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru angen dod at ei gilydd i weithio ar ateb i’r broblem hon.

(iii)           Eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth fod y gwaith yn cael ei wneud yn seiliedig ar risg ac y byddai’n dibynnu ar lefel y traffig ar ffordd benodol, ar y terfyn cyflymder a lefel y risg yn gysylltiedig â’r asesiad risg o ran pa mor gyflym y gallai’r tîm fynd i’r lleoliad ac ymdrin â’r mater. Os byddent yn cael adroddiad am broblem mewn ardal sy’n adnabyddus am ei llifogydd, ble roedd traffig trwm ac eiddo mewn perygl o lifogydd, byddai  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

Ar y pwynt hwn (11.30am), cafwyd egwyl o 5 munud.

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.35am.

 

9.

CYNLLUN YNNI ARDAL LEOL SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 221 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Newid Hinsawdd (copi ynghlwm) er mwyn darparu gwybodaeth i’r Aelodau ynghylch prif adroddiad y cynllun ac adroddiad technegol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant ynghyd â Phennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau, y Rheolwr Newid yn yr Hinsawdd a’r Rheolwr Mewnwelediad, Strategaeth a Chyflawni yn bresennol i gyflwyno’r adroddiad ar Gynllun Ynni Ardal Leol Sir Ddinbych.  

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad fel ffordd effeithiol i’r ardal leol gyfrannu at fodloni’r targed sero net cenedlaethol, yn ogystal â’i tharged sero net lleol.

 

Bydd Cynllun Ynni Ardal Leol Sir Ddinbych yn cyfrannu at thema Cynllun Corfforaethol 2022-2027 ‘Sir Ddinbych Wyrddach’, gan ddarparu’n benodol gyfraniad cadarnhaol i’r Strategaeth Hinsawdd a Natur (2021/22-2029/30) drwy leihau allyriadau ar draws Cyngor Sir Ddinbych. Mae hefyd yn cefnogi thema ‘Sir Ddinbych lewyrchus’, gyda’r cyfle i ysgogi twf economaidd a thyfu economi werdd Sir Ddinbych.

 

Cyflwynodd Jane Hodgson, Rheolwr Newid yn yr Hinsawdd gyflwyniad Powerpoint oedd yn amlinellu’r Cynllun. 

 

Yn ystod trafodaeth, amlygwyd mai’r brif ran oedd addysg a rhannu gwybodaeth.  Gofynnwyd i’r swyddogion beth allai Cyngor Sir Ddinbych ei wneud i hyrwyddo’r math yna o wybodaeth a ffyrdd y gallai pobl ddod o hyd iddo yn ogystal â deall y costau, gan fod canfyddiad y byddai’n ddrud.

 

Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaeth fod cam gweithredu yn yr adroddiad ar y Cynllun sy’n sôn am gynlluniau a bod cefnogaeth ar gael i fusnesau a phreswylwyr.   Cyngor Sir y Fflint sy’n cynnal y cynllun ar ran Cyngor Sir Ddinbych. Yn anffodus, roedd yn gyfyngedig o ran adnoddau, ond roedd gwybodaeth, addysg a chefnogaeth ar gael i fusnesau a rhai preswylwyr Cyngor Sir Ddinbych.  Roedd y Cam Gweithredu yn yr adroddiad LAEP ac adroddiadau LAEP y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru i Lywodraeth Cymru ac mae’n rhoi gwybodaeth y mae Cefnogwr yr Hinsawdd a’r cynllun gwaith Cyfathrebu y mae adran newid hinsawdd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu.

 

Roedd Cyngor Sir Ddinbych ac Awdurdodau Lleol eraill yn cael trafferth ymgysylltu â rhai busnesau preifat e.e. cwmnïau cludiant mawr a datblygwyr tai preifat. Gallent fod yn gweithio tuag at sero net carbon ond roedd angen i bawb gydweithio er mwyn bodloni cyflymdra’r newid yn y Cynllun.

 

Yna dywedodd y Cadeirydd, fel perchennog busnes bach ei hun, ei bod yn anodd gan fod cymhellion treth wedi cael eu dileu, roedd prisiau ynni yn codi ac roedd cost prynu cerbydau trydan yn ddrud iawn. Awgrymodd y dylid rhoi’r wybodaeth i Lywodraeth Cymru.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth y byddai’n trosglwyddo hynny i Lywodraeth Cymru.

 

Roedd y Prif Weithredwr, Graham Boase ar Banel Strategaeth Hinsawdd Cymru Gyfan ac roedd fforwm y gellir cyflwyno’r pwynt a godwyd gan y Cadeirydd iddo.

 

Ar y pwynt hwn, dywedodd y Rheolwr Mewnwelediad, Strategaeth a Chyflawni wrth y Pwyllgor y bydd cyfleoedd yn codi’n fuan i fusnesau a chymunedau weithio gydag un o brosiectau’r fargen dwf o’r enw Ynni Lleol Clyfar. Byddai pecynnau a ariennir ar gael i fusnesau a chymunedau dros 18 mis i wneud rhai o’r astudiaethau dichonoldeb i edrych ar sut i gyflwyno rhai o’r prosiectau a amlinellwyd yn yr adroddiad.   Cadarnhaodd y byddai’n gweithio gyda’r tîm i edrych ar y ffordd orau o fanteisio ar hynny i Sir Ddinbych o fewn rhaglen waith ehangach Uchelgais Gogledd Cymru.

 

Holwyd y swyddogion os oeddent wedi ystyried defnyddio hydrogen gwyrdd o fewn cwmpas yr adroddiad yn hytrach na hydrogen glas neu lwyd. Ni fyddai hydrogen glas a llwyd yn cyfrannu at y targed sero net. Roedd y datganiad yn yr adroddiad yn cyfeirio at hydrogen ac nid pa hydrogen yn benodol.

 

Cadarnhawyd nad oedd y Cynllun yn nodi pa hydrogen.  

 

Bydd y Cynllun Ynni Ardal Leol yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar 24 Medi 2024 i’w gymeradwyo ac i  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 240 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglan gwaith i’r dyfodol y pwllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Arweiniodd y Cydlynydd Craffu yr Aelodau drwy Raglen Waith y Pwyllgor Craffu Cymunedau. 

 

Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 24 Hydref 2024.

 

Cynhelir cyfarfodydd nesaf y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu ar 16 Medi 2024 a 25 Tachwedd 2024.

 

PENDERFYNWYD cytuno ar Raglen Waith y Pwyllgor Craffu Cymunedau

11.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd adborth i'w dderbyn.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.07 p.m.