Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Council Chamber, County Hall, Ruthin and by video conference

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Merfyn Parry gysylltiad personol yn eitem 5 ar y rhaglen - y Broses Gynnal a Chadw Tai Gwag oherwydd bod ei fab yn gweithio i’r Adran Tai yng Nghyngor Sir Ddinbych.

 

Datganodd y Cynghorydd Cheryl Williams gysylltiad personol yn eitem 5 ar y rhaglen - y Broses Gynnal a Chadw Tai Gwag oherwydd ei bod yn denant tai cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 319 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Archwilio Cymunedau Arbennig a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2024 (copi ynghlwm) a’r Pwyllgor Archwilio Cymunedau a a gynhaliwyd ar 01 Chwefror 2024 (copi ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2024.

 

Materion yn codi – Gofynnodd y Cynghorydd Brian Jones os oedd Prosiect Adfywio’r Rhyl yn cael ei gynnwys ar y Rhaglen Waith fel y codwyd yn y cyfarfod blaenorol. Ymdrinnir â’r cwestiwn dan yr eitem Rhaglen Waith.

 

Tynnodd y Cynghorydd Jon Harland sylw at gamgymeriad teipio ar dudalen 6 y Cofnodion dan yr eitem Cynnig Toiledau Cyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD: yn amodol ar y sylwadau uchod, y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2024 fel cofnod cywir o’r cyfarfod

 

5.

Y BROSES GYNNAL A CHADW TAI GWAG pdf eicon PDF 252 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Arweiniol Eiddo Tai (copi ynghlwm) ynglŷn â’r broses gynnal a chadw tai gwag, ar y cyd â’r heriau cynyddol o ran y gyllideb, gyda phwyslais penodol ar amseroedd ail-osod tai gwag.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, ynghyd â Mark Cassidy, Swyddog Arweiniol Eiddo Tai a Liz Grieve, Pennaeth y Gwasanaeth Tai a Chymunedau hefyd yn bresennol i gyflwyno’r adroddiad ar y Broses Gynnal a Chadw Tai Gwag.

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad gan egluro bod dau argymhelliad, un bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn herio ac yn rhannu ei safbwyntiau ar yr adroddiad hwn a’r broses tai gwag. Eglurodd, pan fydd tenant yn gadael eiddo, bydd yn cael ei ddosbarthu fel eiddo gwag, weithiau mae angen gwneud llawer o waith i’r eiddo cyn y gellir ei ail rentu. 

 

Eglurodd y Cynghorydd Rhys Thomas ei bod yn hanfodol bod y broses o reoli tai gwag yn effeithlon ac effeithiol er mwyn lleihau’r amser mae’r tŷ yn wag rhwng tenantiaid, ac fel y gall tenantiaid posibl gael y tai cyn gynted â phosibl. Y nod oedd gwneud y mwyaf o’r incwm rhent drwy leihau’r colledion rhent (drwy wneud y cyfnodau gwag mor fyr â phosibl drwy eu rheoli’n dda) a sicrhau bod y gwaith ar dai gwag o safon uchel, wrth leihau costau pan fo’n bosibl.  

 

Dywedodd Liz Grieve, Pennaeth y Gwasanaeth Tai a Chymunedau fod y Fframwaith Tai Gwag wedi’i gyflwyno i’r Cabinet yn gynharach eleni, gan egluro sut oedd yr adran yn contractio gwaith allan ar eiddo gwag. Bwriad yr adroddiad heddiw oedd mynd dros y broses a’r dadleuon am dai gwag, gan grynhoi:

 

·       Chwilio am ffyrdd eraill o weithio gyda’r tenant cyn iddynt adael fel bod angen gwneud llai o waith wedi iddynt adael.

·       Gwneud gwaith cynnal a chadw cyn gynted ag y bydd yr eiddo’n wag. 

·       Roedd galw mawr am rai tai, unwaith roeddent yn wag, o’i gymharu ag eraill, felly roedd angen gadael rhai tai am y tro er mwyn canolbwyntio ar y gwaith ar y tai yr oedd galw mawr amdanynt. 

·       Roedd angen gwario mwy o arian ar rai tai i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon. Pe gallai’r Gwasanaethau uwchraddio tri eiddo am yr un gost ag un drytach, byddent yn gadael yr un drytach am y tro. 

Roedd gan y Cynghorwyr bryderon nad oedd ail ffynhonnell gwresogi a gofynnwyd pa ddarpariaeth oedd ar waith mewn argyfwng eithafol, yn ystod gaeaf garw? Dywedodd Mark Cassidy, Swyddog Arweiniol Eiddo Tai:

 

·       Dan reoliadau adeiladu, nid oedd yn orfodol darparu ail ffynhonnell gwresogi. 

·       Roedd deunydd yr adeilad yn cael ei wirio yn erbyn system wresogi ffynhonnell aer.

·       Darparwyd ar gyfer cynlluniau gwresogi cymunedol mewn argyfwng, roeddent yn amrywio yn dibynnu ar y math o eiddo, tenant ac ardal. Gallai’r Gwasanaeth ddarparu adroddiad i’w gyflwyno i’r pwyllgor craffu yn y dyfodol. 

·       Byddai problemau’n ymwneud â thywydd eithafol a cholli pŵer yn effeithio ar y sir gyfan - nid dim ond tenantiaid yr Awdurdod. 

Roedd gan y Cynghorwyr bryderon am eiddo gwag hirdymor a faint mae’n ei gostio i’r Cyngor, yn cynnwys y trethi sy’n daladwy ar eiddo gwag a’r amser mae’n ei gymryd i restru eiddo i’w gwaredu ar y farchnad. Dywedodd y swyddogion:

 

·       Yn y dyfodol, byddai’r tîm yn rhoi gwybod i’r Aelod Ward am eiddo oedd wedi’u gadael am y tro.

·       Roedd treth y Cyngor ar eiddo gwag yn cael ei dalu o’r Cyfrif Refeniw Tai.

·       Byddai adroddiad yn cael ei ddarparu ar faint o dreth y Cyngor oedd yn cael ei dalu ar eiddo gwag a faint o dai oedd wedi bod yn wag am dros flwyddyn. 

·       Roedd y swyddogion yn rhannu’r rhwystredigaeth am ba mor hir roedd hi’n ei gymryd i roi eiddo ar y farchnad - eglurwyd mai problem  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 240 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Arweiniodd y Cydlynydd Craffu yr Aelodau drwy Raglen Waith y Pwyllgor Craffu Cymunedau.

 

Gan gyfeirio at ymholiad y Cynghorydd Brian Jones am yr eitem am Fwrdd Rhaglen Adfywio a Llywodraethu’r Rhyl yn gynharach, cydnabu y dylai fod wedi bod ar raglen mis Hydref y Pwyllgor ac y byddai’n ei diweddaru’n unol â hynny.

 

Roedd y Cynnig Toiledau Cyhoeddus a drafodwyd yn y cyfarfod diwethaf wedi cael ei ychwanegu at raglen mis Medi’r Pwyllgor cyn iddo fynd gerbron y Cabinet ar gyfer penderfynu arno. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor am adroddiad gwybodaeth cyn cyfarfod mis Medi i drafod pa ymgynghoriadau a gynhaliwyd ar y cynigion a’r amserlen ar gyfer ymateb ynghyd â’r adborth a gafwyd. Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd (TW) i ddarparu’r adroddiad gwybodaeth. 

 

Gan nodi’r eitem am Gynnal a Chadw a Rheoli Coed ar raglen cyfarfod mis Medi, gofynnodd y Pwyllgor a ellid cynnwys gwybodaeth am goed a ystyrir yn beryglus ond nad ydynt ar eiddo Sir Ddinbych.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar gynnwys yr eitemau a ganlyn ar raglen y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn y dyfodol:

 

      I.         Bwrdd Rhaglen Adfywio a Llywodraethu’r Rhyl,

    II.         Cadw Tenantiaid yn Ddiogel a Chynnes a

   III.         Y broses o waredu cyn dai’r Cyngor,

cymeradwyo Rhaglen Waith y Pwyllgor Craffu Cymunedau.

 

7.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid chafwyd adborth.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.10am.