Agenda and draft minutes
Lleoliad: COUNCIL CHAMBER, COUNTY HALL, RUTHIN AND BY VIDEO CONFERENCE
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Aelod Arweiniol Datblygu Lleol
a Chynllunio, y Councillor Win Mullen-James wedi anfon ei ymddiheuriadau ar
gyfer eitem 5 - Strategaeth Arwyddion Twristiaeth Drafft ar gyfer Sir Ddinbych. Cyfarwyddwr Corfforaethol -
Economi a’r Amgylchedd, Tony Ward wedi ymddiheuro. Gary Williams, Cyfarwyddwr
Corfforaethol - Llywodraethu a Busnes yn bresennol i’w gynrychioli. Pwysleisiodd y Cadeirydd
bwysigrwydd y cyfraniad gwerthfawr roedd Aelodau Arweiniol yn ei gynnig i drafodaethau
craffu a bu iddo erfyn ar Aelodau Arweiniol i fod yn bresennol os ydynt yn
gallu. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiad personol sy’n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion
brys gyda’r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2023 (copi yn amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2023. Penderfynwyd: y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 09 Mawrth 2023 fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau. |
|
STRATEGAETH ARWYDDION I DWRISTIAID SIR DDINBYCH DRAFFT PDF 237 KB I ystyried adroddiad gan Mike Jones, Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch y Ffyrdd (copi yn amgaeedig) ar y Strategaeth Arwyddion i Dwristiaid drafft - yn cynnwys ffynonellau ariannu posibl a’r amserlen ddisgwyliedig ar gyfer cyflawni’r Strategaeth. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Rheolwr Traffig,
Parcio a Diogelwch Ffordd wybod i’r Pwyllgor yn anffodus nad oedd yr Aelod
Arweiniol yn gallu mynychu i gyflwyno’r adroddiad gan nad oedd y Swyddogion
wedi darparu digon o amser i’r Aelod wneud trefniadau i fynychu. Cafodd yr Aelodau eu harwain drwy’r adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn rhoi diweddariad ar y Cynllun Drafft
Arwyddion Twristiaeth a gyfeiriwyd yn flaenorol fel y Strategaeth Arwyddion
Twristiaeth. Roedd yn gam gweithredu o fewn y Strategaeth Twristiaeth y Cyngor
a gyflwynwyd yn flaenorol i’r Pwyllgor Craffu ym mis Mawrth 2020. Pwrpas
y papur oedd darparu diweddariad i aelodau ar brosiectau a gwblhawyd hyd yma,
gan gynnwys cynllun arwyddion brown Dyffryn Clwyd. Roedd hefyd yn cynnig rhestr
syml o brosiectau arwyddion brown a oedd yn cynnwys: ·
arwyddion twristiaeth
allweddol ar yr A55 yn rhestru atyniadau lleol, ·
arwydd newydd yn lle
arwydd y Rhyl presennol ar y ffordd tua gorllewin cyn cyffordd 27, ·
arwydd newydd ar gyfer y
Rhyl wedi’i leoli ar ffordd y dwyrain ar gyffordd 23a a ·
arwyddion brown ar gyfer
Prestatyn ar ffordd y dwyrain yr A55 a fydd yn adlewyrchu’r arwyddion sydd mewn
lle ar hyn o bryd ar yr ochr orllewinol. Dywedwyd
wrth yr Aelodau bod y strategaeth yn bwriadu datblygu arwyddion brown ar gyfer
Llangollen ac adolygu’r arwyddion presennol ar y ffyrdd i mewn i’r ardal,
ynghyd ag adolygu’r arwyddion cefnffordd bresennol yn Rhuthun a Chorwen. Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog am ei gyflwyniad manwl
o’r adroddiad. Cododd bryder bod elfennau o’r adroddiad i weld yn wag. Yn ystod
y drafodaeth, trafodwyd y pwyntiau canlynol yn fwy manwl: ·
Pwysleisiodd Swyddogion
bod y sylw mewn perthynas â lloerenni llywio a defnydd o ddyfeisiau yn cydnabod
y defnydd cynyddol o ddyfeisiau gan unigolion i lywio i ardaloedd o ddiddordeb.
Pwysleisiodd aelodau nad oedd pob unigolyn yn defnyddio technoleg ac yn aml
iawn yn dibynnu ar arwyddion brown i lywio i ardal. ·
Roedd cefnffyrdd yn cael eu
rheoli gan Lywodraeth Cymru. Maent gyda pholisi mewn perthynas ag arwyddion
brown, sydd yn datgan y gallai unrhyw atyniad twristiaeth wedi’i gyfeirio o
gefnffyrdd ond cael eu cyfeirio o’r gefnffordd agosaf. Gan edrych ar Ruthun, y
gefnffordd agosaf oedd yr A494. Felly ni fyddai arwyddion brown sy’n berthnasol
i atyniadau Rhuthun yn gallu cael ei roi ar hyd yr A55. Roedd amod ar wahân yn
nodi gallwch ond cyfeirio at atyniad o fewn radiws 10 milltir o gefnffordd. ·
Roedd Grŵp Tasg a Gorffen
blaenorol wedi’i sefydlu i adolygu syniad y strategaeth arwyddion gwreiddiol a
oedd yn edrych ar deithiau arwyddion twristiaeth a fyddai’n ategu Ffordd y
Gogledd. Mae nifer o ffactorau wedi arwain at rai prosiectau yn peidio â
datblygu mor gyflym a gobeithiwyd. ·
Nid yw llwybr wedi’i gynnwys
yn y strategaeth ddiwygiedig. Cafodd yr Aelodau wybod bod gwaith a wnaethpwyd
ar lwybrau yn flaenorol wedi cynyddu ymwybyddiaeth o’r llwybrau yn yr ardal.
Cyhoeddwyd taflenni yn hyrwyddo ardaloedd o ddiddordeb drwy Ffordd y Gogledd a
Darganfod Sir Ddinbych ar Lwybrau. Atgoffwyd Aelodau bod llawer iawn o
wybodaeth ar gael ar-lein ar gyfer preswylwyr. ·
Byddai adnewyddu arwydd
y Rhyl yn galluogi swyddogion i gynnwys ychydig o atyniadau newydd i ymwelwyr
ar hyd yr arfordir. ·
Presenoldeb gwell ar
gyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo atyniadau yn cyd-fynd gyda’r defnydd o
arwyddion brown. ·
Adolygiad o’r bylchau
mewn adnoddau yn cael ei wneud. Roedd recriwtio yn heriol. Roedd y swyddogion
yn trafod pwysau ar y tîm a’r adnoddau sydd ei angen yn yr ardal wasanaeth. ·
Roedd yr arwyddion
arfaethedig ar gyfer arwyddion Dwyrain a Gorllewin ar hyd yr A55 wedi bwriadu i
annog twristiaid sy’n teithio i’r ddau gyfeiriad i ddod i’r ardal. · Byddai’r ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
GWEITHGOR RISG O LIFOGYDD PDF 293 KB I dderbyn diweddariad ar ganlyniad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rheoli Risg o Lifogydd ac ystyried adroddiad (copi yn amgaeedig) gan Andy Clark, Pennaeth Dros Dro Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Tim Towers, Rheolwr Risg ac Asedau ynglŷn â’r camau nesaf arfaethedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Barry Mellor, Aelod Arweiniol Cludiant a’r Amgylchedd ynghyd â
Phennaeth Dros Dro Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol yr adroddiad
(dosbarthwyd ymlaen llaw) Mae’r adroddiad yn sôn am ofyniad Cyngor Sir Ddinbych
i lunio Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd newydd erbyn 2024. Rhoddodd yr
adroddiad y newyddion diweddaraf i’r Pwyllgor am waith sydd wedi cael ei gynnal
ers i’r adroddiad diwethaf gan weithgor aml asiantaethau a pherchnogion
glannau'r afon gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar 10 Mawrth 2022. Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol bod yr adroddiad yn gofyn
am gefnogaeth y Pwyllgor i ailsefydlu Gweithgor Cyngor Sir Ddinbych i
oruchwylio’r datblygiad o Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd newydd. Hefyd, dywedodd y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau
Priffyrdd ac Amgylcheddol bod y cynnig ar gyfer un sylw o bob Grŵp Ardal
yr Aelodau ynghyd â Swyddogion Priffyrdd, Amgylchedd a Chynllunio a
Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd i ffurfio Gweithgor. Cynigiwyd i enwebu Cadeirydd
yn y cyfarfod cyntaf, a fyddai’n well bod yn gynrychiolydd Aelod Etholedig.
Pwysleisiwyd bod ffocws y grŵp i ddatblygu strategaeth y Cyngor ar y cyd
gyda phartneriaid perthnasol. Byddai’r strategaeth hefyd yn hysbysu’r Asesiad
Strategol o Ganlyniadau Llifogydd yr Awdurdod a gafodd ei adolygu’n flaenorol
ym mis Tachwedd 2022. Roedd yr Asesiad angen ei ddiweddaru i adlewyrchu’r
newidiadau i Nodyn Cyngor Technegol 15 Llywodraeth Cymru. Cafodd yr Aelodau wybod bod adolygiad o’r strategaeth
risg llifogydd wedi cael ei gomisiynu. Roedd ymgynghorwyr allanol wedi eu
ceisio i gynorthwyo, yn rhannol oherwydd problemau recriwtio a chadw. Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Arweiniol a Phennaeth
Dros Dro Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol am y cyflwyniad manwl i’r adroddiad.
Cadarnhawyd y byddai’n benderfyniad ar bob un Grŵp
Ardal yr Aelodau yn unigol i benodi cynrychiolydd i fynychu cyfarfodydd
Gweithgor. Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, fe wnaeth y Cadeirydd,
yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion gynghori:
·
Eu bod yn ymwybodol o
gamau gweithredu heb eu cwblhau o’r grŵp blaenorol, byddai’r camau
gweithredu hyn yn cael eu cynnwys yn y ffocws cychwynnol y grŵp newydd. ·
Roedd cyfathrebu gyda
rhanddeiliaid yn digwydd ar hyn o bryd i sicrhau bod y strategaeth yn cyd-fynd
gyda gwaith y rhanddeiliaid. ·
Pwysleisiodd yr
Aelodau’r pwysigrwydd bod cyfathrebu rhwng rhanddeiliaid yr awdurdod a’r
grŵp yn hanfodol. ·
Roedd y gweithgor
blaenorol wedi cyflawni gwell sgyrsiau a dealltwriaeth o faterion drwy gyfarfodydd
gan gynnwys amryw o randdeiliaid, megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru
ac Undebau Ffermio. Roedd sefydlu gweithgor newydd yn adeiladu ar seilwaith a
wnaethpwyd yn flaenorol. Gofynnodd Aelodau bod pob rhanddeiliaid yn gofyn i gael
bod yn rhan yn y grŵp i gael eu hysbysu o’r grŵp ac yn cael eu hannog
i fynychu’r cyfarfodydd. PENDERFYNODD Y PWYLLGOR yn amodol ar y sylwadau
uchod, I.
cefnogi’r cynnig i ailffurfio Gweithgor Sir
Ddinbych i oruchwylio datblygiad Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd newydd. II. ceisio cynrychiolydd o bob un o Grwpiau Ardal yr Aelodau
i fod yn rhan o’r Gweithgor; a III. hysbysu’r holl fudd-ddeiliaid o’r Gweithgor, eu gwahodd i
gymryd rhan a rhoi digon o rybudd ynglŷn â dyddiadau cyfarfodydd fel bod
cynifer o bobl â phosib yn dod. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 237 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Arweiniodd
y Cydlynydd Craffu'r Aelodau trwy’r adroddiad Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol Craffu
(a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd y cyfarfod nesaf wedi’i drefnu ar gyfer 29 Mehefin 2023, roedd
tair eitem ar y rhaglen wedi’i gynnig. Roedd rhagor o wybodaeth wedi’i geisio o
ran y ffioedd maes parcio Llangollen cyn y cyfarfod. Roedd Aelodau wedi clywed
bod diwygiad bach i’r Strategaeth Wastraff, pwrpas y Strategaeth Wastraff ar
gyfer y cyfarfod nesaf oedd cynllun cyfathrebu ynghylch cynnyrch hylendid
amsugnol a newidiadau Gwasanaeth Gwastraff i aelwydydd ansafonol. Roedd yr holl Aelodau yn hapus gyda’r newid. Gofynnodd y Cynghorydd Brian Jones
os allai Aelodau wneud cais am wybodaeth ar effeithiau ariannol i gael ei
gynnwys gyda’r adroddiad gwastraff, gan nad oedd yn gysylltiedig â’r
Strategaeth Gyfathrebu sy’n cael ei chyflwyno. Awgrymodd y Cydlynydd Craffu bod
aelodau yn gwneud cais am adroddiad ar wahân ar yr agweddau ariannol o’r
Strategaeth. Awgrymodd y Cadeirydd y gallai fod yn gylch gwaith y Pwyllgor
Craffu Perfformiad i drafod yr agwedd honno o’r Strategaeth. Roedd Atodiad 2 yn cynnwys copi
o'r ffurflen gynnig gan Aelodau, roedd y Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu
i fod i gyfarfod eto ar 25 Gorffennaf 2023. Anogwyd yr Aelodau i lenwi’r
ffurflen gydag unrhyw eitemau yr oeddynt yn credu y dylid eu hystyried. Roedd Atodiad 3 o’r adroddiad yn
rhaglen waith y Cabinet petai’r Pwyllgor eisiau craffu unrhyw faterion sydd ar
ddod. Atodiad 4 – hysbyswyd yr aelodau o'r argymhellion a wnaed
yn y cyfarfod Craffu blaenorol a’r cynnydd a wnaethpwyd i’w gweithredu. Roedd Atodiad 5 i'r adroddiad yn
gais am ddatganiad o ddiddordeb ar gyfer sylwadau’r pwyllgor ar y grwpiau Her
Gwasanaeth. Ynghlwm roedd rhestr o'r datganiadau a ddaeth i law hyd yma. Roedd
tri grŵp Gwasanaeth oedd angen sylwadau gan Aelodau Craffu Cymunedol, y
rheiny oedd: ·
Tai a Chymunedau ·
Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol
Perfformiad, Digidol ac Asedau ·
Gwasanaethau Cymorth
Corfforaethol: Pobl Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau am
unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. Eglurwyd y byddai pob Grŵp Gwasanaeth yn
cynnal cyfarfod ar-lein yn flynyddol. I ddilyn: ·
Enwebodd y Cynghorydd Cheryl
Williams ei hun i fynychu’r Grŵp Her Gwasanaeth Tai a Chymunedau. ·
Enwebodd y Cynghorydd Brian Jones
ei hun i fynychu’r Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac
Asedau a ·
rhoddodd y Cynghorydd Karen
Edwards ei henw ymlaen i fynychu Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Digidol ar
ran y Pwyllgor. Diolchodd y Cadeirydd i’r holl
aelodau am gynrychioli’r Pwyllgor ar y Grwpiau Her Gwasanaeth. Pwysleisiodd yr
aelodau os nad oeddent yn gallu mynychu cyfarfod i gysylltu ag ef a byddai’n
ceisio ei orau i fynychu. Penderfynwyd: (i)
yn amodol ar gynnwys yr
adroddiadau y gofynnwyd amdanynt yn ystod y cyfarfod ynghyd â’r ychwanegiadau
a’r diwygiadau a amlinellwyd uchod, cadarnhau Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y
Pwyllgor fel y nodir yn Atodiad 1; (ii)
penodi’r aelodau a enwir
isod i wasanaethu fel cynrychiolwyr y Pwyllgor ar y Grwpiau Her Gwasanaeth
canlynol: ·
Tai a Chymunedau - Y Cynghorydd
Cheryl Williams ·
Gwasanaethau Cymorth
Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac
Asedau - y Cynghorydd Brian Jones ·
Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl - Y Cynghorydd Karen Edwards |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. Dywedodd y Cynghorydd James
Elson y byddai’n rhoi adborth ar y Grŵp Craffu Cyfalaf newydd yng
nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. Diolchodd y Cadeirydd i’r
Swyddogion, Aelodau Arweiniol ac Aelodau am fynychu’r cyfarfod. Diolchwyd hefyd i’r Cydlynydd Craffu am ei
chefnogaeth yn ystod a chyn y cyfarfod. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.20am. Dogfennau ychwanegol: |