Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am
absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Brian Blakeley a Merfyn Parry. Cafwyd hefyd
ymddiheuriadau gan Tony Ward (Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a'r
Economi), a oedd wedi ysgwyddo rôl cefnogaeth gorfforaethol i'r Pwyllgor yn
ddiweddar; Roedd Andy Clark, Pennaeth Dros Dro Priffyrdd a Gwasanaethau
Amgylcheddol, yn bresennol ar ei ran. |
|
DATGAN CYSYLLTIADAU PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n peri rhagfarn mewn
unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Martyn
Hogg gysylltiad personol yn eitem busnes rhif 5, ‘Cynlluniau Arfaethedig
Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl a Chanol Prestatyn’ ar y sail ei fod yn adnabod
perchennog Canolfan Barcudfyrddio PKS sydd wedi’i
lleoli ar lan môr y Rhyl a’i fod yn barcudfyrddio yn
y lleoliad. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw faterion brys
wedi eu codi gyda’r Cadeirydd cyn y cyfarfod. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2022 (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar
30 Mehefin 2022. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2022 fel cofnod cywir o’r trafodion. Ni chodwyd unrhyw fater mewn
perthynas â chynnwys y cofnodion. |
|
CYNLLUNIAU ARFAETHEDIG AMDDIFFYN YR ARFORDIR YNG NGHANOL Y RHYL A CHANOL PRESTATYN PDF 382 KB Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) gan Reolwr Perygl Llifogydd y Cyngor ar werth a
manteision buddsoddi yn y ddau gynllun ar gyfer y cymunedau dan sylw a’r sir yn
gyffredinol a cheisio cefnogaeth yr aelodau i barhau â’u cymeradwyaeth drwy
brosesau penderfynu’r Cyngor. 10.10am – 11am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr
Amgylchedd a Chludiant, y Cynghorydd Barry Mellor, yr adroddiad (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw) ar Gynlluniau Arfaethedig Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl a Chanol
Prestatyn ochr yn ochr â Phennaeth Dros Dro Priffyrdd a Gwasanaethau
Amgylcheddol a'r Rheolwr Perygl Llifogydd. Roedd yr adroddiad yn manylu
ar ddau gynllun rheoli perygl llifogydd arfordirol posibl ar gyfer Canol y Rhyl
a Chanol Prestatyn. Nod yr adroddiad oedd rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar
ddatblygiad y cynlluniau a’r camau nesaf dan sylw, er mwyn caniatáu i’r
Pwyllgor graffu ar y ddau gynllun cyn iddynt gael eu cyflwyno i’r Grŵp
Buddsoddi Strategol, y Cabinet a’r Cyngor (lle ceisir penderfyniad i gyflawni'r
cynlluniau). Mae Achos Busnes Llawn ar gyfer y ddau gynllun yn cael ei
ddatblygu a chaiff ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru (LlC)
erbyn diwedd mis Medi 2022. Fodd bynnag, roedd Achosion Busnes drafft ynghlwm
fel Atodiadau 5 a 6 i roi rhagor o fanylion am y rhesymeg dros symud y ddau
gynllun ymlaen i'r cam adeiladu. Roedd y ddau atodiad hyn wedi'u heithrio rhag
cael eu datgelu i'r cyhoedd. Trafododd Aelodau’r Pwyllgor y
materion canlynol: ·
Fe wnaeth y Cynghorydd
Martyn Hogg ddiolch i'r swyddogion oedd yn ymwneud â'r
cynlluniau gan ei fod wedi anfon e-bost atynt cyn y cyfarfod yn gofyn am
wybodaeth ychwanegol, a oedd wedi'i darparu. Fodd bynnag, gofynnodd am ragor o
wybodaeth ynghylch erydiad y graig a'r gwrthbwyso carbon gyda'r datblygiad.
Roedd y Cynghorydd Hogg eisiau sicrhau na fyddai erydiad y graig yn achosi i
draethau tywodlyd yr ardal ddiflannu; holodd hefyd pa effaith y byddai'r
datblygiad yn ei chael ar allyriadau carbon. Rhoddodd y swyddog a ymatebodd
sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai erydiad y graig yn cael ei fonitro i sicrhau y
byddai’r tywod yn aros ar y traethau ac y byddai effaith carbon y safle’n cael
ei wrthbwyso gan y budd i’r cymunedau o adeiladu’r amddiffynfeydd i leihau’r
perygl o lifogydd o’r môr. ·
Cadarnhaodd swyddogion
i’r Pwyllgor y byddai’n rhaid cau rhai cabanau i wneud lle i adeiladu’r
amddiffynfeydd rhag llifogydd, er y byddai cyfleoedd ar gael iddynt ailsefydlu
eu busnesau unwaith y byddai’r gwaith adeiladu wedi’i gwblhau. Ni fyddai angen
i’r pentref plant symud. Roedd cyfathrebu parhaus gyda'r holl bartïon yr
effeithiwyd arnynt mewn ymgais i leihau effaith yr aflonyddwch ar bawb dan
sylw. ·
Codwyd Clwb Golff y Rhyl
ac a fyddai cynllun Amddiffyn Arfordir Prestatyn yn effeithio ar y clwb. Cadarnhawyd
y byddai'n ofynnol i'r Clwb Golff gau dros dro yn ogystal â'r
llwybr beicio wrth ei ochr am gyfnod byr. Roedd gan y Cyngor, perchennog y tir
lle'r oedd y Clwb, berthynas waith da gyda'r Clwb Golff. Roedd trefniadau
wedi'u hwyluso gyda chlybiau golff lleol eraill i ganiatáu i aelodau Clwb Golff
y Rhyl chwarae ar gyrsiau eraill yn ystod y cyfnod cau. Ar ôl ystyried y wybodaeth a
ddarparwyd yn yr adroddiad a’i atodiadau, ynghyd â’r
atebion a ddarparwyd yn ystod y drafodaeth i gwestiynau’r aelodau: PENDERFYNWYD: (i) cydnabod y gwerth a'r manteision sydd i'w cael o
fuddsoddi yn y ddau gynllun i gymunedau’r Rhyl a Phrestatyn
ac i'r sir yn gyffredinol; (ii) argymell bod y ddau gynllun yn cael eu cyflwyno i'r
Grŵp Buddsoddi Strategol, y Cabinet a'r Cyngor yn olynol i'w cymeradwyo
(yn unol â'r amserlen yn Atodiad 4 yr adroddiad); (iii) cadarnhau ei fod, fel rhan o’i ystyriaeth, wedi darllen,
deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les ar gyfer y ddau gynllun
(Atodiadau 3a a 3b i’r adroddiad); a (iv) cefnogi cynnydd y ddau gynllun i adeiladu, yn
ddarostyngedig i gymeradwyaeth cyllid. |
|
PROSIECT DOLYDD BLODAU GWYLLT PDF 224 KB Ystyried
adroddiad gan Swyddog Ecoleg y Cyngor (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor
arfarnu effeithiolrwydd y mesurau a gymerwyd i ymgysylltu’n well a chynyddu
cyhoeddusrwydd ynghlwm â’r prosiect. 11am – 11.45am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol
Amgylchedd a Chludiant, y Cynghorydd Barry Mellor adroddiad sy’n rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf ar y Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt (a ddosbarthwyd ymlaen
llaw) ochr yn ochr â Phennaeth Dros Dro Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a
Swyddog Ecoleg y Cyngor. Mae’r Prosiect Blodau Gwyllt
yn brosiect cydweithredol rhwng y Tîm Bioamrywiaeth, Gwasanaethau Stryd ac
adrannau eraill y Cyngor, sy’n anelu i greu dolydd lleol trefol a lled-drefol
drwy drefn ‘torri a chasglu’ llai. Ystyriwyd y prosiect hwn yn hanfodol i
derfynu a gwrthdroi colled bioamrywiaeth ac i fynd i’r afael ag Argyfwng
Hinsawdd ac Ecolegol. Nod yr adroddiad oedd darparu
gwybodaeth am effeithiolrwydd y camau a gymerwyd i wella ymgysylltu a rhoi mwy
o gyhoeddusrwydd i holl fudd-ddeiliaid y Prosiect Blodau Gwyllt. Fe wnaeth y Cadeirydd ddiolch
i'r swyddogion am fod yn bresennol, gan fod y mater wedi'i drafod o’r blaen yn
y Pwyllgor Craffu Cymunedau, a bod y materion a godwyd bryd hynny wedi cael
sylw ac wedi gwella'n sylweddol. Amlygodd y Swyddog Ecoleg y
prif bwyntiau a godwyd yn flaenorol, gan gynnwys yr angen i wella cyfathrebu ac
ymgynghori. Eglurodd ei fod ef a swyddogion eraill wedi cyfathrebu ag aelodau
etholedig ar bob lefel a bod y wefan wedi'i diweddaru. Yn ogystal, roedd
gohebiaeth a anfonwyd at breswylwyr bellach yn cynnwys manylion cyswllt
swyddogion. Bu hwb hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol a chyda'r
wasg leol yn amlygu pwrpas a manteision y prosiectau blodau gwyllt. Roedd
teithiau wedi'u trefnu ar gyfer aelodau etholedig o rai o'r dolydd blodau
gwyllt ar draws y sir. Trafododd y Pwyllgor y
pwyntiau canlynol yn fwy manwl – ·
Roedd dryswch ymhlith yr
aelodau gan fod rhai dolydd blodau gwyllt wedi cael eu torri, megis ardal yn
Rhewl ac o amgylch ardal Dinbych. Holwyd pam na chafodd yr aelodau etholedig
wybod am y mater cyn i'r gwaith torri gael ei wneud er mwyn iddynt allu lleddfu
unrhyw bryderon a godwyd gan y cyhoedd, ac a oedd unrhyw ddiffyg cyfathrebu
mewnol wedi arwain at hynny. Dywedodd swyddogion fod gwaith ar y gweill i
fireinio'r polisi torri gwair priffyrdd. Gwnaethant hefyd egluro y cafodd
llawer o ardaloedd eu torri cyn Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych,
rhai gan drigolion eu hunain a oedd am ‘dacluso’ y llwybrau a oedd gerllaw’r
ŵyl. ·
Y defnydd o wirfoddolwyr
ac a oedd gan y prosiect ddigon o adnoddau i’w gynnal yn yr hirdymor – roedd
tua 50% o’r adnoddau staffio sy’n gweithio ar y prosiectau yn cael eu hariannu
drwy gyllid grant ar sail 12 mis, a amlygodd y Swyddog Ecoleg ei fod yn her o
ran cynllunio gwaith hirdymor a chynaliadwyedd yn y dyfodol. ·
Cododd y Pwyllgor
bryderon ynghylch diogelwch tân, yn enwedig gan fod y flwyddyn wedi bod yn boethach ac yn sychach nag arfer.
Cytunodd y Swyddog Ecoleg fod y flwyddyn wedi bod yn boethach
nag arfer. O ganlyniad, cysylltodd y tîm â'r
Gwasanaeth Tân a'r Tîm Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol i drefnu
hyfforddiant diogelwch tân ac asesu risg tân. Yn y dyfodol, byddai pob safle yn
destun asesiad risg tân yn fisol. ·
Awgrymodd y Pwyllgor y
dylid defnyddio llwyddiant y dolydd blodau gwyllt at ddibenion twristiaeth;
roedd y prosiect yn gyflawniad pwysig i Sir Ddinbych
a gallai ddenu pobl i'r ardal ac addysgu'r rhai a ddaeth i'r sir. Sicrhaodd
swyddogion yr aelodau fod hyn yn rhywbeth yr oedd swyddogion yn bwriadu mynd ar
ei drywydd. · Codwyd ymgysylltu ag ysgolion a thenantiaid tai a thenantiaid busnes/diwydiant Sir Ddinbych, ac a fu unrhyw ymdrech i’w cael i blannu ardaloedd o flodau gwyllt mewn caeau/gerddi/tir ysgol. Ymatebodd y Swyddog Ecoleg, gan ddweud bod logo prosiect y ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 239 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol. 11:45am – 12:00pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor a rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol. Cafwyd trafodaeth yn ymwneud â'r
materion canlynol:- Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth y Pwyllgor y byddai'r
adroddiadau ar Gam-drin Cŵn a'r Model Gwastraff ac Ailgylchu Newydd ar
gael i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 20 Hydref 2022. Fodd bynnag, roedd yr
adroddiad ar Ail Gartrefi a Gosodiadau Gwyliau Tymor Byr yn dibynnu ar ragor o
wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ac felly byddai’n cael ei aildrefnu ar gyfer
cyfarfod mis Rhagfyr. Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd fod Grŵp Cadeiryddion
ac Is-Gadeiryddion Craffu ar ôl ystyried nifer o geisiadau craffu yn ei
gyfarfod ym mis Gorffennaf 2022 wedi cyfeirio dau bwnc i'r Pwyllgor eu
harchwilio'n fanwl. Roedd y rhain yn ymwneud ag amseroedd ymateb
Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i alwadau brys, ac effaith cyflwyno’r
terfyn cyflymder o 20 milltir yr awr ar ffyrdd y sir ar yr Awdurdod ac ar
drigolion. Roedd y ddwy eitem wedi’u hamserlennu ar raglen gwaith i’r dyfodol y
Pwyllgor ar gyfer ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2022. Ar ôl ystyried yr uchod:
PENDERFYNWYD, yn amodol ar y diwygiadau uchod, y dylid cymeradwyo rhaglen gwaith i'r
dyfodol y Pwyllgor fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am
11.20 am. |