Agenda and draft minutes
Lleoliad: trwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a drafodir yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid
oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda’r Cadeirydd cyn y cyfarfod. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2021 (copi
ynghlwm). 10.05 – 10.10 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2021. PENDERFYNWYD
-
y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr
2021 fel cofnod cywir. |
|
POLISÏAU CYNNAL A CHADW PRIFFYRDD AR GYFER FFYRDD DIDDOSBARTH PDF 314 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Asedau a Risgiau Priffyrdd (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno
polisi’r Cyngor ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd diddosbarth ynghyd â’r meini
prawf a’r fformiwla a fydd yn cael eu defnyddio i ddyrannu a gwario’r cyllid
ychwanegol sydd wedi’i neilltuo ar gyfer priffyrdd y sir. 10.10 – 11.00 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gohiriodd y Cadeirydd y
cyfarfod am ddau funud er mwyn caniatáu i swyddogion ac Aelodau Arweiniol ymuno
â’r cyfarfod. Arweiniodd y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac
Amgylcheddol yr aelodau trwy’r adroddiad (dosbarthwyd eisoes). Pwysleisiwyd
wrth aelodau fod 44% o’r rhwydwaith ffyrdd a welir yn yr awdurdod yn ffyrdd
di-ddosbarth. Atgoffwyd Aelodau fod swyddogion wedi parhau i bwysleisio’r angen
i fuddsoddi mwy yn y rhwydwaith ffyrdd. Pwysleisiodd y Pennaeth Gwasanaethau
Priffyrdd ac Amgylcheddol mai’r egwyddor allweddol erioed fu sicrhau bod o
leiaf un ffordd o ansawdd da yn gwasanaethu unrhyw gymuned. Clywodd Aelodau na
fyddai ffyrdd eraill sy’n gwasanaethu cymuned yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer
gwelliant ar brydiau. Cyfeiriwyd Aelodau at y dyfyniadau o God
Ymarfer Priffyrdd Sir Ddinbych, a oedd yn nodi’r meini prawf a’r dull
gweithredu o ran gwaith Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac
Amgylcheddol fod dwy agwedd i’r gwaith priffyrdd. Rhoddodd fanylion y ddwy
agwedd i’r Aelodau. Y cyntaf oedd y Rhaglen Gyfalaf, sef cyllid i wneud gwaith
atgyweirio i ffyrdd a gytunwyd yn yr awdurdod. Cadarnhawyd y byddai adroddiad
yn cael ei gyflwyno i bob Grŵp Ardal Aelodau i gytuno'r rhaglen waith. Yr
ail agwedd oedd gwaith cynnal a chadw priffyrdd mewnol a gaiff ei ariannu gan
refeniw. Rhoddwyd rhagor o gyd-destun i Aelodau am yr adnoddau oedd ar gael ar
gyfer y tîm cynnal a chadw mewnol. Yn yr awdurdod, roedd 14 gweithredwr
priffyrdd yn cael eu cyflogi, roedd y nifer hon wedi lleihau o’r blynyddoedd
blaenorol. Roedd yr Aelod Arweiniol Gwastraff,
Cludiant a'r Amgylchedd yn teimlo bod y cyllid priffyrdd yn hynod o bwysig a
dylid ei gynnwys yn y Cynllun Corfforaethol. Roedd yr Aelod Arweiniol o’r farn
fod yr adran mewn sefyllfa fwy cadarnhaol nag ar ddechrau’r tymor. Diolchodd y Cadeirydd i’r
Aelod Arweiniol a’r swyddogion am yr adroddiad a nododd y pwysau ar swyddogion
oherwydd y gwaith anodd. Pwysleisiodd fod cynnal a chadw priffyrdd wedi bod yn
fater cynyddol i geisio ei ddatrys. Gan
ymateb i gwestiynau aelodau'r Pwyllgor rhoddodd yr Aelod Arweiniol a’r
swyddogion y manylion canlynol: ·
O’r gyllideb a
ddyrannwyd o £2.5 miliwn ar gyfer 2021/22, roedd £800,000 wedi’i ddyrannu ar
gyfer trin wynebau ffyrdd. Dywedodd swyddogion fod mwyafrif y gwaith trin
wynebau ffyrdd wedi’i wneud ar rwydwaith ffyrdd A a B. Roedd gwaith ailwynebu
wedi’i drefnu ar gyfer ffyrdd B. Dywedodd swyddogion fod 50% o’r gyllideb
wedi’i ddyrannu ar gyfer 80% o’r rhwydwaith. Pwysleisiodd swyddogion fod yr
adran yn rheoli risg a bod gan ffyrdd prysurach risg uwch a bod angen eu
blaenoriaethu os oedd angen eu hatgyweirio. ·
Roedd cyllid ychwanegol
o £900,000 wedi’i ddarparu. Roedd dyraniad o £450,000 wedi’i wneud ar gyfer
ffyrdd gwledig. Roedd y gwaith wedi'i restru ar y rhestr wrth gefn yr oedd
swyddogion wedi’i dosbarthu i Grwpiau Ardal Aelodau eisoes. ·
Clywodd Aelodau fod amlder
arolygiadau wedi newid. Roedd canol trefi yn cael eu harolygu bob mis; roedd
gweddill y rhwydwaith yn cael ei arolygu bob 4 mis, a ffyrdd gwledig yn cael eu
harolygu bob 6 mis. Pan fyddai swyddogion wedi cael gwybod am dwll mewn ffordd,
roedd polisi ar waith a oedd yn nodi y dylid ei atgyweirio cyn pen 10 diwrnod.
Gan ymateb i gwestiynau Aelodau, y cyfnod hwyaf ar gyfer atgyweirio twll mewn
ffordd felly, fyddai chwe mis a deg diwrnod.
Fodd bynnag pe bai cynghorydd, aelod o staff neu’r cyhoedd wedi rhoi
gwybod am dwll mewn ffordd cyn yr arolygiad a raglennir, byddai’n cael ei
atgyweirio cyn pen 10 diwrnod o’r dyddiad y rhoddwyd gwybod amdano. Dyna pam mae’n bwysig bod pawb yn rhoi gwybod
am dyllau mewn ffordd pan fyddan nhw’n eu gweld. · Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
DIOGELU ENWAU LLEOEDD CYMRAEG YN SIR DDINBYCH Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r
Cyhoedd, Tim Dillon, Arweinydd Tîm – Tîm Lleoedd, i gyfarfod y pwyllgor.
Arweiniodd yr Aelod Arweiniol Aelodau trwy’r adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes)
gan nodi bod yr adroddiad yn cyflwyno dyletswyddau a rôl yr awdurdod o ran
diogelu enwau lleoedd Cymraeg a hanesyddol yn y sir. Rhoddodd yr Arweinydd Tîm –
Tîm Lleoedd ragor o fanylion i aelodau gan ddweud mai’r sefyllfa gyfreithiol
oedd rhoi sylw dyledus i’r canllawiau, a threftadaeth Cymru a’r Gymraeg. Nid oedd
yn ddyletswydd benodol i fod ag enwau Cymraeg caeth, ond dylid rhoi sylw
dyledus i hyn. Dywedwyd wrth Aelodau fod Sir Ddinbych wedi cymeradwyo polisi yn
ddiweddar iawn yng nghyd-destun enwi a rhifo strydoedd, lle’r oedd yr awdurdod
yn dangos yn uwch na’r gofyniad cyfreithiol. O fewn y polisi a fabwysiadwyd,
roedd yn nodi bod rhaid i unrhyw stryd newydd a gaiff ei henwi yn yr awdurdod
fod yn y Gymraeg. Diolchodd y Cadeirydd i’r
Swyddog a’r Aelod Arweiniol am yr adroddiad manwl. Ymatebodd yr Aelod Arweiniol
a’r swyddog i sylwadau, pryderon a chwestiynau'r Aelodau fel a ganlyn – ·
Cadarnhaodd yr Arweinydd
Tîm y byddai’n dilyn trywydd pryderon a godwyd gan gynghorwyr o ran strydoedd
penodol yn wardiau’r aelodau. Gofynnodd i Aelodau gysylltu ag ef gyda manylion
er mwyn cynnal ymchwiliadau pellach. ·
Gallai perchennog ystâd
newydd gynnig enwau i’r sir eu cymeradwyo gan ddilyn y broses a thrafodaethau
cywir. ·
Rhoddwyd canmoliaeth i’r
awdurdod am yr ymrwymiad o ran enwi strydoedd yn y Gymraeg. ·
Mynegodd Aelodau bryderon
am ddefnyddio’r gair ‘drive’ ar enwau strydoedd Cymraeg. Defnyddiwyd y gair
‘Ffordd’ ar nifer o arwyddion stryd. Awgrymodd yr Arweinydd Tîm y dylid
argymell i’r Cabinet bod y polisi’n cael ei ddiwygio i ddileu’r gair
‘Dreif/Drive’ o’r rhestr a nodir yn y polisi. Dywedodd y Cydlynydd Craffu y
gallai hwn fod yn benderfyniad i’r Aelod Arweiniol gan mai dim ond mân
ddiwygiad oedd hwn. Byddai eglurder o ran y weithdrefn gywir yn cael ei geisio
a’i fabwysiadu. ·
Nododd Aelodau bwysigrwydd
y dreftadaeth sy’n sail i nifer o ffyrdd ag enwau Cymraeg. Roedd dyletswydd ar
Awdurdodau lleol i roi ystyriaeth i enwau Cymraeg hanesyddol ac nid y
dehongliad neu gyfieithiad llythrennol. ·
Roedd y polisi’n nodi na
ellid enwi stryd ar ôl unigolyn, byw neu farw. Byddai newid enw stryd bresennol
yn cael ei wneud gan ddilyn y weithdrefn sydd wedi’i nodi yn y polisi newid enw
strydoedd. Byddai polisi Llywodraeth Cymru yn cael ei ddilyn er mwyn i’r newid
hwnnw gael ei wneud. Daeth y Cadeirydd â’r drafodaeth i ben ac amlygodd y
pryder am y diwygiad i’r polisi a godwyd gan Aelodau i’w ystyried wrth ffurfio
eu penderfyniadau. Ar ôl trafodaeth olaf ar y penderfyniadau - Penderfynwyd, yn amodol ar y sylwadau uchod - (i)
Cadarnhau eu bod yn
fodlon fod y Cyngor yn defnyddio ei holl bwerau o ran diogelu enwau Cymraeg a
hanesyddol yn yr amgylchedd naturiol ac adeiledig; a (ii)
Bod sylwadau’n cael eu
gwneud i’r Aelod Cabinet Arweiniol gan ofyn iddo dan bwerau a gafodd eu
dirprwyo iddo fel Aelod Arweiniol, gymeradwyo dileu’r rhagddodiad/ôl-ddodiad
‘Dreif/Drive’ o’r rhestr ‘Enwau Strydoedd Newydd’ yn Adran B2 Polisi Enwi a
Rhifo Strydoedd Sir Ddinbych 2021. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU PDF 240 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol. 11.50 – 12.10 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd
eisoes) yn gofyn i’r Aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi
diweddariad ar y materion perthnasol. Cafwyd trafodaeth ar y
materion canlynol - ·
Gwnaed penderfyniad gan
y grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion ym mis Tachwedd 2021 i ganslo
cyfarfodydd Craffu yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad a fyddai’n dechrau ar 18
Mawrth 2022. ·
Roedd cyfarfod nesaf y
Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi’i drefnu ar gyfer 10 Mawrth 2022. Dywedodd y
Cydlynydd Craffu y bydd pedair eitem yn cael eu trafod yn y cyfarfod nesaf.
Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth Aelodau nad oedd wedi cael cadarnhad y byddai
pob adroddiad yn barod ar gyfer y cyfarfod hwnnw. Roedd y grŵp Tasg a
Gorffen ar gyfer perygl llifogydd a pherchnogaeth tir ar lannau afon wedi gofyn
am gael adrodd yn ôl i’r pwyllgor am ei benderfyniadau yng nghyfarfod mis
Mawrth hefyd. ·
Cadarnhaodd y Cydlynydd
Craffu fod ymholiadau’n cael eu gwneud am Strategaeth Arwyddion i Dwristiaid
oherwydd ei fod wedi’i oedi o ganlyniad i Covid-19. ·
Atgoffwyd yr aelodau bod
angen iddynt lenwi ffurflen cynnig pwnc craffu os oes unrhyw faterion y maent
am iddynt gael eu harchwilio mewn manylder. Felly: Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod a chanlyniadau cyfarfod
y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu a fyddai’n cael ei gynnal yn
ddiweddarach y diwrnod hwnnw, y dylid cadarnhau rhaglen gwaith i’r dyfodol y
Pwyllgor. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 12.10
– 12.15 p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd wrth y
Pwyllgor y byddai Grŵp Tasg a Gorffen Rheoli Perygl Llifogydd a
Pherchnogaeth Tir Glannau Afon yn cynnal ei gyfarfod olaf y diwrnod
canlynol. Yn y cyfarfod hwnnw,
gobeithiwyd y byddai’n cadarnhau cynnwys a chasgliadau ei adroddiad, gyda’r
bwriad o gyflwyno ei argymhellion i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf ar 10
Mawrth 2022. |
|
Atgoffodd y Cynghorydd Merfyn
Parry yr Aelodau fod cais am adroddiad am effaith cau Ysgol Rhewl ar y gymuned
wedi’i gyflwyno i’r pwyllgor. Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu
fod adroddiad gwybodaeth wedi’i gynnwys ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol, i’w
ddosbarthu i aelodau fis nesaf. Daeth y cyfarfod i ben am
11.47 am. |