Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gyfrwng fideo gynhadledd
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau fod Plaid Cymru wedi newid ei chynrychiolydd ar y Pwyllgor, gyda’r Cynghorydd Arwel Roberts yn cymryd lle’r Cynghorydd Delyth Jones fel cynrychiolydd y Grŵp. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 199 KB Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan ymateb i
ymholiadau yn ymwneud â datgan cysylltiadau personol neu gysylltiad personol
sy’n rhagfarnu ym musnes y cyfarfod dywedodd y Swyddog Monitro: ·
ni
thybiwyd bod gan gynghorwyr a oedd yn defnyddio cyfleusterau llyfrgell o bryd
i'w gilydd gysylltiad a oedd yn effeithio arnynt neu'n eu ffafrio yn fwy nag
unrhyw aelod o'r cyhoedd; ac ·
nid
oedd bod yn llofnodwr i alw penderfyniad i mewn yn cael ei ystyried yn
gysylltiad personol na chysylltiad personol sy’n rhagfarnu gan fod yr hawl i
alw penderfyniad y Cabinet i mewn yn rhan o rôl aelod anweithredol. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor, yn unol â Rheolau Gweithdrefn Galw i Mewn y Cyngor, archwilio’r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 19eg Rhagfyr 2023 yn ymwneud â’r Cynnig Arbedion Llyfrgelloedd/Siopau Un Alwad. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorwyr Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol ac Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth i’r cyfarfod ac eglurodd eu bod yn mynychu ar
ei gais i
ateb cwestiynau’r aelodau yn ymwneud
â’r penderfyniad. . Galwyd ar yr
aelodau a oedd wedi llofnodi'r cais i alw’r
penderfyniad i mewn i roi
datganiadau ar y rhesymau dros hynny;
yr aelodau hyn oedd y Cynghorwyr
Hugh Irving, Terry Mendies, James Elson, Justine Evans, a Brian Jones. Diolchodd y Cynghorydd Hugh Irving
i'r Cadeirydd am ganiatáu iddo siarad.
Ailadroddodd fod y rhesymau dros alw’r
penderfyniad i mewn fel a ganlyn
-
Yn ogystal â’r rhesymau a nodwyd eisoes, holodd y Cynghorydd Irving a oedd y swyddogion a’r aelodau arweiniol
wedi ymweld â’r llyfrgelloedd cyn gwneud y penderfyniad
i ddeall yr effaith y byddai’r
penderfyniad yn ei gael ar
drigolion a’r cymunedau cyfagos, yn ogystal ag ar
sefydliadau allanol a oedd yn defnyddio’r
llyfrgelloedd.
Byddai pob un yn dioddef o’r
oriau agor byrrach. Teimlai'r Cynghorydd Irving nad oedd penderfyniad y Cabinet wedi ystyried y darlun cyfan nac
wedi sylweddoli'n llawn yr effaith
eang y byddai'r toriadau yn ei
chael ar staff profiadol, preswylwyr, ynghyd â sefydliadau allanol gwirfoddol a masnachol a oedd yn dymuno defnyddio
llyfrgelloedd at ddibenion ymgysylltu â'r gymuned. Dywedodd y Cynghorydd Terry Mendies wrth y Pwyllgor ei fod yn meddwl bod yr arbedion arfaethedig yn gymeradwy, ond ni fyddent yn ddichonadwy. Holodd y Cynghorydd Mendies ynghylch y diswyddiadau arfaethedig gan y dywedwyd yn ystod cyfarfod Cabinet mis Rhagfyr mai diswyddiadau fyddai'r opsiwn olaf ac y ceisir adleoli mewn gwasanaethau eraill ar draws y Cyngor ar gyfer staff sydd dan fygythiad o gael eu diswyddo. Gofynnodd a fyddai unrhyw arbedion yn cael eu cyflawni pe bai staff yn cael eu hadleoli. Wrth gloi ei ddatganiad, ychwanegodd y Cynghorydd Mendies mai’r ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus oedd yr ymateb mwyaf i’r Cyngor ei brofi ac eto nid oedd ymatebion y cyhoedd yn cael eu hadlewyrchu yn y penderfyniad a wnaed. Wrth gloi, dywedodd ... view the full Cofnodion text for item 4. |