Agenda and draft minutes
Lleoliad: Council Chamber, County Hall, Ruthin and by video conference
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 199 KB Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Merfyn Parry gysylltiad personol yn eitem 5 ar y rhaglen - y Broses Gynnal a Chadw Tai
Gwag oherwydd bod ei fab yn gweithio i’r Adran Tai yng Nghyngor Sir
Ddinbych. Datganodd y Cynghorydd Cheryl Williams gysylltiad personol yn eitem 5 ar y rhaglen - y Broses Gynnal a Chadw Tai Gwag oherwydd ei bod yn denant tai cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion y Pwyllgor Archwilio Cymunedau Arbennig a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2024 (copi ynghlwm) a’r Pwyllgor Archwilio Cymunedau a a gynhaliwyd ar 01 Chwefror 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau
a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2024. Materion yn codi – Gofynnodd y Cynghorydd Brian Jones os
oedd Prosiect Adfywio’r Rhyl yn cael ei gynnwys ar y Rhaglen Waith fel y codwyd
yn y cyfarfod blaenorol. Ymdrinnir â’r cwestiwn dan yr eitem Rhaglen Waith. Tynnodd y Cynghorydd Jon Harland sylw at gamgymeriad
teipio ar dudalen 6 y Cofnodion dan yr eitem Cynnig Toiledau Cyhoeddus. PENDERFYNWYD: yn amodol ar y sylwadau
uchod, y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a
gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2024 fel cofnod cywir o’r cyfarfod |
|
Y BROSES GYNNAL A CHADW TAI GWAG PDF 252 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Arweiniol Eiddo Tai (copi ynghlwm)
ynglŷn â’r broses gynnal a chadw tai gwag, ar y cyd â’r heriau cynyddol o
ran y gyllideb, gyda phwyslais penodol ar amseroedd ail-osod tai gwag. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd yr Aelod Arweiniol Tai a
Chymunedau, ynghyd â Mark Cassidy, Swyddog Arweiniol Eiddo Tai a Liz Grieve,
Pennaeth y Gwasanaeth Tai a Chymunedau hefyd yn bresennol i gyflwyno’r
adroddiad ar y Broses Gynnal a Chadw Tai Gwag. Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol,
y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad gan egluro bod dau argymhelliad, un bod y
Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn herio ac yn rhannu ei
safbwyntiau ar yr adroddiad hwn a’r broses tai gwag. Eglurodd, pan fydd tenant
yn gadael eiddo, bydd yn cael ei ddosbarthu fel eiddo gwag, weithiau mae angen
gwneud llawer o waith i’r eiddo cyn y gellir ei ail rentu. Eglurodd y Cynghorydd Rhys
Thomas ei bod yn hanfodol bod y broses o reoli tai gwag yn effeithlon ac
effeithiol er mwyn lleihau’r amser mae’r tŷ yn wag rhwng tenantiaid, ac
fel y gall tenantiaid posibl gael y tai cyn gynted â phosibl. Y nod oedd gwneud
y mwyaf o’r incwm rhent drwy leihau’r colledion rhent (drwy wneud y cyfnodau
gwag mor fyr â phosibl drwy eu rheoli’n dda) a sicrhau bod y gwaith ar dai gwag
o safon uchel, wrth leihau costau pan fo’n bosibl. Dywedodd Liz Grieve, Pennaeth
y Gwasanaeth Tai a Chymunedau fod y Fframwaith Tai Gwag wedi’i gyflwyno i’r
Cabinet yn gynharach eleni, gan egluro sut oedd yr adran yn contractio gwaith
allan ar eiddo gwag. Bwriad yr adroddiad heddiw oedd mynd dros y broses a’r
dadleuon am dai gwag, gan grynhoi: ·
Chwilio am ffyrdd eraill o weithio gyda’r tenant cyn
iddynt adael fel bod angen gwneud llai o waith wedi iddynt adael. · Gwneud gwaith cynnal a
chadw cyn gynted ag y bydd yr eiddo’n wag.
· Roedd galw mawr am rai tai,
unwaith roeddent yn wag, o’i gymharu ag eraill, felly roedd angen gadael rhai
tai am y tro er mwyn canolbwyntio ar y gwaith ar y tai yr oedd galw mawr
amdanynt. ·
Roedd angen gwario mwy o arian ar rai tai i sicrhau eu
bod yn cyrraedd y safon. Pe gallai’r Gwasanaethau uwchraddio tri eiddo am yr un
gost ag un drytach, byddent yn gadael yr un drytach am y tro. Roedd gan y Cynghorwyr
bryderon nad oedd ail ffynhonnell gwresogi a gofynnwyd pa ddarpariaeth oedd ar
waith mewn argyfwng eithafol, yn ystod gaeaf garw? Dywedodd Mark Cassidy,
Swyddog Arweiniol Eiddo Tai: ·
Dan reoliadau adeiladu, nid oedd yn orfodol darparu ail
ffynhonnell gwresogi. ·
Roedd deunydd yr adeilad yn cael ei wirio yn erbyn system
wresogi ffynhonnell aer. ·
Darparwyd ar gyfer cynlluniau gwresogi cymunedol mewn
argyfwng, roeddent yn amrywio yn dibynnu ar y math o eiddo, tenant ac ardal.
Gallai’r Gwasanaeth ddarparu adroddiad i’w gyflwyno i’r pwyllgor craffu yn y
dyfodol. ·
Byddai problemau’n ymwneud â thywydd eithafol a cholli pŵer
yn effeithio ar y sir gyfan - nid dim ond tenantiaid yr Awdurdod. Roedd gan y Cynghorwyr
bryderon am eiddo gwag hirdymor a faint mae’n ei gostio i’r Cyngor, yn cynnwys
y trethi sy’n daladwy ar eiddo gwag a’r amser mae’n ei gymryd i restru eiddo
i’w gwaredu ar y farchnad. Dywedodd y swyddogion: ·
Yn y dyfodol, byddai’r tîm yn rhoi gwybod i’r Aelod Ward
am eiddo oedd wedi’u gadael am y tro. ·
Roedd treth y Cyngor ar eiddo gwag yn cael ei dalu o’r
Cyfrif Refeniw Tai. ·
Byddai adroddiad yn cael ei ddarparu ar faint o dreth y
Cyngor oedd yn cael ei dalu ar eiddo gwag a faint o dai oedd wedi bod yn wag am
dros flwyddyn. · Roedd y swyddogion yn rhannu’r rhwystredigaeth am ba mor hir roedd hi’n ei gymryd i roi eiddo ar y farchnad - eglurwyd mai problem ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 240 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Arweiniodd y Cydlynydd Craffu
yr Aelodau drwy Raglen Waith y Pwyllgor Craffu Cymunedau. Gan gyfeirio at ymholiad y Cynghorydd
Brian Jones am yr eitem am Fwrdd Rhaglen Adfywio a Llywodraethu’r Rhyl yn
gynharach, cydnabu y dylai fod wedi bod ar raglen mis Hydref y Pwyllgor ac y
byddai’n ei diweddaru’n unol â hynny. Roedd y Cynnig Toiledau
Cyhoeddus a drafodwyd yn y cyfarfod diwethaf wedi cael ei ychwanegu at raglen
mis Medi’r Pwyllgor cyn iddo fynd gerbron y Cabinet ar gyfer penderfynu
arno. Gofynnodd y Pwyllgor am
adroddiad gwybodaeth cyn cyfarfod mis Medi i drafod pa ymgynghoriadau a
gynhaliwyd ar y cynigion a’r amserlen ar gyfer ymateb ynghyd â’r adborth a
gafwyd. Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd (TW) i
ddarparu’r adroddiad gwybodaeth. Gan nodi’r eitem am Gynnal a
Chadw a Rheoli Coed ar raglen cyfarfod mis Medi, gofynnodd y Pwyllgor a ellid
cynnwys gwybodaeth am goed a ystyrir yn beryglus ond nad ydynt ar eiddo Sir
Ddinbych. PENDERFYNWYD, yn amodol ar gynnwys yr eitemau a ganlyn ar raglen y
Pwyllgor Craffu Cymunedau yn y dyfodol: I.
Bwrdd Rhaglen Adfywio a Llywodraethu’r Rhyl, II.
Cadw Tenantiaid yn Ddiogel a Chynnes a III.
Y broses o waredu cyn dai’r Cyngor, cymeradwyo Rhaglen Waith y
Pwyllgor Craffu Cymunedau. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael
y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau
amrywiol y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid chafwyd adborth. Daeth y cyfarfod i ben am 11.10am. |